Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
DAVIES'S SECOND-HAND PIANOS For Cash- A GREAT CLEARANCE SALE, Special Opportunity. Sale Price Wotft £ 10/' 17 ROSEWOOD Beautiful Model; sweet tone good appearance; light touch. ile £12/17 CHALLEN. Handsome walnut, panel front, sconces ivory keys, good tone [£20 115/10 DREAPER. Beautifully carved, walnut case, rich tone. nice touch very handsome piano £ 16/16 ERARD. Magnificent concert semi grand, very powerful tone and respons. ivetouch grand condition £ 45 18/18 HOPKINSON. Brilliant tone and elastic touch, walnut case; very superior instrument; in perfect order £ 28 £ 21/10 BRINISMEAD. — Rose- wood, ivory keys, powerful and brilliant tone, perfect touch wonderful bargain (32 I £ 24/10 COLLARD & COLLARD. High Class Black Model, great brilliancy and power of tone, and faultless touch, 7 octaves, trichocd a mag- nificent piano bargain IN KIRKMAN Genuine 2 5 l O Barg a in.- Handsome waL nut, high class instrument, perfect check action, fault. less tone and touch only wants seeing < £ 28/10 OVERSTRUNG, Walnut Art Model de Luxe, iron frame, brass pin plate, trichord full compass, I unsurpassed for touch and tone, of wonderful mech- anical perfection, almost human in response and sympathy of soul; like new; great bargain £ 40 NOTICE.- Attention is directed to the above Piano Bargains offered for Cash, offering a saving of fully 108. in every pound. Full satisfaction guaranteed. Inspection i avited. DAVIES'S, 30 LOW HILL, LIVERPOOL. Close Wednesdays at 1. Open Saturdays until 9.30. Old Swan Car from all stations, Fare, One Penny. DAVIES'S SULE BURGUtlS 130 LOW HILL, LIVERPOOL. Close on Wednesday at 1. Open Saturday until 9.30 27/- (Worth £ 2 /5 /-) BRACELET, Curb & pactlock, Solid Gold, stamped ev- ery link, in velvet case others at 29 /6, 32 /6, 35 /— and 551-. Also Solid Gold Gate Pattern Ditto at 27/6, 38/6, 45/- and 55/ Large selection. Greatly reduced. Davies's. 30 Low Hill. 20/- WEDDING RINGS, special val- ues, in 22-ct. Gold only others at 22 If;, 25/30 I-up to £4. Pure Guinea Gold All sizes in stock, round or flat. Ask for size card. We present l-doz. silver-plated tea- spoons with every ring. Mail orders receive very careful attention. Davies's, 30 Lowliill. 39/6 (Worth f3 Is /") GENT'S CHAIN double curb, solid gold stamped links. Other Double Chains at 52 55 £ 3 /15 £ 4 /19 and £ 6 /18 Saving 10 in every £ Every chain guaranteed. 1 lLarge selection. Reserved free.—Davies's, 30 Low WR hill. MISCELLANEOUS JEWELLERY BAR- GAINS.— Solid Gold ifa-ney Oval Pocket, 8/6; Solid Gold Diamond -cut^Neck- let, 10 /6 Gent's Solid Gold, plain top, Signet Ring, 12/6; Lady's ditto, 12/6. Special bargains. Also Gent's 15-ct. Liamond Pin, 13/11 Solid Gold Oval Links, 9/6; Solid Gold Real Diamond Brooch. 10/6 Solid Gold Wide-band Bracelet, 16/11 Beautiful Solid Gold Gold Cameo Brooch, 14 /6 Solid Gold Stone Pendant for lady, 10/6. Saving 10 in every £ Bargains.—Davies's 30 Low hill. DAVIES'S Sale ol latcftC8 30 LOW-HILL, LIVERPOOL j HALF-YEARLY SALE NOW PROCEED- ING. CLOSE WED. AT 1. OPEN SAT. UNTIL 9.30. £ 1 xvfii /1 av8i —Gent's Russell & Son Church Street. Liverpool 35- Guinea Heavy Solid 18-ct. Crystal Marine Keyless Hunting English f-plate LEVER CHRONOGRAPH, jewelled extra on ends (19 Rubies), brequet overcoil spring, chrono- meter expansion balance, patent chronograph centre-seconds, and latest improvements Greenwich timekeeper new this year (proof ), makers' an-' our guarantee for 25 years. Month's trial, with guarantee to repurchase for il4 at any time or exchange. Approval, —DAVIES'S. 30 LOW HILL. £ Q/18I /fi —Gent's 18-Guinea Solid 18- ct. Gold Waltham Keyless LEVER HUNTER, 17 Rubies, high-grade heavy cases, dead gun timist; warranted 20 years. Also English 18-ct. Gold Hunter, by Russell & Son, high-grade new this year; usually £21; Sale Price, £ 10/15/ Also Solid Gold Waltham Riverside Hunter usually £20; Sale Price, £10 /15 Month's trial. £ fi/l ft/i f—Gent's 14-guinea Russell & Son, Liverpool, Heavy Solid Gold English Keyless Chronograph Lever Hunter, new this year (proof) great bargain. -Lady's Solid Gold High- grade Self-expanding Russell & Son's Lever WATCH-BRACELET, in perfect order and condition; usually 18; accurate. Ill & 1/13/6 -Gent's Rolled-gold Keyless U HUNTER, by Elgin Co.; ditto, by Russell & Son, 32/6 also" Wal. tham "Hunter ditto, 42/ £ 1/7 /6 -y's Solid Gold Wristlet Full-jewelled WATCH, accurate timist; ditto, 29/6, 35/ and 48/ All warranted. £ 1/5/ —Gent's Silver Keywind Russel LEVER, open face ditto, Keylessi 27 /6; also English Capped LEVER (very fine), by Murray, Liverpool. £ 1'/12/6;' cost 18. j ¡ DAVIES'S, 30 Low Hill, LIVERPOOL.
o Big yI Lleifiad.
o Big y I Lleifiad. 'lusn' BRIT H. Lliaws o fcchgyn Cinmel yn picio adref i weld cu rhieini yn Lerpwl a'r cylch y dyddiau hyn am y waith olaf cyn troi am y gad; a llygad ami i fam yn lleithio wrth weld ei mebyn cu yn mynd dros y rhiniog. Dyna wraig brofedigaethus ydyw Mrs. Sydney Owen, 109 Crawford Avenue. Gorff. 17, bu farw ei gwr, Mr. Arthur Owen, mewn ysbyty yn Berlin o'r darfodedigaeth. Second Engineer ar y Zealand- un o longau'r Cattle Lme ydoedd; wedi hwylio o Lerpwl i Hamburg pan oedd y rhyfel ar fin torri allan daliwyd y Hong a charcharwyd y dwvlo ac yno y bu-yntau, fel y gweddill, ar hyd y ddwy flynedd, nes yr aed ag o i ysbyty Berlin fis Chwefrol diweddaf i ddihoeni a marw mewn lie mor estronol a phell oddiwrth ei anwyliaid. Brawd i Mrs. Owen ydoedd y Priefat Dan Roberts, Simdda Wen, Llan- faethlu, Mon, a laddwyd yn y rhyfel y dydd o'r blaen ac yr oedd dau frawd iddi ymysg y rhai a foddwyd oddiar y Titanic. Y mae Mrs. Owen yn aelod o eglwys Webster Road a phawb yn cydymdeimlo a hi yn ei thrallod. Yr oedd ei phriod yn fab Mr. Wm. Owen, crydd, Penrhyn Deudraeth. Y chwi famau a thadau sydd yn galaru am eich bechgyn glew a gollwyd yn y rhyfel, drachtiwch gysur a diddanwch o benillion godidog gwr Y Drych ar tudalen i. Byddant yn falm i anal fron. Y mae John Williams, King's Liverpool Regiment —mab Mr. a Mrs. Lewis Williams, 46 Wolsey Street, Bootle-wedi cael gair uchel yr awdurdodau am ei lewder yn y rhyfel a ch;tel ei godi'n Lance-Corporal. Yr oedd yn un o ddau a gladdwyd gan ffrwydriad pelen oddiwrth y Germaniaid; ond gydag iddo fedru ymryddhau, ymrodd ar unwaith i ryddhau ei gydymaith a hynny yn wyneb perygl mawr. Dyma ddywcd swyddog yr 89th T. M. Battery :— Private Williams' fine example was a great encouragement to others, and it was largely due to this act that the life of hi" comrade was saved." Acebe Brigadier General yr 89th Infantry Brigade:— "A fine, piece of work: and to have saved his comrade's life at much personal risk is worthy of the best traditions of the British Army. Y mae Williams yn a clod .o eglwys M.C. Stanley Road ac yn un o ffyddloniaid Ysgol Sul Bankhall. Lladwyd Prcifat Wm. Vaughan Roberts, catrawd y King's Liverpool, yn y rhyfel Gorff. 30. Y fo'n fab Dr. Vaughan Roberts, Y.H., Blaenau Ffestiniog, ac yn nai i Mr.Hugh Owen a'r Misses Owen, Rhianva, Blundellsands. Yr oedd y Sergt. Dai Thomas, R. W. F., a ladd- wyd yn y rhyfe! Gorff. 7 yn hysbys i lawer o Gymry Lerpwl fel aelod o adran B y detective staff. Brodor ydoedd o'r Deheudir, ac yn amlwg ym myd y campau corfforol, sef arneidio, cicio'r bel, a ffusto. Awst 2, yn nhy ei merch (Mrs. Garland)" yn Llangefni, bu farw Mrs. Edwards, mam y brody r Hugh a John Edwards 6-8 King Street, Lerpw • Cleddid yn Nhal y Ront, Sir Aberteifi, ddydd Lun yr wythnos hon. Y meibion yn bur hysbys yng nghylchoedd masnachol a dirwestol a gwleidyddol glannau Mersey. Yr oedd hi'n wraig gref iawn ei chynhcddfau, gorff a meddwl; a chryn lawer o bethau cu Ceredigion yn cad eu claddu gyda hi. Y Parch. Hugh Jones, bugail cglwys M.C. Tyldesley sydd wedi cael ei benodi'n ddirprwywr Cymdeithas Frytanaidd a Thramor y Morwyr dnry Ogledd Cymru a Lerpwl. Pregethu ynteu Bugeilio ? yw testyn ysgrif gan y Parch. W. M. Jones (Parkfield gynt) yn r Goleuai diweddaf. Dal dros gydbwysedd y ddwy agwedd, a dyfynna sylw Goleufryn, sef bod Ami i bregethwr yn gymaint o goes i wahanol fyrddau fel nad oea ganddo yr un i sefyll yn y pulpud. iTipyn o gamp yw mantoli rhwng galwadau'r ddwy. Dyma broc go heger i swyddogion free and easy Ond oes llawn gormod o fugeilio pobl a ddylai fugeilio eu hunain ers lIawer dydd ? Onid profiad degau o'r brodyr ydyw, fod mwy o angen "bugeilio ami i flaenor nag y sydd i fugeilio'r "holl eglwys gyda'i gilydd ? Onid rhai o'n "swyddogion a'u tculuoedd ydyw y rhai di- eithriaf i'r Ysgol Sul ac anffyddlonaf i foddion yr wythnos ? Dyma'r manylion arianol am Gymanfa Ganu Ambrose Lloyd fel y cawsom hwy y M. A. R. Fox, West Kirby, a'r cyfrifon wedi eu harchwilio gan Mr. E. H.*Edwards (Gt. Mersey Street) Derbyniwyd £ ^i 0 7' Rhanwyd yn ol penderfyniadau y Pwyllgor Cydiiabyddiaeth i Crosshall am yr ystafell, 220 Ceidwad yr Addoldy o 5 0 Anrhegion i'r Arweinydd,Trysorydd a'r Y sgrifenllydd I 13 g Welsh Ambulance. 5 5 0 Aldn. J. Lea Esq. Blind Soldiers Fund c 9 3 Allan H; Bright Esq. Prisoners of War Fund5 9 3 Yn yr Ariandy yn enw y Trys. a'r Ysg. tuagat Gof-adail J. Ambrose Lloyd 10 16 7 JC3I 0 7 Gorff. 20 yn yr ymosod yn Ffrainc, daeth diwedd i Mil John Lewis Davies ail fab Mr. a Mrs. Henry Davies,44 Ddvedale Road ac yntau o fewn mis i fod yn 30 oed. Pum wythnos oedd er pan aethai o Kinmel. Pan yno gwnaeth argraff ddofn fel dyn ieu- anc rhagorol. Dangosodd ei genedlgarwch yno droeon a gwrthwynebodd iaith rhai o'r Swyddogion. Bu a rhan amlwg am gyfnbd maith yn Ysgol Ramilies Road fel athro, a rhoddodd lawer iawn o'i amser i hyfforddi y plant yn Elfenau Cerddoriaeth ac yn weithgar yn y Band of Hope, ac wrth yr Offeryn yno am flynyddoedd. Cynrychiolodd yr Ysgol i'r Undeb Ysgolion yn 1914 a bu ar Bwyllgor y Gymanfa Ysgolion. Yn ei lythyr diweddaf at ei anwyl fam adroddaj am y bregeth ddiweddaf a wrandawodd gan y Caplan ar Cred yn unig yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi. Aelod ydoedd yn Webster Road ac y mae ei frawd hyn yn Ffrainc a'r teulu yn disgwyl yn ddyddiol am air oddiwrtho. Genedigol o'r Groeslon yw ei dad a'i fam o Sir Fon.—R.J.G. Dyma benillion a wnaeth Pedr Hir yn fyrfyfyr wrth briodi Mr. J. R. Williams a Miss M. Jones yn Balliol Road y bore o'r blaen :— Cafwyd brecwast, boed ar go, A digon o ddantcithion Osborn Davies ganai gan I'r ddeuddyn glan eu calon, A'r cadeirydd ffraeth ei lol Oedd doniol wr Glynllifon. Will Bangor oedd y gwas I A wnaeth ei waith yn rasol; Jenny Jones yn forwyn fwyn,- Yr oedd ei swyn yn siriol Tendio'r bwyd yr oedd ei chwaer, Sef Kitty daer, groesawol, Mrs. Williams, anwyl ferch A aeth i serch John Williams A mae y ddau yn awr yn un, Yn hardd eu Hun a dinam j A chadwer byth eu llwybr lion Yn union-nid yn wyrgam. Mae yn Bootle ddiwrnod mawr, A dawnsio mawr ym Mangor, A llawcnydd yn y lie 3 Ac yn y dre'n dygyfor, Am uno dau ar hyd eu hoes. A cl ariad roes y cyngor. Roedd Jack Williams-Bangor gynt— Bron torri 'i wynt y bore, Daeth ymlaen cyn mynd yn hwyr Y bachgen Hwyr ei eisie Ond y mae o'n awr yn ddyn, Yn un a'i eneth ore. Duw a'u cadwo ar hyd eu hoes, Heb aflwydd croes na chwcrwedd, Ond pob anrhydedd fyddo'u rhan, Llawenydd tan y diwedd. Gwynfyd diball iddynt fo, Digwyno a digonedd. Mrs. Elizabeth Ellis-Gorff. 30 bu farw y chwaer adnabyddus hon yn y Victoria Hospital, Liscard, ar ol cystudd cymharol fyr. Dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach.Cerid hi'n fawr, nid yn unig gan ei pherthynasau, ond gan bawb a'i hadwaenai. Eang tu hwnt i'r cyffredin oedd cylch ei hadnabyddiaeth a'i chyfeillgarwch. Ystyrrid hi'n wraig o gynheddfau cryfion a'r cyfryw wedi cacl gwrteithiad uchel. Yn nyddiau ei nerth gwnaeth lawer o wasanaeth a'i llais peraidd mewn cyngherddau yn ogystal a chaniad- aeth y cysegr. Yr oedd yn aclod hardd ei buchcdd o eglwys M.C. Liscard Road, Seacombe, lie y teimlir hiraeth dwfn a chyffredinol ar ei hol. Bu y Parch. Lodwig Lewis yn hynod ffyddlon yn ei ymweliadau beunyddiol a'r ysbyty, yn yr hwn y gorweddai dair wythnos a lIe hefyd y bu farw. Claddwyd ym meddrod y teulu yn Rake Lane Awst 2. Yr oedd yn chwaer i'r Parch. George Lamb, a'r hwn y cydym- deimla eu lliaws cyfeillion. Anwyl Mr. Golygydd-Gan fod eich papur gwerth. fawr wedi cymeryd diddordeb mor fawr mewn ennill yr hawl i Gymry Lerpwl ymuno a chatrodau Cymreig, teimlwn, fel rhai o'r llawer a fanteisiodd ar y cyfle, y dylem anfon gair atoch. I Fataiiwn Gwynedd yr aethom rhyw chwe' mis yn ol; ac er nad yw ein tueddiadau at fywyd milwrol,da gennym ddweyd i ni dreulio amser pur ddiddorol ar y cyfan pan yn Kinmcl. Teimlwn yn ddiolchgar i ni gael ein hanfon i'r Gwynedd pe ond am y cyfeillion ardderch- og y daethom i gyffyrddiad a hwy. Y mae cyfaill- da yn y fyddin yn amhrisiadwy ac yn cynorthwyo un i wrthsefyll y temtasiynau lawer sydd yn ein cyfarfod. Y mae cyfaill o Gymro hefyd yn werthfawr iawn i wneud i ni deimlo'n fwy cartrefol. Ceir y ddwy fantais fawr hyn yn y Gwynedd. Yr ydym ni ein tri yn awr, ynghyda llawer ereill, wedi cael ein hanfon trosodd i Ffrainc ac yn teimlo'n falch o gael bod gyda'n gilydd cr wedi ein gwanhanu oddiwrth y mwyafrif o'n cydfilwyr yn y Gwynedd Hyderwn yn fawr fod ein cydgenedl yn Lerpwl, ac yn wir trwy y wlad, yn cofio am y milwyr Cymreig yn eu gweddiau. Mae hyn yn rhoddi mwy o galondid i ni na dim. Gan roddi ein hunain yn Ei ddwylaw gofalus Ef yr ydym yn edrych ymlaen at y dydd pryd y dychwelwn mewn buddugoliaeth. Er ein bod mewn gwlad estronol ac yn wynebu peryglon mawrion, da i ni feddwl mai yr Un sydd yn gofalu am danom yma ag ymhob man. Mae Duw yn llond pob Ile, Presennol ymhob man, Y nesaf yw Efe I O bawb at enaid gwan. Nid ydym yn digalonni, ond yn hytrach mewn hwyliau goreu. Ydym Mr. Golygydd, yn bur E. Glyn Williams, Capel Parkfield. R. J. Lewis, Capel Edge Lane (M.C.) J. Llew Jenkins, Capel Webster Road-
Adolygiad. I
Adolygiad. I Patriotic Poetry, Greek and English. An Address given on the 500th Anniversary of Agincourt. By W. Rhys Roberts, Litt.D., L1.D., Professor of Classics in the University of Leeds. London: John Murray, Albe- marle Street, W. Y mae'r llyfr amserol a gwych hwn wedi cyfodi hiraeth ar yr adolygydd presennol am yr ystafell Roeg yn hen adeilad Coleg y Brifysgol ym Mangor, lie y cafodd ef a llawer eraill y fraint o eistedd i wrando ar yr Athro Rhys Roberts yn mynegi mewn Saesneg coeth ryw gymaint o'i wybodaeth eang a manwl o iaith a llenyddiaeth a hanes y Groegiaid. Yno yr oedd delwau perffaith o Plato a Sophocles, Socrates ac Aeschylus, Aristotle ac Euripides, dyfyniadau o'u gweithiau yn addurno'r muriau, mapiau a phlaniau o'r wlad a'i dinasoedd, nes peri i ddyn gredu weithian ei fod yn y wlad fach ardderchog honno mewn gwirionedd. Coffa da am eiddgarwch dihysbydd ein Hafhro dysgedig tros ei bwnc, a'i awydd anhunan- gar i helpu ei ddisgyblion i weled ceinder yr, iaith Roeg a gogoniant ei llenyddiaeth. Daw'r teithi hyn yn amlwg i'r golwg yn y llyfr newydd hwn,—llyfr sy'n cynnwys dwy araith adraddodwyd ar y run dydd, sef Dydd Sant Crispin, 1915, yn Leeds a York. Wrth ddarllen ambell dudalen a dyfod ar draws ambell ddyfynian o farddoniaeth Roeg bron na chlywaf y grym a'r gwefr oedd yn ysbryd a lleferydd yr Athro pan ddyweiai bethau cyffelyb uwch ein pennau ym Mangor gynt. Pedair llinell o Persians Aeschylus yw testyn y ddwy araith hyn,yn bennaf; a diolch i'r awdur am gyfieithu ei ddyfyniadau Groegaidd i'r Saesneg er mwyn y c arllenydd cymharol anghvfarwydd. Ni raid i'r neb na fedront Roeg ddim ofni prynu'r llyfr hwn y iiiae wedi ei gyfaddasu'zi berffaith-gwbl ar eu cyfer. Ac os gwyr y c: arllenydd ryw gymaint o Roeg, goreu oil,— bydi yn gwybod cryn dipyn yn chwaneg os darllena'r gwaith hwn yn ofalus, ac yn sicr bydd lyn caru'r iaith Roeg honno'n fvy iiag erioed. Dianghenrhaid dywedyd fod yr Athro Rhys Roberts wedi gosod treth, wrth gyfan- soddi'r llyfr hwn, ar ei vsgolheigdod amry- ddawn, agw erthfawr odiaeth i'r neb agar add ysgyw ei gyfeiriadaumynych (yny Nodiadau Eglurhaol cyfoethog ar y diwedd) at lenydd- iaeth gwlad Canan, Rhufain, a Chymru, heb son am Ion Groeg a Lloegr,—y cyfeiriadau oil [ yn goleuo a grymuso'r mater gerbron, ac yn pontio'r gagendor rhwng Groeg bell a nimiatt. Y mae'n anodd dyfalu yn llenyddiaeth prutt o'r gwledydd uchod y mae'r awdur yn fwyaL hyddysg, ac at prun o ddau beth i ryfeddu mwyaf, prun ai at feistrolaeth yr Athro o'r iaith Roeg ynteu at ei Saesneg ardderchog ef ei hunan. Fel enghraifft o'rolafgellirnodir paragraff ar du. 12-13, yn dechreu a "The Athenian poets themselves&c. Ond ceir yma ryw beth gwell hy J 3 n oed nag ysgolheig dod uchel,—ceir yma genadwri foosol aphro- ffwydol wedi ei gwau i mewn i'r llyfr trwydd.o. CVfiawnc er yw'r peth pennaf yn nhynged y cenhedloedd, a Nerth yn ddaros- tyngedig iddo. Y mae Daioni Moesol i oruwchreoli ein medr a'n gwyddoniaeth, onite troant yn fellclith i'r byo, yn Ile'n f endith (tud. 26 a 100). Nid oes yma dduweiddi* Rhyfel, er fod yma wlaagarwch pur brwd frydig. Yn hytrach, mawrheir Crefytid, Heddwch, Dynoliaeth, a Chynnyd<v. Djolch i'm hen Athro am roddi inni'r tamaid melys maethlon hwn o'i lawnder. Ar y Rhy fal y ma.elr bai am na byddailr Adolygiad hwn yn Ilamnach, diffyg papur ac nid diffyg gwertMaw rogi Nid oes ddim a v idengys Ilris y llyfr, ond credaf imi weld yn, rhywle mai 3/6 ydyw. Dylid dywedyd f, y d(lau ddarlun a'r ddau fap ar diwedd y llyfr yn chwanegu at ei werth a'i ddiddor- deb. D. TECWYN EVANS. 0-
i Eisteddfod Corwen.
i Eisteddfod Corwen. MAE Corwen a Dyffryn Edeyrnion yn en- wog am eu heisteddfodaa ers bron gan mlynedd. Yn y dyddiau gynt, pan oedd Cymru yn dra gwahanol i'r hyn ydyw hedd- yw, byddai Twm o'r Nant, Gwallter Mechain, Jonathan Hughes, ac ereill, yn cyfarfod yma, ac yn ymryson canu bron yn ddifyfyr. Ychydig fyddai nifer y gwydd- fodolion, ac un tro fel hyn y bu— Eisteddfod hynod i'w henwi-yw hon, A'i hanes yn ddigri Dau delynor yn anfodloni, A dyn o'i hwyl,-dyna hi. Gwyr eich darllenwyr yn dda am y cyn- ulliadau mawr a llewyrchus a fu ar hyd y blynyddo dd diweddaf. Oherwydd yr Ar- magedon fawr, ni anturiwyd cynnal Eisteddfod y llynedd, a chyda chryn betrua- ter yr ymgymerodd pwyllgor arbennig & threfnu un y flwyddyn hon, a hynny ar, raddfa dipyn yn llai. Trodd allan, fodd bynnag, yn llwyddiant hollol. Yr oedd y tywydd yn hynod ffafriol y cynhaeaf gwair ar ben a daeth tyrfa fawr-agos lond y babell eang—i'r wyl. Gweithiodd Mr. Hugh Morris (Ap Rhuddlryn) yn ddewr fel ysgrifennydd, ac yr oedd Mr. J. Lloyd Jones, Y.H., yn drysorydd, a Mr. R. J. Jones, Bimavera, yn gadeirydd y pwyll- gor. Cloriannwyd y beirdd gan Pedrog y cantorion gan Mr. T. Osborne Roberts, Llandudno a'r cyfieithwyr gan Mr. Parry Morgan, Llangollen. Arweinydd yr His teddfod oedd Mr. W. Edwards, Acrfair, yr hwn a wnaeth y gwaith yn fedras ac efe hefs d oedd beirniad yr adrodd. Yr oedd nifer luosog o gorau wedi anfon eu henwan, a daeth y cwbl bron i'r Eisteddfod, ac nid fel y bydd ambell i Rwyddyn-Ilawer yn bodloni aranfon yr enw'n unig, ac yna'n aros adref. Peth arall teilwng o sylw: caf- wyd mwy i gystadlu o'r dref a'r ardal nag arfer, yr hyn a brofai ddiddordeb y lln yn y sefydliad. Ynghanol y gyflafan fawr sy'n rhwygo Ewrob, ac yn rhwygo popeth, da iawn cael ychydig seibiant fel hyn gyda'r gwaith o ddiwyllio y meddwl, ag sydd yn sicr o brofi'n ddyrchafol. Wele'r dyfarniadau :—Adrodd i blant, Dim banner digon thus, goreu, Miss Corwena Jones, Corwen; ail, M. E. Jones, Rhos, a Miss E. A. Jones, Lerpwl, yn gydradd. Adrodd, i rai dros 18 oed, rhanD Alun Mabon, goreu, Mr. D. J. Roberts, Pen y cae. Her-adroddiad, Mr. D. J. Roberts, a Mr. R. Lloyd, Cefnddwysarn, yn gydradd. Bardd- onlaeth: Englyn," Yr Ysbiwr," Mr. J. Own Llangefni, ac wele fo'r buddugol:— Yr Ysbiwr hyf, wyr wers brad,-—lluniwr Hen gynllwynion anfad; Dyrys lyw yw dros ei wlad, Ddaw'n hawdd i'w ddienyddiad. Darn o farddoniaeth, caeth neu rydd, 6$ llinell, Drannoeth y Rhyfel, J. Hughes Jones, Tregaron. Cyfleithu, darn o Shakespere, J. Anwyl, Pontypridd. Cerddoriaeth.- Canu'r piano, ac Unawd i blant, Miss, Gwyneth Roberts, Corwen. Unawd Soprano, Miss M. J. Williams, Gwrecsam. Unawd Contralto, Miss M. Wright, Cefn Mawr. Unawd Baritone, R. A. Ellis, Pentrefoelas. Unawd Tenor, Mr. J. Williams, Ruthin. Deuawd, Mri. Rowland Ellis, Clocaenog, a W. Davies, Rhewl. Her unawd, Mr. R. A. Ellis, Pentrefoelas. CAn Ystum, Johnstown a Maelor a Pharti Cefn yn gydradd. Corau Plant, Corwen (Mrs. Williams yn arwain). Ton Gynnulleidfaol, Rhondda," goreu, Corwen, dan arweiniad Mr. J. R. Davies. Y Corau Meibion, 5 o gorau yn cystadlu, goreu, Cor Uwchaled, Cerryg y drtidion; Corwen yn ail (arwein- ydd, Mr. J. D. Hughes). Canig Y, Blodeuyn Olaf," tri pharti yn cystadlu goreu, Parti o'r Cefn Mawr, dan arweiniad Mr. J. Wright. Y brif gystadleuaeth gor- awl, Yr Arglwydd yw fy Mugo." (Dr. Parry) 5 o gorau yn cystadla, set Cefn Mawr (Mr. J. Wright), Caer (Mr. J. D Jones), Llanfi- hangel (Mr. J. E. Edwards), Corwen (Mr. A. Humphreys), a'r Bala (Mr. J. Morgans) goreu, Bala. Yr oedd mynd da ar yr holl gyfarfodydd.-Gohebydd. [Daw beirniadaeth Pedrog ar y farddon. iaeth yn y BRYTHON nesafj.
Advertising
TELERAU AM HYSBYSIADAU. Man Hysbysiadau, megis Morynion yn eisiau, etc., Genedigaethau, Priodasao, Marwolaethau 14 o eiriau, un tro, 18. 3d., a 6d. am bob tro ychwanegol 21 eto eto 18. Od., a 8d. eto 28 eto eto ls.9d.,a9d. eto 35 eto eto 2«. 3d.,& Is. eto Rhaid anfon blaendal gyda'r areheb. Am delerau hysbysu Cyfarfodydd, Eis teddfodau, etc., a Trade Advertisement ymofyner & Hugh Evans a'i Feibion, Swydd a'r BBYTHON, Liverpool. i