Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

.I psr* GOSTEG. I

DYDDIABUR I

Gyboeddwyr y Cymod I

CAPEL M.C. RAKE LANE, ,NEW…

Advertising

Beirniadaethau.

Gorea Cympo, ylfun Oddieatttre…

IAR DRAWS A CAR HYD

Advertising

Advertising
Cite
Share

Gorea Cympo, ylfun Oddieatttre I ASHTON-IN-MAKEBFIELD Gorymdaith.- Nawn Sadwrn, y 19eg, bu Ysgolion Sabothol yr Independent Methodist Stubshaw Cross, Carmel (M.C.) a Hermon (W.), yngorymdeith- io'r heolydd gyda'u banerau amryliw, ac yn cael eu blaenori gan Seindorf Arian Ysgol yr Independent Methodists. Wedi'r orymdaith, treuliodd y gwahanol ysgolion y prynhawn mewn gwahanol ffyrdd; a thrwy haelfrydedd Mrs. Roger Jones, 276 Bolton Road, mwyn- haodd Ysgol Carmel (M.C.) gwpaned o de a bara britb, a ddarparwyd ar eu cyfer gan y chwaer hael onus, ar ei thraul ei hun.- Owrdd Pregethu blynyddol Carmel (M.C.): Yr hwyr y Sadwm a thrwy'r dydd y Saboth y cynhaliwyd yr uchod, a siomwyd y frawdol- iaeth yn fawr ar yr unfed awr ar ddeg, yng ngwaith y Parch. T. Idwal Jones, y Rhos, yn anfon i ddweyd ei fod yn methu dyfod; ond llwyddodd ein gweinidog i sicrhau g"\Vf ieuanc teilwng i lenwi'r bwlch, sef y Parch. Edward Powell, Ffestiniog, a thraethwyd yr Hen, Hen Hanes gyda bias ganddo ef a'r Parch. Enoch Rogers, i gynulleidfaoedd llu- osog. Hyderwn weld ffrwyth lawer wedi'r odfeuon grymus. Pa bryd, tybed, y dysg blaenion y Pulpud Cymreig ei anrhydeddu a pheidio a siomi eglwysi gweiniaid wedi addaw ohonynt eu gwasanaethu ? Mae'n bryd iddynt gofio y rhaid iddynt hwythau roddi cyfrif clir o'u goruchwyliaeth gerbron y Frawdle Fawr. -o.H.J. OLDHAM.—Dydd Sadwm, Awst 5, yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Oldham, unwyd Robert Lewis, unig fab Mr. a Mrs Henry Hannam, Coppice Street, mewn glan briodas a Mary Elizabeth, mereh hynaf v diweddar Mr. William a Mrs. Evans. Chester Street. Cymerwyd diddordeb neilltuol. oher- wydd fod y priodasfab a'r briodasferch wedi eu magu yn yr eglwys a dywedir mai dyma'r amgylchiad cyntaf yn hanes yr eglwys i ddau o blant yr eglwys ymuno a'i gilydd mewn glan briodas. Yr oedd Miss Evans yn adnabyddus yn y dref fel canto res, a bob amser yn barod i roddi ei gwasanaeth i hyrwyddo pob achos da. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y gweinidog. Gwasanaethwyd ar y priodasfab gan ei gefnder, Mr. Sam Morgan, ac ar y briod- asferch gan ei chwaer, Miss Blodwen Evans, a hefyd MissDrinkwater. Cyflwynwyd y briod- ferch gan Mr. Backhouse (cyfaill mynwesol ei diweddar dad). I Ar ol y seremoni ymneilltuwyd i ysgoldy Windsor Road, lie yr oedd nifer fawr o'u cyfeillion wedi dod ynghyd ar wahoddiad Mrs. Evans. Ymadawodd y par ieuanc ynghanol dymuniadau goreu eu cyfeillion, i Lytham. Y maent yn bwriadu ymsefydlu ar hyn o bryd yn Gourock, Scot- land, lie y mae'r priodasfab yn dal swydd bwysig o dan Fwrdd y Llynges. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr. 0