Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising
Cite
Share

o Big y Lleifiad. Y Parch. D. Adams, B.A., oedd beimiad y traethawd yn Eisteddfod Aberystwyth ar Ddylanwad Dr. T. G. Edwards ar Addysg a Meddwl C'ymru, a pliriodol hynny, canys bu a wnelo'r ddau lawer a'i gilydd yn y dref honno. Er mwyn cyfleustra'r maker-up, codwyd y ddau englyn a ganlyn o Ystafell y Beirdd i'w dodi ym Mhig y Lleifiad:- RHESTR CLOD Llwybra hanes lie bu rhinwedd-yn Ffrainc, Yn ffrwyth i anrhydedd Dewrion byd yw rhan y bedd, A dyrrwyd i gyd-orwedd. Hwy fyddant dangnefedclus,-ocbr yn ochr, A'u hun hwynt yn felys Nid ant dros gof neu'n anghofus,-diai-i I'n Duw—na'u beddau'n anadnabyddus. G. MATHAFARN Wele'n prif draethodwr cenedlaethol—y Parch. D. D. Williams, David Street—wedi ychwanegu un arall ar ei lu gorehestion llen- yddol yn yr Eisteddfod, sef trechu ar y traeth awd ar Ddylanwad T. C. Edwards ar Addysg a Meddwl Cymru. Mae'r Capten J. R. Williams—mab y diweddar Henadur W. H. Williams ac wyr y diweddar Mr. John Williams, Moss Bank-ar goll er Awst 7fed. Y mae'r Parch. Lodwig Lewis, Seacombe, wedi cydsynio a'r alwad a ddaethai oddi- wrth eglwys Cruglas, Abertawe, lie y bu'r diweddar Barch. Abraham Roberts-un o gyn-weinidogion eglwys Newsham Park-yn gweinidogaethu. Ein cymydog llengar,, Mr. G. Rhys Griff- ith, Grassendale, a drechodd bump yn Eisteddfod Aberystwyth ar droi un o Strawn y Pentan Daniel Owen o'r Gymraeg i iaith Esperanto a chan mai er mwyn y peth ei hun y cystadlodd, ac nid er mwyn y wobr, y mae am gynnyg dau gini o wobr yn Eisteddfod Birkenhead am gyfieithu darn cyffelyb. Ys gwn i sut y mae meddyliau Daniel Owen yn edrych yn Esperanto ? Y mae un o wyr ieuainc eglwys M.C. Princes Road wedi cwympo yn y rhyfel yn Ffrainc, sef Mr. Fred Hughes, mab Mr. a Mrs. Rd. Hughes, 59 Arundel Street. Awst y 7fed y lladdwyd ef, ac un arhugain ydoedd ei oedran. Dyn ieuanc dymunol ei ysbryd a glan ei gymeriad, ac yng ngwasanaeth y Dock Board f el plumber a gas fitter cyn ymuno. Yr unig un o blant Lerpwl a welwyd yn cystadlu ar lwyfan Eisteddfod Aberystwyth ydoedd Freddie Griffiths, mab ieuanc talentog Mr. a Mrs. Thomas Griffiths, Westminster Road, Kirkdale. Yr oedd yn un o dri a ddetholwyd i gael y llwyfan ar yr unawd i fechgyn-Hark, hark, the lark (Schubert) a Hela'r Ysgyfarnog. Efe oedd y cyntaf a ganodd yn union wedi i Mr. Lloyd George orffen ei araith, a chafodd gymeradwyaeth uchel. I un arall y dyfarnwyd y wobr, ond canodd Fred mor rhagorol nes dyfarnwyd hanner gini o wobr arbennig iddo. Ei hy- fforddwr yma ydyw Mr. D. M. Roberts, Wadh am Ro ad. Efe o edd yr ail ar adro ddiad y rhai ieuainc yn Eisteddfod Bangor y llynedd a dywedai gohebyddion papurau Llundain fod ei lais mor ber a'i Gymraeg mor dlws nes ei fod yn swnio fel iaith yr Eidal ar ei goreu. Dyma gynrychiolwyr Birkenhead yn Eis- teddfod Aberystwyth y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Pedr Hir; Mr. W. Garmon Jones, M.A. Mr. David Evans, Cynlais; Mr. a Mrs. Thomas Davies, Pine Walks; Mr. W. R. Holland Mr. a Mrs. A. A. Rees Mr. a Mrs. J. W. Roberts Mr. Thomas Ed- wards Mr. Hugh Evans Mr. W. R. Prit- chard; Mr. Arthur Venmore; Mr. R. Vaughan Jones; Mr. J. H. Jones, Gol. Y BRYTHON a'r Mri. Isaac Davies a Ben Thomas, y ddau ysgrifonnydd. k Cyfodir a ganlyn o Hanes Bedyddwyr Cym- reig Birkenhead-eyfrol y Parch. Joseph Davias—er mwyn i Gymry'r dref ddeall ystyr rhai o enwau heolydd y dref yn well, a gwold hefyd mai nid yng Nghymru'n unig y ceir y ffurf bwgan ar enw'r Bolol :— Dywedir i'r brenin Iorwerth 1. ymweled a'r Mynachdy yn y flwyddyn 1277, a threulio noson neu ddwy yno, ar ei ffordd wrth fyned i osod carreg sylfaen y Royal Abbey yn Delamere Forest. Gwr- teithiai'r myneich y tir o gylch y Mynachdy eu hunain, ond yr oedd Claughton tua ruillti r o ffo rdd neu ragor "i fyny drwy goed-diroedd (woodlands) j tewion. Yno codasant ffermdy helaeth, gydag adeiladau cyfleus ac angenrheidiol i ddibenion amaethyddol. Safai ym mhen "uchaf Grange Mount. Hon oedd fferm, neu grange, Claughton. Y pryd hwnnw arf erid y gair grange am fferm berthynol i fynachdy a'r ffordd i fyny i'r grange o'r Mynachdy ydoedd lwybr cul, a elwid Grange Lane, ond sydd yn awr yn un o brif heolydd y dref, ac yn myned o dan yr enw Orange Road. Y pryd hwnnw llwybr anial ydoedd Orange Lane, tra gwahanol i'r hyn ydyw yn bresennol; a pheth anarferol fyddai i neb anturio cerdded y ffordd honno wedi i gysgodion yr hwyr ddechreu ymdaenu. Dywed traddodiad y byddai bwgan yn ymddangos ar y llwybr hwnnw ar adegau, ac ymddengys y credai pawb yn ei fodolaeth a byddai yn cael y llebronyn hollol iddo ei hun ar nosweithiau hirion a thywyll a gaeaf. Y traddodiad hwn sydd yn cyfrif am y ddwy linell a ganlyn When gorse is in blossom, and holly in green Birkenhead bwgan is then to be seen. Cludai y myneich deithwyr dros yr afon cynsefydlu y Rhyd (Ferry) yn Woodside; ac a honno mor bell yn ol a'r flwyddyn 1282, sef y flwyddyn y bu farw Llewelyn ein Llyw Olaf.' 4- CHWITHTOD.-O'r Ilu mawr nad ydynt yma mwy, myn atgof cyfaill i mi enwi dau neu dri ohonynt. Yr oeddy tri yn ddarllenwyr cyson ? R BRYTHON, a chanddynt syniad uchel am dano. Gorwyst ydoedd un o'r tri. Coffa- wyd eisoes amdano ef yn Y BRYTHON, ac ni ddywedwyd yn rhy dda amdano. Unwaith erioedy gwelsom ef, a ni yn llencyn yn Lerpwl; ond byth er hynny, cawsom achos mwyn i'w gyfrif yn ddyn a chyfaill calon. Nid buan yr aghofiwn ei gynghorion llenorol ac ymar- ferol i ni. Ym myd Awen, meudwyol—g^r i'w fedd Garai fyw'n naturiol A delw hardd sant dilol Ytoedd Gorwyst hawddgarol. Enw'r cyfaill teilwng arall ydoedd Robert Francis Williams, Yr Efail Newydd, am yr hwn y gwelwyd yn ddiweddar, yn Y BRY- THON, englynion tyner gan ei gyfaill, Eifion Wyn. Torrwyd ef i lawr yn ddyn ieuanc, prin ddeugain mlwydd oed. Gwan ydoedd o gyfansoddiad. Yr oedd o deulu athrylithgar, yn arbennig fel cerddorion. Gwelir tonau o eiddo John Francis, hen ewythr iddo, mewn rhai o'n hemynlyfrau. A brawd iddo ef yw'r cerddor, Mr. William John Williams, o'r un lie Yr oedd yntau hefyd yn gerddor deallus, ond fel bardd cain a choeth y rhagorai. Yr oedd yn un o'r englynwyr medrusaf. Ni chanodd lawer, ond canodd yn dda. A byddai Lien lan a chain yn gyfoethocach pe cyhoeddid ei waith. Blin i ni golli ei wen, ei farn graff, a'i ddynoliaeth foneddigaidd, ym mherson y cysodydd o swyddfa'r Udgorn, ym Mhwllheli, lie y buasai er yn fachgen. Y bardd cain, i bridd cynnar-a gwirddawn Gerddor, i fud garchar A Rhobert Francis, is âr, Ei Leyn, gwel, yn ei galar. Ac os ym Mhenrhos, am awr—mae ei lwch, Ymhlith rhos a phersawr, Mae'r doniau myg, mae'r dyn mawr ? Bedd i hwn ni bydd unawr. Tra Lleyn yn gartre' llenor, A bro sant yn burwas lor, Tra cherddor, tra chor, tra chan, A swynol, lednais ani an, Esgyn ef mewn rhwysg, yn wyn, Ym myd gwir, ym myd gorwyn. Nid diddanach y ddau arall na'r trydydd, beth bynnag am ei fedr, sef y cyfaill John Thomas Jones, o Birkenhead, Chwilog cyn hynny, y coffawyd mor deilwng amdano'n ddiweddar yn Y BRYTHON. Ie, arswydus y cyfarfu a'i ddiwedd. a dwys yw'r cydymdeim- lad yma a'i anwyliaid yna, yn yr adwy lydan a adawodd. Tybiwnmai nith i Sion Wyn, ac nid chwaer iddo, oedd mam J.T." Du im' dy ymadawiad,—y cyfaill; Ond mwyn cofio'r syniad,- Codwm i fynwes Ceidwad I fyny oedd, a'i fwynhad.—CYBT.

o Big y Lleifiad.

Gorsedd Ormes .............…