Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YSUFELL Y BEIROD

Basgedaid o'r Wlad.

Clep y Clawdd 1 sef Clawdd…

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa I [GAN YR HUTYN.] Y DALL I ARWA.IN Y DALL.-Pen- odwyd Caplan Dall i filwyr dall y Deyrnas Gyfunol y dydd o 'r blaen, a g wr o 'r Clawdd a benodwyd, sef y Parch. David Griffiths, o Ros y medre, ger Rhiwabon, sydd yn awr yng Ngholwyn Bay. Gwr rhagorol ac yn deilwng o'r swydd bwysig ac uchel hon ysgolhaig da a phregethwr cryf, heblaw bod yn fugail wrth fodd calon ei gorlan. Y mae'n ddall ers yn chwech oed. Rhyfedd fod dynion dall mor alluog. Mae deillion wedi bod ymhlith rhai o ddynion galluocaf y byd. Un llygad oedd gan Christmas Ifans. Nid oes yr un gan Griffiths, ond fe fydd yn gwneud i'r deillion i weled, maes o law. Gwna milwr dall gystal milwr a neb dan Faner y Groes. Y PEYN TRAETHODWR.—Y Parch- D. D. Williams, Llynlleifiad, yw hwnnw. Fe fu gynt ar y Clawdd yma am fiynyddoedd, a gwnaeth waith ardderchog fel bugail eglwys y M.C. Saesneg yng Nghroesoswallt. Credwn hefyd mai pan ar y Clawdd y daeth vn gamp- wr yn y grefft ysgrifennu. Fe fyddai casgliad cryno o'i gynhyrchion llenyddol buddugol yn un llyfr yn amheuthun mawr. Dywedir mai gorchestwaith yw ei draethawd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf yn Aberystwyth ar ddylanwacl Dr. T. Charles Edwards ar lenyddiaeth a meddwl Cymru. Nis gallai fyth gael testyn mwy cydnaws a'1 aidd. Bydd disgwyl mawr ar y Clawdd am i'r traethawd gael goleu dydd, a bydd, yn ddiameu, ddarllen ac astudio lawer arno. Ychwanega'r fath gynnyrch at gyfoeth llen- yddol ein gwlad. SWN TRW ST TRAED Y PLANT.- Mae Cerddo riaeth newydd ar y stryd bob bore yn awr. Ceirliarmoni traed y plant yn gyrru tua'r ysgol. Caed seibiant yn ystod y gwyl iau. Bu cannoedd o'r plant, diolch iddynt, yn cynorthwyo'r amaethwyr yn y meysydd. Maent yn edrych yn fwy wynebgoch a graenus ar gyfrif yr awyr agored a'r lluniaeth iach. Ni fuasai'n bosibl cael gwell holiday. Maent yn dychwelyd yn ol i'r Ysgol gan deimlo eu bod wedi gwneuthur eu rhan yn ystod yr haf, ac y mae trwst eu cerddediad yn deffro cerddoriaeth ar yglust nas clywid ers dyddiau. ac y mae rhyw nodau cryfach i'w clywed yn lleisiau'r plant ar gyfrif eu hoender brwd a'u hysbryd uchel. Dysgant fwy y term nesaf, mi gredaf pe bai dysgu a gwasanaethu bob yn eildydd, ymbraffent yn ysgolorion gwych yn ddiymdroi. Bendith ar y plant CYNHILWCH CYNIIILWCH .Daeth rhyw swyddpg o Lundain—oblegid yno ymae magwrfa a nytitle Swyddogion o bob gradd, lliw a llun tua r Clawdd yr wythnos ddi- weddaf, gan floeddio'r gair Cynhilo yng nghlust pob Cyngor Sir a Thref. Eglur yw ei fod wedi deffroi rhai, canys gwelir symudiadau amiyw ar droed i gychwyn pwyll- gorau i drefnu ac i symbylu cynhildeb er prynu'r War Loan Certificates. Da fai cynhilo bob amser, ond da ddwy waith yn awr, sef da i'r dyn a da i'r wlad. Dywedir ein bod wedi darbod rhyw bedwar ugain miliwn o bunnau yn ystod y misoedd diweddaf ond mor ychydig yw hynny pryd y cofir fod traul y rhyfel rhyw chwe miliwn y dydd, ac y gwas- treffir yn ddyddiol yn ddiangenrhaid lawer yn ychwaneg na hynny. Euog iawn yw'r Clawdd o wastraff gwirfodd. Pa bryd yr ymddeffri i'th gyfrifoldeb, 0 Glawdd ? HEN SORT YN YMNEILLTUO.— Mae bugail yr Hollt, yr hen sort, yn ym. neilltuo ar ol deugarn mlynedd lawn o fugeilio defaid Seisnig y gwastadedd ar y Goror. Gwr uchelben talgryf yw'r hen fugail, ond wedi cael cystudd maith a thrwm yn ddi- weddar, ond llawen yw deall ei fod, er hynny, yn llawer gwell, yn medru siarad, sgrifennu a cherdded, er nas gall fugeilio defaid crwydrus mwy. Bugail gwlad a fu trwy gydol ei oes faith, a bugail defaid estronol hefyd a fu, er fod yr hen fugail yn Gymro twymgalon ac yn Gymreigiwr gwych. Nid oedd yn bregeth wr mawr, or ei fod yn ddywedwr anghyffredin, ac yn glebrwr diddan. Yn awr yr ymneilltua ar ol hirddydd o lafur mawr, a chymer arall ei le, a bugail newydd a welir ar y goror hyn, ond fe fydd colled fawr a hiraeth am hir ar ol yr hen, oblegid hen sort oedd. ESTYN FFON I'R DAITH.-Mae cylchdaith Seisnig Wesleaidd Bryn Baw ar golli ei bugail. Gwr ifanc diweddar o'r Coleg yw, ond enillodd serch y frawdoliaeth yn arw, ac nis gallent ei ollwng heb ddangos eu hed. mygedd ohono. Y nos o'r blaen, estynasant ffon ebonwydd bert iddo, fel pedywedasent Gan eich bod yn mynd mor bell a swydd Esecs, gwell i chwi gymryd y ffon rhag i'r daith fod yn ormod i chwi, ac hefyd fel y galloch ddychwelyd atom ar ei phwys eto os bydd awydd ynnoch ryw dro. Bydd yma galonnau cynnes yn eich disgwyl a breichiau tyner i'oh derbyn. Rhai garw yw'r Wesleaid am wneud presantiau mae gan ami i weini- dog symudol iawn lond ty ohonynt eisoes, ac nid yw eto ond ar hanner ei yrfa ddaearol. Hwyrach nad oes yr un Cyfundeb yn y cread wedi rhoi cymaint o anrhegion ond pa ryfedd, rhoddwr diail yw eu Meistr Mawr, a cliofiant hwythau am ei weision liar. Da chwi NEUADD Y MILWYR 'YNG NGHIN. MEL.—Agorwyd y Neuadd yn deilwng o Ymneilltuaeth yn swn can a mawl. Yr oedd prif bregethwyr Cymru yno'n traddodi'r Gair, a Seneddwr penna'r byd yn dweyd gair. Yr oedd yr holl enwadau yno'n ddiwahan, a neb yn tynnu'n groes. Ond y mae hynny wedi creu malais yng nghalon rhywrai. Dy- wedant nad yw ffosydd (drainage) y Neuadd yn iawn, a gosodant y cyfrifoldeb ar y Llwyd o Wynedd. Onid efe sydd yn gyfrifol am bopeth ? Cred y byd fod y Creawdr mawr ar ffyrlo, ac mai Lloyd George sydd yn cym- ryd ei le. Nid yw ffosydd y Neuadd yn iawn, medd rhyw ymgecrwyr ar Gyngormewn Sir. Yn y drains, ac ar y drains, y mae'r math yma'n byw ac yn bod,—dreigiau'r drains ydynt. Gobeithio y bydd y fath bre- gethu yn y Neuadd newydd hon fel y sychir i fyny holl ffosydd llygredigaeth yr holl wlad. DA V FILWR DWL.-Yn yr Wyddgrug yr oeddynt, yn baeddu pen rhyw wr dieithr didramgwydd oherwydd nad oedd mewn khaki. Eglur iawn nad oeddynt hwy'n deilwng o'r wisg honno diraddiasant y khaki, a hynny oherwydd diod. Drwg medd- wl mai dau Gymro oeddynt. Y math yma sydd wedi diraddio ein gwlad yng ngolwg y gwledydd drwy'r canrifoedd. Gobeithir y cosbirhwy yn ol eu gwirhaeddiant, ac y dysg- ant wers o bwys-sef bod yn Gymry gartref ac nid yn Huns. DOD I WELD YR HEN LE.-Felly y gwnaeth cyn-weinidog Johnstown y dyddiau hyn. Gadawodd landeg lannerch y Bliw Maris am docach a cheinach lannerch ei gyn- hefln yn yr Rhos a'r cylch. Pregethodd hefyd ar y Ponciau yma y Sul yn deilwng o wyr y lie. Fe dry pob mam-aderyn i weld yr hen nyth tra pery. CAEL EI ALW I'R SOWTH.—VT ffrynt y gelwir milwyr y Gogledd, ac i'r Sowth y pregethwyr. Mae'r Deheuwyr wedi dechreu syrthio mewn cariad a'r Gogleddwyr. Ca ami i un ei alw i lawr clywodd Mr. R. R. Jones, B.A.,B.D., Bwlchgwyn, lais o Gwm Rhondda—sef Y cwm culach na cham ceiliog yn galw amo. Atebodd yntau yn gadamhaol, a mynd i'r Porth a wna. Gobeithio na fydd yn borth cyfyng" iddo. Mae Mr. Jones yn ysgolhaig gwych, ac wedi graddio'n uchel. Dymunir llwyddiant mawr ar ei waith gweinidogaethol. Y Bugail Mawr fo'n ddelfryd iddo. AM WELD Y CLA WDD.-Deuir o bell ac agos i gael cip ar y Clawdd, sef Clawdd Offa. Yr wythnos ddiweddaf, bu Syr Preis, K.C.M.G., o Dde Affrig yma. Dod i roi gwledd i'w lygaid a wnaeth. Cadd ei fwynhau yn fawr. Mae ganddo hefyd gysylltiadau agos a'r Clawdd. Pwy a ddaw yma nesaf, tybed ? Yr hen Botha hwyrach. MARW DROS EU GWLAD.-Wrth ysgrifennu, disgyn y newydd prudd am syrth- io o am rywo'njnilwvrgwirdclewr o amgylch Ý Clawdd yn Ff rainc. Bydd Roll of Honour y Goror yma yn cynnwys enwau aneirif pan wneir i fyny'r cyfrif eto nid oes ball ar fechgyn yn eu hawydd i fynd allan i gyfarfod a'r gelyn. Bryd y ceir heddwcli ?

Advertising