Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Y chwi sy'n ysgoi.

News
Cite
Share

Y chwi sy'n ysgoi. -r- [GAN Y SAPPER C. G. JONES, R.E.]. I-Chwiplo'r Llecbg-WD. EISTEDDWN echdoe ar gregin tywodlyd bau hyfryd ar lannau mor Gogledd Cymru, a'r awel yn sisial furmur a'r don yn dymunol suo heddwch a gorffwystra yn fy nghlustiau. Hawdd gorfoleddu yma, ymhell o ddwndwr a chyffro'r Armagedon. Nid yw'r nos yn ddim i feddwl amdani ar ganol dydd nid yw ofnadwyaeth yn cyfrif dim ychwaith pan fo hindda a hawddfyd yn ein haangylchynu. Ar dywod traeth cyfeillgar atgofiwn draethau eraill lie bu ing enaid a chwys gwaedlyd yn can amdanom ol a blaen, ac o 'r dyfnder cyfod- ai iselnod dwys o chwithtod mawr am gyfeill- ion a chydwladwyr a syrthiodd ar dywod creginllyd fel hwn, ar lannau bau yn llygaid gogoniant haul fel heddyw'n union. Canlyn- ai'r llygaid y llu mawr o ymwelwyr yn eu hafiaith chwareus ar y traeth. Yr oedd rhai ohonynt yn ieuanc, yn heinyf rhai yn hyn ae yn ddoethaeh eraill yn hen ac yn araf iawn. Gwelwn ambell i ddyn ieuanc, iach a chryf, o fewn oedran deddf filwrol bid sicr, oddiallan i'w gafaelion er hynny. Gwyddwn am rai ohonynt nad oedd dim yn eu rhwystro rhag ymladd achos eu gwlad ond eu hewyllys hwy eu hunain, a dylanwad teulu neu gyfeill- ion ar y tribunal. Chwiliwch gyrrau'r wlad Mae llu aneirif o'r dosbarth yma o wladgar- wyr yn rhodianna llwybrau tawel hawddfyd bywyd yn ein teyrnas heddyw. Nid oes deddf na galwad nac uchelsain apel a'u sy- myd. Pe bai sylfeini'r Ymherodraeth yn dymchwel i'r llawr yfory, arhosai'r rhain yng nghors eu hunanoldeb di-Grist,di-gydymdeim- lad. Diolch mai nid dyna ansawdd y rhan fwyaf a'r rhan oreu o lawor o ddeiliaid Prydain Fawr 9 Ill-* Wf f tio'r llwfr ar dffater. Ddoe gadewais fang re brydferth byr-seib- iant am ganolfan militariaeth a swn paratoi ac awyrgylch rhyfel drachefn. Trafaeliwn trwy y dydd, a chwyrnellai'r gerbydres ar draws gwlad fras Lloegr, trwy drefi mawr, prysur, vn gwneud cadarpar; heibio pentrefi a dinas- oedd yn fyw gan filwyr yn paratoi ar gyfer "y dydd." Yn yr heulwen gwenai ambell ardal dawel wrth inni gyflymu heibio; ychydig wythnosau yn ol ysgydwid daear heddychol ei hamaethyddiaeth gan belennau uffernol y Teuton ar ei nosawl hynt. Teim- lwn fod ysbryd y dreflan honno wedi troi allan i dalu'r pwyth, fodhufen ieuenctyd yr ardal a "halogwyd gan felltith y gelyn, yn eu chwys ar feysydd paratoi byddinoedd newydd Prydain, yn caledu eu hewynnau ac yn haearnu eu deheulaw erbyn dydd y talu ar wastadeddau Ffrainc a Fflanders,-ie, a Germani ei hun Cof gennyf am hen amaethwr cysglyd a-gy-f ar- fum yn y tren yn Sir Feirionydd rhyw dro. Os na ryfel dwad ? ebe'r anfarwol hwnnw. Hyn wedi deuddeng mis o'r tywallt gwaed mwyaf ofnadwy a welodd ein byd erioed Duw faddeuo iddo yn ei anwybodaeth a'i ddifaterwch. Nid oedd iddo fab nid oedd y rhyfel wedi eyffwrdd dim ag hyd yn oed ymyl gwisg y truan hwnnw Gallwn innau faddeu i swp o esgyrn sychion felly, ond mae fy ngwaed ynberwi O'm mewn wrth weld difater- weh rhai eydwladwyr-ieuane, hoew, cedyrn o traich. Mae ysbryd ennill rhyfel mawr y cenhedloedd yn gwefreiddio ambell ardal ddis- tadl yn ein gwlad heddyw, ac oddiyno mae ateain cerddediad llu o ddynion penderfynol, gwych, yn syrthio ar y glust. Ni flinant, ni orffwysant, ni ysgydwant ymaith lwch eu hesgidiau hyd nes byddo buddugoliaeth wedi'i hargraffu ar aberth pennaf dyn ar y ddaear- dros wlad a rhyddid yn erbyn trais a gormes. Paham ? meddweh. Qherwydd mai peth cysegredicaf gwladgarwr yw rhyddid a dynol- iaeth. Mae rhai o'r ardaloedd hyn wedi profi tan uffern, a halogiad aelwyd a chartref a daear sanctaidd Ill-Dieifl yr awrr, Yroedd mantell nos dros yr holl wlad erbyn i mi gyrraedd y Brifddinas, ac yr oeddwn yn flinedig iawn cyn i'r tren diweddaf am ddwy- min Lloegr chwibianu ei pharodrwydd i'n dwyn ymlaen ar ein taith. Ychydig oedd nifer y .teithwyr, a phawb bron yn gysglyd a di-fias i siarad. Tybiaf i minnau rYWhÜnner I pendjTnpian,o)iei-wydd deffroais yn sydyn gan swn rhyfedd, ond nid swn anarferol i mi. Cefaisfyhunyn y tren wrth gwrs, -a clyma wr canol-oed,cyd-deithiwr, yn troi ataf, ac yn wyn-wyneb ddigon yn dweyd Swngynnau!" Agorais y ffenestr, ac ar awel y nos clywn ffrwydbelennau'n trywanu'r awyr. tJIe," ebwn innau, "swngynnau Yr oedd dieifl yr awyr wrth eu gwaith uiYornol heno eto Chwech ohonynt ymwelodd a. ni'r tro hwn, ebe brys-neges oeraidd yr awdurdodan drannoeth. Yn naturiol iawn ychydig o alaiias a wnaed nid oedd y dinistr yn ddim o safbwynt filwrol Ond ie, ond, ac y mae ing eneidiau yn llochesv: dan y gair bach yna. Heb fod yinhell o'r irtan yr ysgrifennaf mae treflan amaethyddolheddychlon. Rhyfel! na, nid oes a wnelo'r lie ddim a'r anfadwaith. oddigerth fod pob mab gwladgar yn y ffosydd neu ar y maes paratoi dros ei wlad. "0 Dduw, maddeu iddynt Nos Iau, arflwvs- odd inflldeliaid yr awyr gawod o belennau ar gartrefi'r diniwed. Yr oedd amaethwr a'i ferch yn cyrchu tua chartref, dair milltir I draw, wedi'r cwrdd eglwysig wythnosol yn y pentref. Gollyngwyd uffern yn rhydd arnynt o'r tywyllwch ar amrantiad. Pan dorrc-dd. v wawr, cafwyd hwynt yn farw- ar y ffcrdd adref Nos Fawrth, ffarweliodd milwr ien- anc a'i wraig a'i blentyn wrth wynebu ar y ffosydd yn Ffrainc am y tro cyntaf. Nc's Jan ffarweliodd ei wraig a'i unig blentyn a'r byd trwy belen a ollyngwyd ar dreflan ddi- dramgwydd gan German ai-ifod Draw acw, gorwedd gwraig weddw, drigain oed. yn ei harch. Lladdwyd hi ar amrantiad, pan ar ei gliniau wrth erchwyn ei gwely yn ymbil a'i Duw. Ond pa fudd yrahelaethu ? Mae angau vmhob lie a chongl ac eto, mae rhan- nau o'n gwlad yn ddifater, yn ysgafn-iron. yn ilawen Dyma fy neges i'r gwr ieuanc yn ei afiaith *ar draethau glannau mor Gogledd Cymru—y civilian chwedl y milwr, yr exempted, y dihidio :—A ydyw Dnw a'th gyd- wybod fewnol di wedi dy lwyr ryddha1.1 oddi- wrth alwad y dyddiau ofnadwy hyn ?

ICanu gyda'r Tannou.

Advertising