Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

o Big yI Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

o Big y I Lleifiad. 'lusn' BRIT H. Lliaws o fcchgyn Cinmel yn picio adref i weld cu rhieini yn Lerpwl a'r cylch y dyddiau hyn am y waith olaf cyn troi am y gad; a llygad ami i fam yn lleithio wrth weld ei mebyn cu yn mynd dros y rhiniog. Dyna wraig brofedigaethus ydyw Mrs. Sydney Owen, 109 Crawford Avenue. Gorff. 17, bu farw ei gwr, Mr. Arthur Owen, mewn ysbyty yn Berlin o'r darfodedigaeth. Second Engineer ar y Zealand- un o longau'r Cattle Lme ydoedd; wedi hwylio o Lerpwl i Hamburg pan oedd y rhyfel ar fin torri allan daliwyd y Hong a charcharwyd y dwvlo ac yno y bu-yntau, fel y gweddill, ar hyd y ddwy flynedd, nes yr aed ag o i ysbyty Berlin fis Chwefrol diweddaf i ddihoeni a marw mewn lie mor estronol a phell oddiwrth ei anwyliaid. Brawd i Mrs. Owen ydoedd y Priefat Dan Roberts, Simdda Wen, Llan- faethlu, Mon, a laddwyd yn y rhyfel y dydd o'r blaen ac yr oedd dau frawd iddi ymysg y rhai a foddwyd oddiar y Titanic. Y mae Mrs. Owen yn aelod o eglwys Webster Road a phawb yn cydymdeimlo a hi yn ei thrallod. Yr oedd ei phriod yn fab Mr. Wm. Owen, crydd, Penrhyn Deudraeth. Y chwi famau a thadau sydd yn galaru am eich bechgyn glew a gollwyd yn y rhyfel, drachtiwch gysur a diddanwch o benillion godidog gwr Y Drych ar tudalen i. Byddant yn falm i anal fron. Y mae John Williams, King's Liverpool Regiment —mab Mr. a Mrs. Lewis Williams, 46 Wolsey Street, Bootle-wedi cael gair uchel yr awdurdodau am ei lewder yn y rhyfel a ch;tel ei godi'n Lance-Corporal. Yr oedd yn un o ddau a gladdwyd gan ffrwydriad pelen oddiwrth y Germaniaid; ond gydag iddo fedru ymryddhau, ymrodd ar unwaith i ryddhau ei gydymaith a hynny yn wyneb perygl mawr. Dyma ddywcd swyddog yr 89th T. M. Battery :— Private Williams' fine example was a great encouragement to others, and it was largely due to this act that the life of hi" comrade was saved." Acebe Brigadier General yr 89th Infantry Brigade:— "A fine, piece of work: and to have saved his comrade's life at much personal risk is worthy of the best traditions of the British Army. Y mae Williams yn a clod .o eglwys M.C. Stanley Road ac yn un o ffyddloniaid Ysgol Sul Bankhall. Lladwyd Prcifat Wm. Vaughan Roberts, catrawd y King's Liverpool, yn y rhyfel Gorff. 30. Y fo'n fab Dr. Vaughan Roberts, Y.H., Blaenau Ffestiniog, ac yn nai i Mr.Hugh Owen a'r Misses Owen, Rhianva, Blundellsands. Yr oedd y Sergt. Dai Thomas, R. W. F., a ladd- wyd yn y rhyfe! Gorff. 7 yn hysbys i lawer o Gymry Lerpwl fel aelod o adran B y detective staff. Brodor ydoedd o'r Deheudir, ac yn amlwg ym myd y campau corfforol, sef arneidio, cicio'r bel, a ffusto. Awst 2, yn nhy ei merch (Mrs. Garland)" yn Llangefni, bu farw Mrs. Edwards, mam y brody r Hugh a John Edwards 6-8 King Street, Lerpw • Cleddid yn Nhal y Ront, Sir Aberteifi, ddydd Lun yr wythnos hon. Y meibion yn bur hysbys yng nghylchoedd masnachol a dirwestol a gwleidyddol glannau Mersey. Yr oedd hi'n wraig gref iawn ei chynhcddfau, gorff a meddwl; a chryn lawer o bethau cu Ceredigion yn cad eu claddu gyda hi. Y Parch. Hugh Jones, bugail cglwys M.C. Tyldesley sydd wedi cael ei benodi'n ddirprwywr Cymdeithas Frytanaidd a Thramor y Morwyr dnry Ogledd Cymru a Lerpwl. Pregethu ynteu Bugeilio ? yw testyn ysgrif gan y Parch. W. M. Jones (Parkfield gynt) yn r Goleuai diweddaf. Dal dros gydbwysedd y ddwy agwedd, a dyfynna sylw Goleufryn, sef bod Ami i bregethwr yn gymaint o goes i wahanol fyrddau fel nad oea ganddo yr un i sefyll yn y pulpud. iTipyn o gamp yw mantoli rhwng galwadau'r ddwy. Dyma broc go heger i swyddogion free and easy Ond oes llawn gormod o fugeilio pobl a ddylai fugeilio eu hunain ers lIawer dydd ? Onid profiad degau o'r brodyr ydyw, fod mwy o angen "bugeilio ami i flaenor nag y sydd i fugeilio'r "holl eglwys gyda'i gilydd ? Onid rhai o'n "swyddogion a'u tculuoedd ydyw y rhai di- eithriaf i'r Ysgol Sul ac anffyddlonaf i foddion yr wythnos ? Dyma'r manylion arianol am Gymanfa Ganu Ambrose Lloyd fel y cawsom hwy y M. A. R. Fox, West Kirby, a'r cyfrifon wedi eu harchwilio gan Mr. E. H.*Edwards (Gt. Mersey Street) Derbyniwyd £ ^i 0 7' Rhanwyd yn ol penderfyniadau y Pwyllgor Cydiiabyddiaeth i Crosshall am yr ystafell, 220 Ceidwad yr Addoldy o 5 0 Anrhegion i'r Arweinydd,Trysorydd a'r Y sgrifenllydd I 13 g Welsh Ambulance. 5 5 0 Aldn. J. Lea Esq. Blind Soldiers Fund c 9 3 Allan H; Bright Esq. Prisoners of War Fund5 9 3 Yn yr Ariandy yn enw y Trys. a'r Ysg. tuagat Gof-adail J. Ambrose Lloyd 10 16 7 JC3I 0 7 Gorff. 20 yn yr ymosod yn Ffrainc, daeth diwedd i Mil John Lewis Davies ail fab Mr. a Mrs. Henry Davies,44 Ddvedale Road ac yntau o fewn mis i fod yn 30 oed. Pum wythnos oedd er pan aethai o Kinmel. Pan yno gwnaeth argraff ddofn fel dyn ieu- anc rhagorol. Dangosodd ei genedlgarwch yno droeon a gwrthwynebodd iaith rhai o'r Swyddogion. Bu a rhan amlwg am gyfnbd maith yn Ysgol Ramilies Road fel athro, a rhoddodd lawer iawn o'i amser i hyfforddi y plant yn Elfenau Cerddoriaeth ac yn weithgar yn y Band of Hope, ac wrth yr Offeryn yno am flynyddoedd. Cynrychiolodd yr Ysgol i'r Undeb Ysgolion yn 1914 a bu ar Bwyllgor y Gymanfa Ysgolion. Yn ei lythyr diweddaf at ei anwyl fam adroddaj am y bregeth ddiweddaf a wrandawodd gan y Caplan ar Cred yn unig yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi. Aelod ydoedd yn Webster Road ac y mae ei frawd hyn yn Ffrainc a'r teulu yn disgwyl yn ddyddiol am air oddiwrtho. Genedigol o'r Groeslon yw ei dad a'i fam o Sir Fon.—R.J.G. Dyma benillion a wnaeth Pedr Hir yn fyrfyfyr wrth briodi Mr. J. R. Williams a Miss M. Jones yn Balliol Road y bore o'r blaen :— Cafwyd brecwast, boed ar go, A digon o ddantcithion Osborn Davies ganai gan I'r ddeuddyn glan eu calon, A'r cadeirydd ffraeth ei lol Oedd doniol wr Glynllifon. Will Bangor oedd y gwas I A wnaeth ei waith yn rasol; Jenny Jones yn forwyn fwyn,- Yr oedd ei swyn yn siriol Tendio'r bwyd yr oedd ei chwaer, Sef Kitty daer, groesawol, Mrs. Williams, anwyl ferch A aeth i serch John Williams A mae y ddau yn awr yn un, Yn hardd eu Hun a dinam j A chadwer byth eu llwybr lion Yn union-nid yn wyrgam. Mae yn Bootle ddiwrnod mawr, A dawnsio mawr ym Mangor, A llawcnydd yn y lie 3 Ac yn y dre'n dygyfor, Am uno dau ar hyd eu hoes. A cl ariad roes y cyngor. Roedd Jack Williams-Bangor gynt— Bron torri 'i wynt y bore, Daeth ymlaen cyn mynd yn hwyr Y bachgen Hwyr ei eisie Ond y mae o'n awr yn ddyn, Yn un a'i eneth ore. Duw a'u cadwo ar hyd eu hoes, Heb aflwydd croes na chwcrwedd, Ond pob anrhydedd fyddo'u rhan, Llawenydd tan y diwedd. Gwynfyd diball iddynt fo, Digwyno a digonedd. Mrs. Elizabeth Ellis-Gorff. 30 bu farw y chwaer adnabyddus hon yn y Victoria Hospital, Liscard, ar ol cystudd cymharol fyr. Dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach.Cerid hi'n fawr, nid yn unig gan ei pherthynasau, ond gan bawb a'i hadwaenai. Eang tu hwnt i'r cyffredin oedd cylch ei hadnabyddiaeth a'i chyfeillgarwch. Ystyrrid hi'n wraig o gynheddfau cryfion a'r cyfryw wedi cacl gwrteithiad uchel. Yn nyddiau ei nerth gwnaeth lawer o wasanaeth a'i llais peraidd mewn cyngherddau yn ogystal a chaniad- aeth y cysegr. Yr oedd yn aclod hardd ei buchcdd o eglwys M.C. Liscard Road, Seacombe, lie y teimlir hiraeth dwfn a chyffredinol ar ei hol. Bu y Parch. Lodwig Lewis yn hynod ffyddlon yn ei ymweliadau beunyddiol a'r ysbyty, yn yr hwn y gorweddai dair wythnos a lIe hefyd y bu farw. Claddwyd ym meddrod y teulu yn Rake Lane Awst 2. Yr oedd yn chwaer i'r Parch. George Lamb, a'r hwn y cydym- deimla eu lliaws cyfeillion. Anwyl Mr. Golygydd-Gan fod eich papur gwerth. fawr wedi cymeryd diddordeb mor fawr mewn ennill yr hawl i Gymry Lerpwl ymuno a chatrodau Cymreig, teimlwn, fel rhai o'r llawer a fanteisiodd ar y cyfle, y dylem anfon gair atoch. I Fataiiwn Gwynedd yr aethom rhyw chwe' mis yn ol; ac er nad yw ein tueddiadau at fywyd milwrol,da gennym ddweyd i ni dreulio amser pur ddiddorol ar y cyfan pan yn Kinmcl. Teimlwn yn ddiolchgar i ni gael ein hanfon i'r Gwynedd pe ond am y cyfeillion ardderch- og y daethom i gyffyrddiad a hwy. Y mae cyfaill- da yn y fyddin yn amhrisiadwy ac yn cynorthwyo un i wrthsefyll y temtasiynau lawer sydd yn ein cyfarfod. Y mae cyfaill o Gymro hefyd yn werthfawr iawn i wneud i ni deimlo'n fwy cartrefol. Ceir y ddwy fantais fawr hyn yn y Gwynedd. Yr ydym ni ein tri yn awr, ynghyda llawer ereill, wedi cael ein hanfon trosodd i Ffrainc ac yn teimlo'n falch o gael bod gyda'n gilydd cr wedi ein gwanhanu oddiwrth y mwyafrif o'n cydfilwyr yn y Gwynedd Hyderwn yn fawr fod ein cydgenedl yn Lerpwl, ac yn wir trwy y wlad, yn cofio am y milwyr Cymreig yn eu gweddiau. Mae hyn yn rhoddi mwy o galondid i ni na dim. Gan roddi ein hunain yn Ei ddwylaw gofalus Ef yr ydym yn edrych ymlaen at y dydd pryd y dychwelwn mewn buddugoliaeth. Er ein bod mewn gwlad estronol ac yn wynebu peryglon mawrion, da i ni feddwl mai yr Un sydd yn gofalu am danom yma ag ymhob man. Mae Duw yn llond pob Ile, Presennol ymhob man, Y nesaf yw Efe I O bawb at enaid gwan. Nid ydym yn digalonni, ond yn hytrach mewn hwyliau goreu. Ydym Mr. Golygydd, yn bur E. Glyn Williams, Capel Parkfield. R. J. Lewis, Capel Edge Lane (M.C.) J. Llew Jenkins, Capel Webster Road-

Adolygiad. I

i Eisteddfod Corwen.

Advertising