Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

.I psr* GOSTEG. I

DYDDIABUR I

Gyboeddwyr y Cymod I

CAPEL M.C. RAKE LANE, ,NEW…

Advertising

Beirniadaethau.

News
Cite
Share

AR DRAWS A CAR HYD Bu'r Parch. T. Shankland, llyfrgellydd Cymraeg Prifysgol Bangor, yn preget-hu ddaii Saboth olynol ym mhulpud diadell Gymreig Dublin, a fugeilir gan y llengar Barch. John Lewis, ac un o Geltiaid mwyaf cyfarwydd Cymru—yr Athro J. Lloyd Jones, MA. yno'n aelod a gwrandawr cyson. A diau mai hir a fu seiat y tri. + Dyma'r englyn, gwaith Eben Fardd, sydd ar fedd-golofn Ebenezer Morris a'i dad yn eu mynwent ddistaw yn Sir Aberteifi Angylaidd efengylu—y buont Trwy'u bywyd yng Nghymru Tywysogion lion y llu, A Morusiaid mawr Iesu. Y mae Pwyllgor Corwen i'w longyfarch ar lwyddiant a ffrwyth ariannol yr Eisteddfod. Er pob pall am drenau rhad, ac fod Dygwyl y Banc arferol wedi ei roddi heibio am y tro, cafwyd elw clir o £ 126 3s. 8d. Clodusiawni Ap Rhuddfryn a'i gynorthwywyr. Cynhaliwyd oedfa arbennig yng nghapel Wesleaidd y Brunswick, Rhyl, nos Lun ddi- weddaf, i ordeinio'r Parch. Abi Williams, B.A. un o weinidogion ieuanc mwyaf addawol y Cyfundeb. Y mae wedi ei benodi'n gaplan milwrol hefyd, ac a gychwynnai am faes y rhyfel drannoeth (dydd Mawrth). -4- Y mae Madame Laura Evans-Williams, Llundain, wedi ymuno a Chwmni'r London Opera, ac a ymddangosai am y waith gyntaf fel canto res operataidd yng Ngholwyn Bay nos Lun ddiweddaf. Y hi ydoedd Marguerite yn Faust, ac a amlygodd alluoedd uchelryw, ebe'r papurau. Y Proff. T. A. Levi, M.A.,B.C.L., Prifysgol Aberystwyth, oedd dewisol Annibynwyr Seisnig y Rhyl i gadw'u cyfarfod pregethu wythnos i'r Sul diweddaf. Wrthi'n hel deunydd Cofiant ei dad-yr Hybareli Thomap. Levi-y mae efe ar hyn o bryd a bydd blaa eithriadol ar y dyfyniadau o lythyrau'r gwr cofus a bachog ei ymadrodd hwnnw. Priodwyd y Parch. T. E. Roberts, M.A., bugail eglwys M.C. Siloh, Aberystwyth, & Mrs. Jones, Llanfair, M6n, sef merch hynaf y diweddar Mr. Wm. Thomas, Y.H. Cael arddeliad da ar ofalu am eglwys gen- hadol Lower Gelli, Ton, y Rhondda, y mae Ap Glaslyn, ac yn eu canu i fewn yn gynt nag y mae ei gymdogion yn eu pregethu i fewn. Cafodd y Caplan Peris Williams broflad trist y dydd o'r blaen. Ugain mlynedd yn ol, pan yn weinidog yn Llandudno, bedyddiai faban Mr. R. T. Jones, swyddog elusennol; a'r wythnos ddiweddaf, safai yn ymyl y bachgen, Corporal Alun Jones, pan laddwyd ef ar faes y frwydr, ac efe a weinyddodd yn ei angladd. I + Fel y canlyn yr ymfilamychodd y Parch. Evan Jones, Llangristiolus, M6n, i'r rhyfel:—- Mynnwn goncro Germani,-a chosi Ei Chaisar—'rhen glepgi; Ei haeddiant roddwn iddi, Ni cheir hedd nes trechir hi. Y mae'r Lifftenant R. Moelwyn Hughes, Aberteifi, wedi ei glwyfo ar faes y gwaed yn Ffrainc, ac yn gorwedd yn yr ysbyty yn Boulogne gyda dam o shrapnel yn asgwrn ei frest,—rhyw fodfedd oddiwrth y galön. Wythnos y bu allan yn Ffrainc cyn cael ei anfon i ganol tan y front line. Yr oedd hi'n uchelwyl yng Nghinmel y Saboth a nos Lun ddiweddaf, sef wrth agor y Neuadd newydd i'r Ymneilltuwyr, at gadw moddion gars i'r milwyr. Dyma'r pedwar a bregethai yno y Parchn. John Williams, Brynsiencyn Elfed T. Idwal Jones, Rhos a D. Tecwyn Evans, B.A. A chanodd Miss Annie Davies (Penrhyn Deudraeth a Man- chester) nes gwefreiddio'r cynulleidfaoedd. Dyma gantores ardderchog, heb os nac onibai, —Cymraeg llydan, croyw bob sillaf, heb ddim o'r lediaith feindlos academaidd sy mor ferwinol i glust dyn. O-r-

Gorea Cympo, ylfun Oddieatttre…

IAR DRAWS A CAR HYD

Advertising