Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

o Big y Lleifiad.

News
Cite
Share

Gorsedd Ormes Y NG nghanol rhyterthwy y byd gwallgo hwn, cynhaliwyd-, fel y gwyddoch, Orsedd ac Eis- teddfod yr wythnos ddiweddaf, yn Llan badarn Gaerog, yng ISfgheredigion. Gwaedd. id "Heddwch yn galonnOg iawn, ond nid oedd Rhyfel ymhell oddiwrth feddwl a thafod pawb oedd yn bresennol. Os bu rhywrai yn pryderu pa un ai gweddus ai peidio oedd cynnal Eisteddfod yn adeg rhyfel, cawsant ateb 11 awn i'w pryderon, mor bell ag yr oedd a .fynno gwerin Cymru a'r pwnc. Yr wyf fi yr un farn a'r werin, pan yn mesur a phwyso pethau yn deg, er fod teimlad dyn ar adegau yn ei gymell i fynd i'r goedwig neu i'r ogof i ymguddio, until the clouds roll by." Mae llawer o neilltuolion yn perthyn i'r wyl eleni a'r llynedd y buasai dyn yn hoffi ymhelaethu arnynt, ond ni cheir mewn rhyw bwt fel hwn ond crybwyll rhai ohonynt. Y peth cyntaf oedd yn synnu dyn oedd gweled cymaint o Gymry wedi dod at ei gil- ydd, dan anawsterau lawer, i gefnogi'r Wyl Genedlaethol, ac i yfed ysbrydiaeth a bywyd o'i hawyrgylch. Yr oedd tymheredd y cynull- iadau'n fwy o ddifrif, ac yn llai chwareus nag arfer, a rhoddid gwell derbyniad a mwy o sylw nag a welwyd yn ami i'r pethau cedd yn apelio at oreu'r Cymro. Nid oedd dim nodedig o amlwg yn rhaglen yr Eisteddfod, na dim yn sefyll allan ar ei ben ei hun yn y gweithrediadau, os nad ellir gwneud eithriad o Ganeuon Gwerin. Yr oedd datganiad y plant o'r rhain, ar y llwyfan, fel awel beraidd dros fiodau'r grug, ac, fel yr wyf yn deall, yng nghyfarfod y Gymdei has, dan lywyddiaerh Dr. Mary Davies, yr oedd y danteithfwyd mor flasus, a'r wledd mor gyfoethog, nes boddi cywreinrwydd ac amheuaeth yng nghenllif argyhoeddiad. Ond, er nad oedd dim yn neilltuol yn y rhaglen, yr oedd pob peth oedd ynddi yn cael derbyniad a sylw, a phawb, hyd y gwelais ac y clywais, yn mwynhau ac yn canmol yn llawer mwy felly nag yn y blyn- yddoedd a fu. Un rheswm am hynny, efallai, oedd mai ychydig o'r rhai-a ddeuai i'r Eistedd- fod a wyddai fawr am ei gweithrediadau. Pan fyddai 'r Corau Mawr a'r Corau Meibion, a phethau cynhyrfus eraill, yn dod i'r Eistedd- fod, nid oedd y dyrfa yn talu fawr sylw i ddim arall. Caech glywed rhywun yn gofyri: Pa bryd y bydd y Gystadleuaeth Gorawl ? Ac yna'n mynd i roi tro nes deuai'r awr. Byddai cannoedd o aelodau'r gwahanol gorau yn y capelau a'r ysgoldai yn gloewi'r gwaith, ac yn derbyn eu marching orderg. Ni byddai ond ychydig yn y babell, ac ychydig o sylw a gaffai popeth oedd yn sefyll rhyngom a'r Corau, ar na llwyfan na llawr. Pan ddeuai'r awr i ben, pentyrrid y babell hyd anghysur, a phan ddeuai'r gwaith mawr i derfyn, ym. raeadrai'r gynulleidfa i'r priffyrdd a'r Post Office fel tonnau'r llanw, gan adael y rhai mwyaf ffyddlon, neu y rhai oedd yn rhy flin i redeg, ar ol i orffen y gwaith. Ond eleni, a'r llynedd, cafodd y rhai a ddaeth i'r Eisteddfod wybod am y tro cyntaf, rai ohonynt, beth oedd Eisteddfod ar ei hyd, ac wele, da iawn ydoedd! Clywid ami un yn dweyd mai dyna oedd Eisteddfod, ac mai felly y dylid ei chadw mwy. Nid oedd yr Eisteddfod wedi bod yn Aber- ystwyth ers dros hanner can mlynedd, ac yr oedd dyn yn dyfalusut y llwyddai'r Pwyllgor lleol gyda gwaith mor fawr. Gwyddai pawb mai tipyn o ysbryd Jacob ac Esau sydd wedi bod yn nodweddu bywyd yr hen dref gaerog ddifuriau, yn y blynyddoedd diweddaf, ac ni ddiangodd yr Eisteddfod yn hollol rhag Jacob nac Esau. Ond rhyfedd oedd gweled y rhai oedd yn orselog drosti a'r rhai oedd wedi ym- ladd yn galed yn ei herbyn yn rhwbio ys- gwyddau ac yn cynffon-lonni wrth weled llanw llwyddiant yn dod i fewn, ac ni bu yn ystod yr Wyl un nodyn digynghanedd. Yr oedd pawb o'r brodyr yno'n un-yn cynnwys y ohwiorydd. Gwnaeth y Pwyllgor eu trefn- iadau a'u gwaith yn rhagorol, a llawn haedd-, ant y llwyddiant digyffelyb, dan ar aangyiohl iadau, a ddilynodd eu gwaith. Cafwyd dau gyfarfod da o Orsedd y Beirdd, ar safle yr hen Gastell, mewn llecyn na allaBat dychymyg ddewis ei well. Daeth llu o'r frawdoliaeth amryliw i'r cylch, a gwnaethaiit eu gwaith yn drefnus dan deyrnwialen euraidd yr Archdderwydd mwyn a pharod. Yr oedd yno un bwlch amlwg- GWR Y DRYCH, mwyneiddgar ei dro, I-lynod ei ddawn, nid oedd yno. Ai chwi, Syr, a'i caeodd yn Ystafell y Beirdd. rhag iddo droi Gorsedd Hedd yn Orsedd Ormes ? Ond Gorsedd Ormes a fu hi er hynny, ac mae'n debyg na chlywyd, o ben y maen cysegredig erioed o'r blaen gymaint clod i arwyr rhyfel, a galwad mor glir i'r gad yn erbyn gelyn rhyddid a heddwch. Dilynwyd yr Eisteddfod gan Gymanfa Ganu, a chafwyd cynulliadau enfawr a chanu trefnus a soniarus. Hwyrach mai arnaf fi yr oedd y bai, ond rhaid i mi gyfaddef na theim- lais yn y Gymanfafawro wefr y canuCymreig. Cafwyd arweinydd penigamp, a threfniadaa perffaith. Nis gallwn, er popeth, lai na theimlo mai Cor oedd yn canu, ac nid cynhull- iad brwd o Gymry. Yr wyf yn ameu a ellir cael cynulleidfa o Gymry i anghofio ei hun yn y gan a'r mawl pan yn rhwym wrth yr arwein- ffon. Buaswn yn hoffi cael gwrando ar y dyrfa honno wedi ei gollwng a'r ffrwyn ar ei gwar, yn canu un o hen emynau Ann Griffither neu Pantycelyn, nes rhwygo to'r babell I Yna, nos Wener-na chyhoedder hyn yn Gath nac ar heolydd Ascalon-euthum i'r chwareudy Yno perfformicl Ar y Groesffor"- gwaith y Parch. R. G. Berry, gan Gwmni Mr. Gwernydd Morgan o Bontardawe. Cafwyd chware rhagorol o'r ddrama ddi- ddorol hon. Nid oedd y chwarae yn hollol ddifrychau, ond nid beirniadu yw fy mwriad, yn hytrach canmol yn fawr. Deallwn fod rhai o'r cymeriadau goreu wedi methu dod, aa eraill wedi cymryd eu lie ar fyr rybudd. Prin v gellid casglu hyn oddiwrth y chwarae, ond 61 ymhell i brofi mor naturiol i'r Cymro Gymraes yw delweddu bywyd Cymreig ar y llwyfan. Ceid yn y chwaraead y tyner, 1 dwys, y difrif a'r digrif, wedi eu cymhlethu yn naturiol a didramgwydd. Pan el y rhyfel hwn heibio, mae'n amlwg y bydd Cymru'n gafael yn llwyfan y Ddrama i'w difyrru, i w dysgu ac i'w cheryddu, ac yn ddiau i'w har- wain at yr hyn sydd well. Dichon fy mod wedi dirywio'n ddifrifol, ond rhaid dweyd y gwir, nid oeddwn yn teimlo fod dim yn anghyfaddas, fel diweddiad priodol i'r Gy- manfa Ganu, yn chwaraead Ar y Groesffordd. Da oedd gennyf weled Cadeirfardd newydd yn dod i'r golwg. Pe ar fy llaw, gwnawn ddeddf nad oes un bardd i gael cadair Eisteddfod Genedlaethol ond unwaith. Oni buasai am yr arian sydd i'w chanlyn,ychydig^, goeliaf fi, a'i ceisiai eilwaith. Gwell fUaBal gennyf weled testyn i'r Beirdd ar wahan i'r Gadaif a'r Goron, a gwobr ariannol dda gydag ef, fel y gellid cael gweithiau teilwng o'r genedl. Beth fyddai cynnyg y Gadair a'r Goron heb ddim arian am yr Awdl a'r Bry. ddest, a rhoi yr ugain punt a rodrlir yn awr gydaphob un, yn S40 o wobr am ddarn bardd- onol o deilyngdod uchel ? Yr oedd y feirniadaeth ar Awdl y Gadair yn rhoi ai-grafi ar feddwl dyn fod y ddau feirniad oedd yn cytuno yn teimlo braidd yn chwerw at yr un oedd yn beiddio gwahaniaethu. Hwyrach mai camargraff oedd. Yn sicr, nid oes le i feio dyn am ffurfio bam a dal ati. Y mae hyrwyddwyr yr Eisteddfod yn Aberystwyth yn haeddu clod deublyg-am feddu'r dewrder i alw Eisteddfod dan am* gylchiadau mor ansicr, ac am ei threfnu mor fedrus fel nad oes dau feddwl am ei llwyddiant yn Eisteddfodol, yn genedlaethol ac yn ariannol. Y mae ganddynt hwy a Chymru le i ddiolch i Mr. D. Lloyd George am ei gefnogaeth ffydd- Ion i'r Eisteddfod ac am yr aberth a wnaeth i ddod iddi. Cred ef yn y posibilrwydd sydd ynddi yn ogystal ag yn y gwaith a wna, ao fel y mae'n ddrych i adlewychu'r bywyd Cym- reig. Mae'r ysbrydiaeth y mae efe wedi ei roddi iddi mor ddifwlch ar hyd y blynydd- oedd diweddaf wedi gwneud mwy nag a wnaeth dim arall i ddwyn yr Eisteddfod i fewn i fywyd ein cenedl, fel y mae, ac nid fel y bu. Nid yw pawb o'n harweinwyr mor ffyddlon ag yw ef. Ceir gweld llu ohonynt adeg ei ymweliad ef yn penilo er mwyn bod yn. agos at ei eisteddle, fel y gwelsoch chwi wenyn a chacwn yn chwyrnu ar ei gilydd o gwmpas pot jam ond pan symudir y pot jam ni bydd na gwenynen na chacynen yn agos i'r Ile. Gresyn na chaffai'r Eisteddfod ein goreu, or ei mwyn ei hun, ac er mwyn yr hyn a allai fod ym mywyd Cymru. Awst 22ain, 1916. LLEW TEGID

Gorsedd Ormes .............…