Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

parth hyd eu hareithiau, yn yr Orsedd y bore hwnnw, ac ebe'r Proff. Edward Edwards, yr arweinydd ar y pryd :— Lady Mackworth is going to give the bards a good example by keeping the t:' time-limit, but she may exceed the speed-limit." Ac ebe hithau, ar ol i'r don o chwerthin .ddarfod ar wyneb y pum mil :—■ I feel myself to be a fraud to-day for. three reasons. 1st, I ought to have been my father, but I am only his daughter. 2, Being a Welshwoman, I ought to be able to speak Welsh and to address you in the native tongue but my education has been neglected, and I cannot. "3, Having taken the chair, I ought to •" have been able to deliver a speech, but I cannot." Ac ebe'r Proff. fel ergyd o wn :— Yes, Lady Mackworth is a fraud, for she told us she could not make a speech, and she has just made one." Syr O. M. Edwards, M.A.,—brawdyr arwein- ydd-oedd llywydd y prynhawn ac a dra- ddododd un o'r areithiau goreu a glywyd o gwbl oddiar lwyfan yr Wyl Genedlaethol. Nid ewyn wedi ei hel oddiar wyneb y don dan fpysio tua'r neuadd, ond perlau paratoedig o'r dwfn, a'r bias hwnnw na fedr dim ond calon wir Gymreig, heb falio ffeuen am glod a mol- iant y papurau, ei ddodi mewn geiriau. Cododd Syr Owen y cynhulliad i uchelderau teimlad a gwynfyd wrth gloi ei araith ag adrodd llinellau coffa Bryfdir i'r Lifft. Dr. Owen Evans, canys siarad yr ydoedd tua diweidd ei araith am y bechgyn oedd a'u cyrff yn ffosydd Ffrainc ond a'u heneidiau yn Eisteddfod Aberystwyth y munud hwnnw :— Pan y paid y cledd a'i gyffro, Pan ostega'r rhyfel gri, Daw dy dad a minnau heibio'r Llecyn lie gorweddi di Wedi teithio estron-froydd, Dyma'n hoffrwm ar ein hynt,- Pleth o redyn o Gwmbowydd, Swp o rug o Fwlch y Gwynt. Dyna glap a ddilynodd yr araith a'r dyfyniad, wrth iddo gael ei adrodd yn iawn a chyda'r oslef gu honno sydd yn gloewi'r meddwl yn lle'i yiu. Dau Wir Anrhydeddus a lywyddai ddydd Iau, sef J. Herbert Lewis, A.S., y bore, a Di Lloyd George, A.S., yprynhawn. Ymae'r ddau yn annwyl iawn gan eu cenedl, a hithau yn dangos hynny ymhob modd dichonadwy iddi. Yr oedd y babell a'i hesgyll dan ei sang cyn i wleidydd mwyaf Ewrop gyrraedd a rhoes yntau ei arlwy flynyddol ac Eistedd-, fodol mewn araith nodweddiadol ohono'i hun. Bonclustio rhyw ohebydd-ffugenw a sgrifen- asai i'r Times y bu gan mwyaf-rhyw lechgi o Welshman a gymrai arno'i hun ddwrdio'r genedl am feiddio cadw Eisteddfod a Chy- manfa Ganu ar adeg mor drist a difrif ond rhidylliwyd ei resymau coeg, a gwnaed ef yn gy.ff gwawd i'w d(lal megis ar flaen pigfforch athrylith gerbron y deng mil oedd ar flaenau'u traed yn barod i yfed pob gair a ddiferai dros ddeufin Llwyd o Wynedd. Ond buasai'n well gfennym ni weld ein cydwladwr disglair yn peidio ag ymostwng i gyfarfod pob rhyw glebrwr dienw ym mhapurau Arglwydd Northcliffe, canys nid oes dim yn fwy wrth eu bodd hwy, dim sydd yn talu iddynt yn well, a chwerthin yn eu llewys a gweiddi Diolch iddo y mae ystrywgwn Annwn y Wasg Felen wrth weld ein Gwron yn neidio mor barod at eu habwyd. Canys dyna ydyw'rllythyrau hyn, asgrffennir bob blwyddyn rhyw wythnos o flaen yr Wyl Genedlaethol, o bwrpas i hudo'r Cymro i sylwi amynt, a thrwy frochi a dechreu eu dilorni gerbron y genedl ddydd Iau y Cadeirio, ac felly gyffroi gweddill y deugain miliwn o 1figolion y Deyrnas Gyfunol i brynnu papur- Au'r dyn sydd wedi darostwng a gwenwyno mwy ar Wasg Prydain na neb a fu erioed wrth ei llyw. Yr oedd Mr. Lloyd George yn y cyngerdd hefyd y noson honno—nid ar y llwyfan, wrth gwrs, ond yn y llawr, nid nepell o'r set flaen. Daeth y canwr penillion ymlaen, gan ddeisyf amo ddod i'r Ilwyfan-fod ganddo bennill iddo a ollyngodd allan o'i ganu y prynhawn Ond ysgwyd ei ben a gwrthod a ddarfu'n Heilun Cenedlaethol lac ebe rhywun, na wyddom yn iawn pwy, ar amrantiad No. He always likes to face the music." Ni fu dim godidocach erioed fel adroddiad, meddid, na'r adrodd a fu ar Y Tomer Cerrig o waith Sarnicol, gan dri o ieuenctyd y De a ddetholwyd i'r llwyfan. Yr oedd Sarnicol yno, ac a welodd fwy yn y darn hyd yn oed nag a feddyliai ef ei hun cyn hynny. Peth mawr ydyw clywed lodes neu lane gwir ddawnus, a llawn o'r anian adrodd, yn try- danu pob llinell a gair, ac yn gyrru'r dyrfa fawr i wynfyd o fwynhad wrth leisio ac ystum- io mor ardderchog. Celfyddyd a naturioldeb wedi eu priodi a'u mantoli mewn perffaith gytgord bron. 'Does dim gwobr yn y byd yn gyfwerth ag adrodd fel hwn. Yr unig nam ar y peth ydoedd hyn Fod y darn yn gweddu'n well i rai hyn, canys y mae'n groes i ddeddfau meddwl fod yr un bachgen na geneth dan ddeunaw oed yn medru dirnad helynt a phrofedigaethau hen wr mor sathr- edig a helbulus ag a luniwyd gan bwyntil ddu Sarnicol. Yr oedd yr adroddiad arall-Noson yr Hafod Glasynys-yn rhy faith o ddim rheswm. Un o ddarganfyddiadau'r Eisteddfod oedd y Proff. Edward Edwards, M.A., I fel arweinydd. Yr oedd rhywbeth sydyn fel gwaniad myniawyd yn ei wawdiaith, na dim malais na gwaed drwg yn ei bwythi. Mawr o beth ydyw cael wyneb a thipyn o garictor a gwreiddioldeb ynddo. Yr oedd yn glywadwy ym mhellteroedd y babell heb orfod crygleisio na gwryddu'n boenus ac mor rhadlon a ffri a dilol nes fod calon pawb yn closio ato. Yr oedd yn fyr hefyd, ac yn rhygnu ei bwyslais ar ambell grafiad nes fod pawb yn deall dwbl ystyr y gair mwys. Bydd rhaid cael mab Coed y Pry i bob gwyl o hyn allan. Yr oedd y ddau arweinydd arall —Llew Tegid a Llew Meirion-yn hysbys cynt, ac afraid dywedyd dim am eu hafiaith hwy. Cafodd dirprwyaeth o Eisteddfodwyr Bir. kenhead eu galw i'r llwyfan ddydd Iau. Siaradodd Tecwyn Evans dros y gweddill gan draddodi un o areithiau hyotlaf yr wyl; ac wrth gyfeirio at araith odidog Syr 0. M. Edwards y diwrnod cynt, Gresyn na fuasai ei frawd, yr arweinydd yma, rywbeth yn debyg iddo fo," ebr ef. Ond daeth yr adeg i'r arweinydd dalu'r pwyth, ac ebe fo, wrth ollwng y ddirprwyaeth oddiar y llwyfan:—• 'Does dim ond un Tecwyn a diolch am hynny nes oedd y bil rhwng y ddau yn wastad ac wedi ei glirio. Ac ebe'r Proff. ymhellach Wedi clywed y fath wahoddiad, ewch i gyd i Lannau Mersey y flwyddyn nesaf—i ginio at Pedr Hir, ac i de at Tecwyn." Yroedd Bardd y Gadair wedi priodi'r wyth- nos cynt, ac ebe rhywun Cafodd wraig yr wythnos diweddaf; cadair yr wythnos yma a chaiff dy yr wythnos nesaf. Ac wele englyn Job iddo :— Awen mewn dwbwl gywair-dymunol Dyma ennill disglair; A hyn fu ei arwydd air Gwych ydyw gwraig a chadair. Nid oedd gan Job yr un arwydd swyddogol ar ei frest wrth fyn51 i faes y babell; a safodd palff o heddwas rhyngddo a'r llidiart—neu'r glwyd yn iaith Ceredigion ac ebe Job, fel ergyd :— Ai y badge yw nod y beirdd ? Ai pryfed yw y prifeirdd ? Jawch Jawch ewch i fewn ebe'r plis- mon cyn gynted ag yntau. Y mae Mr. L. J. Roberts, M.A., Llandudno gynt, Abertawe bellach, wedi addaw llith adolygiadol ar y Gymanfa Ganu i'r BRYTHON nesaf, ac felly ni ddywedir dim yma rhagor na hyn Fod yno le hyfryd, ac yn ddigon hawdd dweyd ar wyneb y chwe mil mai Cymanfa fel hon yw Trydedd Nef y Cymro. Yr oedd Mr. Lloyd George yno'r bore, ac yn canu fel rhyw bechadur arall. Yr oedd ei anerchiad yn frith o darawiadau pert. Deon Bangor (y Gwir Barch. Griffith Roberts, M.A.) a lywydd- ai yn y bore, ac Archiagon Ceredigion yn dar- llen a gweddio. Y Parch. John Williams, Brynsieneyn, a lywyddai'r prynhawn, a'r Parch. D. Tecwyn Evans yn darllen a gweddio; Y Prifathro T. F. Roberts, M.A.,L1.D., yn llywyddu'r hwyr, ac Elfed yn mynd trwy'r rhan ddefosiynol. Cafodd Dewi Mai o Feirion a'r Delynores fwyn o Fon arddeliad amlwg, y ddau a bendith o beth ydyw cael clywed pob sillaf heb fod mymryn o ddyfalu pe beth y mae'r dyn yn geisio'i ddweyd. Dyma rai enghreifft- iau o'i benillion :— Yng Ngorsedd bore dydd Mercher :— Machludodd Heddwch yn y wlad Tan gysgod brad celanedd A sudda beilch ddinasoedd byd I weryd pob anwiredd Ond nid oes heddyw waedgar nwyd Nac arswyd yn ein Gorsedd. Fe glywir son o Fon i Went Fod talent yn ein tylwyth, Ac i'w mawrhau mae'r doniau'n dod S1 Hyd lwybrau clod yn esmwyth Mae fflam anrhydedd bonedd balch Ar astalch Aberystwyth. Ni fu y Castell ger y traeth Heb alaeth ao helbulon Ond bu Llewelyn iddo'n dwr, A Glyndwr ddewr ei galon Yn edrych dros ei furiau trwch Ar degwch Ceredigion. Y mae y Kaiser gyda'i gledd Yn eistedd yn anystwyth A phe y deuai gyda'i gledd I Orsedd awen esmwyth, Gan ddoniau'r beirdd fe gawsai o Ei rostio'n Aberystwyth. Coffa y Gorseddogion ac Eisteddfod '65—■ Chwith yw cofio am y marw Welwyd gynt yn hardd eu hwyl, Chwith yw cofio'r doniau gloew Godai gynt i gadw gwyl; Chwith yw cofio Rhys Blaen Rheidiol, Caiff ei goffa beraidd dant, 0 mor fwyn oedd Maer y Fenni Ac Arlunydd hardd y Pant. Mae y doniau welwyd yma," Heddyw dan dywarchen werdd, Ond mae gwyliau enwog Gwalia Yn mwynhau eu difyr gerdd Tra y byddo ton ac emyn Yn addoldai Cymru lan, Enw'r Athro David Jenkyn Gaiff ei gadw'n oriel can. Tra y byddo te-ulu'r Awen Yn yr Orsedd yn eu serch, Caru neges dawn Cranogwen Wna cyfamod mab a merch Hen Eisteddfod Aberystwyth Gaiff ei chofio mewn mwynhad, Ac y mae ei doniau hefyd Eto'n annwyl yn y wlad. Pencerdd Gwalia, Owain Alaw, Hoff amdanynt ydyw son Gwalchmai a Chaledfryn ddistaw, A'r anfarwol Hwfa Mon Chwith yw cofio am Lew Llwyfo Heddyw rhwng. y muriau hyn Yn yr Orsedd cofir eto Eos Cymru, Edith Wynne. Groesaw Mr. Lloyd George- Mae Gwron Cymru wedi bod Yn hynod yn ei hanes A chariad yr Eisteddfod yw,- A chariad gwiw ei mynwes I'r Cymro mwyaf yn y byd Sy'n dal o hyd yn gynnes. Caiff Gwron Cymru enw da, Rheola bob cwerylon, Ond mewn Eisteddfod nid oes brad Yn blino gwlad y ceinion A'i bresenoldeb sydd yn hwyl I gynnal gwyl y galon. Os yw ein Corau wedi mynd I A llawer ffrynd i'w canlyn, Mae'r hen Eisteddfod wrth ei bodd Yn cofio rhodd ein bechgyn Ac Ysgrifennydd Bhyfel sydd Bob dydd yn gwylio'r gelyn. Os daw y Germans ar eu hynt ) 0 flaen y gwynt i'n glannau, Ac os daw'r Caisar ar eu hol. Caiff fynd yn ol yn ddarnau Mae Gwron Cymru, er ei glod, Yn gwybod am ei gampau. Fe fu Llewelyn a Glyn D wr Yn dwr i Aberystwyth Ond Gorsedd Heddwch llawer gwell I'r Castell ddaeth yn esmwyth Mae Gwron Cymru, pawb a dwng, Yn deilwng iawn o'i dylwyth. Er fod yr Almaen yn ei hwyl, Daeth ef i'n gwyl i'n gweini A gwerin Cymru, pan y daw, Rydd iddo groesaw heini A chredu wnawn y gwelir o Yn setlo Bil y Bwli. Bechgyn Cymru- (I'w canu ar Llwyn Onn yn G Minor). Pie mae bechgyn annwyl Cymru, Godai gynt i gadw gwyl ? Pie mae'r lleisiau peraidd hynny I'r Eisteddfod roddai hwyl ? Gweddw heddyw yw'r Eisteddfod, Can ei thelyn bruddaidd gainc, Cwyna'Cymru yn ei thrallod Huno wnant yn naear Ffrainc. Pie mae bechgyn annwyl Cymru ? Yn y ffosydd, yn y tan, Hawdd i'r galon yw galaru, Anodd ydyw llunio can Y bywydau a aberthwyd Sydd yn deffro newydd gaine Cwmwl sydd ar lawer aelwyd Am eu bod yn naear Ffrainc. Rhaid yw cynnal yr Eisteddfod Er fod rhyfel yn y wlad Bydd i'r canu darfu'r trallod Sydd ar aelwyd mam a thad Pan yr aiff y rhyfel heibio Bydd melyster yn y gainc A diderfyn fydd y croeso I wroniaid daear Ffrainc. Ac a'r penillion a ganlyn y clodd Llew Tegid ei araith eirias yng Ngorsedd bore dydd Mercher :— Daw beirdd a derwyddon, i her randir Redd- wch, I lan diobelwch digilio Tra Rhyddid n ewn gofid, a'i gwaed yn dygyfor, Mewn dwys gyfyng-gyngor yn gwingo A gwaedd o bob calon, ac enaid pob Brython, Yn galw y dewrion i daro. Bu enwog wyr cryfion, ar fron Ceredigion, Rhai glewion a dewrion fel deri Mae adsain cyflafan yn deffro Gogerddan, A'u galwad fel taran yn torri Er heddwch, er rhyfel, dyrchafwn yn uehel, Y faner ar orwel Eryri. Bu beirdd yn clodfori y gwrol hen gewri, Mewn cywydd a dyri yn dirion A'r delyn a'i diliau, yn moli i'r cymylau Wrhydri a doniau ei dynion Eisteddfod hen Walia yn gyfiawn a gofia. Bythola, hi gara, y gwron. Bydd bechgyn y bryniau, a phlant Eistedd- fodau, Am oesau a'u henwau yn wynion, Fu'n ddiwyd yn dysgu eu gwerei a'u Gorsedd, Mai rhinwedd yw goreu y gwron ». A dewrder eu tadau dros ryddid a breiniau Yn fraw i galonnau gelynion. Cydgofiwn y bechgyn sy'n awr i'n hamddiffyn Yn wyneb y gelyn mor galed, Anfonwn i fyny, Well done fechgyn Cymru, Fel blaendal i dalu ein dyled A chywir daer weddi, o bob cwr o Gymru, At Dduw Celi, gyrrwn i'w gwared. Dewi Emrys a adroddodd yr englyn da hwn i'r iaith Gymraeg :— Yr aelwyd fo'n rheoli—y Gymraeg Mawryger ei thlysni Er fod creiglan amdani, Cryd ei nerth yw'n cariad ni. Dyma lun Bardd y Gadair, sef y Parch. J. E. Williams, gweinidog eglwys Axuiibynnol Pendref, Bangor, a brodor o Leyn. Cadrawd a ganodd y rhain :— Pennill Lien Gwerin Morgannwg am Sir Aberteifi. Glywsoch son am Shir Berteifi, Lie mae'r bechgyn tala'n Nghymru Byw ar iwd a lla'th a llymri 'Na'th y merchid hyn mor lishdi, neu 'Na'th y dyrion hyn shwd gewri. Cymru lan, ym merw'r rhyfel, Rydd anadla fel yr awel Mynniff fod yn Eisteddfodol, Aber-ystwyth -edig -aethol. Hiraeth sydd yn llenwi'm calon, 1 Weld yn eisiau hen gyfeillion Oedd eu rhawd mor ddefosiynol I'r Sefydliad Cenedlaethol. Ein Harwyddfardd synfyfyriol, Carai'i wlad, ei hiaith, a'i phobol; Ein Bardd Cwsg," breuddwydiwr effro, Ef sydd heddyw yn ei am do. Syr Marchant Williams yn y ceufedd, Fu'n ein swyno a'i hyawdledd Fu neb ffyddlonach rhwng y meini Na mwy telaid yn telori. Cochfarf yntau, mor ddyhewyd, Garai Gymru fel ei fywyd Cadwai'r cledd heb ei ddadweinio, 1 Ac ni chai neb ei frathu ganddo. 4 Eos Dar, ni chlywn eu trydar, Fyth ond hynny ar y ddaear Nid oes mwyach idd ei erfyn, Gantawr ffelach gyda'r delyn. Rhyddid, Heddwch gwir, a Chymod, Ynt arwyddeiriau yr Eisteddfod Duw ein Rhi, a Phob Daioni, Fo'n harweinydd ymhob cyni. Y mae'n debyg mai'r bobl ddistawaf yng Nghymru ac Aberystwyth heddyw ydyw'r pesimistiaid ofnus a diffydd oedd yn erbyn cynnal yr Eisteddfod, canys y mae ei llwydd- iant ariannol-dros fil a chwarter ( £ 1,250) o elw ariannol, heb son dim am yr afiaith iach a thrwyadl Gymreig oedd drwy'r wyl i gyd- wedi cyfiawnhau dyfarniad y pwyllgor, at wedi gwneud Gwyl Genedlaethol 1916 yn un hyglod a chofiadwy iawn yn y rhes hir. Mas- nachwyr a phobl y byd hwn oedd fwyaf yn erbyn ei chynnal, a cholegwyr a phobl a chan- ddynt weledigaeth bellach i'r byd arall oedd yn dyn am ei chael. A da gweled y Gweled- ydd yn trechu'r Bydol-Ddoethyn mor ddi- gamsyniol, ac yn medru darllen argoel a gogwydd pethau gymaint yn gliriach. Yr oedd y babell lian yn un ddymunol, a'r maes o'i chwmpas yn un eang—digonedd o le i rydd-ymrodio ac adrodd a chlywed cyfrinach fraich-yxn-mraich A chyfaill newydd a hen. Rhyw bum mil a ddaliair babel], ao yr oedd yn llawer rhy fach i amryw o gynulliadau'r tri diwmod. Cafwyd hin tan gamp ac yr oedd y dref mor llawn nes bod rhaid i lawer gysgu ar y byrddau biliard ac yn y blaen yn y gwestai a gorfu i rai droi adref oblegid methu cael llety, er holi a naill ben y dref i'r Hall. Yr oedd y Castell yn un o'r mannau mwyaf hyfryd ac addas i gynnal Gorsedd; y mynydd oedd yng nghefn y dref Bau Aberteifi'n ym- ledu o'ch blaen adfeilion y Castell yn eich atgofio am drais a gorthrwm Normanaidd a Seisnig y dyddiau gynt a Choleg y Brifysgol yn dangos twf a rhyddid Cymru heddyw. Hwyluswyd y trefniadau Gorseddol a gor- ymdeithiol yn fawr gan John Williams, prif. gwnstabl y Sir Cymro o Sir Fflint, a fu yn h<?ddlu Lerpwl am un mlynedd ar hugain, ac a ddringodd i'w swydd bresennol yn sgil ei allu, ac nid dim byd arall. Y mae'n Gymro eiddgar tuhwnt yn balff o wrllydan ei fresfc, a lletach fyth ei galon a'i gydymdeimlad a phobl fydd yn ei haeddu, beth bynnag am y rhai na fydd. Efe oedd yeyntaf a glywsom erioed yn gwaeddi ei orchymynion yn Gym- raeg, ar y plismyn ac ar y bobl, a phawb yn ystwytho i'w ai r a'i arnnaid wrth eu clywed mor lan yn heniaith y tir. Yr oedd yn an- nichon cael gwell trefn, ac aeth y ewbl heibio heb yr anghaffael na'r annididgrwydd lleiaf peth na chawsid fyth onibai fod Cymro 'n deall yr hen wlad ac anian ei phobl yn ben ar y deddfau a'r gosodiadau. Tybed a fyddai'n bosibl cael ei fenthyg i gadw gwastrodedd ar y miloedd a ddaw i Eisteddfod 1917 ? Y moo llymder deddf a mwynder trugaredd yn cyd- dywynnu o'i ddau lygad. Canaid lamp i'n cenedl oedd," ebe un o'r beirdd wrth goffhau Syr John Rhys oddiar y Maen Llog. Ac ebe Cynfor ddireidus, wrth son am Orsedd Heddwch fawr Ewrop maes o law :— Bydd yr Archdderwydd Dyfed yn un pen i'r Cledd, a'r Caiser yn y pen arall; Pedr Hir. a Chadfan a'u dwylo ar ei ganol; y Crown Prince yn canu penillion ac Eifion- ydd yn cadw'r cofnodion mewn Haw dlos, gliri bob German ond yn Germanaeg i bob Cymro. Y tebyg ydyw, y rhaid cael Cymanfa Ganu efo phob Eisteddfod bellach ac y mae Pwyllgor Cerddorol Birkenhead yn dechrou rhoddi'r hosan ar y gweill wedi gweled arddel- iad Aberystwyth. Rhyw bleidio dau gyfar- fod yr oedd rhai ohonynt, yn hytrach na thri ond pan welwyd y caed canpunt o elw ariannol oddiwrth bob un-X300 rhwng y tri-go- gwyddid i ail feddwl am y path.  Ond er cynifer o filoedd oedd yn Aber- ystwyth, teimlid fod yno rhywun ar ol, a Phedrog oeddhwnnw. Yr oedd Pedr Hir a'r Archdderwydd fel aderyn yn hobian ag un adenhebddo, ac yn gresynnu fod afiechyd ei briod yn ei gadw draw o'r wyl na fedr neb ei disgrifio cystal na chyfrannu mwy o afiaith gwir Gymreig iddi. Dyma englyn buddugol ETfion vvyn IT Pren Criafol (Y Gerddinen).— Onnen deg a'i grawn yn do,—yr adar A oedant lie byddo Wedi i haul Awst ei hulio, Gwaed-goch ei bri degweh bro. o Ac wele englyn Folander i Fardd y Gadai r Trowd ei mam ar Ystrad Fflur-i'w Gael datguddiad eglur gaddug Enaid y bardd yn ffrwd bur A ddylifodd i'w lafur. Buddugwyr Aberystwyth. Gwobrau Cymdeithas yr Eisteddfod.Traeth. awd Hanes Tyfiant a Dylanwad Cym- deithasau Cymreig yn y ddeunawfed ganrif y Parch. David Davies, Penarth. Cyfansoddi Drama: Saith yn cystadlu, ond neb yn deilwng. Cantawd neb yn deilwng. Barddoniaeth.-Awdl y Gadair: tri yn cystadlu am y gadair arian y buddugol, y Parch. J. Ellis Williams, Pendref, Bangor. Tri Chywydd Byr tri yn cystadlu, ond neb yn deilwng. Pedair Telyneg ugain yn cystadlu, a'r wobr yn cael ei rhannu rhwng Gwili a Wil Ifan. Bugeilgerdd naw yn cystadlu, rhannu'r wobr rhwng Mr. D. R. Davies (Cledlyn), Cwrtnewydd, a Bryfdir, Ffestiniog a gwobr arbennig i'r trydydd, Mr. R. J. Rowlands, Lerpwl. Cerdd Goffa i'r diweddar Emlyn Evans deuddeg yn cystadlu, a Gwili yn cipio'r wobr. Englyn i'r Pren Criafol Eifion Wyn, allan o 62. Soned pedwar ar ddeg yn cystadlu, a'r wobr yn mynd i Gynfelyn, Ffostrasol, Ceredigion. Rhyddiaeth.-Traothawd Dylanwad Dr. T. Charles Edwards ar Addysg a Meddwl Cymru y Parch. D. D. Williams, Lerpwl. Ymchwiliad i amgylchiadau masnachol a chymdeithasol unrhyw blwyf gwledig yng Nghymru Mr. Lewis Davies, Cymer, Port Talbot, a Mr. 0. T. Hopkins, 11 Becket Street, Mountain Ash. Traethawdbeirniadol ar Athroniaeth Wm. James y Parch. W. Benjamin, Garth, Llangollen. "Llenorion Sir Aberteifi": y diweddar J. D. Lewis, Llandysul. Egwyddor Cenedlaetholdeb y Parch. David Davies, Penarth. "Lien Gwerin Sir Aberteifi": Wm. Davies, Penlon, Talybont. Tafodieithoedd Sir Aberteifi neb yn deilwng. Cyfieithiadau.—O'r Lladin i'r Gymraeg rhannu rhwng D. E. Walters, 14 Cwmdonkin Terrace, Swansea, a D. Emrys Evans, Llety'r Bugail, Clydach. O'r Groeg i'r Gymraeg t D. Emrys Evans, Clydach. O'r Gymraeg i'r Esperanto Chwech yn cystadlu, a Mr. G. Rhys Griffith, Grassendale, Liverpool, yn oreu. Adrodd.-Agored John Roberts, Glan- .aman. I blant: 1, Millicent Rees, Amanford 2, Elwyn Rees, Capel Hendre, Caerfyrddin Cerddoriaeth.-Cormawr: 1, Aberystwyth: 2, Fforestfach, Abertawe. Cor Merched 1, Nottingham 2, Carno. Cor Plant 1, Cymer a'r Porth ;.2, Aberpennar. Caneu. on Gwerin Cor Plant Dyfi. Pedwarawd: G. O. Evans a'i gyfeillion, Amanford. Unawd soprano 1, Miss Hannah Williams, Ynystawe, Clydach 2, Miss Jennie D. Ellis, Cwm Gwrach, Glyn Nedd. Unawd contralto: 1, Madame Lizzie Davies, Silver Grill, Tori y pandy. Unawd tenor: Lance-Corporal S. Charles, Llanelli. Unawd bariton Gwilym (Y gweddill ar tud. 8) What It Means to be- H AP y j t Individuals jfjfcfe. depicted here i Liverpool's Leading Furnishing Hou se, THE PIONEER FUlJSlSJllHG STORES For FREE AND POST-PAID Copy of PiBook of Decorative Art and Furnishing Styles," This valuable work teaches YOU how to most advantageously- FURNISH either for CASH or OUT of INCOME.