Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YSUFELL Y BEIROD

Basgedaid o'r Wlad.

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. YMAD AW I AD Y PAROH. G, fi- HAVARD, M.A.,B.D., O'R RHYL.- Treuliwyd y seiat nos Fercher ddiweddaf, Awst 23ain, yn Clwyd Street, Rhyl, i ganu'n iaeh a'r Parchedig G. H. Havard, M.A.,B.D., a'i deulu ar eu hymadawiad o'r Gogledd i'w hen gynefin yn y De. Daeth Mr. Havard o Lundain i'r Rhyl tua phum mlynedd yn ol. Afiechyd a gwendid yn unig a barodd iddo dorri ei gysylltiad a'i hoft' Wilton.- Drwg gennym na chafodd ef a'i annwyl briod yr iechyd a'r nerth a garasem ac a obeithiem y buasent yn ei gael trwy ddyfod i fyw i'r Rhyl. Gwaeledd hefyd, a'r ffaith eu bod yn credu mai oddiwrth yr Arglwydd y daeth yr alwad i Abercarn, a barodd i'r brawd a'r gweinidog ffyddlon benderfynu derbyn yr alwad i'r De. Parlysodd y ffeithiau yna bob tuedd ac awydd oedd yn yr eglwys i geisio eu perswadio i aros gyda ni. Y r oedd gweinidog aeth Mr. Havard mor dderbyniol ac addawol ac ymlyniad yr eglwys wrtho yn gyfryw fel y meiddiwn gyffel- ybu ei theimlad i deimlad teulu lluosog, wedi colli'r pen teulu pan oedd fwyaf o'i angen. Gwelir weithiau mewn rhai mynwentydd gof- golofnau fel pe wedi eu torri yn eu canol. Credwn fod cofgolofn felly yn sefyll heddyw ym mynwent gobaith eglwys Clwyd Street. Wedi gwneud sylwadau yn cynnwys cyfeiriad. at ragoriaethau Mr. Havard, cyflwynodd y llywydd, Mr. Wm. Joues, oriawr aur iddo ar ran yr eglwys, a, galwodd ar Mrs. D. H. Jones, Llys Aled, i gyflwyno rhodd gyffelyb i Mrs. Havard. Wedi hynny cyflwynodd Mrs. Price roddion i'r plant, Augustine a Joan, ac i Miss Enid Jones (nith). Deallwnfod ei dosbarth yn gofalu am rodd i Miss Jane Williams, eu morwyn ffyddlon. Yna cafwyd anerchiad gan Mr. Havard a'i briod, yn cydnabod yr anrhegion ynghyda'u gwerthfawrogiad o'r caredigrwydd cyffredinol a dderbyniasent pan yn glaf ac yn iach, yn ystod eu harosiad yn y dref. Dilynwyd hwy gan y Parchn. R. Richards ac E. James Jones, M.A., ac amryw frodyr. Llongyfarchodd Mr. Rich- ards ei frawd ar y waredigaeth oedd yn ei aros mewn eglwys heb flaenoriaid. A chynghorai ef i beidio a gweithio mor galed yn Abercarn ag y gwnaeth yn y Rhyl. Cyfeiriodd Mr. E. J. Jones yn chwaethus at ysgolheigtod a chyitoeriad Mr. Havard, gan roddi pwys ar ei foneddigeiddrwydd. Credwn y carasai am- ryw, pe buasai amser, gyfeirio yn ddiolchgar at yr anerchiadau a gafwyd gan Mr. Havard ar ddechreu'r seiadau ar wahanol faterion, ac yn enwedig y gyfres a draddododd ar y Salmau ac ar rannau o Lyfr y Datguddiad, ynghyda'i bregethau coeth ac amserol. Edrychwn ymlaen yn awchus am ei esboniad ar Lyfr y Datguddiad. Heblaw a wnaeth i'r eglwys, i'w chleifion ac i'w galarwyr, y mae iddo ef hanes a bery mewn cysylltiad a'r milwyr a fu yn y dref yn ogystal a'r ugeiniau o'n pobl ieuainc ni ein hunain sydd wedi ymuno a'r Fyddin ac ar wasgar yn Ffrainc yn yr Aifft ac ym Mesopotamia. Gofalodd amdanynt pan oeddynt yn paratoi,ac nid ydyw wedi anghofio yr un ohonynt ar ol iddynt adael eu gwlad. Y dydd hwnnw yn unig a ddengys faint a gwerth yr hyn a wnaeth trwy ymddiddan ac mewn llythyrau at y bechgyn. Cydnabuent hwythau ei ofal tadol amdanynt mewn llythyrau diddorol a serchog ato yntau'n ol. Pan glywodd un sydd yn yr Aifft fod son am iddo ein gadael, anfonodd i ofyn i ni amgylchu, Noddfa a barbed wire entanglements, fel nad allai fyned ymaith. Felly yr oedd ein gafael ynddo, gartref ac oddicartref, yn llwyr a chyffredinol, ao y mae ein dymuniadau am ei lwyddiant a'i gysur ef a'i deulu yr un mor lwyr a chyff redinol.-R.J. O'R HEN SIR, SEF SIR FON.Bu dydd Iau diweddaf yn ddydd y blodau mewn ystyr neilltuol yn Llangefni, pryd y gwelwyd y merched bach yn chwim droedio'n ysgafn o gwmpas y cannoedd pobl brysur a geid yn y dreflan, a'u dwylo'n llwythog o flodau per i'w gwerthu er budd milwyr y lie ac 0 mor anodd oedd gwrthod blodeuyn o law mor gu a than wen mor dynqr. A gweithred dlysach na'r blodau, aphereiddiach na'u sawr, oedd eu gwerthu i amcan mor ddrud. A bu i'r dreflan ddiwyd anfon oddeutu cant a hanner o wyau i'r milwyr anffodus sydd yn Ysbyty Bodlon- deb y Borth.-Daethai Mr. Griffith Jones, Glan Traeth, Bodorgan, adref i weld ei deulu, dros y mor o Awstralia bell, wedi bod i ffwrdd am oddeutu pymtheng mlynedd a dyfod yn un pwrpas i ymladd dros ei wlad. Dyna newydd drwg oedd yn ei ddisgwyl ar aelwyd ei hen gartref-fod ei frawd, y eyfeiriwyd ato yr wythnos, ddiweddaf, Mr. Albert Jones, wedi ei ladd yn y ffrynt. Trwm iawn oedd y newydd a dderbyniodd y Cyrnol Williams, Trefeilir, Bodorgan, fod ei fab hynaf wedi ei, glwyfo'n enbyd yn ei goesau yn FfTaine a newydd diweddarach tristach yn mynegi y go rfuwyd to rri'r ddwy go es ymaith. Newydd yn cyrraedd Llangefni fod un arall o'i dewrion, Mr. Willie 0. Williams, Glasynys, wedi cwympo. Bachgen glandeg a siriol; ac ar nos Wener, yng nghapel Penuel, ymgryix. hodd cynhulliad eryf o'r dref i gydalaru a chydgofio am yr arwyr ieuainc. A bro Llan- fair yng Nghornwy yn cwyno o golli'r Preifat Thos. P. Lewis, Llain dirion, oedd mor hoff gan yr ardal.le, dim ond un wobr ddaeth o Aberystwyth i Fon, sef i Mr. Harry Will- iams, mab talentog y Mynydd Mwyn, Llan- nerch y medd, am gynllun o furlen i hysbysebu y dref honno. Da Harri am gadw Mon rhag cael ei hanghofio.Y dydd o'r blaen, gwel- wyd un o ddoniau melfin yr Hen Gorff yn mwynhau awelon adfywiol Rhosneigr, neb amgen na'r Parch. Thos. Williams, Armenia, Caergybi, efe a'i briod a'i ferch fach eurwallt Mary. Yr un enw a'i nain ardderchog ydyw hi a ffordd ei phatriarchaidd nain fo llwybr- au bywyd Mary gain. Nid oes bregethwr naturiolach yn y Sir nag efe, heb ynddo ddim o'r chwydd annioddefol a geir mewn rhai, ac sydd yn eu gwneud yn gymaint o fwrn i gymdeithas a balchter y Caiser.-Llygad Agored.

Clep y Clawdd 1 sef Clawdd…

Advertising