Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

l& oI wOWN GOSTEG. I

I -DYDDIADUR.

Cfhoeddwyp y Cymod'

I CAPEL M.C. RAKE LANE, Ii…

- - - - - - - -Basgedaid o'r…

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. I TUDOR EGLWYSBACH EVANS.— I Ar y dydd evi-itaf o O rffennaf, collodd y Lieut. Tudor E. Evans, East Surrey Regiment, ei tywyd yn Ffrainc. Yr oedd yn fab y diwedd ar Barch. John Evans, Eglwysbacli, a chydag ef cleddir gobeithion rhai o'r teulu am welect parhad a datblygiad amryw o ddoniau ei dad. Cafodd Tudor yrla lwyddiannus fel efrydydd pan ym Mlirifysgol Caerdydd, a graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd. Yr adeg hon yr oedd. eifryd ar y woinidogaeth Wesleaidd, ond ysywaeth, daeth cymy lau tewiono amheuaeth i'w gyfarfod, ac oherwydd hynny rhoddodd heibio ) syniad o fod yn bregethwr, er y cred.em ni fod ganddo y dawn i siarad yn dra helaeth, heblaw amryw o gymwysterau ereill tuagat lenwi y swjdd oruchel honno. Ond yr oedd Tudor, draan, yn rhy onest i ragrithio. Yr oedd wedi gweld esiampl rhy dda ad ref yn ei dad i goleddu syniadau isel am y einidogaeth; wedi cymdeithasu gormod ag un oedd a'i holl fryd ar aehub eneidiau iddo ddringo i'r pulpud heb allui dweyd yn groew "un peth a wn i." Y canlyniad fu, i'w blaniau gael eu dyrysu, a bu am gryn amser yn methu pender- fynu pa gyfeiriad a gymerai. Fe wyr rhai ohonom, fel y mae gwaetha'r modd, am brofiad tebyg fe deimlem ein bod. wedi ein evsegru gan rieni duwiol i wafsanaeth lesu Grist, a rhyw awydd dwfn, diet aw, yn ein henaid am wneud daioni, ond fe red,odd ein llestri i niwl, a ehyn iddo gael ei chwalu, ac i ninnau allu cymryd ein bearings, yr oedd wedi mynd yn rhy ddiweddar i wneud dim o bwys ond ceisio oreu gallem gario rhyw "gargoes" bychain gyda'r glannau—bod yn fath ar small coasters efo pethau crefydd. Buom yn edryeh yn mlaeu trwy dawch a niwl y dyddiau ystormus hyn at ddyddiau pan fuasai y profiad tanllyd presennol yn esgor ar ffydd syml a chref yng ngv/irioneddau yrefengyl, ac y gwelid Tudor ynail-afael yn gorclixvylof, i'r efengyl dragwyddol. Eithr nid felly y hu, a dyma yntau—fel eannoedd ereill o fechgyn Cymry—yn huno yn tiawel mown daear estronol hyd oni wawr- io y dydd a chilio o'r cysgodau. Trwy ddirgelffyrdd mae'r uehel Tor Yn dwyn e waith i ben," Mor anodd deall ffyrdd Duwi o reoli'r byd. Eto rhaid cofio yrhyn addywed yr Hen Lyfr, "cany s Duw ydwyf fi ac nid dyn." Oni wna Barnydd yr holl d.daear fam ? Bu Tudor am beth amser yn astruiio Cerdd- onaeth dan yr Athro Dr. David Evans, Caerdydd, ac y mae'r Dr. yn barau mai fel cerddor y buasai wedi gwaeud marc pe cawsai fyw. Ymdden^ys fod ganddo gryn allu i greu, ac y gellid. dtsgwy'l iddo ddatblygu yngyfansoddwr da. Nid ydym yn gymwys i benderfynu y cwestiwn, ond fe wyddom fod teulu ei dad, yn hoff iawn o gerddoriaeth, a digon tebyg iddo yntau etifeddu y duedd hon. Deuai hiraeth dwfn drosom am ei annwvl dad bob tro y cyfarfyddem Tudor. Yr ootid amryw o'i ncdweddion ganddo-yn enwedig ei manliness a'i ledneisrwydd. Perchenogai ddynoliaeth nobl: yr oedd rhywbeth atyn- iadol yn ei bersonoliaeth. Meddai genius for friendship" fel y dy wedwyd am wr mawr a fu farw ychydig amser yn ol. Yn hyn eto tebygai i'w dad. Yn hUweddar daeth i deimlo diddorde. yn y Gymraeg, ac ymfalch- lai yn ei waed Celtaidd. Pe wedi cael byw, y mae yn ddigon tebyg y buasai yn dysgu'r iaith. Fel y gwyr y rhan fwyaf, nid oedd ei fam yn medru Cymraeg, felly ni chafodd fantais i ymgydnabyddu a'r iaith. Gwraig nobl a gwir grefyddol oedd ei fam un o'r gwragedd goreu y cawsom y fraint o'u cyfarfod erioed. Cafodd hi fynediad helaeth i'r trigfannau nefol, cyn i'r ystorm hon dorri ar y teulu, ac y n awr dyma'r mab ieuengaf yn ei dilyn i wlad lie nad oes golli ffydd o'i mewn Yno, fro ddedwydd, maehen freuddwyddion A fu'n osmwytho ofn oesau meithion Byv yno byth mae pob hen obeithion; Yno mae cynnyJd uc-hel amcanion Ni ddaw fyth i ddeifio hon—golli ffydd Na thrawd cvwilydd. na thoriad calon. L J.D. O'R HEN SIR—SEF SIR EON.—Y dydd o'r blaen, yng Nghaergybi, aoth y modur cyflym i wrfchd arawiad a'r ferfa araf a olwynid gan Anthony Williams, glanhawr yr heolydd, a thaflwyd ef i'r llawr, a hynny rnor heger hes torri ei goes. Wrth geisio osgoi bachgen o'r enw Pratt, a olwynai ei feic. y bu'r ddamwain. Anafwyd y bachgen a cirylliwyd ei feic. Yr jdym yn byw mewn oes v rhaid i'r ferfa lonydd roi ffordc i'r modur ffasiynnol a chwyrn. Da naddigwydd- odd ctim ac mai'r beic a sraiodd y ?waethaf, ac nid v ba?hgen. LIannwyd pwlpud Moriah M.C. Llangefni v Sul o'r hsen ?an ? Parch. John Roberts, Caerdydd —un ?) gedym el e:\fundeb, ac yn deilwng o'i dad. Tiistyd a !anwodd LlanMiian a'r cvlch pan d.deuWyd a chorff John Owen a fu foddi— i'w gladdu ym mro ei dadan. Ni bu ond ychydig fisoe<]<? yn briod, a gwy fam a wyr am lawer i don arw, ond yr un drvmach na'r don a ddygodd ymaith ei mab annwy l. Da y gwnaeth un o aelodau Cyn.gor Caergybi alw sylw at waith rhyw rai ar ddvdd yr Arghv dd yn rhwyfo mewn eychod yn yr harbwr. Canmolir y Cyngor am feddu ar lygaid (htigon byw, ac ar cafod digon gonest i godi cri dros burdeb hen Saboth tawel y Cymry. Gair yn cyrraedd Llangoed am gwymp marwol y Preifat Samuel Thomas, mab Mr. a Mrs. Wm. a, Jane Thomas, gynt, o Linnerch y medd. Gwr ieuanc tawel a hoffus gan bawb, yn dciirn ond naw ar hugain oed. (Jwymp- odd naw mis i'r diwrnod y collodd ei chwaer ei phriod yn y fmydr, a saith o amddifaid ar ei ol. A dyna ing i galon mam weddw gystuddiol ym Mhensarn ofidd clywea i'w "Harold" hoff gael ei ladd. Bachgen dwys, ond nodedjg o ddewr. Hir y cofir yn Llanfair P.G. am gwrJd anrhydedd Mr. TlIos. Owen, Dryl1, oedd yn" boat- swain" ar y Tarra ac a waredwvd n or wyrthiol o balfau'r "SennusSl" Cyflwynwyd iddo Solid Silver Tray gan 3 Llanfair Naval & Military Fund ae amo'n gerfiedig hanes ei helynt a'r w aredigaeth. Y Proff. J. Morris Jones yn y gadair, a Mr. H: O. Hughs foedd. ar y Tarra adclaethai o Gaergybi) yn annerch gan ad.rodd. amdanynt yn byw am 48 o oriau ar chwarter peint o ddwfr, ac yn gorfod ciniawa ar ganiel oedd wedi loddi er's rid in it Didoorus iawn oedd anerch- iad y Proff. Win. Roberts, B.Se., o un o. golegau'r India, yn Ysgoldy Lon Fslin, Llangefni, y nos Sul o'r blaen. Anercbiad ar gre.fvddai.i'r Inclia. A'r Athro Evans, Ysgol y Sir yn dweyj gair. Y Proff. Roherts yn anedig o Fferam Gorniog, Pentraeth. Gofid i ni oedd (joall am huno o dud hybarch yr adroddwr coronog Deiriiol Fyclial). sy ei wyneb a'i barablrrorfjg -nefin ac annvy I ym Men. En'1' hen nail farw mewn oed ran patriarebai(l(!- yn ddcg aphedttar ugain yn gmeriad duwiol, ahynod ac fel tien dd erwcnbraff wedi byw;. nhir, a'i chysgod. Hydan yn fendith i'r fro. Bu Deiniol a'r teulu yn nodedig o ofalus o hono i'r diwedd. Arhosai er's rhai blynyddoedd gyaa'i ferch ieuengaf a'i phriod Mr. Isaac Thomas, Ty'n Llan, Rhoshirwaen. Rhoed ei weddillion i orwedd y Sadwrn diweddaf ym mynwent Rhiw, Lleyn, adirgennym ei fod yn angladd lluosog. Yn ddeg ar pliw'.war ugain !—gysgod maith' Pa golled fwy i Ddeiniol ar ei daith ? —Llygad Agored. SiR FFLINT.—Yn Llannerch y mor y bu'r C.M. diweddaf. Dewiswyd. y Parch.T. M. Jones, Y Gronant, yn ysgrifennydd Mn (4, d FAm 1917—1919, a'r Parch. R. L. Jones, N'ere wy,4, yn ystadegydd. Y Parchn. J. Hughes, M.A., Lerpw l, a D. O. Tudwal Davies, Rhosesmor, a bregethai yn yr hwyr. Y mae eghvys Caersalem, Mint, wedi rhoddi galwad i Mr. Lsaac Pan% Bau Colwyn, a chredaf y bydd iddo ei derbyn. Y mae'n Irawd i'r Parch. T. D. Parry, bngail llwyddiannus Cynfal a'r Oro, a gorffennodd ei gwrs athrofaol yn y Bala eleni. Gwelaf fod Meudwy Machreth a Thwm Dulas yn ceisio creu tan Cymreig yn y Sir. Wel, boys bach, byth, byth. Dvlasech fod yma un can mlvnedd yn gynt. Gobaith anobeithiol hollol yw eich gobaith. Gellwch dreio, ond fe gewch chwi weld na lwyddwch. Ddydd Gwener, Awst 4, bu cyfarfodydd arbennig yn yr Wydcfgrug i atgofio dathlu a chyhoedoi y rhyfel. Awst 4, 1914, a hynny mewn ysbryd ymostyngol. Yr oedd un rlan arweiniad "awdurdodau goruRhel" y Sir, a'r llall d an nawdd ac arweiniad y werin a'r saint Ymneilltuol. Trefnodd yr aw-durdodau goruchel orvrndaith urddasoj, pawb hyd yr oedd. modd, yn ei wisg swvddogol ei hun o'r oe( ( l mod(! uehel sirydd i lawr, ac aed. i Eglwys y Plwyf yn y dref, i fynd trwy ffurf wasanaeth ymos- tyngol yno. Wedyn aed yn orymd.aith i Neuadd y Dref, a bu cyfarfod yno. Yr oedd Esgob Llanelwy, yr esgob Pabyddol, y Bamwr Banks, Argl. Mostyn, a mawrion eraiU yn bresennol. Cafodd y Parch. H. Lefroy York.M.A.,B.D., gweinidog Wesleaiad Seisnig y Rhyl, lawn mwy o afael ar y dorf na neb, er fod esgobion wetii. siaraki o'i flaen. a pha ryfedd ei fod yn gallu siarad ar rhi fel gan fod ganddo bump o feibion yn y rhyfel a'r fyddin ? Yr unig un o'r holl siaradwvr a barodd wybod ein bod. yng Nghymru, a bod Cymry a byddin Gymreig mown bod, oedd Argl. Mostyn. Chwarae teg i galon yr Arglwydd, gallwn feddwl fod rhywfaint o'r gwaed eoch Cymreig yn rhedeg yn ei wthien- nau o hyd. Fel hyn y mae hi onite ? Y gwaed Cymreig yn dal i allu rhedeg rywfaint mewn gwthiennau na syna.si(! pe sychasai er's talm, ac wedi sychu i fyny yn golsyn heb yr un diferyn mewn gwthiennau y disgwyliem iddo redeg n bur a rhydd- Diwedd wy(i yo cyfarfod trwy ganu God Save the ICiftg 11 Yr oedd y cyfarfod yn yr egIwys i fod, yn ol yrhysbysiad amdano, yn gyfarfod ymostyng- ol, a d iau ei fod, er nad. oed.d nebyngwisgo sachlian a lludw ond bob-un, hyd yr oedd modd, yn ei wisg swyddogol ddrudfawr. Yn yr hwyr, dan nawdd eglwysi Ymneilltuol y dref, bu cvfarfod ymostyngol yng nghapel y M.C. Y llywydd oedd y Parch. Thos. Morgan, a Miss M. J. Parry, A.R.C.M., yn' trin yr organ yn fedrus iavin. Cymrodd y brodyr a ganlyn ran :—Y Parchn. T. C. Roberts, Gwem y mynydd; W. Morris Jones. B.A. A. Shipham, G. Parry Williams, M.A., yr Wyddgrug a Hugh Evans,(Cynfor) y Rhyl. Yr emyn a ?anwyd yn olaf oedd God Save the King." Yr oedd yn gvfarfod C' ot i Save the Hinp, rhagorol iawn, a gwnaeth yr ysgrifennydd (Mr. John Owen, y Pentre) ei waith trefniadol \n ganmoladwv iawn. f QWRECSAM D^d<J Sadwrn, A .st. 0. unwyd Mr. J. Meirion Jones, y datganwr enwog s.n a-rwain y gan yti Seion, mewn glan hdoctas a Miss Mary Parry, merch Mr. a Mrs. Joseph Parry, Rhudd^an—- chwaer hefyd i'r Parch Dr. !Tone-, Parry, Prestatyn. Gweinyddwyd, gan y Parch.R. B. Morris, M.A. t ,ieh,triinai bIaenor y gAn yw Mr. Jones, cafwyd darnau melys ar yr orcan gan Miss Sissie Hughes, Mus.Bao., A.R.C.O. 'I'reulia y ddau eu mis rnêl yn Llandudno, —GOHEBYDD. Conven.—Trist genym gofnodi nianvolaeth Private J. D. Edwards, mab Mr. a Mrs. John Edwards. Blaenddolj a syrthiodd ym mrwydr Coed Mametz Gorff.io, yn 21 oed. Nid oes Uawer 0 amser er pan aethai i Ffrainc o Kinmel. Gwr ieuanc talgryf a hoffus. Gresyn meddwl na chawn glywed ei lais mwy y tu yma i'r lien, ond er i'r llais ddystewi, erys yn ein hadgofion mwyaf cysegredig, Teimla/'r ardal yn ddwys wrth eifarwolaeth, a chura ei chalon mewn cydymdeimlad a'i detain yn eu profcdigaeth lem.L.E.P. YA AMU YT HI G.—Ym-weliad a'r Cytnry Cfayf~ edig--No3 Wener, cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig. dan lywyddiaeth Mr, E. P. Lewis, Cyfreithiwr, i drefnu ymweliad cyson a r Cymry sy'n gorwedd dan eu clwyfau yn ysbytai'r cylch, Deallwn fod nifer o Gymry uniaito yn cin hysbytai, buddiol iawnfuasai i rai o'u cydgenedl ymweled â hwy a chyfarfod eu perthynasau fyddl/'n dod yma ar ymweliad a'r bechgyn. Dewiswyd Mr. Hugh Hughes yn Ysgrifennydd y mudiad, a Mr. Hugh Vaughan, London & Provincial Bank, yn drysorydd, Bydd yn dda gan yr ysgrifennydd gael manylion ynghylch unr'iyw glwyfedigion^Cymreig a ddjgwyddo fod yn y cylch, a gofelir y bydd Cymro neu Gymraes yn ymweled n gyson. Cyfeirier pob gohebiaeth i'r Y: grifemiydd :—Mr. Hugh Hughes, 8 New Street, Shrewsbury.

Advertising