Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

TUSW BRITH.

News
Cite
Share

TUSW BRITH. DYMA ddau o Gymry Maelor sydd wedi eu Uadd yn y rhyfel Sergt. Ll. Peters,.R.W.F., 4 Drake Road, Moss, a'r PreifatHarryHuglies R.W.F., mab Mr. Wm, Hughes, Afon Ooch, Rhiwabon. Lladdwyd G H. Bevan, brodor o Fwele, Sir Fflint, yn y rhyfel. Athro ysgol yng Nghaer ydoedd, wedi graddio'n uchel ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gadael gweddw ieuanc drist yn yr Wyddgrug. Y mae'r Parch. D. R. Davies, curad Llan- gollen, wedi cael bywoliaeth Weston Rhyn, gan Arglwydd Trevor. Ymunodd a'r Fyddin bron ar ddechreu'r rhyfel, aeth drwy yi-tiladd erchyll Gallipoli a Bau Suvla heb graith nac archoll, ac a aeth wedyn gyda'i gatrawd, y Royal Welch, i'r Aifft. Daeth oddiyno'n wael o ddolur y gwddf. Y mae plwy Weston Rhyn ar y goror yn Sir Amwythig, ac felly y tuallan i afael Deddf Datgysylltiad. Dyna le braf Y mae Dr. J. D. Jones, y Waen (Chirk). Y mae Dr. J. D. Jones, y Waen (CAn-X:). yn ei adroddiad blynyddol i awdurdod iechyd y rhan honno o Sir Ddinbych, yn galw sylw difrifol at y golled i'r genedl sy'n deillio o'r camfagu difrifol sydd ar fabanod gan famau esgeulus, yn gystal a chdh famau eithaf da'u bwriad, ond cut a rhagfarnllyd i'r earn dros hen ddullir-lz"Ilol niweidiol ac yn peri fod cynifer o silod eiddil a diddal yn rhyw hongian byw, yn lie bod yn glir eu pennau, yn gryf eu gewyn, ac o les iddynt eu hunain a'u rhieni a'u gwlad. .0. Rhyfeddolrwydd Gvmeuthuriad Dyn ydyw teitl ysgrif y Parch. Isaac Jenkins, Utica, yn Y Drych Americanaidd. Y rhyfeddol-- rwydd mwyaf a welsom ni erioed ydyw fod yr iaith Gymraeg yn fyw wedi'r fath ladd ami gan ei phlant hi ei hun. Y mae'r gem gwrth uni hwnnw—"mynedol am orffennol—wedi Cael ei ladd yng Nghymru, ond dyma fe'n fyw yn y Gorllewin, ac yn peri nad oes dim modd i ddyn ddarllen dim rhagor ar ysgrif Mr. Jenkins. Ymhlith y rhai a urddwyd yn Eisteddfod Aberystwyth, ceid y Parch. J. H. Williams, AM? Tdd I ti, ger yr Wyddgrug. Y mae ef a'r Parch. T. Miles Jones, Treuddyn, yn gwneud eu goreu i gadw gwlad Daniel Owen rhag mynd o'r golwg dan don y dylifiad Seis- nig. Ni waeth i chwi heb, wir a gant hwy gan lawer un ond am ddal ati y mae'r ddau, canys pe byddai i iaith Mari Lewis farw o Sir Fflint, byddai'n well gan y ddau yma farw i'w chanlyn ar Ben y Beili nag aros yno i rynnu i farwolaeth ar ei hoi ynghanol cenhedl- aeth a fedrai fod yn ddigon oer a masw i'w hanghofio hi, Gresyn clywed fod priod y Seneddwr hyawdl, Mr. Towyn Jones, yn wael mewn Sanatorium yn St. Leonards. Dyna a'i cadwodd ef o Eisteddfod Aberystwyth ac o Ginmel ddydd agor y Neuadd Ymneilltuol. Cwyno o ran ei iechyd hefyd y mae Mr. Richard Lloyd, Crieieth. sef ewythr Mr. Lloyd George. Y mae efe mewn gwth o oedran bellach. Un o'r gwyr crafta'i lygad a mei na'i glust Un o'r gwyr cra?a'i lygad a meina'i glust ymhob Eisteddfod ydyw Gwili, goly ydd Seren Cyrar«'r Bedyddwyr; a dyma un o'i bytiau wrth son am Wyl Aberystwyth Yr oedd Mr. Lloyd George yn bur dda yn ei araith ddwyieithog ddydd Iau, ond ei araitli Gymraeg yn y Gymanfa Ganu "oedd yr un deilyngaf o'i' athrylith a'i ddawn i chwarae ar galon cenedl. Yr oeddwn y tu cefn iddo, ac yn ddigon agos i weld bod ganddo nodiadau llawn o'i 41 araith gyntaf. Araith o'r frest, neu o'r la, galon, oedd yr ail, a gwyr Mr. George cystal ag y gwyr neb, mai anodd yw cynneu tan papur" Cwynai dyn oedd gerhron T reibiwnal Gwyr- fai fod yr awdurdodau ym Mangor, lie y bu dan arehwiliad meddygol, yn mynnu ei gyf- arch bob gair yn Saesneg, ac yntau'n deall fawr ddim o'r iaith honno ac ebe Mr. T. J. Williams, cadeirydd y Treibiwnal :— Y mae yna rai Cymry sy'n tybio'u bod yn ychwanegu at urddas eu swydd drwy gymryd arnynt fod yn anwybodus o'r Gymraeg." Yr unig feddyginiaeth i'rmath dirmygus hwn o Gymry fuasai cael dracht o ffisig chwerw i grachyddiaeth oedd yn araith Pedr Hir oddiar Faen Llog Aberystwyth. Gresyn na ellid bloeddio dameg grafog yr Anglo-Glot drwy rhyw gramoffon cenedlaethol oddiar Ben yr Wyddfa. Y mae gwddf ambell Ddic Shon Dafydd mor gul a brau nes y buasai'n rhwygo yn dipiau pe dywedai echo Chwith clywed am farwolaeth y Parch. W. R. Saunders, gweinidog Bedyddwyr Seisnig Bangor ers deunaw mlynedd ar hugain. Mab fferm yr Henllys, ger Cas- newydd ar Wysg. Sir Fynwy, ydoedd, ac yn chwech a thrigain oed. Perchid of gan bawb o'i gydnabod, tufown a thuallan i'w enwad, ar gyfrif ei ddynoliaeth ddiwyrni. Cyd-deithiem aj ef i'r Deheudir rai blynyddoedd yn ol, ac a i cawsom yn ymgomiwr aiaaan a nyaaysg. Nid oedd ganddo fawr o feddwl o boblog- rwydd pregethwrol ynddo'i hun, oni fyddai yno dipyn o rym meddwl yn ballast i gadw awyren dawn arwynebol rhag esgyn yn rhy uchel i'r entrychoedd yn rhinwedd ei ysgafn- der a phan grybwyllwyd enghraifft neilltuol wrtho, dyma'r ateb Yes, yes he was very popular because he had the knack of not being profound." Mr. John Clay ydyw cadeirydd Pwyllgor Cynilo (Rhyfel) Cyngor Caergybi ac wrth weld dim ond deunaw o bobl wedi dod i'r cyfarfod cyhoeddus a alwesid i hyrwyddo'r peth, na dim un gweinidog efengyl yn eu mysg, beichiodd allan i'w condemnio ar dde ac ar aswy am eu hoerfel a'u hanystyriaeth Nid yw'r gweinidogion byth yn bresennol gyda dim. Pa bryd bynnag y gofynnir iddynt ddod i gyfarfod o bwys, y maent yn ddihareb am eu habsenoldeb. Yr un hen stori o hyd," ebe Clay, ac amryw eraill yn dilyn ar yr un ddn, a'r gwyr lleyg yn cael mawr flas ar gnoi a thraflyncii'r gwyr lien. Ond cyn ymuno a Chor Clay Caergybi, dar- llenwch yrhanesynhwn, ermwynichvv'i arafu a pheidio a gadael i un enghraifft lwydo'ch golygon rhag gweld ohonoch yr ochr arall i gymeriad gweinidog Clywsom stori am weinidog y dydd o'r 41aen. Cerdded adref o'i gyhoeddiad yr oedd fore dydd Llun,a chyfarfu agweith- iwr yn myned at ei waith. Yr ydych yn hwyr iawn,' ebe'r gweinidog. Ydwyf,' "meddai'r gweithiwr, yr wyf yn colli chwarter o hyd. Newydd ddechreu gwella yr wyf, wedi bod yn wael ac yn "methu gweithio ers rhai misoedd.' A o es g eiinych deulu ? ebe'r gweinidog. Oes,' oedd yr ateb, ac y mae'n ddigon anodd eu cadw tra'n wael fel hyn.' "Rhoddodd y gweinidog ei law yn ei boced ac estynnodd bapur i'r dyn. Hwd- iwch,' meddai, 'eymerweh hwna. Nid wn faint sydd ynddo, ond dyna a gefais am bregethu ddoe/ ac a aeth ymaith. Yr oedd dwy bunt yn y papur. Pan glywoch un lleyg yn lladd ar wr 116n, neu wrilen ar wr lleyg, dywedwch Tweis wan ar tw" wrtho. Ac os na fydd yn deall hynny, eglurweh iddo nad yw galwedigaeth neb, lien na lleyg, yn sicrwydd yn y byd am urddas ei natur. 4 Pwy ohonoeh chwi ymresymwyr cywrain a Jesiwitaidd a fedr dorri'r gneuen galed a ganlyn sydd yng nghwestiwn rhyw Ymofyn. nydd Pryderu8 yn Y Cymro yr wythnos ddi- weddaf ?— Gweinidog a chanddo deulu mawr a'i gyflog yn fychan. Ystyria fod addewid i daith yn y ffurf o gyhoeddiad yn gysegr- edig. Trwy ymdrech ddirfawr y mae yn llwyddo i gael deupen y llinyn ynghyd- yn wir trwy gynilo hyd at gyfyngder. Ofna yn ei galon suddo i ddyled rhag dwyn gwaradwydd ar-ei swydd. 0 dro i dro trwy dorri cyhoeddiad neu alw yn ol ar wythnos o rybudd gallai gael o 7s. i 12/. yn rhagor at gael ymborth a dillad i'w deulu. Beth yw ei ddyletwsydd ? Eisteddfod Aberystwyth ydoedd un o'r rhai mwyaf Cymreig a gafwyd ers blynyddoedd, a difyr i glust Gogleddwr ydoedd gwrando Cymraeg bersain y De mor ddibrin ar bob Haw. Lloimai galon dyn, ac a'i helpai i gredu gyda Rhobet Dafis, Nantglyn, fod lie i ddirnad nad oes lladd arni." Pob un a glywais i yn darogan ei thranc, marw ei hun a ddarfu, a gadael yr iaith yn fyw ac yn iach ar ei ol. Ac felly, cymerwch ofal pa beth a ddywedoch amdani. Yr unig le di-Gymraeg yno oedd tu ol i gowntar y Llyfrgell Genedlaethol, lie nad oe 3 ond Saeson uniaith yn ateb pawb a elo yno i j holi am lyfr Cymraeg. Y mae'r adeilad ar un j o'r mannau harddaf yng Nghymru, a thir a I mor Cymru i'w gweld ar eithaf eu gogoniant o'r buarth a'r ffenestri. Ond Hengistiaeth, bamol sydd yn teyrnasu y tufewn iddi. I' Y mae hi wedi mynd—ydyw, wir I-pan na wiw i ddyn ofyn am lyfrau'i wlad yn iaith ei fam yn y Llyfrgell Genedlaethol y talodd y werin bawb ei hatling at ei chodi. Cenedl o lyfrgwn ydym, pan oddefem Brwsiaeth mor draliaus. Ac wrth ymddiddan a chyfaill am y gemau gwrthuni ucliod a'u tebyg, crybwyllodd yntau I enghraifftwrthunach fyth o'r dull y dosberthir llyfrau Cymraeg gan Saeson yn rhai o lyfr- gelloedd Cymru. Dymagopi o Gardd o Oerddi Twm o'r Nant yn cyrraedd dyma edrych y Geiriadur dan y gair Gardd. GARDD a garden," ebr hwnnw. Ac wedyn dyma ddodi gwaith ein Prif Philistyn ar yr astell yn adran yr H orticultltre I Codir y stori hon o'r Goleuad am nad oedd modd peidio Clywsom stori darawiadol y dydd o'r blaen am y diweddar Barch. Evan Phillips. Flynyddoedd yn ol bu ef ag Islwyn yn Llundain gyda'i gilydd, yr adeg yr agor- wyd y Dore Gallery gyntaf. Penderfynodd y ddau weinidog a'r sawl yr oeddynt yn lletya gydag ef fynd i weld y darlun, enwog y pryd hynny, o Grist yn gadael Ilys Pilat. Wedi cyrraedd y lie, yr oedd yno ormod o dyrfa gan Islwyn geisio gwthio ymlaen i weld y darlun. Yr oedd yn llesg iawn y pryd hwnnw, a bu farw'n fuan wedyn. Arhosodd y cyfaill gydag Islwyn yn yr ystafell ond ar gyrion y dorf, a llwyddodd Mr. Phillips i wneud ei ffordd ymlaen nes bod yn ymyl y darlun. Colloddeigyfeillionolwg amo, ac edrychasant ar y dyrfa fawr yn syllu mewn distawrwydd ar y darlun. Ond cyn pen hir, dyma lais hyglyw Mr. Phillips i'w glywed, yn adrodd— 0 Iesu mawr, rho'th anian bur I eiddil gwan mewn anial dir. i Yr oedd wedi ymgolli'n llwyr, ac wed' anghofio popeth am y bobl oedd o'i amgylch.' Dyna ffrwyth ac elw da a gafwyd oddiwrth gyngerdd a gynhaliwyd nos Sadwrn cyn y ddiweddai yn Institute Llanystumdwy. Yr oedd yno ddoniau canu ac adrodd o bell ac agos ond y dawn a dynnodd y rhan fwyaf o'r deugain punt ydoedd y llywydd, sef Mr. Lloyd George, yr hwn a sieryd yn dda yn y Senedd ac yn yr Eisteddfod a mannau mawr ac amlwg y byd, ond yn well fyth pan yng nghanol ei bobl ei hun, lie y teimla mor gar- trefol ac wrth ei fodd. Gresyn clywed fod yr Hybarch Archiagon D. R. Thomas, Llandrinio, Sir Drefaldwyn, yn bur wael ei ieehyd. Efe yw hanesydd Esgob- aeth Llanelwy,' a chadeirydd Cymdeithas Hynafiaethol Cymru. Efe a ddywedodd y sylw hwnnw ar fuarth Pont y Meibion, pan ddadorchuddid cofgolofn Huw Morus y bardd Y mae pig y golofn yn tynnu tuag i Fyny, sef tua'r Nef, a thua'r un man y tynnai bywyd a barddoniaeth glan Huw Morus ei hun hefyd." -« Pwysigrwydd Areithyddiaeth i'r Oerddor ydyw testyn cyfres ysgrifau'r Parch. W. Cynon Evans yn Y Cerddor. Y mae gennym flys dyfynnu'r darn a ganlyn, am ei fod yn son am Llawdden, Eglwyswr selog ond Cymro iawn serch hynny a rhywbeth digon nefol- aidd yn ei feddyliau wrth bregethu i ddofi a lliniaru llid y Dadgysylltwr mwyaf rhonc. Dyma'r darn :—■ Trwyddynt hwy (sef trwy'r llafariaid) eto y gellir goslefu,—esgyn a disgyn yn swynol ac efieithiol, newid o'r Ileddf i'r lion, ac o'r lion i'r lleddf. Camp areith- iwr disgybledig yw'r pethau hyn. Mor fedrus oedd y Parchedigion Herbor Evans, John Evans Eglwys Bach, a'r Deon Howell (Llawdden) yn hyn. Medrai Herber ganu. tonyddu, cwynfan, bloedd- io, gorfoleddu, neu wylo, yn ol ei ewyllys, "yn hollol yn ol natur ac ansawdd y "pethau a driniai ar y pryd. Felly J. Evans a Llawdden. Pwy a anghofia Llawdden yn siarad oddiar lwyfan Eis- teddfod Genedlaethol Gwrecsam flyn- yddoedd yn ol, ar yr Hen Gymraeg ? Cadwynodd y dorf fawr o ddeuddeng mil o bobl. Diweddodd ei araith mewn climax ysgubol yn y geiriau,—' Yr Hen "Iaith Gymraeg i farw Na, 'choelia'i fawr Dychmygaf weld y Barnwr yn dod ar gymylau'r nef y dydd diweddaf, a thorf ddirif o Gymry twymgalon yn torri allan i'w longyfarch mewn geiriau Cymraeg fel hyn,— Wele'n dyfod ar y cwmwl 'R Hwn fu farw ar y pren Myrdd myrddiynau o angylion Sy'n amgylchu Ei orsedd wen Haleliwia, haleliwia, Iesu a deymasa byth. -+ Un o'r pethau sy'n tynnu pobl a phres at ei gilydd ac oddiwrth ei gilydd yn Llandudno yw'r cystadleuaethau a drefnir yno bob blwyddyn, sef am oreu lunio models o hyn ac arall ar y tywod ar y traeth. Cystadlai deu- ddeg ar hugain yno ddydd Mercher diweddaf, ac fel hyn y dyfarnwyd 1, gwobr yr her gwpan arian, Eva Blairman, Llundain, sef am lun crocodeil; 2, Harold Jones, Birming- ham, llun Arglwydd Kitchener; 3, K. H. Kingham, Farnham, golygfeydd natur, 4. Mary Ragge, Amwythig, llun Hew. Llun sybmarin, bwthyn Cymreig, llong, castell, ac yn y blaen, oedd gan y lleill, ond neb o blant Llandudno ei hun yn rhyw uchel iawn yn y gyst adieu aeth. Dau beth. a darawai ddyn wrth sbio ar y gystadleuaeth y eyflymder a'r hwn y gwneid y model a'r cyflymdra mwy fyth a'r hwn y chwelid y cwbl gan Dafydd Jones y llanw pan ddaeth i fyny o'r mor i roddi gwers i bawb ar freuolder diflan popeth a sylfaenir ar dywod. Ysgrifennu mewn, tywod ar draetli amser, ai B ? ebe'r don wrth ddod i fyny i'w chwalu.

Advertising

IIPelydrau IWatcyn Wyn.

Advertising

I Ffetan y Gol.

Advertising