Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

Advertising

i Irem t-Oros y Bechgyn.

Trem it-Eisteddfod Aberystwyth.,

Trem )!)-Canu'n y .Rhyfel.

Trem IV-Cleddau'r .Orsedd.

Trem V-Y Rhyfel. 'I

News
Cite
Share

o Lofft y Stabal. j XVI I lVIA nghlust i o hyd fel rhw lyn tro, ac yn tynnu i fiawn y swn fydd o nghwmpas i pie bynnag yr a i. Dyma beth glwis i ar ol y llythyr dwaetha i'r BRYTHON "Mamrynion yn ddigon anodd i trin yn barod, heb i neb i gneud nw'n waeth. Hym mi fydd arnyn ?V nhw eisio i cyrloga mawr am neucl Vim toe, a'r peth gora fydda i bob teulu ffarmwrs neud hebddyn nhw o gwbwl-gneud y gwaith i hunain." Wel, syr, dyna ddarn o araith na fasa chi ddim wedi i chael hi bae'r liyn sgwennis i chi o'r Llofft ma. Ond fedar neb gael syniad am yr hyawdledd llifeiriol y noflodd yr araeth arno fo, allan o ddyfndera enaid yr un oedd yn siarad. Mi glwis am ddyn wedi bod yn gwrando darlith awr o hyd ar y Werddon," a bod y darlithiwr yn lletya efo'r dyn hwnnw'r noson. Darlith ar y Werddon oedd gynnoch chi'n te ? la, siwr." Rhoswch chi, sut nadrodd oeddach chi'n ddeud oedd no ? "Deud ddaru mi nad oedd no ddim nadrodd." Ho, ho," felly wir Wel, roeddwn inna'n meddwl ych bod chi wedi deud fod nadrodd yno, ond nad oedd no ddim Pabyddion." Ddeudis i ddim o'r fath betli deud ddaru mi nad oedd no ddim nadrodd, ond fod y mwyafrif mawr o'r bobol yn Babyddion." Wel, fel y ma rhwun yn camddallt, ynte ? Sgusodweh n am ych holi chi fel hyn, achos ma arna i isio casglu cimin o wybodaeth ag y fedra i-wedi i chi ddwad aton ni, ac o mor bell hefyd. Ond wyddwn i ddim o'r blaen mae'r Gwyddelod ddaru ladd Syr Watein-yr hen Syr Watcin oeddach chi'n i feddwl, ynte ? Gwarchod pawb, ddyn ddeudis i mo hynnu chwaith. Mi allwn i feddwl ma'r ffordd ora i chi neud ydi cymyd yn ganiataol ma'r hyn ddeudis i am bob peth oedd yr hyn sy'n hollol o chwith i'r hyn rydach chi'n i feddwl ddeudis i." Wel, wyddoch, ma gin bobol wahanol fama am betha." 11 Wel, os oes yn y byd rhyfadd yma ddwy farn am danoch chi, ma petha'n waeth nag roeddwn i rioed wedi meddwl. Da chi, gleuwch gannwll i mi, i fynd i ngwely Dyna rwbath, 'ma tipin o ola ym mhen hona. Nos dawch." Ac fel yna, ma rhw bobol na fedra nhw ddim, ne na fynnan nhw ddim dallt yr hyn ddeudir ne sgwennir mor eglur ag y gall iaith i osod o. Be gancar sy ar rhw benna cabaits fel hyn, deudweh ? Ond rhaid imi geisio cadw'r hen dempar ma i lawr. Rydw i am i fistras fod yn fistras, a morwyn yn forwyn. Ydw'n neno'r taid annwl! Gadwch inni ddallt yn gilydd ar hynnu, beth bynnag. Ma rhai mrynion dwl ac anraslon, fel y cewch chi ffyliaid ymhob dosbarth. Mi welis i rai felly. Ma un o'r criw'n dwad-o flaen fy meddwl i'r funud ma, ac ma'n gwilydd gin i i gweld hi, yr hen sopan fler, i gwallt am i gwymad, ac yn sychu thrwyn yng nghefn i Haw, a hynnu wrth ben y crochan uwd A doedd dim iws i neb ddeud dim wrthi hi. Pan ddeuda'i mistras am iddi hi neud fel ar fel, mi clwis hi'n apad yn ol, Gnewch o'ch hun." Wel, roedd gin honno dempar dychrynllyd. Fasa waeth gin i briodi cythral ffatri ddim, na phriodi peth felly. Ond mi gafodd honno ddyn digon gwirion i chymyd hi hefyd, a'r dyn mwya diniwad'a distaw yn yr holl wlad oedd o. Mi fu'n teimlo dipyn yn anghyffyrddus dros amsar, ond ein hir iawn mi gynfinodd a'i swn hi,—fel y bydd dynion wedi arfar a swn ffowndri'nmedru cysgu'n i ganolo. Mi welis i amball i fistras yn actio mam ac athrawes i frynion. Ma amball fam yn sgluso disgyblu i phlant, a gwae fydd i rheini oni chant rwun arall i afael ynyn nhw'n ifanc. Ma disgybl- aeth ddoeth yn hanffodol i gymeriad pob mab. a merch. A'r drugaredd fwya gafodd amball ferch ifanc fu mistras gall, ond fanwl a threfn" us, i dysgu hi sut i byhafio ac i neud i gwaith yn iawn. Pari geiff morwyn fistras felly, mi geiff fendith fawr, ac mi fydd yn fendith i bawb o'i chwmpas hi. Tybad, miawn difri, syr, nad ydw i wedi gneud fy meddwl yn ddigon clir, i'r neb sydd a mymryn o sens yn i ben o, gyda golwg ar fy syniad am hawl meistresi ? Ond pan na i fy meddwl i fynu ar rwbath, rydw i'n styfnig ddi-riwl drosto fo wedyn. Ac ma gwerth ac urddas galwedigaeth mryn- ion ffermydd yn un o'r pethau rydw i am sefyll drostyn nhw. Mi fydd yn ffiadd gin i glwad amball un yn i dirmygu nhw. Dro byd yn ol, roedd hi'n helynt fawr yn rardal ma nghylch carwriaeth rhwng mab siopwr a morwyn ffarm. Doedd dim lie i ddowt nad oedd y cariad o bobtu o'r iawn stwff. Ac roedd y par ifanc yn deilwng y naill o'r llall. Bachgian deallus a da oedd mab y siop, ac yn. burion o ran pryd a gwedd, fel tasa. A fuo dim smartiach merch ifanc ar ddau droed nag oedd y forwyn ffarm, na'r un glysach na hi chwaith. Cofiwch nad ydw i ddim yn rhoi gormod o bwys ar i ferch fod yn rhw egstra o glws, achos mi welis i amball un felly'n rhw slwt ddigon di-lun miawn ty. Ond nid un felly oedd yr un tan sylw. Roedd hi'n debig iawn i Mari'r forwyn ma,—ddim yn bodloni ar drychyd arni hun yn y lwcing glas, ond mi fynnai weld i hun yn y dodran a'r llestri fydda hi'n i glanhau. Diwcs annwl! mi fydda i'n teimlo, wrth drychyd ar Mari'n glnhau'r ty ma, fod pob peth bron yn troi'n lwcing glas tan i dwylo hi Ond does gin Mari ddim busnas i ddwad ata i rwan, fel tasa. Yn deud roeddwn i am y ferch arall. la, syr, genath iawn oedd hi, o deulu duwiol, yn dduwiol i hun hefyd-ac mor lawan a'r gog, fel y deudir -ac yn Ifin a medrus efo gwaith y ty. Ac roedd hi gin gallad ag un ferch yn yr ardal heblaw bod yn dallt i Beibil yn well nag amball i brygethwr welis i. Mi alia i roi gair fy hen ffrind Jac J6s ar y matar yma, a dyna ben ar y peth. Wel, roeddan nhw-mab y siopwr a morwyn y a bod yn can- lyn i gilydd am flynydda, ac wedi gneud amod a'i gilydd i briodi cin hir iawn. Beth bynnag i chi, mi drodd rhieni'r bachgian yn erbyn y ferch, a fynnen nhw ddim clwad son am iddyn nhw briodi. Buont yn taflu. rhw awg. rymiada felly ato fo gynta dalltson nhw fod y ddau yn caru. I neud petha'n waeth, mi ddoth rhw ferch ifanc arall-merch i saer coed-i fynych ymweld a'r siop, ac mi gred- odd y rhieni fod gin honno ffansi'n y mab. Ond doedd dim troi ar y bachgian oddiwrth i gariad cynta. Waeth imi heb ddeud y gyfrinach i gyd, ond y ffaith ydi mod i miawn cyfla i wbod y cwbwl rydw i'n son amdano fo —fel taswn i'n byw ar aelwyd y Siop. Bobol annwl, mi fcio no halabalw A dyma be deudodd i dad wrth i fab, David bach, m a dy fam a minna'n synnu atat ti. 'Rwyt ti wedi bod yn fachgian da iawn hyd yma, ond rwyt ti wedi troi'n styfnig iawn rwan. 'Does gynnon ni run plentyn ond y chdi, ac ryda ni wedi rhoi addysg dda iti. 'Roeddan ni'n meddwl gadal pob peth i ti ar yn hola ond, yn wir, rwyt ti'n gneud inni feddwl am newid yr wyllys rwan. Da rnaehgian i, gna gimin a hyn er mwyn dy dad a'th fam." Be sy gynnoch chi'n erbyn Doli, nhad ? gofynnai yntau. "Wei, David," ebra'r fam yn chwap, "be nei di a morwyn .ffarm, y machgian i ? Ond roedd cariad David at Doli miawn lie anos i' w dynnu n ol nag arian ei rieni oedd yn y bane. Mi fuo'r fam yn ochain ac yn crio o gwrnpas David bora a hwyr. a clianol dydd, a'r unig amean oedd boinbardio Doli allan o'i galon o. Roedd y rhieni hyn yn bur grefyddol yn i ffordd, ac yn ffyddlon yn y moddion. Ond roedd yn hawdd gweld hyd noed yn y capal Yria Dav-td a Doli oedd "matar i henaid" nhw erbyn hyn. Pan fydda'r gwr yn deud i brofiad, yn son am siomdigaetha bywyd y bydda fo, ac am y diffyg parch i rieni oedd yn nodweddu llawar o'u plant ac mi fydda'n taflu rhw gipolwg ar David, yn amal, pan fyddai wrthi. A phan fyddai'r wraig yn deud adnod, gofalai am bethau fel hyn, Anrhydedda dy dad a dy fam," etc") Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni," etc., ac mi fydda'r adnod yn ddrylliog iawn hefyd. A doedd neb yn y capal yn dallt y profiad a'r adnod yn well na David a Doli. Yn y man, beth bynnag, yr oedd perthyn- asa i Doli adref ar dro o'r Mericia, ac roedd gynnyn nhw ffarm fawr yn y wlad honno. Gan fod Doli erbyn hyn yri ymddifad, a'i bod hi'n ferch mor ragorol, mi perswadiodd y Mericians ma--niodryb i Doli a'i gwr—hi i fynd efo nhw adra. A'r diwadd fu i Doli fynd. Ond roedd y cymdogion yn dirgal gredu ma un amcan mawr gin Doli wrth fynd i'r Mericia oedd medru mynd yn nes at David, ac i David fedru mynd yn nes at Doli. Hynnu ydi, roedd Doli a David yn d3¡llt i gilydd yn y peth. Wedi i Doli fynd i ffwrdd, mi gredodd rhieni David fod cyfla'u ffefryn hwy merch y saer-wedi dod. Gwahodd- ent hi i'r ty pan ddeuai i'r siop, ac arosai i de -i swpar weithia. Gofynid iddi chwara'r piana, ac roedd gwr a gwraig y siop yn i chamol hi run fath yn union a thasan nhw'n gwbod rhwbath am y grefft. Ryw fora mi ddeffrodd rhieni David i ddallt fod i mab nhw wedi dianc i'r Mericia, a chin pen hir cawsant air i fod ef a Doli wedi priodi, ac miawn amgylchiada cysurns. Eu llythyru rhwng David a'i rieni. Ebra'r tad, miawn un llythyr, Doedd raid i ti ddim mynd mor bell o'r cartra i gael gwraig, David." Ac ebra David yn ol, Ma'n ddrwg gin i feddwl, nhad, fod yn rhaid imi ddwad mor bell a hyn o'r cartra i briodi'r unig ferch allwn i garu fel gwraig, a Doli oedd honno." Syr, dwn i ddim i be byddai'n mynd at bwnc y caru ma, achos ma'n anodd iawn mynd yn ol oddiwrtho fo wedyn. Ond dyna ichi siampal o'r balchtar, y bydolrwydd, y dall- ineb, a'r gormas mwya annuwiol y medra rhieni i ddangos, er i bod nhw'n ceisio rhoi lliw crefydd ar i gwaith. Mi ddarun geisio gin i mab werthu anwylyd i galon ac uniondab i gydwybod am dipin o arian. Mi fuon yn gneud defnydd o air Duw i geisio gynno fo bechu'n erbyn Duw. Mynnent fod y gogon- iant o fedru chwara piana 'n anfeidrol uwch na'r gogoniant o fedru "cweirio menyn." Wrth feddwl am lol annuwiol fel hyn, syr, ma'r bethma ma sy yna. i'n fflamio, a rhaid i mi gael cadw chwara teg i "forwyn ffarm." Morwyn ffarm ydi Mari, wyddoch -0

o Lofft y Stabal. j

GOLYGFA RYFEDD.

- - - - EISTEDDFOD CORWEN.