Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

rI 1 Ko Big y Lleifiad. I

News
Cite
Share

rI 1 K o Big y Lleifiad. I BARD DON I JET H BIRKENHEAD.—Yt godir hwn o'r Darian, papur Cymraeg Cenedlaetholwyr y De, er mwyn i Bwyllgor Eisteddfod Birkenhead weled pa beth y mae pob] craill yn ei fcddwl o'u testynau barddonol Yr oeddis yn disgwyl pethau gwych oddiwrth "Bwyllgor Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol 1917, canys hysbys oedd fod dau neu dri o brif "oraclau ein lien yn aelodau ohono. Pan fo dynion yn eu gosod eu hunain yn awdurdod der- fynol ar bob math ar bynciau ynglyn a lien ein cenedl, onid yw'n naturiol i'r genedl ddisgwyl pethau gwell ganddynt hwy na chan neb arall ? Bydd testunau barddoniaethEisteddfod Birken- head yn treat, gewch chi weld,' meddai un neu ddau wrthyf yn ystod y misoedd diweddaf. Wait and see,' meddwn innau. Y disgwyliad oedd y buasai'r testynau o leiaf yn newydd dros ben, ond eddyf pawb yn awr na chaed erioed destunau mwy cyffredin a hen ffasiwn. Y peth cyntaf y sy'n taro dyn a syndod yw absenoldeb enw'r Athro John Morris Jones fel beirniad yn yr adran farddonol. Sut y digwydd- odd hyn, tybed ? Fc wyddom oil fod dau a leiaf o aelodau'r Pwyllgor yn addolwyr proffesedig o'r Athro, a dirgelwch anolrheiniadwy ydyw sut y bu "iddynt ei gau ef allan. Colled lenyddol fawr iawn yw hon, oblegid y mae'r Athro, nid yn unig heb ei ail fel beirniad, ac wedi gwneuthur mwy 0 les i lenyddiaeth farddol ei genedl na neb arall, ond y mae hefyd yn medru ennill dust torf gy- mysg yr Eisteddfod, a phery ei feirniadaethau ef yn drysorau am flynyddoedd i ddod. Onid arfer y beirdd yw efrydu ei feimiadaethau ef yn fanw), ac onid dyna'r rheswm fod cymaint gwell graen ar ein barddoniaeth ddiweddaf ? Sut bynnag; i feirniadu rhywbeth arail y penodwyd ef." [Ond y mae Simeon yn siarad dan ei ddwylo'r fan hyn, canys fe ddewiswyd yr Athro John Morris Jones gyda'rcvntafunifeirniadii'r,farddoniaeth ondpan anfonwyd ato, atebodd y dymunai gael peidio eleni, gan ei fod wedi beirniadu ers cyd o flynyddoedd bellach.—Y.GoL.j Yr Arwr yw testun awdl y gadair, a dyna ni ar unwaith wedi ein taflu yn ol tuag ugain mlynedd. Myn rhai fod y testun hwn yn un up-to-date ry- feddol, gan mai son am Arwyr sy'n mynd a hi'r dyddiau hyn. Ond nid Arwr Milwrol' a fydd Arwr awdl Birkenhead er y bydd yntau i mewn, wrth gwrs ond gydag ef ceir amrywiaeth mawr, 0 gciliog iar i sefydlydd crefydd Mae un peth i'w ddywedyd o blaid y te tun hwn, sef y ceir o !eiaf ddwsin i gynnyg amo, a bydd hynny yn newydd-beth yn yr oes hon. [Rhaid i bob pwyllgor lleol, Simeon, nodi tri thestyn awdl a thri tcstyn Pryddest, a'u cyfiwyno ifarn Cymdeitlias yr Eisteddfod a Goisedd y Beirdd. Tri Birkenhead ar yr Awdl ydoedd y rhain Cwrs y Byd," Y Gwanwyn," a'r Arwr." Dros y cyntaf y cododd mwyafrif y pwyllgor eu dwylo, ac efe a ddodwyd ar ben y rhestr ond pan ddychwehvyd hi, Yr Arwr oedd y cyntaf, a dewisol y pwyllgor yn wrthodedig. Nid ydys yn grwgnach am hyn, canys yr oeddym wedi ymrwymo i ufuddhau i'r amodau, a hynny a wnaed ac a wneir hyd derfyn yr wyl.] Nid oes dim, am a wn i, i'w ddywedyd yn erbyn testun pryddest y goron sef Pwyll Pendefig Dyfed,' oddigerth ei fod yn dilyn arfer- tad henliwyd. Paham na cheir testun i'r bry- ddest a ddyry brawf ar allu creadigol y bardd, yn lie ar ei-fedr fel hanesydd ? Arall yw gogoniant yr hanesydd ac arall ogoniant y bardd. Clodfori tifafnidiaeth-a masnach a wneir yn y "cywydd ar Afon Leipwi,' ond pa raen a all bardd, ei roi ar beth felly ? Ymaeglennydd yr afon honno'n amddifad o degweh. a'i dwfr wedi ei gorddi, a Hwydaidd iawn. yw lliw yr ambell ".wylan a welir ami, a sut felly y gali yr awen ymhoffi yn ei gwaith ? "Ond o'r,,cwbl-tes,tun y pedairtelyneg sy'n mynd a'r bluen,—' Y milwr yn ateb galwad ei wlad.' Y milwr,' sylwer, nid y gwladgarwr, ond ysawl a fo ciso e's yn filwr. Sut bynnag am hynny fe wneuthai hwn destun purion i fyfyrdraith, ond yn "dcstun i delynegion, o bopeth, y'i gosodwyd. Y milwr yn ateb, ai e ? Cai'r awen gryn hwy] pe dywedid Y Pregethwr neu Y Proffeswr.' Doniol dros ben a fuasai gweld y bardd sy'n curo pawb yn cynnyg ar y testun hwn. Hapus iawn a fuasai byrdwn o Na, na na Caiff Job a Berw ddigon o Lygaid y Dydd am eu hoes, ped aent drannoeth i ddiffeithwch Sahara 1 Yn sicr ddigon, ni chafwyd erioed restr o destunau mwy dilewyrch i feirdd ganu arnynt. Y mae chwaeth goeth y Pwyllgor yn ei dangos ei hun hefyd yn y darnau a ddewiswyd i'w hadrodd. Mawr y gwawdio a fydd yn y Gogledd ar destun "traethodol Eisteddfodau'r De; ond mil gwell gen i chwaeth lenyddol y Deheuwyr na'r Gogleddwyr, os yw'r olaf yn cael ei chynrychioli gan Bwyllgor Birkenhead.^Y r eiddoch, etc., SIMEON." [A go rhyw ddihidio am destynau barddonol Birken- head ydyw Gwili, a barnu oddiwrth ei nodiadau yntau yn Sereri Cymru,. ond synia'n uchel iawn o'i thraethodau a'i hadran lenyddol. Honno ydyw gogoniant y Rhaglen, yn ei farn ef.] tt DAGRAU'R HEN WAS.-Y mae rhywbeth yn ddiddaasddwys anghyffredin ynIlith nesaf yr Hen Was, sydd newydd gyrraedd yma o'r Llofft Stabal. Hiraeth am Dafydd Bach," llanc 0 was a fyddai'n gweini ar yr un fferm ag ef, sydd yn hon ar ei hyd, ac fel hyn y mae'n dechreu :— MISTAR GOLYGYDD,—Rydv/ i'n brudd iawn heiddiw. Mi faswn yn leicio tasa fodd im ddiferu nagra'n eiriau ar y papur ma, ac i ddim ond yr hyn sy'n y nghalon i fynd iddyn nhw. Yn meddwl am Dafydd Bach yr ydw i." Y mae'r llithoedd hyn yn bethau hollo! newydd eu ffurf a'u naws ac ni welsom ni ddim hafal iddynt yn y Wasg Gymreig o ran eu cydblethiad o ddoniolwch iach ac o ddoethineb sicr ei ergyd. it NEWrDD DA.-Yr oedd Mr. O. II. Hughes, un 0 wasanaethyddion Mri. Allanson, Grange Road, Birkenhead, ac aelod o eglwys Parkfield—■" ar god" ar faes y rhyfe! ,ers amser, ac ofnid yn fawr ei fod wedi ei ladd ond wedi hir ddistawrwydd, daeth gair oddiwrtho y dydd o'r blaen, yn dangos ei fod yniyw ac yn iach, ond yn garcharor yn Germani. it GWAELEDD PEDROG.-Bydd yn ddrwg gan ei filoedd cyfeillion, yma a thrwy" r wlad, glywed am afiechyd y Parch. J. O. Williams (Pedrog). Nid oedd ei iechyd yn dda ers peth amser ond mynnodd gadw ei gyhocddiadau, a chyflawni ei waith eglwvsig ac yn y blaen, nes gorfu iddo gilio i'r gwely ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf. Ofnid ar un adeg y buasai raid iddo fynd dan oruchwyliaeth feddygol, ond llwyddwyd i ysgoi hynny,a mawr hyderir na fydd raid wrthi bellach. Yn wanllyd y deil Mrs. Williams, ei annwyl briod, ac yn invalid ers chwe blynedd a mwy. Teimlid chwithtod mawr yn Eisteddfod Aberystwyth oblegid absenoldeb y Prifardd, ac anfonodd y cyfeill- ion a ganlyn lythyr o'u cofion ato, a'u hiraeth wrth weld yr Wyl Genedlaethol mor wag hebddo :-Miss Eliz. T. Jones, B.A., Llew Tegid, Dr. J. Lloyd Will- iams, L. Lloyd WIDIams, K.E.J. ac Enid (" Plant y Capel Mawr "). a'r Parch. Thos. Shankland. Ysgrif- ennodd Pedrog golofnau Trwy'r Drych i'r BRY- THON yn ddifwlch bob wythnos er Chwefrol 6ed, 1906, a'r rhifyn hwn yw'r cyntaf ar hyd y deng mlynedd a hanner heb fod ei lith ynddo. Addefir ar bob tu na freintiwyd yr un papur Cymraeg a gwell ysgrifau na'r rhain, nac yn amlygumwy o allu a thegwch a mantol pen a chalon. Da iawn oedd gennym ei weled neithiwr (nos Fawrth) gryri raddau'n well na'r dyddiau cynt. Mawr yw gofal y teulu ohono, a dy- muniad a-gweddi pawb ydyw ar ei weled yn fuan, fuan, yn ei iechyd cynhefin. Fel hyn yr englynodd y Prifardd mwyn ei deimlad heno oddiar ei wely I cystudd :— j Dan ddolur, deneu eiddilyn,—hoffwn Gyffwrdd tant yr englyn Ar gornel fy hen deiyn, Ni rof yn awr fwy na hyn. M MEFL AR r M0DDI0N.—Y mae rhai pob1, mewn byd ac eglwys, bob amser ar ol; a'r Saboth diweddaf, gwelsom enghraifft o'r niwed a bair hyn i'r moddion. Y gweinidog wrthi'n darllen pennod ac ar ei chanol, dyma ddwy chwaer yn trystio i fewn i'r set nes peri i'r lleilI, oedd yno mewn pryd, droi eu pennau i sblo arnynt, pan oedd y pregethwr ar fin dechreu darllen un o adnodau goreu'r Beibl A choll- wyd gem y bennod wrth droi a rhythu ar dwmpath o millinery. Pechod pur Cymreig yw'r dod i fewn yn hwyr yma, a rhythu'n safnrwth ar bob smic a ddig- wyddo yn Nhy Dduw, yn lie ymgolli gormod mewn defosiwn a pharchedigaeth i sylwi ar bob rhyw lafnes benchwiban a ddaw yno i addoli ei hardd ddelw ei hun." yn lle'r Hwn biau'r Ty. tt CIP AP YR HEN AEiwrD. 'Yr oedd y Parch. Trevor Davies a Mr. Percy Davies-dau fab enwog y diweddar Barch. 0. Lloyd Davies—yn bres- ennol yng nghapel Claughton Road, Birkenhead, nos Sul ddiweddaf, ac yn tystio mor felys ganddynt oedd bod yn hen gorlan eu mebyd. tt MERTHTR ARALL.-Wele un o fechgyn anwyl- af Birkenhead wedi cwympo yn y rhyfel, sef y Private Rd. Arthur Ellis, mab pump ar hugain oed Mrs. Ellis, Clifton Road, ac aelod o eglwys Annibynnol Gymraeg yr heol honno. Ymunodd a'r Liverpool Scottish fis Mehcfin, 191, gan aberthu lie a rhagolygon da yn hollol o'i wir-fodd oddiar deimlad pur o dch letswydd i'w wlad. Yr oedd yng ngwasanacth Mri. Moses Wil- ims & Co., hay and straw merchants, Brunswick Street, Lerpwl. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Ddadleuol Seneddol y Brunswick, Price Street, o Gynghrair y Rhyddfrydwyr Ieuainc, ac yn llefarydd rhwydd a thaclus ei resymau ar y pynciau a ddeuai gerbron. Yr oedd yn un o'r bechgyn mwyaf gweithgar, effro a defnyddiol a fagodd eglwys Clifton Road, a bydd yn chwith iawn amdano yn boll gylch- oedd yr Achos. Cyfunai anwyldeb calon a dewrder a grym ewyllys; ac uchel oeddyr wrogaeth a dalwyd tddo fel dyn a mihvr yn y llythyr a ddaeth i'w fam oddiwrth ei ben swyddog. Bore dydd Sul diweddaf, derbyniodd Mr. Hugh Roberts, Miranda Road, un o flaenoriaid eglwys M.C. Stanley Road, Bootle, lythyr o Ffrainc yndweyd fod ei fab, PreifatWilliam Roberts, wedi ei ladd yno ddydd Mawrth, Awst 22. Ymunodd A'r Welsh Fusiliers yn fuan ar ol i'r rhyfel dorri aUan bu yn L andudno am rai misoedd, yn mynd trwy ymarfer- iadau milwrol; tua naw mis yn ol aeth allan gyda'r Fyddin, a bu trwy ami i ymgyrch flin. Ysgrlfenmvyd y llythyr gan ei Gapten, yn dweyd ei fod wedi bod ar sentry duty ddydd Mawrth, ac yndyth wdynol pan saethwyd ef gan sniper. Rhoddai'r Capten gymeriad uchel iddo, a chwynaFn fawr ei golled ar ei ol, fel un o'r ychydig sydd yn aros o'r rhai oedd gydag ef yn Llandudno. Cyflwynaei gydymdeimlad dyfnaf ef, ei gyd-swyddogion, a'i gyd-filwyr, i Mr. a Mrs. Hugh Roberts, a dibenna el lythyr a brawddeg Gymraeg Duw a'ch cynorthwyo yn eich galar." Un o blant eglwys MC. Stanley Road oedd y milwr ieuanc yno y magwyd ac y dysgwyd cf. Gvtr ietianc deallgar a hawddgar, cymeriad prydferth, chwith ei. golli a gorfod credu na ddychwelynol i Bootle. G wr ieuanc un ar hugain oed, wedi ofFrymn ei hun, fel miloedd eraill, i amddiffyn ei wlad rhag rhaib a gormes. Paham y mae rhaid wrth beth fel hyn yn yr ugeinfed ganrif ? Duw, fycido'n nodded. i'w dad a'i fam a'i frawd galarus. Derbyniodd y rhieni lythyr hefyd oddiwrth ei gyfaill (Llewelyn Davies, Stanley Road) yn dweyd yr un hanes, ac iddo ef a niftr eraill o'i gydnabod gael eu hanfon i roddi ei weddillion iotffwys yn naear Ffrainc caed gwasanaeth Cymraeg gan y caplan wrth tan y bedd. Y mae Eglwys Annibynnol y Tabernacl, Belmont Road, wedi cael colled fawr trwy farwolaeth ehwaer hynaf, marn yr eglwys," Mrs. Grace Davies, 11 The Willows frynt, ac yn ddiweddar 97 Hampstead Road, Fairfield. Ynghanol Mehefin, cvmerwyd hi i F6n, lie y bu yn arosyn nhy ei mab hynaf, yn Tremynfa Llanddaniel, fel yr arferai yn yr haf, i geisio adgyfnerthiad iechyd ar gyfer misoedd oer y gaeaf. Aeth wythnosan heibio, a nerth ein hannwyl chwaer yn mynd yn wannach o hyd ac ar ol cael popeth oedd bosibl gan y meddygon, pasiodd ymaith mewn heddwch ym mhresenoldeb ei phlant. Yr oedd pobl Llanddaniel a Mrs. Davies wedi mynd n hoff iawn o'i gilydd. Aed a'i gweddillion i Lerpwl a rhoddwyd hwy i orffwys gyda'i phriod ym mynwent Anfield am 4.30 pryn- hawn dydd Linn, Awst 21 (claddedigaeth preifat). Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. O. L. Roberts, gweinidog, a therfyn- wyd gan y Parch. William Williams, Hanley. Y galarwyr oedd Mr. Robert Davies, M6n Mr. Evan Artliur Davies, Lerpwl Mr. W. H. Davies, Conwy, meibion; Mr. W. E. Jones, Lerpwl, a Mr Gwyn Phillips, Sheffield, meibion yng nghyfraith Mr. Meirion Davies, Garnon Osborne Davies, wyrion y Parchn. O. L. Roberts. John Jones (Cana), Mon a'r Parch. Wm. Williams, Hanlev (nai) Mr. Benjamin Davies (nai), Mr. David Davies (nai), Mr. John Williams, Hanley (nai) Mr. Thomas Roberts. Dr. T. Davies, Mr. Evan Morgan. Bu Mrs. Davies yn aelod o eglwys y Tabernacl dros hanner can mlynedd. Own aeth ei rhan yn dda. Yr oedd yn hynod hyddysg a char- trefol yn ei Beibl ynddo ytrellliai lawer o'i hamser. Meddai brofiad addfed gwir fam yn Israel ydoedd. Bydd yn chwith iawn am ei phroflad a'i chyngor a'i gweddiati.

-j* r Gorea Cymeo, yr an Oddieartre…

AR GIP, MECilS. -

-Cydnabod Cydymdeimlad.

Advertising