Ffetan y Gol. V ofied pawb jotn an/on i'r Fletan mai dytna'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. on North Wales Plants. To the Editor of Y BRYTHON SIa,-Can any of your readers assist me in tracing the essay mentioned below ? At the Ruthin National Eisteddfod in 1868, a prize of ten guineas was offered, and awarded to Dr. Francis Edwards, Denbigh, for an essay on Vale of Clwyd plants. The author of this essay died, I believe, some forty years ago. I learn that T. R. Williams (Rhydderch o Fon), Rhyl, was the General Secretary at the Ruthiij, Eisteddfod in 1868,and Mr. Ezra Roberts was local secretary. Tne latter delievered all the compositions after the Eisteddfod to Rhydd- erch o Fon. Rhydderch o Fon died in 1868, very soon after the Eisteddfod. The adjudi- cator (Jesse Conway Davies, U.D., Holywell) wrote of Dr. Edwards' contribution It is written with a simplicity of style, touching upon all that can be interesting in connection with the subject. The author has pointed out a vast number of very rare plants that are to be found in different parts of the Vale of Clwyd, mentioning and describing the localities where they may be found." As I am desirous of including some reference to Dr. Edwards' work in my forthcoming Flora 01 Flint and Denbigh, and am anxious that any local workers should not be overlooked, any information thereon would be welcomed. Perhaps relatives or friends of some of the persons mentioned may be able to throw further light upon this missing manuscript. I might add that particulars or information of any collections or herbaria of Flint or Denbigh plants or concerning any old manuscript notes or matter referring to or dealing in any way with the flora of either county, would be appreciated.—Yours, etc., ARTHUR A. DALLMAN 17 Mount Rd., Higher Tranmere, Birkenhead, August 14, 1916. Pwy sy'n dal y Dorch ? At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Nid wyf fi fardd na mab i fardd, ond byddaf yn cymryd diddordeb mewn pethau Eisteddfodol, ac mae'r rhan fwyaf o gyf rolau'r Cynhyrchion yn fy meddiant. Cyn belled ag y gallaf weled, y ddau sydd wedi ennill amlaf ar yr Englyn Cenedlaethol yng nghorff y pum mlynedd ar hugain diweddaf, yw Gwydderig ac Eifion Wyn. Enilloddy cyntaf deirgwaith, a'r olaf bedair gwaith am yr englyn Cymraeg, ac unwaith ar englyn Saes- neg. Y testynau a'r Eisteddfod sydd fel y canlyn :— GWYDDERIG-" Yr Ogof," Abertawe, 1891; YBreuddwydiwr," Bangor, 1902; Fflam," Llanelli, 1903. EIFION WYN-" Y Dwyreinwynt," Rhyl, 1904 Yr Allwedd," Aberpennar, 1905; Blodau'r Grug," Caernarfon, 1906 Gwrid," Llangollen, 1908 The Gam- bler," Gwrecsam, 1912. Oddiwrth y rhestr- au uchod, mae'n amlwg mai Eifion Wyn sydd yn dal y dorch, a Gwydderig yn sefyll yn ail. Yr eiddoch, Pen Lleyn AP IF AN Young a John Jones. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR.—Edward Young biau r pennill Saesneg a ddyfynnwyd gennych yr wythnos ddiweddaf, a cheir y llinellau yn Night Thoughts, campwaith y bardd. Dyma'r Ilinell gyntaf yn llawn Imagination's fool and error's wretch." Clerigwroedd Young, a fu byw yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf y ddeunawfed. Ysgrifen- nodd beth wmbredd yn ystod ei oes, ac er iddo -ennill cryn fri llenyddol,ychydig o'i waith sy'n adnabyddus heddyw. Dywedir mai math ar "gwyn coll" ar farwolaeth ei wraig yw Night Thoughts ac er i'r gerdd ddisgyn tan fflangell y beirniaid ceir ami i gwpled awen- yddol ynddi, ac ambell i linell sydd yn tyfu'n ddihareb, megis Procrastination is the thief of time." Gyda llaw, Cymro o Gaer- fyrddin o'r enw John Jones oedd curad Young a'r olaf yn rheithor yn Welwyre, swydd Herts. Bu farw Young yn 1765, ac yn ol yr hanes bu peth helynt ddydd y claddu. Taerai rhai o'r teulu na ddangoswyd parch dyladwy i'r ymadawedig er enghraifft, na chanwyd cloch cnul yr eglwys ond daliai John Jones druan iddo gyflawni'r holl gyf- raith Modd bynnag, y flwyddyn ddilynol, mae'r curad yn ysgrifennu a ganlyn mewn llythyr at gyfaill "I am now in the 66th year of my age (and after- all my honest and best labours) unprovided of a proper retreat to go to." Tybed i'r hen Gymro ddioddef ar gam ? Pwy wyr ?—Yr eiddoch, R. PIERCE JONES Amrwd. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Carwn wybod pa ystyr sydd i'r gair hwn yn ysgrif T. Mathews, ar "Y Garreg Wen yn y Cymru y mis hwn. Yn y rhan hon o'r wlad, yn ogystal ag yng Ngeiriadur Dr. Owen Pughe, claiar yw ei ystyr. Gallwn dybio mai mewn ystyr hollol wahanol y defn- yddir ef yn yr ysgrif hon, sef yn gyiystyr a berw. A oes ystyr felly iddo ac osoes, pa fodd y daeth i feddu'r ystyr hwnnw ? YMOFYNNYDD Pwy sy'n elwa fwyaf ? At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Gwelaf fod Hutyn yn ei glep yn gofyn barn Eilir ar yr englynioni'rtafarnwr a ymddangosodd yn Y BRYTHON ychydig amser yn ol. Wel, fy marn i ydyw y buasent yn ddarlun pur gywiro dafiarnwr hanner can mlynedd yn ol, ond nid o dafarnwr y dyddiau hyn. Mae llawer, fel yntau, yn synio fod y tafarnwr yn elwa ar ffyliaid, fel y gelwir pob un 'nad yw'n proffesu rhyw athrawiaeth. Gallaf ei hysbysu nad oes llawer o'r rhai hynny'n awr. Y rhai sydd yn elwa fwyaf y dyddiau hyn ydyw'r ffarmwr, y glowyr, a'r gweinidogion. Gwaith y tafarnwr yn awr ydyw gwylio adeg cau ac agor, neu agor a chau. Rhaid agor cynymedrwch chwi gau, a thalu biliau. Os ydyw Hutyn eisiau cadw'i bicell yn loew, planned hi yn rhywun arall weithiau, ac nid yn yr hen Eilir druan yn wastadol. EILIR ALED Amryw Bethau. At Olygydd Y Bbython Syft,Mewn llythyr a ysgrifennodd at yr Archdiagon Beynon yn 1831, ynghylch ysgrifennu'r iaith Gymraeg, dywed Thomas Lloyd Jones (Gwenffrwd) fel liyn: "It is reasonable to conclude that the style which is best understood is the best vehicle to please and improveDyna i chwi frawddeg werth gini, y dydcl a fynnoch (chwedl Talhaearn) ond ar yr un pryd, ofnaf fod perygl o'r cyfeiriad arall y dyddiau hyn, sef o gyfreithloni geiriau rhy ystrydebol, a pheri i'r iaith golli'r mawr- edd a'r urddas hwnnw a wna Gymraeg y Beibi mor swynol. Y mae rhai geiriau a arferir gan ein prif ysgrifenwyr ar yr un tir yn hollol i mi a phe y cyfreithlonai ein cyfeillion y Saeson yr ymadrodd am an heggs am ei fod yn arfer gwlad i alw'r danteithion hynny felly, ac i fod dipyn yn rhyddfrydig hefo'n haitsh. Y mae llawn gormod o duedd hefyd i arfer geiriau Saesneg pan na fydd galw am hynny, ac y bydd gennym air llawn cystal yn y Gymraeg. Ond ni chredaf y gwel neb fai am Gymreigio geiriau Saesneg pan nabydd gennym eu cyfystyr yn llawn yn y Gymraeg dyna hiwmor Birkenhead yn enghraifft. Gyda Haw, Mr. Gol., ai iawn fydd galw perchen y peth hwnnw yn hiwmorus, deyd- wch ? Hefyd, y mae yna rhyw atgoflon melys o gwmpas rhai geiriau megis "cloc," etc., ac y mae hynny, a'rhir arfer ohonynt, yn ddigon o warant dros eu cadw, goeliaf fl. Wedi darllen yr ysgrif flasus am ymweliad y Naill a'r Llall a'r Gerddi Bluog, tynnais hen Gomon Prear inawr fy nhaid, Sion Prys (o ach yr Archdiagon) oddiar y shilff, i ddarllen y Salmau Can, a sylwais fod yr Archddiacon, er yn Gymro mor wych, yn arfer geiriau fel y rhain :— Pan fo oel ar ei dafod doeth, Tyn gleddyf noeth yn ddirgel (dyna debyg i'r hen Gaiser, onite, syr ?) Oel acnid"olow"ywgairllafargwlady Gogledd. Eto :—■ Ac a lefeli dy fwau At eu hwynebau cedyrn. Yn arogldarth ac aberth hwyr, Fel union ddiwyr lefel. Gwyr pob chwarelwr, beth bynnag, beth yw "lefel." Dyma air arall Sawl 'honynt sydd a'i wifr yn llawn, I Mae'n ddedwydd iawn ei foddion. Ai cyfaddasiad o'r gair Saesneg quiver yw gwifr ? Hwyrach y bu gwifr rhyw dro mewn arferiad. Y mae bias Cymreig iawn arno, beth bynnag, a thybiaf ei fod yn well o lawer na'r ymadrodd carbwl cawell saeth- au." Eto Ni wnaeth efe yn y dull hwn I neb rhyw nasiwn arall. Ow! hybarch Archddiacon, pa fodd y gollyngaist hwn o'th law gelfvdd ? Ond hwyrach mai dyma air llafar gwlad y pryd hwnnw am genedl, megis y defnyddir sasiwn neu seiat gennym ni yn awr, a champ i lewion Pen y Bercwy newid dim ar y rheini, beth bynnag. 0 ie, 'doeddwn i ddim yn hitio rhyw lawer am y dyn hwnnw a welodd eich gohebydd o Fanceinion yn darllen ei Feibl yn y tren. Rhywbeth o'r golwg yw darllen y Beibl i fod, goeliaf fi, a'i fywo argoedd,—dyna'rgamp. Bum innau yn yr hen wlad am dro yr wythnos o'r blaen, ac wrth gerdded (yr wyf dipyn yn hen ffasiwn, wyddoch) hyd ryw Ion wledig, gwelais beth mwy naturiol o lawer, sef dyn yn darllen Y BRYTHON mewn trol a wir, y mae darllen Y BRYTHON mewn trol yn fwy true to nature o lawer i mi na darllen y Beibl mewn tren. Ond dyna beth annaturiol oedd darllen am y Naill a'r Llall yn sugno cysur ac yn derbyn help wrth suoganu y parodi ar yr emyn ar y d6n Caersalem Wel, rhad arnvnt DANIEL O. JONES. 17 Sefton Square, Liverpool. -o
Clep y Clawdd I sef Clawdd Offa [OAN YR HUTYN.] Y DDIOD DDAMNIOL.-Dywedir y gwerir rhyw hanner miliwn yn ddyddiol ar y ddiod ddamniol yn y dyddiau hyn. Mae'n eglur felly fod y diotwyr mwyaf gartref, ac nid dan y faner. Llwfrddyn yw'r meddwyn, a'r gwehilion sydd gennym gartref a'r dewrion yn yffos. Hawdd coelio hyn pan welir y dafam fin nos yn cyfogi y fallt o'i choludd. DYFEISIAU'R YALL.-Mae tafamwyr nwyd-ddrwg y Clawdd yn dyfeisio chwaraeon iselwael i hudo'r ieuanc a'r penwan i ddiota'r dyddiau hyn. Cychwynnir skittle clubs a phethau felly i'w denu, ac y mae ugeiniau yn yr ardaloedd hyn yn sgitlo eu heneidiau an- farwol i dragwyddoldeb yn anamserol ac yn amharod. Collir mwy yng Nghymru nag a enillir yn Ffrainc. TEULU'R'MILWR CLEFYDUS.-UN a elwir i ddioddef llawer yw'r milwr druan, ond yn fynych os nad ran amlaf dioddefa ei wraig a'i deulu cythryblus lawer mwy nag ef. Mae yma amlachos torcalounus iawn o amgylch y Clawdd yma. Dyma un, fel enghraifft o lawer torrodd iechyd y milwr i lawr yng Nghinmel Pare. Anfonwyd ef gartref, wedi bod dan driniaeth feddygol, wedi ei ryddhau o'r fyddin fel gwr anwelladwy. Ar ol tipyn o helbul, cafodd ei wraig druan, a hanner dwsin o blant bychain, yr hynaf ond rhyw naw oed, rhyw sofran yr wythnos. Bu'r milwr farw ar ol ychydig wythnosau, a rhoddodd y fam enedigaeth i un bychan arall yr un wythnos. Yn awr, wedi marw o'r tad, ni cha'r fam na'r plant geiniog goch o unlle. Pan mae'r angen fwyaf, mae'r cym- orth leiaf. Mae pethau o'u lie yn siwr i chwi. Enghraifft yw hon o ugeiniau tua'r Clawdd. LOES Y DDIRWESTWRAIG.-Mae galar ymhlith dirwestwyr y Clawdd ar gyfrif profedigaeth chwerw'r ddirwestwraig bybyr, Miss Pritchard, Croesoswallt, yr hon sydd newydd golli ei hannwyl chwaer, a hynny cyn gynted ar ol marw ei hannwyl fam. Mae Miss Pritchard mor annwyl ag yw o adna- byddus. trwy Gymru benbaladr. Mae ei hymdrechion gyda dirwest ymhlith merched y Gogledd yn ddiflino. Mae ein cydymdeimlad yn ddwfn efo hi a'i thad parchedig, yr hwn sydd yn awr mewn gwth ooedran. Disgyna profedigaethau chwerw arnynt fel cenllusg, ond y mae Tad y cawodydd trymion yn lloches iddynt yn y dymestl. Pwy fel Efe ? DINAS I'R .MILWYR.-Dywed y Glep I fod Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau daliad mawr o dir yn ardal Bau Colwyn i wneud daliadau bychain i'r milwyr,— math o ddinas filwrol iddynt, i orffwys oddiwrth iflwriaeth fwrnol gan ymroddi i amaethyddiaeth. Peth newydd fydd hyn, a erys yn gofadail ar ol y rhyfel, end gwallgofrwydd diesgus o fyned a]lan i ymladd a'n gilydd mewn oes war- eiddiedig. Y CJLA W BBNDITHIOL.-Agorodd y Nefoedd ei ffenestri yr wythnos hon, a disgyu L,) ,.r ho a, a disgvn- nodd cawodydd trymion ond bendithiol iawn, ar fangre'r Clawdd. Buchod a cheffylau a ysgydwent eu cynlfonnau mewn diolchgarwch pur a dyn, yntau, sef arglwydd y greadig- aeth fawr, a ymlecha yn ei facintosli. DYN MWYAF EWROP.-Nidoes angen dweyd, wrth ei enw, pwy yw hwnnw. Nid oes gystadleuaeth am yr anrhydedd. A'r geiriau uchod y cyhoeddwyd y Cymro byd- enwog yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon. Mae'r Llwyd o Eifion wedi cyrraedd y babell, ac fe sicrha hyn Iwyddiant yr Eisteddfod mewn ystyr arianno], ac hefyd yn hanesyddol. Mae'r miliwnydd. sef Dafis. Llandinam, gydag ef. Nis gellid meddwl am well priodas rhwng brodyr deuddyn ydynt sydd yn eu bryd godi'r hen wlad yn ei hoi." Mae bechgyn y Sowth yn dylifo i Aberystwyth wrth y cannoedd. Mecca Cardis y Sowth yw Aber yr Ystwyth. OHWARAE'R BEL DROED A'R GELYN.-Mae'r Glep yn glib iawn ar waith un o filwyr y Clawdd yn chwarae'r bel droed a'r gelyn ar faes y gwaed. Mae'n debyg iddo gael ei gymryd yn garcharor gan rhyw dri o'r Ellmyn ond er ised ei ben, yr oedd yn uchel ei vsbryd; ac er ei amddifadu o'i arfau milwr- ol yr oedd ganddo eto ei arfau corfforol, ac yr oedd cic cryf yng ngwaelod ei esgid. Pan gafodd y cyfleustra cyntaf dyma ef yn rhoi cic i'r Ellmyn agosaf nes ar ei hyd ar lawr ac wedi'r kick-out i'r cyntaf, dechreua chwarae'r bel droed a'r Heill. Diangodd o'u crafangau yn ddianaf,er fod pelennau'r gelyn yn chwym- ellu o'i amgylch o bob cyfeiriad. Bachgen pobffordd yw Tomi. t POBL DDI-DDARLLEN GWRAIG SAM.—Cwyna llyfrwerthwyr mai pobl ddi- ddarllen ydyw pobl Gwraig Sam. Am bob ilyir a werthaf i drigolion y dref, gwerthaf ugain i bobl y wlad, medd un. Yn anfynych iawn y gwelir gwr o'r dref mewn siop lyfrau ail-law, ond bob amser bechgyn o'r cyffiniau a welir. Yn y wlad ac nid yn y dref y mae'r Cyfarfodydd Beiblaidd a'r Cyfarfodydd Llen- yddol llwyddiannus. Mae pregethau'r dref a phregethau'r wlad yn wahanol iawn liefyd. Myn y wlad fwyd y gellir cnoi cil arno, ond bwyd wedi ei ail gnoi sydd eisiau ar y dref. Megir cryfion yn y wlad, a gweiniaid yn y dref. Hwyrach mai felly y mae ymhob man. Rhyfedd y tyrru i'r dref myned ar i lawr yw hynny. Achofies wrth ysgrifennu mai mewn tref y preswyl y Gol. MEDD Y O YN DEYD Y DREFN.— Gwr medrus yn ei grefft yw'r meddyg, Doctor I Thomas Roberts, Gwrecsam, swyddog iechyd Sir Ddinbych. Yn ei adroddiad yng nghyf. arfod chwarterol y Cownsul dywedodd y drefn I yn arw wrth y mamau ffol hynny sydd yn I mynychu r Picture Palaces efo'u plant bych- ain. Mae eisiau gwers ar ffyiiaid o'r fath, ac ar eraill hefyd heblaw'r mamau. Dywed y meddyg yn ddifloesgni fod mynychu'r lleoedd hyn yn niweidiol i iechyd ac yn peryglu byw- yd. Collir cannoedd o blant bychain yn ftynyddol yn anamserol drwy hyn. Dywed y llys hefyd yn wythnosol fod y lleoedd hyn yn milwrio yn erbyn moesoldeb. Rhaid eu cau, yn wir. Diolch i chwi, Dr. Roberts, am eich pregeth rymus. Cewch gyhoeddiad eto ar y Clawdd, sicr i chwi. SYNNWYR A GIGARETTES.-Dyfal. wyd fod hogyn ieuanc yng Ngwraig Sam yn colli mewn synnwyr gan iddo ladrata nifer o cigarettes. Eglur yw, yn ol eu barn, nad yw cigarettes a synnwyr yn mynd efo'i gilydd. Hwyrach Diffyg synnwyr sydd yn cyfrif am yr ysmygu diddiwedd sydd yn ffynnu yn y wlad. Nid bob amser lie tybir y mae syn- nwyr. Gwas Syr Walter Raleigh oedd yn gweithredu synnwyr, ac nid Syr Walter. Gobeithio y bydd dyfarniad llys Gwrecsam yn wers i segur wry sig aret. ROTTEN SYSTEM.Yr uchod oedd dyfarniad gwr ar y Tribinlys y dydd o'r blaen ar .sanitary condition ysgol ddyddiol ym Mhentre Brython. Gwyr profiadol sydd ar y Bwrdd, a gwr dibrofiad oedd ar v llvw. Beth ddywed henadur-ynad y Bryn Baw am hyn ? 1CAMP ADRODDWYR Y CLAWDD.— Colli wnaeth y rhai hyn hefyd y tro hwn yn y Genedlaethol. Aeth yr holl wobrau, gyda chanmoliaeth fawr, i'r Sowth. Rhai chwim- wth eu gweflau yw'r Sowthmyn. Rhigl eu parabl ac ami eu dawn. Er hynny, y mae adroddwyr pen-y-gamp tua'r Clawdd yma, a deunydd diguro ond trwsio tipyn arno. Mae lie gwych i ysgol ragorol yn hyn o beth yn y cylch. Ceir ysgol felly yn Lerpwl, ac y mae yma well deunydd hyd yn oed nag yno. Symuder gyda hyn yn ddigoll amser. EI LADD YN Y LOFA.-Colloddglowr o'r Rhosddu ei fywyd yr wythnos ddiweddaf trwy i'r top ddisgyn arno. Bu farw yn yr Infirmary. Ei enw oedd Rowland Thos. Morris. GWOBRA LPR EISTEDDFOD.-Gwelir yn amlwg fod mwyafrif gwobrau'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn mynd i'r Sowth. Pur ychydig sydd wedi disgyn i ran y Clawdd. Ni fydd yr ardaloedd hyn yn ol fel rheol; ond hwyrach fod y prif gantorion eisteddfodol oddicartref yn Ffrainc neu rywle arall, dan y colours. CLOD I'R CLAWDD.-Mae Benjahem- iad y Clawdd, sef y Parch. William Benjamin (M.C.), Garth, wedi ennill y wobr, a chlod nid bychan, am draethawd godidog ar Athron- iaeth James." Y fath oedd rhagoroldeb y traethawd fel y penderfynwyd dyblu'r wobr. Well done, Benjamin! Adnabyddir ef fel gwr da, pregethwr cryf, traethodwr gwych, a bugail ffyddlon. Yr ydym yn cydlawenhau yn ei lwyddiant. Bydd llawer o ddisgwyl tua'r Clawdd gweld y traethawd mewn print. GWALLGOFRWYDD Y TY.-Gofid deall fod pall ar synhwyrau'r Parch. Charles Leach, aelod Seneddol dros y Colne Valey. Bu raid gosod Deddf Gwallgofrwydd mown grym o'i herwydd. Gwr diwyd oedd y Dr., ac wedi ymgodi oddiar ffon isaf yr ysgol, gan ymgripio tua'r top. Gwnaethbeth wmbredd o waith yn ei ddydd, a theimlir colled ar ei ol a gofid am ei helbul. Onid yw'n bosibl dwyn y ddeddf hon i weithrediad o berthynas i'r gwallgofiaid sydd yn feunyddiol yn y Ty y rhain yw'r perygl. Am bob un o'r lleill anffodus mae c ant o'r rhai yma. Os na ellir cymhwyso'r dcVeddf hon, beth fyddai cael deddf i'r pwrpas ? Gwnai les garw, tystia'r Glep. AR YR ELOR DU.-Collodd glowr o'r enw Maxwell ei fywyd yng Nglofa'r Rhos yr wythnos ddiweddaf. Mae'r damweiniau hyn yn amlhau. Beth sydd yn cyfrif ? U COLLI'R NURSE.Alae Nurse Griffiths, Broughton, am roi ffarwel i'r ardal a'i swydd, ar ol gwasanaethu am flynyddoedd lawer gydamedrusrwydd a chymeradwyaeth mawr. Anodd gan y Pwyllgor ymadael a hi. Os mynd, rhaid i ni gael dangos ein gwerthfawr- ogiad o'i llafur. Paratoir i roi tysteb iddi. Bydd llawer am danysgrifio, gan iddi weini yn dyner a gofalus ar gleifion dirif yn ystod y blynyddoedd, ac ennill eu serch bob yr un. Cewch dysteb deilwng, Nurse annwyl CAREY YN YR AIFFT.—Ysgrifenna Mr. Carey Jones, mab y Parch. W. B. Jones, Pen y cae, lythyr yn cynnwys llawer o hanes diddorol o'r Aifft i'w rieni. Gyda'r R.A.M.C. y mae'r bachgen, a glew yw fel ei dad. Yr Aden Fawr fo drosto.
Ceinion Rhuddfryn Yn cynnwys pigion o'i englynion a'i gywyddau wedi en dethol gan ANTHROPOS. a than olyg- laeth ei fab, y Paroh, LEWIS MORRIS, Wrexham Yaghyda darlun o'r awdur. a'nodiadau oywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rhad (mewn amlen), 6cb Trwy'r post, 7o, HUGH EVANS A'I FEIB. Moses: Or Cawell i'r Mor Coch. Drama at wasanaeth Qobeithluoedd Chyfarfodydd y Bobl leualnc Gan PEDR HIR. PRIS: GROT. MAB y ddrama uchod wedi ei pher. fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man, yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. MOSES BACH Drama at wasanaeth Gobeithluoedd Mae hon yn gymwya i blant ieuengaoh na'r ddrama uchod. Pris Dwy Geiniog Cyhoeddedig gan liUGtl EVANS A'l FEIBION- ARGRAFFIAD NEWYDD A HELAETH EDIG If lai gymraeg: EI HORQRAPF Atl CHYSTRAWEN. Gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A -I fej Ar wert h gan yr boll LyfrwerthWJI PRIS 1/6. Nia gellir ei gael oddiwrth yr AwdwJ. Lie nad oes Llyfrwerthwyr anfoner at j Cyhoeddwyr— HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r "Brython," Lerpwl GERAINT AC ENID A Chaniadau Eraill GAN Machreth. Cynhwysiad DARNAU CYNGANEDDOL.-Geraint so Enid.—Y Celt.—Telynau Duw.—Y Cbir Aggeno&-Miri enwi'r ffyrdd ym Mangov.- I'r Athro J. Morris Jones, M.A., u ol darllen ei Ganiadau.-Dychweliad Arthur.* Elis Wyn o Wyrfai.—Dr. John Thomas.- Herber.—Yng Ngorsedd Eisteddfod y Rhyl -Gorseddu Dyfed yn Archddorwydd.— Telyn Cymru.—Peroriaeth.—Yr Ehedydd. —Can yr Angylion.—Y Parch. William Nicholson.-Nao Oeda.-Edifeirwoh.- —Wrth fynd i orffwys.—Ar ol Noswaith Dymhestlog.—Gwynt Garw.—Y Tri Llano. —Yr Wybren Hwyrol.—Dau Weinidog.— Alawon Cymru.—Y Gwynfryn.—Ci y Bugail.—Ewyllys Adda i'w Blant. DYRIAU.-Taith ac Oedfa. Derwen Arthur.—Crwydro Bum.—Y Delyn Friw.— Wyt Ti'n Coflo.—Morfudd.—Hwiangerdd. —Can y Forwynig.—Palmwydd a Helyg.— Cyfaill y Tlawd wyt Ti.—Emyn Priodas. OYFIEITHIADAU AO EFELYOHIAD- AU.—Herv6 Riel.—Y mae Gwrid u ruddiau'r Rhosyn.—Mae'r Ffrwd yn llifo'o gref, fy man.-Y Bardd a'r Baban.—Y Nefol Can. Ychydig gopiau yn weddill. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, Swyddfa'r Brython," Leurpwl, Ar werth gan y Llyfrwerthwyr. Llian Pris 2/6 I W. & J. VENMORE, Estate Agents & Volutra 200 SCOTLAND RV. Liverpool Wxlvtxqkm Mo, 4218 RorfJ (S lines). ALUM « LINE To CAIkTILDm rfV ERPOOL, GLASGOW, LONDON ft HAVBI i TO CANADA, NEWFOUNDLAND It U.SA. ALLAN'S, It James St., Liverpool; 14 Oookspox St., S.W., and 108 Leadenhall St., London, ILO. 0, W. HIGHEST. & L.T.S.C (Ameintdd » Omtt imp Mihaptl M.O. PHnau Msetp. Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. Paroioir Ymgeiswyr at Dystyagrifau uwthst Coleg y Solffa, Hera Nodiant a Solpm, 70 KINGSLEY ROAD LERPW J. Lloyd Jones, & Co., BSTATB AGBNTS, Ao. 6 Lord Street, Liverpool t £ LxraoMM m* MAMK* FRANCIS & HOLLAND. Sight Testing Opticians, AFRICAN HOUSE, I WATER STREET LIVERPOOL. (Close to the Town Hall). HARTLEY & CO., Liverpool -202 LONDON ROAD. AALBS BY AUOTION HVBfif tfUlBDAJT AND FRIDAY AT OKH, SATUSDAX NIGHTS AT 8HVEN. w▼A,TirUTA, BL, B HOUSEHOLD FUBNITUEB OF AD DBOORIPTIONS. MAQNIPIOBNT NBW AM OP BED8THAD8, BEDDING, &0. EV-DRY NECESSITY FOR HOUBIMRBBPING, ATTEND T3ESB SALES AND SAVE AT LBAim Ie PER CENT. A MAGNIPIOENT BELBOTION C. iUPEBIOB FUBNITUBB IS ALWAYS KBP2 Di STOCK AND ANYTHING MAY BB PUROHASBV, BY PEIVATE TREATY. GOODS STORBD. On view 8.30 a.m. to 9.80 p.m.; Saturday 1 pm telephone 1798 Boyal. CONSIGNMENTS (EITHEE LABGB OR aJrA. OF ANY DESOEIPTION INVITED FOR THM OALBS. BEST RESULT GUABANTBBD. If you want The most Comprehensive POLICIES ABB THE BEST TERMS write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Bead Offieti 8t. Mildred* House Poultry. LONDON. B.C. Branch Office i 014 Exchange S'ld a LIVERPOOL. JAMES H« SCOTTI General Manager Balls' Wedding Rines. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons giren to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free: Close on Wednesdays at 1 o'clock. Yn awr yn Barod. COflANT THOMAS GEE, — GAN THOMAS GWYNN JONES. Cynnwyaa y cyfrol 650 o dudalenau yagfay« ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn man h&rdd 6/- Cyhoeddedig gan SBBga'LFAB.lC^ f., Dinbyok