Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

TUSW BRITH.

Advertising

IIPelydrau IWatcyn Wyn.

News
Cite
Share

Pelydrau Watcyn Wyn. I ONI welsoch gyfrol Gofiant Watcyn Wyn, gan y Parch. Penar Griffiths, ymorolwch amdani rhag blaen, canys y mae hi'n frith bob tudalen o belydrau y wit athrylithgar a gwir Gymreig hwnnw. Nid rhywbeth wedi ei nol o wlad arall, a'i gawlio'n ail Ilaw, mohono, ond bara cartref, heb flas siop na pheiriant amo. Dyma bliciad neu ddau o'i anerchiad ar Y paratoad goreu ar gyfer y weinidogaeth » Y paratoad goreu yw paratoad cyn geni. Dylax'r pregethwr a'r gweinidog, fel y bardd, gael ei eni i'r gwaith. Nid yw geni drachefn yn ddigon i gymhwyso pob un i'r gwaith hwn; y mae'n dibynnu i raddau mawr ar yr enedig- aeth gyntaf. Nid ydym yn cofio cael un math o an- hawster gydag un eglwys pan yn casglu at y coleg cawsom ychydig oddiwrth rai per- sonau unigol ond, fel rheol, personau unigol iawn oedd y personau hynny. Gwareded cymdeithas ni rhag myned yn bersonau unigol Fel rheol, bechgyn wedi bod yn gweithio am flynyddau yw'r dosbarth o fechgyn sydd wedi codi i bregethu yng Nghymru, yn yr ugain mlynedd diweddaf, ac y mae'r hyn y maent wedi ei ddysgu wrth ymdroi ymysg eu rol YMYS9. e l l cydweithwyr yn well addysg ar gyfer y weini- dogaeth o lawer na'r addysg a gant o'r llyfrau y gorfodir hwynt i'w darllen ar gyfer derbyn- iad i'r Coleg, a mynediad drwy'r Coleg. Bechgyn iawn yw'r bechgyn yma sydd wedi bod yn gweithio, ac wedi bod yn chwysu, ac yn gwybod am y bobl, ac ysbryd y bobl, am ffyrdd y bobl, ac angen y bobl dyma wybod- aeth werthfawr i fachgen ifanc yn myned i fyw ar yr egwyddor wirfoddol dyma wybodaeth ¡ nad yw i'w chael mown llyfr. Gall llyfr ddweyd am hon Dyma wybodaeth ry ryiedd 1 mi, uchel yw, ni tedraf oddiwrthi.' Dywedwn i, ar gyfer y weinidogaeth, Rhoddwch i mi'r wybodaeth hon.' Rhodd- weh i mi fachgen wedi ei godi yn yr ysgol yma i ddechreu pregethu, cyn dechreu pregethu bachgen a'i argyhoeddiadau ei hunan wedi rhoi cyfeiriad i'w fywyd bachgen wedi codi o'r ranks, ac nid wedi codi heb wybod fod ranks yn bod. Dyma'r dosbarth sydd yn codi i bregethu, ac yn ol pob tebyg, dyma'r dosbarth a gwyd i bregethu eto ac, yn wir, dyma'r dosbarth a ddylai fynd i bregethu. Nid crefft yw pre- gethu, ond argyhoeddiad brwd yn torri allan yn hyawdledd tanllyd. Dyma broffwydi Cymru, a dyma'r rhai y dymunem waeddi ar eu rhan wrth ddrysau'n Colegau 0 byrth, dyrchefwch eich pennau a brenhinoedd gogoniant Cymru a ddont i mown Ond dyma'r dosbarth i'r rhai y mae'r pyrth yn rhy gloedig o lawer. Dyma'r rhai nad yw'r arho iad yn deg iddynt. Dyma'r dosbarth nad yw'r arholwr yn gofyn iddynt beth allant wneud, ond yn hytrach, y peth nad allant wneud-hyd byth a'r peth, yn wir, nad ystyriant yn werth i'w wneud t Yr wvf fi'n gwybod am y dosbarth yma-yn gwybod am y dosbarth nad yw ein Colegau wedi cael y fraint o'u derbyn, nac athrawon ein Colegau y fraint o siarad a hwynt erioed. Y mae llawer o'n bechgyn goreu yn myned i'r weinidogaeth heb fyned i'r Coleg, ac y mae rhai yn barod i ddweyd mai lladron ac ysbeilwyr ydynt, am eu bod yn meiddio dringo ffordd arall,' yn enwedig os digwydd i un ohonynt fyned i gorlango dda Bydd yn ddagelmym weled cysylltiad ein Colegau a'r Brifysgol wedi ei berffeithio, a'i grisiau yn gyflawn ac yn gyfan i ben pinael uchaf y graddau Ond rhaid peidio caead allan y pysgotwyr dynion, neu ynteu bydd y rhwydi heb eu llenwi. Ond wrth edrych o gylch, both yw culture ? beth yw diwylliant a gwrtaith meddyliol ? A oes raid i ni aros gyda'r hen syniad o culture, ? Ai dim ond classics, a mathematics, a science, sy'n gwneud dyn yn wrteithiedig a diwylliedig ei feddwl ? Na ato'n synnwyr cyffredin i ni lynu byth wrth hyn. Y mae yn rhy debyg i wrtaith dybiedig Eglwys Rhufain ac Eglwys Loegr, ac heb fod yn cwrdd a manteision Cymru, nac ag angen gwerin Cymru. Bydd yn well gennyf fi, ac y mae yn well gan y wlad a'm macodd o'rhanner, wrando ar ddyn o athrylith gynhennid a synnwyr cyffredin, nac ar glasur-ysgolheigdoddyn wedi colli ei fywyd wrth fywgormod ymysg yr ieithoedd meirwon Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw, a'u hatgyfodi drachefn, os gallant I gwrdd a'r dyfodol agos, dylai fod yna ddau arholiad, arholiad i'r bachgen ysgol, ac arholiad i'r dyn meddylgar; a dylai fod dosbarth a gwaith ar gyfer pob un ohonynt yn y sefydliadau a gynhelir gennym ag arian y genedl a'r wlad,—yn wirfoddol ac yn drethol. Byddai'n dda gennyf fi weled un Coleg pregethwyr, un sefydliad i baratoi i'r weini- dogaeth, a dwy safon i fyned i mewn iddo-un i dderbyn y bechgyn wedi cael cyflawnder bendith addysg glasurol a bydol, a'r llall i gwrdd a'r dynion o athrylith a synnwyr-y rhaid i ni wrthynt o hyd. Credwn fod tipyn bach gormod o ladd ysbryd pregethu yn ein Colegau, gormod o bethau'n tagu'r Gair, beth bynnag. Dylai fod gwersi a gwaith pob myfyriwr yn cyd. fyned yn hollol. Ai nid i hyn y mae addysg y dyfodol yn dod,—dysgu dyn i wneud ei waith, a'i wers yn cydfyned a'i waith ? Y mae'r pregethwryneithriadpoenus. Poenus iawn i ambell un, ac efallai i'r un goreu. Diffodd y tan pan oedd yn dechrou cynneu sydd wedi gwneud cynifer o bregethwyr piff. Gall y wers, a'r gwrtaith, a'r holl ddiwylliant fod yn gydnaws a'r gwaith, ac eto gofalu fod drws y Coleg yn ddigon caeedig, a'r porth yn ddigon cyfyng i atal neb annheilwng i mewn. Dim Cymraeg mewn ystyr, yw iaith y Colegau a gynhelir gan eglwysi Cymru Dim pre- gethtt,' y blynyddau cyntaf, yw.iaith y sefydl- iadau sydd yn paratoi ar gyfer y weinidog- aeth Beth fydd canlyniad naturiol y deddfau nacaol hyn ?—dim Cymry, a dim pregethwyr Yr ydym ar y ffordd i'r dim Melltith Pilat y byddwn yn galw'r ieithoedd yma. Nid ydym yn credu fod eisiau cadw'r tair iaith, Hebraeg, Groeg, a Lladin, am byth ynglyn a Chroes yr Hwn nad oes wahaniaeth rhwng Groegwr, a Barbariad, a Scythiad. Cofiwn mai Pilat a'i hysgrifennodd, a rhyw ysbryd tebyg o hyd sydd yn dweyd, Yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd.'

Advertising

I Ffetan y Gol.

Advertising