Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Ein Cenaal ym Nancsinion.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. COFGOLOFN Y PARCH. 0. G. OlflEN (ALAFON).-Cyrnol D. Davies, A.S. (ail I gyfraniad), £ 10/10/ y Parch. H. H. Hughes, B.A., Bangor, 5 Miss E. M. Lloyd, Silchar, India, 5/ Derbynnir cyfraniadau gan O. J. Jones, Penisa'rwaen, Caernarfon Thos. Hughes, Y.H., Sunnyside, Caernarfon R. O. Williams, Ysgoldy, Cwmyglo, Caernarfon. O'R HEN SIR, SEF SIV PON.- Cofio'r Milwr.—Yr oedd dydd Gwener di- weddaf yn Rhosneigr a'r cylch, yn ddwthwn arbennig, yn ddydd yr edrychid ymlaen ato cyn ei ddyfod, ac yn ddydd yr edrychir yn o ato wedi ei fyned. Cynhaliwyd yr hyn a elwir yn Garden Party, er budd y milwyr, yn mhlas yr yswain a'r ynad da, R. E. Jones. Llanfaelog,-efe'n anrhydeddus yn rhoi ei drigfod teg a'i erddi i hyrwyddo'r amcan. Yn ol a glywsom, bu'r mudiad ardderchog yn llwyddiant mawr gwerthwyd wmbredd o bethau, a hynny am y pris uchel fel arfer popeth ynglyn a'r rhyfel. Ac yn yr ardd, gryn lawer o bethau comic ar werth. Dylifodd cannoedd os nad miloedd i'r lie rhai i edrych, ond mwy i brynnu. Ac yr oedd y pentref yn debycach i Lime Street nag i ddim arall am y dydd, gan amled y moduron a dylifiady bobl. Diddorwyd yr ymwelwyr ami ym more'r dydd gan olygfa arddunol a dieithr iddynt,—gweled bad y bywyd hardd sydd yma yn cael ei dynnu ar olwynion trwy'r pentref i gyfeiriad y Plas, gan nifer o feirch porthiannus, a'r criw niferus ynddo yn eu gwasgodau corcyn mwynliai y cannoedd ymwelwyr yr olygfa hon. Ymhen amser, daeth y bad bywyd yn ol, a'r llu pobl yn gor- ymdeithio ar ei ol, gan ei ddilyn i lan y mor, lie y'i gwelid yn ymlithro oddiar yr olwynion mor esmwyth i'r eigion glasddwfn. Hapus oedd gweled y traeth yn ferw gan bobl ac nid gan donnau cythryblus. Ym more'r dydd hefyd, elai band y Clio drwy'r Ile, yn eu gwisg- oedd glasliw, a than chwarae mor swynol. Beohgyn ieuainc iawn, ond yn deall en gwaith i'r dim.— T h'^ad Agored. O'R HEN SIR, SEF BIll PON.- Cwrdd Sarwel fu yng nghapel y Belan (B.) nos Lun, i ffarwelio'n ddwys a'r gweinidog da, y Parch. J. B. Hughes, a fu yna. am agos i ddeng mlynedd, yn ymroddol a gweithgar.: Belan a Gwalchmai dan ei ofal. Teimlad chwithig i lawer oedd datod (nid torri ) cwlwm fu mor hir a thyn. Gweinidog M.C. Gwalch- mai, y Parch. T. Arthur Jones, yn llywyddu, ac yn siarad yn fawrygol am Mr. Hughes ac amryw eraill o'r ddwy eglwys yn datgan eu colled. Anrhegwyd y gweinidog ag anerch- iad hardd, a chodaid o aur dilin iddo ef a'i briod. Y dydd Mawrth canlynol, bu cwrdd croesawu'r brawd yn Llannerch y medd, ac amryw weinidogion y Sir yn bresennol. Y lleddfa'rllon, y ffarwel a'r croeso, mor agos i'w gilydd.-Canu yn y Storm gaed ym Methel, (B.), Caergybi, y dydd o'r blaen, pan gynhelid Cymanfa Ganu'r Sir, dan arwein- lad y cerddor gwiw, Mr. Emlyn Davies, o'r Cefn mawr canu campus, ac yn felysach, mae'n debyg, am mai canu ydoedd ynghanol rhyferthwy'r storm. Cyfeiliwyd yn hyfedr gan Miss N. Hughes, A.L.C.M., Valley, a Miss L. Owen, Hebron (B.).-Y ddau gennad a glywyd yng nghwrdd pregethu Nebo, Pensarn, oedd y Parchn. Aethwy Jones, o ddinas Y BRYTHON, a Wyn Davies, o'r Rhos, riad oos mo'i wynnach ym myd y pre- gethu y ddau gennad yn traethu gyda hyotledd, a than gofio mai deuwas oeddynt, ac nid meistriaid. Heulwen a chwmwl fu hanes yr awenydd mwynber, Mr. John Owen, Bodffordd, y dydd yr enillodd ar yr englyn i'r Ysbiwr yng Nghorwen, ac a drechodd lu o feirdd peryglus, daeth iddo'r newydd trwm am gwymp angeuol ei frawd ym mrwydrau'r cadfaes yn Ffrainc. Heulwen yr Eisteddfod yn llonni ei feddwl, a chwmwl rhyfel yn tra- llodi ei galon, a hynny'r un dydd Cyr- haeddodd y newydd dwys i Lan Traeth, Bodorgan, am gwymp y Preifat Albert Jones yn ymladdfa'r coed, a gofir mor hir gwr ieuanc hawddgar, a nodedig o gymeradwy gan bawb yn ei fro. A newydd .oyn dristed yn cyrraedd Pen 'rorsedd, Llan- degfan, am gwymp y Preifat Walter Jones, yn yr un Aceldama goediog. Bachgen iawelfwyn a glanfoes a beth bynnag am drymder y loes yn y firynt a'r ffosydd, mae'r 'loes adref, ac o'r golwg, ar fil o aelwydydd, llawn cyn drymed.——Fel arfer, bu i'r gwr byw, y Parch. E. A. Pickering (A.), Rhos- neigr, ddarpar ar gyfer adar yr haf, a bu iddo lwyddo i gael llawer ohonynt i ganu yn ei gyngerdd yr wythnos ddiweddaf. Y Barnwr Thomas yn y gadair, nid i famu ond i fWj-nhau y canu, a'r cyngerdd yn cael ei gynnal yng nghapel Horeb (W.).—Ymwelwyd a, Phorth- aethwy gan y Dywysoges Victoria, a chwaer i'rbreninBior, ac arhosaigydag Yswain Vivian y Glyn. Ac yn Rhoscolyn, ceir yr Arglwydd Farnwr Lush a'i deulu yn tario. Gwenoliaid haf ydynt hwy.-Llygad Agored. 0 ADWY'R CLAWDD I SIR FON.- Wedi hir ddarofun, o'r diwedd symudodd eglwys M.C., Llandegfan, i ddewis bug ail; ar y Parch. Robert Lewis, Adwy'r Clawdd, y sy.fthiodd y coelbren, a dydd Mawrth di- weddaf a ddewiswyd i'w sefydlu. Bu'r eglwys yma yn amddifad o ofal bugail am dyxnorlied faith; yn wir, yn ystod ei hoes hir -mae'n gant oed--ni fu dan fugeiliaeth ond am gyfnod byr, a'r pryd hwnnw bugeilid hi gan un o'i phlant ei hun, y diweddar Barch. J. E. Jones, Dolfor." Ac meddai'r Parch. T. C. Williams, M.A. Dirgelwch mawr yw fod yn bosibl i eglwys a'i rhif yn dyi-i ar ddeu. caiit ffynnu a ffrwytho am gyfnod mor faith heb fugail i ofalu amdani. Yn Crews y bugeiliai Mr. Lewis cyn ei ddyfod i Landegfan, a phrofodd cynnydd yr eglwys honno ddycned ei lailir yno. Wedi torri'r rhyfel allan, aeth i Fedford, He y sefydlodd genhadaeth y milwyr. Efe hefyd oedd ystadegydd ail-etholedig Cyfarfod Misol Sir Fflint. Nos Lun, am 7-30, pregethwyd yn effeithiol gan y Parch.—ie'r Hybarch—Evan Jones, Wreesam (Adwy'r Clawdd gynt), tad-yng-nghyfraith Mr. Lewis hynafgwr pedwar ugain oed, un o'r Hoelion Wyth ac fel y dywedodd Mr. Bassett, gweinidog Bedyddwyr Llandegfan, a ddech- reuai 'r oedf a, hen o ran dyddiau, ond ieuanc o ysbryd," a'r genadwri yn beraidd ieuanc ar ei fin. Am 1.30, brynhawn dydd Mawrth, daeth tyrfa dda i groesawu Mr. a Mrs. Lewis. Yr oedd nifer dda o weinidogion a phregeth- wyr yn,,bresennol y Parchn. Evan Jones, T. Charles Williams, M.A., T. M. Jones, Gronant; W. E. Williams, Gilead Griffith Owen, Bangor H. P. Roberts, B.A. Beau maris John Jones, B.A.,B.D., Llangoed John Wallace Thomas, Hywel Parry, y Brithdir, a John Lewis, Dublin hefyd y Mri. Ellis W. Roberts, B.A,, Owen Roberts, Menai Bridge Robert Parry, Llandegfan a John Pierce, B.A. Dechreuwyd y gwas- anaeth, o dan lywyddiaeth Mr. W. H. Parry, Cadnant Mills, gan y Parch. W. E. Williams. Caed hanes yr alwad yn dra diddorol gan Mr. Roberts, Mill Bank. Siaradwyd ar ran Cyfarfod Misol Sir Fflint gan Mr. Jesse Rob- erts, yr Wyddgrug, a'r Parch. T. M. Jones arran Cyfarfo d Misol Mon gan Mr. John Owen, Cefn Coch, a T. Charles Williams, M.A. ac ar ran y Bedyddwyr gan Mr. LewisWilliams, blaenor. Cafwyd gair gan hen gydfyfyriwr, y Parch. R. J. Jones, Twrgwyn, ac yna gan Mr. Lewis ei hun. Cynhygiwyd diolch gan Mr. Jones y Plas, a ch efnogwyd gan Mr. Owen, Tyddyn Isaf. Coronwyd y cyfan a dwy bregeth rymus gan y Parchn. T. M. Jones a T. Charles Williams. -0

I'I iBasgedaid o'r Wlad. I

I .".. 1 A f' C J I . eRn…

Coleg y Goal dd. Bangor I