Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
DAVIES'S SECOND-HAND PIANOS For Cash. ft GREAT CLEARANCE SALE. Special Opportunity. Sale Price Woilb £ 10/17 ROSEWOOD Beautiful Model; sweet tone good appearance; light touch. ;ci a £ 12/17 CHALLEN. — Handsome walnut, panel front, sconces ivory keys, good tone ¡£20 £15/10 DREAPER. Beautifully carved, walnut case, rich tone, nice touch very handsome piano 12b concert semi grand, very powerful tone and respons* iya touch; grand condition £ 45 £ 18' /18 HOPKINSON,- Brilliant tone and elastic touch, walnut case; very superior instrument in perfect order £ 28 121/10 BRINSMEAD. Rose- wood, ivorv keys, powerful and brilliant tone, perfect touch wonderful bargain 132 £ 24/10 COLLARD & COLLARD. High Class Black Model. great brilliancy and power of tone. and faultless touch, 70 ctaves, trichorCi a mag- nificent piano bargain ise £ 25/10 KIRII-MAN Genuine Barg, ain.- Handsome vial. nut, high class instrument, perfect check action, fault- less tone and touch only wants seeing ;c-ss £ 2810 OVERSTRUNG, Walnut Art Mocl el de Luxe, iron frame, brass pin I plate, trichord full compass, unsurpassed for touch and tone, of wonderful mech- anical perfection, almost human in response and sympathy of soul; like new great bargain £ 40 NOTICE.- Attention is directed to the above Piano Bargains offered for Cash offering a saving of fully 108. in every pound. Full satisfaction guaranteed. Inspection irnvited. ■■ v- DAVIESS, 30 LOW HILL. LIVERPOOL. Closed Wednesdays at 1. Open Saturdays until 9.30. Old Swan Car from all stations. Fare, One Penny.
I 0 Big y f5 Heifiad.
I  0 Big y f5 Heifiad. "COFFADWRIAETH T CYFIAWN SrDD FENDIGEDIG."—Dyma gopi o'r ysgrif ar dabled-goffa am y diweddar Mr. John Morris, Y.H., sydd wedi ei dodi yng nghapel M.C. Llansannanj gan aelodau'r'eglwys ;— Er diolchus gof am fywyd JOHN MORRIS, Ynr, Y.H., Lletty'r Eos, masnachwr yn ninas Liverpool. Ganwyd yn Llansarinan, Mcdi 5cd, 1852. Bu farw yn Liverpool, Ion. 28ain, 1915. Uchel Sirydd Sir Ddinbych. Blaenor yn eglwys David Street, llywydd Cyfarfod Misol Liverpool, llywydd Pwyllgor y Genhadaeth Dramor ac Insurance Trust y Cyfundeb, Yr oedd yn Wr llednais, Cristion diffuant, Cyfaill y Tlawd, Masnachwr ymroddgar a llwyddiannus, noddwr hanes a llenyddiaeth ei wlad, a chefnogydd pob Achos Da. Gosodwyd y Goflech i fyny gan aelodau yr Eglwys hon. Geiriad dethol a hapus iawn, a chywir bob sillaf, am wr sydd a pherarogl ei fwynder a'i hawddgarwch yn aros gyda phawb a gafodd y fraint o'i adnabod.. BOB rN DDEGPUNT.—Bwyllgoi Birkenhead, sylwch fod Arglwydd Rhondda (sef D. A. Thomas, y miliwnydd glofaol o'r Deheudir) wedi cyfrannu can gini at Eisteddfod Aberystwyth. Da gennyf glywed fod eich tanysgrifiadau chwithau'n chwyddo, ac yn dod i fewn fesur y degpunt. Y ddau ddeg diweddaf i gyrraedd oedd oddiwrth Mr. Carter, prif ddyn yard Cammell Laird, a Mr. J. T. Thompson, cynfaer y dre sydd a'i briod yn Gymraes o Gorwen, ac yn falch o'i thras, bendith arni. Faint bynnag yr elw oddiwrth yr Eisteddfod, at anghcnion y milwyr a'r morwyr a fu a rhan yn y rhyfel y mae i fyned. Awgrym i Arvon Hope a'i facwyaid Dysgwch lomerlb o Gaerlleon- drama newydd Pedr Hir,—ac actiwch hi'r gaeaf nesaf er budd trysorfa Eisteddfod Genedlaethol 1917. tt AM DRO HEIBIOIR BECHGTN.—Y mae Pedr Hir yn ymweled ddwywaith bob wythnos a dau o wersyllfau milwrol y cylch—un diwrnod a'r Sniggery Camp yn Hightown, lie y mae'r South Wales Bor- deren, a Mr. Rd. Roberts, Gray Street (mab Alaw Lleifiad) yn mynd hefo fo'n ffyddlon bob wythnos a ddiwrnod arall aLitherlandJIe y mae rhai miloedd o Royal Welsh Fusiliers. Euthom gydag ef i'r lie olaf ddydd Gwener diweddaf, a chawsom brynhawn difyr ac adeiladol wrth weld a chlywed a ddywedai ef wrthynt hwy ac a ddywedent hwythau wrtho yntau'n ol. Cloid yr ymddiddan a phwt o gyngor buddiol ac ysbrydol i bob un; yr oedd ymddygiad ybechgyn yn astud a gweddaidd iawn ac yn amlwg fod "son am y pethau wrth fodd calon Ilawer un o'u mysg. A'r peth tlysaf a mwyaf o godiad i ysbryd dyn a welsom yn unman hyd yma ydoedd gweld ambell lane a digon o asgwrn cefn moesol ynddo i arddel crefydd a defosiwn ei dadau yng ngwydd dieithriaid chwannog i dursio'n goeglyd ar bethau felly. Ond dyma un peth digrif a ddigwyddodd Cofiwch yr Orsedd," ebe Pedr Hir wrth ddodi ei law ar ysgwydd un Hanc cyn ymadael, gan gyfeirio at Orsedd Gras wrth gwrs. 0 gwnaf, rydw i'n siwr o drcio mynd i Steddfod Corwen," ebe'r milwr, yn hollol o ddifrif, canys meddwl am Orsedd y Beirdd a'r Maen Llog yr oedd ef, fel pawb arall, wrth weld Pedr Hir. Nid oedd dim dichon i'r sadiaf ohonom beidio a gwenu o glust i glust wrth gjy wed syhv mor sydyn a diddisgwyl. Ymysg y rhai a welsom yr oedd y Corp. Ellis (Pencerdd Gwalia) o Gaernarlon,-ymladdwr talgryf oedd ym mrwydr Mons, ac a gollodd dri neu bcdwar bys yn yr cncil waedlyd honno. Yr unig nam ar bleser y prynhawn ydoedd gweld canteen y cwrw yno, fel pcndduyn ar wegil g!an. Ysgowch ef am eich byvvyd, 'mechgvn i. wegil g!Ati. Ys,oNN,cii ef ari-i eicfi bl7wyd, 'mec h g),n i. ¡r DDAU FED 7'DDI WRY mae Chas. Evans Hughesj yr ymgeisydd Republicanaidd am arlywydd- iaeth yr Unol Daleithiau, yn fab y diweddar Barch. David Hughes, a fu ym Merthyr ac Aberbig cyn mynd i'r America yn wyr y diweddar Nathan Hughes,Tredegar a dyma rai o'i berthynasau sydd y tu yma i'r Werydd Mrs. Rogers, Woodville Road, Caerdydd; yr Iienadur S. N. Jones, Y.H., Cas- newydd, a'i chwaer, priod y Parch. J. Emlyn Rhys y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., Princes Road, Lerpwl, a'i frawd, Mr. J. R. Lloyd Hughes, sydd ar. staff golygyddol y Daily Post and Mercury a Mrs. Eames, Manchester. Bedyddiwr ydyw Hughes ac os llwydda yn ei ymgais, bydd un Bedyddiwr yn llywio America, a Bedyddiwr arall (Mr. Lloyd George) yn llywio Ewrop. it (WRTH ALLOR AS SAM.—Da gennym glywed I fad y cyfaill hawddgar a hyddysg, Mr. Evan Evans— mab Mr. Robert Evans, adeiladydd, Camden Street, Birkenhead, sydd mewn swydd bwysig yn Upper Assam,yr India, ers blynyddoedd bellach-yn cadw'n iach yn y fro bell a phoeth honno; a'i fod ar fryd ar ymgredu a gwraig. Un 0 Gaergrawnt yw y rhiain ffodus a'i rhwydodd a'r unig iawn a godwn arno am briodi Saesnes ydyw ymorol am ddysgu Cymraeg cyn lleted a Chymraeg L!annor, Lleyn, iddi, Os na ddowch drosodd yma am eich mis mel, hwdiwch hwn i aros anrheg well 0 doed o'r undeb dedwydd-galonnog Olyniad cyfarwydd; Pob hoender, llonder a llwydd Ar eu hil, ddau mor hylwydd.. Ac estynnwch hwn iddi hithau'ch cymar, ar ei phen ei hun j— A thlws o anhraethol werth Yw ei brydferth briodferch. A phan weloch hwy, cofiwch ni at ddau arall o hiliog- aeth Gymreig Glannau Mersey sydd yn yr India Mr. T. Arthur Jones, B.A., mab Dr. Hugh Jones (W.), golygydd un o bapurau Calcutta; a'r Proff. T. Taliesin Williams, M.A., athro Economeg yng Ngholeg Dakka, mab Pedr Hir, BootIe vma. tt t WRTH ALLOR HIGHFIELD.—Yng nghapel Highfxeld (A. Saesneg), Rock Ferry, ddydd Mercher diweddaf, priodwyd Mr. J. R. Davies (mab y diweddar Mr. D. P. Davies, Pumpsaint, Caerfyrddin, a Mrs. Rees, Dolgwn, Llan y Byther) a Miss Emily Foulkes- Jones, merch ieuengaf y diweddar Barch. J. Foulkes- Jones, B.A., Machynlleth. Dr. Lewis Foulkes- Jones (Llundain) yn cyflwyno'r briodasferch Miss Margt. Foulkes-Jones (nith) yn forwyn briodas; Mr. Saunders Rees (brawd y priodasfab, ac wyr Gwilym Hiraethog) yn was y Parch. D. Cunllo Davies (Machynlleth) a W. Carson (Highfield) yn gweinyddu; y neithior yn cael ei darpar yn nhy Mr. a Mrs. John Edwards (brawd-yng-nghyfraith a chwaer y briodasferch); a'r ddeuddyn dedwydd yn anelu i'r Scotland am eu mis met. 4- 1 BOB GERMAN El FAM rN RllYWLE 1- Dyma ddyfyniad o lythyr y Sergt. Goronwy O. Wynne, R.W.F. (mab Mr. a Mrs. John Wynne, Arthog) at ei gyfaill, Mr. J. D. Roberts, 42 Sidney Road, Bootle :— Y mae yn deimlad ofnadwy rywsut, wedi i un ddyfod ato ei hun, ac i'w iawn bwyll, a'r goreu ynddo, sef ei ddynoliaeth a'r cydymdeimlad sydd ynddi, ddechreu ei lywodraethu ac arwain ei symudiadau. Dyna sylweddoliad o waith y diafol a'i ffyrdd. Rhaid i mi gyfaddef fy mod fy hunan wedi gadael i fy nheimladau fynd i'r gwynt, wedi cael rhyw awydd lladd pob un o'r gelynion a ddeuai fy ffordd. Dechreuais gyda'r gwr a fu'n achos y dolur hwn i mi. Yr oeddwn wedi ei basio, wedi edrych arno a chymryd yn ganiataol ei fod yn farw ond dyna un o'r dynion yn gweiddi ei fod yn symud, a throais yn ol pan daflodd bomb ataf; ac fel yr oeddwn yn gyrru'r haearn gloew i'w ystumog, ffrwydrodd y bomb, ac aeth darn ohoni i fy ysgwydd, fel y dywedais o'r blaen. Erbyn hyn yr oeddwn wedi. mileinio ati, a chefais un arall yn ei lygaid, Y mae yn noeth ac yn greulon i son, ond dyna fel yr oedd pethau Dy fywyd di neu fi, prun ydio ? a phe cawswn i fy ffordd fy hun, a llawer eraill tebyg i fy hunan. ni fuasai yr un carcharor yn bod ond da fod rheolaeth gan rai eraill o'r tu ol. Wedi cyrraedd yr hospital a gweled y trueiniaid yn eu gwaed, yr oedd yn "amhosibl peidio a chydymdeimlo a hwynt, a meddwl eu bod hwythau yn annwyl i rywrai yn Germany. Diolchais lawer fy mod wedi fy ystwytho, am y ffordd y mae fy nhad a fy mam a fy nghyn-deulu wedi cerdded ac yn cerdded, ac wedi cael fy magu mewn cape] bychan, dinod mewn llawer ffordd, i'r fan honno y mae fy nghalon a fy meddwl yn hedfan. Yn y fan honno y rhowd fy sylfaen ar yr hon yr oeddwn i adeiladu, er mai sal yw yr adeilad, ie sal iawn hefyd, o'i gymharu a'r sylfaen a rowd imi. Nid wyf yn gallu darparu'r cerrig, heb son am eu gosod yn eu lIe, fel y dylaswn Hwyrach mai amser wnaiff fy rhoi yn fy lie wedi gadael fy hen gyfeillion, a chael dyfod yn ol atynt, yn ol i gylch ca-riad a chydymdeimlad fy anwyliaid, fe ddengys i mi Y FFORDD iawn i'w rhoi. Rhaid i mi beidio agadnel fy hun i redeg eto." tt PEDROG A SHAKESPEARE.—Un o'r llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd ers llawer blwyddyn yw'r gyfrol sydd newydd ddyfod o'r wasg dan olygiaeth y Proff. J. GallancXj Litt.D., F.B.A., a eiwir A Book of Homage to Shakespeare, ac sydd wedi ei chyhoeddi'n gyfrol hardd a thrwchus, gan Humphrey Milford, University Press, Oxford, i ddathlu tri chan mlwydd- iant y prifardd. Cynnwys gynhyrchion gan brifeirdd a llenorion y byd, ac eithro'r gwledydd yr ydys mewn rhyfel a hwy ar hyn o bryd. Ceir y cynhyrchion hynny hefyd gan bob un o'r enwogion hyn yn ei iaith ei hun, gyda chyfieithiad Saesneg o'r cyfryw. Y mae y nifer a argraffwyd o'r argra.ffiad arbennig hwn yn ei chau allan o gyrraedd y liiaws, ac yn gini'r copi. Diau y ceir argraffiad rhatach yn nes ymlaen. Ond nid ein hamcan ydyw adolygu y gyfrol yn bresennol, eithr galw SYiW at y ffaith, a datgan ein Ilawenydd fod Cymru hithau hefyd yn catl ei chynrychioli'n anrhyd- eddus yn y gyfrol eithriadol hon. Gwelwn y ceir yma gynhyrchion tri Chymro Cymreig, sef y Proff. John Morris Jones, M.A., y Proff. J. E. Lloyd, M.A., a'n cyd-drefwr clodus, y Parch. J. O. Williams (Pedrog), neu fel yr adnabyddir ac yr anwylir ef gan holl ddaillenwyr Y BRYTHON—" Gwr y Drych." Ysgrif Saesneg ar berthynas Shakespeare a Chymru sydd gan y Proff. Lloyd darn byr o farddoniaeth, yn Gymraeg a Saesneg, sydd gan y Proff. John Morris Jones a chywydd o dri ugain Uinell, gyda chyfieithiad Saesneg ohono gan Elphin, sydd gan Pedrog. Yr ydys yn llongyfarch y tri ar yr anrhydedd llenyddol yma a ddaeth i'w rhan, ac ar y modd teilwng y maent hwythau yn cynrychieli eu cenedl, mewn cylch mor bwysig. Y mae copi o'r llyfr i'w weled yn y Llyfrgell Rydd, William Brown Street. tt TUSW BRITH- I Y mae Mr. D. J. Jones, Caernarfon-sef mab y Parch. Wm. Jones, Conwy, David Street cyn hynny—wedi cael ei godi'n ben Bane y London City & Midland yn y RhyL Clwyfwyd y Preifat Tudor Owen, York & Lancaster Regiment-sef mab y Parch. Wm. Owen, Webster Road gynt-yn y rhyfel yn Ffrainc ond da clywed ei fod yn gwella'n rhagorol yn Convalescent Home y gwersyll yn Alnwick, Northumberland. Mae ei frawd-Dr. Gwilym Owen-wedi cael caniatad awdurdodau'r Brifysgol yn Auckland, New Zealand, i ymuno a'r Fyddin y mis nesaf. Y mae brwydr y ddwy iaith-y Ffrangeg a'r Saesneg—yn cael ei hymladd yn o chwyrn yn Canada, lie y mae nifer mor fawr o Ffrancod yn sythu am i'w hiaith gael lie cydradd a'r Saesneg yn yr ysgolion bob-dydd. Bu Syr Wilfrid Laurier—Ffrancwr o waed-yn dadlu hawliau'r Ffrancod yn y Senedd-dy yno'r dydd o'r blaen, ac yn cyfeirio at Gymru. Ac mewn ysgrif ar y pwnc yn y Toronto Evening Tele- gram, y mae Mr. Arthur Chambers (mab i'n cyd- ddinesydd Mr. Heber H. Chambers, sydd yno'n newyddiadurwr) yn cywiro Syr Wilfrid mewn rhai pethau, ac yn ceisio profi mai ffyddlondeb y genedl iddi ar yr aelwyd ac yn yr Ysgol Sul a gadwodd y Gymraeg yn fyw, ac nid cyfraith a gorfod yn yr ysgolion dyddiol. Y mae swyddogion eglwys Gymraeg New Brighton yn credu mewn atgoffa pawb,—dieithriaid a ddichon fod yno ar dro yn gystal a'r trigolion sefydlog—fod yna gyfle gerllaw i addoli Duw yn yr hen iaith, ac fod yno Gyhoeddi'r Cymod. Dengys yr hysbysiad mewn eolofn aralI mai'r Parch. J. H. Williams, Porthmadog, sydd i efengylu yno'r Saboth nesaf. Daeth gair ddydd Gwener fod John Vaughan Roberts, unig fab Mr. a Mrs. John Roberts, 41 Cam- bridge Road, Bootle, wedi ei ladd yn Ffrainc, Gor. 18. Ymunodd John Vaughan a'r Welsh Fusiliers fis Tachwedd diweddaf, a bu yng ngwersyll Morfa Conwy a Kinmel hyd o fewn pum wythnos yn ol, pryd yr aeth allan i'r ffrynt. Efe'n wr ieuanc dymunol a rhinweddol, heb gyrraedd ei lawn 24- mlwydd oed yn aelod o eglwys M.C. Stanley Road, ac Ysgol Sul York Hall. Mae 32 o fechgyn ieuainc yr Ysgol gym- harol fechan hon wedi ymuno a'r Fyddin a dyma'r ail i roddi ei fywyd i lawr dros ei wlad. Yn ei lythyr at y tad a'r fam, rhoddai'r sergeant air uchel i gymer- iad John Vaughan, a'i bybyrwch fel milwr, a chyf- lwynai ei gydymdeimlad ef, ei gydswyddogion a'i gydfilwyr i'r, tad a'r fam sydd wedi eu galw i ymuno a'r llu sydd yn wylo ar ol eu rhai annwyl; ac y mae pawb a adwaenai'r teulu yn cydofidio a'r rhieni a'r tair chwaer yn eu gofid dwys. Y Sul diweddaf, am 10.30 a 6, pregethai'r Parch. J. Vernon Lewis, B.A., B,D., ym Mynydd Seion, a'r Parch. Edward Davies yn Park Raod. Cafodd y cenhadon adegau dedwydd, a'r eglwysi fendithion cyfoethog. Mawr hyderir y ceir newid buan eto. Yr oedd hwn yn. 'gam ymarferol i gyfeiriad mudiad mawr y dyfodol. Y mae Miss Mary Naylor, Whiston, wedi llwyddo i basio arholiad yr Associate Diploma (A.L.C.M.) gyda'r piano. Ei hathrawes fedrus yw Miss Annie Jones, A.L.C.M., sef merch Mr. Robert Jones, un o flaenor- iaideglwys Huyton Quarry. Gofid calon i'w ffrindiau oedd clywed fod y lianc tirion, George Roy, mab Mr. a Mrs. Wyn Williams, Marlborough Grove, Birkenhead, wedi ei ladd yn Ffrainc, Gorffennaf y i2fed. Ymunodd a'r Liverpool Pals rhyw ddeunaw mis yn of, a chyn hynny gwasanaethai yn ffirm Mri. Yeoward Bros., ship- owners, ac yr oedd yn aelod selog yn eglwys Willmer Road, ac yn yr Ysgol Sul yn gyson pan adref. Glan ei wedd, pur ei gymeriad a rhadlon ei ysbryd, hoffid ef gan bawb a'i hadwaellai. Anaml gwelwyd mwynach un, Na mwy caredig, hardd a chun Nid oedd dim dichell yn ei fryd, Ond gair a gwen i bawb o hyd.-I.D, D t.rydy(],(]. o fechgyn eglwys Annib. ynnol Park Road, wedi cwympo'n farwol yn y rhyfel, sef y Lieut. H. E. Pugh, South Lancashire Rfgiment, a mab y diweddar Mr. E. P. Pugh, ysgrifornydd yr eglwys. Pedwar ar hugain oedd ei oed ran. tt Macwyaid Harry Evans. Cwrdd blynyddol yr Undeb Corawl. Yen Y DIG ddyddiau cyn torri o ddrygfyd mawrEwrop allan ddwy flynedd yn ol y nolwyd enaid cytiawn Harry Evans o'r ddaear i'r Nef, rhag i'w glust gain orfod dioddef y fath anghytgord. Prin y bu Cymro erioed hoffach gan y wlad-gan ei gor yn enwedig, sydd a'u calonnau mor ddwfn eu hiraeth amdano heddyw ag oeddynt ddydd ei gladdu. Y mae corau Cymru'n chwannog eithriadol i anwylo a mawrhau eu harweinydd bob amser, ond nid yn unman y bu tynerach cwlwni o serch a mawrhad o'r ddeutu nag oedd rhyngddo ef a'i facwyaid. Yr hyn oedd enw Napoleon i'r hen French Guards, hynny yw enw Harry Evans i bob aelod o'r cor a fu dan ei lygaid a'i fatwn a phe buasech yng nghyfarfod blynyddol yr aelodau, a gynhaliwyd yn y Royal Institution, Colquitt Street, nos Fercher ddiweddaf, hawdd y gwyddech, oddiar don y llais wrth swnio'i enw, mor gu oedd ei goffa- dwriaeth, ac mor dda ganddvnt fuasai cael rhyw sail i gredu yn ail ddyfodiad eu Harthur. Mr. Robert Roberts, Y.H., Llywydd yr Undeb Coraw!, oedd yn y gadair a dyma rediad ygweith- rediadau Mr. Llew Wynne, ysgrifennydd y cor, yn darllen ei adroddiad am y tymor diweddaf—gaeaf 191;-16, He y dywedidfodyrhyfel a'i diyb-'stod wedi gosod ei ol trist ar eu hadroddiad a'u taflen ariannol, a gyflwynid heno am y pedwerydd tro ar ddeg blynyddol. Oherwydd y gwacad mawr, ac fod cynifer o'r aelodau wedi ymuno, bu'n annichon cael mwy'r llynedd na pherfformio'r Meseia, lie y ceffid pedwai cyngerdd cynt. Cadwodd y cor ei enw da drwy'r perfformiad hwnnw, a hynny'n ddyledus i raddau mawr i allu ac ymroddiad Mr. Hopkin Evans, a arweiniai. Llwydd- wyd i gadw amryw gyngherddau ddechreu'r haf ar ran y milwyr clwyfedig yn yr ysbytai yn Lerpwl, Bootle, a Linacre. Bu'r cor cyfan, neu ynteu bartion ohono, yn Infirmary Mill Road ddwywaith, Woolton Hydro, Fazakerley Hospital, a'r Royal Infirmaiy. Mr. W. H. Parry a Mr. J. Pryce Jenkins yn arwain, ac amryw o ferched y cor yn dangos doniau rhagorol ar ganu unawdau. Diolchid i Madame Maggie Evans am ei' gwasanaeth gwerthfawr a pharod fel cyfeilydd, ac i swyddogion a holl aelodjau'r cor am eu ffyddlon- deb. Nid oes dim gwybodaeth ar hyn o bryd faint o'r aelodau sydd wedi dioddef ar faes y gwaed ond dymuna'r Pwyllgor ddatgan eu cydymdeimlad dyfnaf a phawb oedd ar y maes, gan ddymuno iddynt Dduw yn rhwydd i gael dychwelyd yn iach a dianaf i'w hen rodfeydd gartref. Yr oeddis wedi anfon llythyr o gydymdeimlad a Mr. James Venmore, Y.H., (un o noddwyr ffyddlonaf y cor) ar farwolaeth ei fab, y Lieut Fred Venmorre a chyfeiriwyd hefyd at y ddefod ddwys y buwyd wrthi y dydd Sadwrn cynt, sef yn gosod croes o rosynnau persawr ar fedd eu harweinydd ym mynwent Smithdown Road. Yr oedd taflen y trysorydd (Mr. J. D. Jones) yn hynod foddhaol ag ystyried, canys dangosai fod £ 141.5.11 wrth gefn yn y banc, wedi talu'r holl dreul- iau ac wele un o'r symiau oedd ar y daflen: Derbyn- iwyd oddiwrth gyngerdd y Meseia. Nadolig 1915, £ 232.1.6; treuliau'r cyngerdd hwnnw, £ 204.10.7. Dyma noddwyr a swyddogion y cor :—Llywydd, Robert Roberts, Ysw., Y.H. Is-Lywyddion-Syr Edward Elgar, Syr Edward Russell, Syr Frederick Cowen, Granville Bantock, Ysw., Edward German, Ysw., Dr. W. G. McNaught, Wm. Evans, Ysw., Y.H., Alex. Guthrie, Ysw., Y.H., T.R owland Hughes, Ysw. Y.H., J. W. Hughes, Ysw., J. Harrison Jones, Ysw., Y.H., J. Dudley Johnston, Ysw., David Jones, Ysw., Edward Lloyd, Ysw., Y.H., W. O. Roberts, Ysw., James Venmore Ysw., Y.H., Thomas Williams, Ysw Y.H. Pwyllgor Gweithiol Cadeirydd, Mr. Rd. J. Hughes Is-gadeirydd, Mr. R. Vaughan Jones Mri. Ed. Hughes, O. R. Hughes, J. James, H. Hum- phreys Jones, T. Williams, E. Lloyd Davies, Wm. George, W. Cernyw Jones, Jas. Nicholas, David Thomas trysorydd myg.—Mr. J. D. Jones ysg.— Mr. Llew. Wynne, a Mr. E. H. Edwards yn cael ei ddewis yn ysgrifennydd cynorthwyol iddo. Is- arweinydd, Mr. W. H. Parry; cofrestrydd, Mr. T. Williams; cyfeilydd, Madame Maggie Evans Llyfr- gellwyr, Mr. Wm. George a Mr. E. H. Edwards; Archwilwyr, Mr. W. H, Parry a Mr. H. T. Bellis. Diolchodd y llywytld i holl swyddogion y cor am eu sel a u hymroddiad mewn adeg mor anhwylus ac anffafriol; diolchai nad oedd yr un o aelodau'r cor oedd yn y rhyfel, hyd y gwyddis, wedi ei ladd a chyf- eiriodd gyda Ilawenydd at gymwynasau y cor i glwyfedigion yr ysbytai draw ac yma. Datganodd y chwithtod a deimlent hyd byth am eu harweinydd ac a obeithiai, beth bynnag a fyddai hanes y gaeaf dyfodol, y dalient wrth ei gilydd, ac y cadwent eu llygaid yn agored i chwilio am arweinydd a fyddai'n deilwng o enwogrwydd ac adnoddau'r Undeb Coraw!. Pwy a wyr nad oes un hafal iddo'n dechreu codi ei ben ieuanc a chware'i fatwn yn rhyw gilfach neu gilydd? Cefnogwyd y diolchgarwch i'r swyddogion gan Mr. H. T. Bellis, a chydnabuwyd gan Mri. Rd. J. Hughes a R. Vaughan Jones, hwythau'n cyfeirio at wresowg- rwydd y croeso a'r arddeliad digamsyniol a gawsai'r cor wrth ganu i'r caethion troseddol yn Walton, a Mr. J. T. Jones yn arwain. Tystiolaeth caplan y lie ydoedd na ellid byth fesur dylanwad y cyngerdd hwnnw a thystiai Mr. W. Cernyw Jones fod wyneb- au a llygaid y carcharorion yn rhywbeth i'w gofio'r hawg. (A pha ryfedd ? canys y fath wahaniaeth melys oedd rhwng canu'r Cymry rhagor swn agoriad- au y celleedd atgas wrth dincian yn nwylo'r ceidwaid Ilym eu gwep a deddfol eu gair. Ewch yno'r gaeaf nesaf eto, a chanwch obaith a chadernid ysbrydol i'w heneidiau. Y mae gennych anhraethol fwy o ddylanwad arnynt nag sydd gan y byelatvs caled ac oerion sydd ynghrog ar y muriau). Ar gynhygiad Mr. Rd. J. Hughes a Mr. J. R. Jones, diolchwyd yn gynnes iawn i'r llywydd am ei sel cyson a difwlch i'r cor o'r cychwyn cyntaf. Yr oedd yn amlwg ar ei holl ymwneud fod yr Undeb Corawl yn agos iawn at ei galon, a'i fod yn eiddgar iawn dros enw da a llwydd- iant y Gymdeithas Gerddorol flaenaf yn Lerpwl, heb os nac onibai. Deallwn y perfformir y Meseia y Nadolig nesaf, fel arfer bob blwyddyn; ceir gweld eto a fydd dichon cael rhyw gyngerdd rhagor na hynny soniodd rhywun am Elijah, a chyda Itawenydd mawr fod Mr. Ffrancon Davies wedi gwelia ac yn ail ddech- I reu gwefreiddio'r wlad a'i fwynlais megis yn y dydd- aujgynt j a fu, Wei, faint bynnag o aelodau'r Undeb Corawl sydd wedi mynd i'r gad a mannau eraill, y'mae'r un mor wir fod yma ugeiniau os nad cannoedd o leisiau new- yddion wedi gwladychu ar Lannau'r Mersey, megis yr oedd mor hawdd gweled a chlywed wrth y canu oedd yn agoriad organ ysblennydd Liscard Rd, Seacombe, nos Sadwrn cyn y ddiweddaf. Fechgyn o Faelor a chwareli Arfon a Meirion, ac yn y blaen, achubwch y cyfle hwn i ymuno a'r Undeb Corawl; byddai'n Iles o'r ddeutu, byddech chwi a'ch lleisiau per yn gryfhad i'r Cor, a byddai'r ddisgyblaeth a'r hyfferdd- iant a gaffech chwithau mewn cylch mor ddiwylliedif. ac uchraddol yn ddyrchafiad i'ch doniau. Y mae rhyw esprit de corps diddiffodd ym macwryaid Harry Evans, a swn byw a dal ymlaen oedd yttg mgWyf- arfod blynyddol yr Undeb Corawl.
[No title]
TEML CWALIA, EDGE LANi.-No Fawrtk yr wythnos ddiweddaf, pasiwyd i anfon Ilythyr.o.gyi- ymdeimlad a Mr. a Mrs. Grjffiths, Gladstone JUad, yn eu profedigaeth chwerw o golli eu mab, y Private Hywel Griffiths. Cyfarfu a'i ddiwedd yn Ilfritinr., Gorffcnnaf i. Bu'n aelod gwasanaethgar iawii • Bead, Gwalia. Cafwyd pianoforte solo gan 7 Ckvker Phyllis Edwards can, Don't forget yotif inaikef, tAff y Chwaer Katie Jones cystadleuaeth atelp ewes- tiynau Ysgrythyrol,—beirniad, Chwaer Eraaa, Botanic Road goreu, y Chwaer Dora Jones., Can, rr bogyn yn gyrru'r ivedd, gas y Br. Griffith Davies. Adroddiad, Mae Cymru eto'n fytc, gan y Chwaer Dora Jones. Ymwelwyd a'r Deml gan y Br. Eddie Evans, yr hwn sydd ar hyn o bryd gyda'r fyddin ynGraat- ham; cafwyd gair ganddo. Croesawyd ef gan 3' Brodyr Griffith Davies, Henry Daviee, John Owen, a'r Parch. D. Jones hefyd cafwyd pianoforte solo gan y Br. Eddie Evans. LJywyddwyd gan y cyn-B.D. y Parch, D. Jones. Cyfeiliwyd gan y Chwaer Lily Edwards.-Cymraes. I-IOLLI' WOOD. -Y Sadwrn cyn y diweddaf, cafodd Ysgol Sul y tie hwn eu treat blynyddol. Y man dewisol eleni ydoedd Conny Castle, lie prydferth a dymunol, yn sefyll ar ucheldir y tuallan i dref boblog a phrysur Oldham. Parr.i'r olygfa o'r Castell inni feddwl am ambell ranbarrh o Gymru, nes codi hiraeth ynom am ein hen wlad annwyl, a gwelid mynyddoedd swydd Efrog yn ymgodi yn y pellter. Cafwyd tyw- ydd o'r fath fwyaf hyfryd, yr haul yn gwenu'n siriol, 3, r h au I yn gwenu'n siriol, ac awelon balmaidd yn dod oddiar y bryniau cyfagos, nes creu ieuengrwydd ysbryd a hoenusrwydd corff ym mhawb. Eisteddodd naw deg namyn un i fwyn- hau'r arlwy ragorol oedd wedi ei darparu. Treuliwyd gweddill y dydd i ymddifyrru mewn chwarae di- niwed, a hyfryd gweld pob oed yn ymdaflu iddo mor eiddgar. Ychwanegid yn fawr at fwynhad a difyr- wch y dydd trwy gael gyda ni nifer o Gymry ieuaiac mewn khaki, a cheisiwyd anghofio yr ornes greulawa sydd ar y Cyfandir. Ar gais perchenogion y Ue-y wraig, fel y deallwn, yn Gymraes—canwyd amryw emynau Cymraeg dan arweiniad Mr. Willie Hugk es gyda hwyl ac eneiniad, a hynny er mawr fwynhad y Saeson. Yr oedd yr holl drefniadau dan otal Md. Edward Hughes a John Evans.-Celt. Bore dydd Mercher, y 26am o Orffennaf, ymg y 2. 6 a i n o Or ffcnna f yag nghapel y Bedyddwyr, Balliol Road, priodwycl Mr. John R. Williams a Miss M. Jones, a'r gweinidog Pedr Hir yn gweinyddu. Brodor o Fangor yw Mr. Williams, lie y derbyniodd addysg o radd uchel. Electrician yw wrth ei alwedigaeth, a phrysur iawn yw yn cyflenwi llongau at wasanaeth yLlywodraeth 1 phob darpariadau trydanol. Mynnodd er hyany gael egwyl i briodi. Merch Mr. Owen Jones, Garfield Street, Bootle, yw Miss Jones, neu'n hytrach Mrs. Williams erbyn hyn. Hir y bydd cof amdani yn. Nrama Owain Glyndwr yn actio fel Clovis yn dra effeithiol. Mr. Williams yntau oedd Dafydd Gam yn y ddrama honno. Mr. Wm. Williams, brawd y priodfab, oedd y gwas priodas, a Miss Jenny Jones, chwaer y briodfcrch, oedd y forwyn, a'r tad yn rhoddi y ferch. Ar ol y gwasanaeth cafwyd brecwest, danteithiol yn Garfield Street, a chafwyd amser difyr wedyn cyn i'r par dedwydd gychwyn i Gymru; y datgeiniad doniol, Mr. G. O. Davies, yn ei hwyl oreu; yn ei hnvyl oreu i ewythr y priodfab, sef y Gwr o Lynllifon, yn Ilawt arabedd, a phawb yn llawen ac yn dymuno i'r ddam a briododd hir oes a phob daioni. Duw yn rhwydd iddynt. PRIODAS.-Gorffennaf 26, yng nghapel Edge Lane, Lerpwl, gan y Parch. David Jones, y gweinidog, priodwyd John Edward Davies, unig fab Mr. John Davies, Thorpfield Road,Orrell, a Margaret Hannah unig ferch y diweddar Mr. Hugh Owen a Mrs. M. M. Owen, 33 Botanic Road, o'r ddinas hon. Cyflwya- wyd y briodferch gan ei brawd, Mr. E. G. Owea; Mr. David Davies, organydd capel M.C. Stanley Road, oedd y gwas priodas. Cadwyd neithior ya yr Yamen Cafe, Bold Street. Rhoddwyd y llwac- destynau arferol, a chafwyd anerchiadau gan y Parch. David Jones, Mri. E. G. Owen, David Dxvies, Mr. Morrell a Mr. Pickering, yn cynrychioli'r ffirm y mae'r priodfab wedi gweini ynddi ers 15 mlynedd. Hefyd, cymrwyd rhan gan Mr. J. Glyn Roberts. Oherwydd fod y teulu mewn galar ar hyn o bryd, gwaaed y briodas mor ddistaw a syml ag oedd modi. Yr oedd yr anrhegion yn gostus a lluosog. Ymadawetld y pk ieuanc, er treulio eu mis mel yn Westoa S. Mare, ynghanol y dymuniadau cynhesaf. Gwenau'r Nef a, fyddo amynt o hyn i ddiwedd eu taitli.-twilym Flrazo. PEEL ROAD.-Nos Saboth diweddaf, cyfeiriadd y Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D., at fechgyn t'f eglwys sydd wedi colli eu bywyd yn y rhyfel. B. gair eisoes yn Y BRYTHON am y Preifat Ed. Hughes, a laddwyd ddeufis neu dri yn 01: ond yn yr yaadrech fawr ddiweddaf, syrthiodd y Preifat J. Arthur Joaes, (aelod yn Balliol Road, ond wedi ei fagu ya Ysgol Orrell), a'r Lance-Corp. T. Hugh Jones, Hornby Boulevard, unig fab Mr. a Mrs. Thos. Jones. Ym- unodd ef a J. Arthur Jones a'r fyddin ym Medi, 1914, a syrthiodd y ddau yr un adeg. Un aralljy gofidiwn ei golli yw'r Preifat J. Vaughan Roberts, 41 Cambridge Road yntau wedi ei fagu yn ein plith, ond ymaelod- odd rhvnv flnvyddyn yn ol yn, Stanley Road. Mae dau arall clwyfedig mewn ysbytai yn y wlad hon, sef Thos. J. Jones, 125 Balfour Road, a Dan Jones, Ocean Road Gwella'n raddol y mae'n blaenor ieu- engaf, Mr. O. H. Hughes, II Strathmore Road, Fair- field. Cadd ddamwain ddeufis yn ol, a bu'n gorwedd am wythnosau. Torrodd Mr. H. Eves, 27 Moore Street, ei goes tua'r un adeg, ac erbyn hyn barnodd y meddygon yn dda ei thorri i ffwrdd. Gorwedd yn y Northern Hospital, a gwellha cystal a'r disgwyliad. -Bryn.
Advertising
Cydnabod Cydymdeimlad. Dymuna Mr. a Mrs. Hughes, Glandwr, Penmaen- mawr, gydnabod yn ddiolchgar y liiaws Ilythyrau o gydymdeimlad o golli eu hunig fab ym Mesopotamia SEND Stamped envelope for Advice to Mrs. G. Stewart, Herbalist and Lady Specialist. Address, 9 Guinea Street, Bristol. IlFORD Radiators, new pattern, oils and greases Ftubes and tyres.—WMesale Factors, JAM- Oszw and Co., 58 Paradise St., Liverpool.