Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Trem IV -Gwyl y Banc Awst.

Eln Conødi ym Mancsinion.

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa j (GAN YR HUTYN'.] LLOYD UEOJWB A"I FAM.—" An- rhydectda dy dad a'th fam medd y Gair; ond. y mae Llwyd o Biiion yn mynd tuhwnt i'r gair ac yn anrhydeddu yr hwn a aniiiydeddo ei dad a'i fam. Dywed i'r datgeinydd enwog, Siams Safej, gynt o'r Rhos, fynd allan o i ffordd i ganu yng nghlywedigaeth mam Lloyd George arun wte-- ei bod yn i. ei bo(A )rn gaeth gan gystudd i'w hystafell, ac na allai ddyfod. allan i wrand.o ym mhabell y dref, sef Crieciet. 1. Ma.e'n debyg na angholiodd y gwladweinydd bydenwog byth ei garedig- rwydd i'w fam, ac nad yw'n debyg yr anghofia cyd ag y byddo. Hwyrach mai'r deyrnged odidocaf a dderbyniodd James Savage o law a genau neb erioed yw hon, ac nid. yw'n debyg yr anghofia yntau byth mohoni hi. MEDDYGWRAIG Y CLA WDD. Mae y Feddygwraig Katherine Drinkwater, M.B., Gwrecsam, yn mynd ar fyrder i Falta i wneud gwaith meddyg dros y Lljnvrodraeth. Dynes bybyr yw Mrs. Drinkwater, ac ni edy i'r glas- wellt ctyfu ar ei llwybrau. Mae wedi rhoddi hyfforddiant i gannoedd o wragedd yn y First Aid o bobtu'r Clawdd yn ystod y blyn- yddoedd. Dynes fynv yw i bob galw ym- gnawdoliad o bob math o egnïon cliwim. Gwelir ei bod yn M.B. ac yntau ei phriod. yn M.D. heblaw bod, ynfeddyg dysgedig, y mae hefyd yn awdur gwych. Ni fu gwell enwau ar ddoctoriaid erioed nag ar y rhain. Dyna ddylasai fod c-enadwri pob meddyg bob amser --Drink Water a hyn hefyd ddylasai fod yn arwyddair pawb y dyddiau hyn. TRANC Y GLO R'R.-Collod(i glowr o'r enw Huw Huws, y Rhos, ei fywyd yr wj thnos ddiweddaf, trwy i slip o lo ddisgyn arno ar amrantiad. Er fod ei gydweithwyr gerllaw iddo, ni fedrai neb ei arbed. Yr oedd y gweithiwr anffodus yn wr profiadol yn ei grefft. Dyfarniad llys y treng oedd mai damwainhollol oedd yr anffod. Cydymdeim- lir yn gyffreuinol a'r teulu yn eu galar. COLLI HEN GYNHEFJN. — Gydag arwyddion dwfn o alar y priddwyd y gwr adnabyddus, Jabez Evans, Coed Poeth. Hen frodor o'r fro yd oedd. Gwnaeth ddiwrnod. llawn o waith yn ei ddydd. Bu ei ymdrechion gyda Methodistiaeth (Wesleyan a Primitive) yn ddiflino. Mae aelodau ei deulu'n adna- byddus yn y byd gweinidogaethol a'r byd masnachol. Mae dau frawd iddo yn y weini- dogaeth, a I rawd iddo hefyd yw Mr. Birkett Evans, cyn-faer Gwraig Sam. Teiinlircolled ar ei ol. ISUL Y SGO WTS.—Mae Sul i bopeth yn awr ond i addoli Duw. Hysbysir fod y Sul nesaf yng Ngwraig Sam i fod yn Sul y Sgowts, pryd y bwrièdir tramwyo'r strydoedd, gan gyrraedd eglwys y Plwyf; yr hon sydd yn y dref, tuag un ar ddeg. Pe dysgid y Scowts i fynychu'r addoldai gartref gyda chysondeb, fe fyddai hynny'n beth canmoladwy. Nid yw'r parades hyn o unrhyw les crefyddol. Achlysuron ydvnt i gannoedd lawer esgeuluso modciion gras ac i dorri'r Saboth. Ar ol y rhyfel hwn, rhaid fydd rhoddi pen ar y pethau liyn, ynghyda llawer o bethau eraill cyffelyb. Na charier ni ymaith gan wag a ffol bethau mewn rhith o grefvdd. MEDDYG ABALL I'R F ¥ DDI N,— Cyndyn oedd Cyngor Dosbarth Gwraig Sam i ollwng ei meddyg, y meddyg iechydol, sef Dr. T. W. Jones, i wasanaeth y ffrynt. Credai llawer fod llawn mwy o'i angen yn y back. Mae'r back, meddir, ar hyn o bryd, yn mynd yn berygl i iechyd y trigolion. Yroedd y Doctor yn awyddus am fynd, a than yr amgylchiadau gollyngwyd ef. Collir gwr da trabydd oddicartret, ond bvdd 'yngaffaeliad mawr ar y maes. EWCH GARTREF, WRAGEDD SWAT- --Llen.wi(l, Ilys Gwrecsam pa fore gan wragedd yn gyfangwbl, wedi dyfod ynghyd i wrando achos rhyw wraig o'r Rossett a gyhuddid o ladrad. Rhoddwyd gwers i'r gwragedd nas angiiofiant ar fyrder gan un o'r ynadon, a ddywedodd wrthynt mai gartref oedd eu lie, ac nid yno. Gwr mentrus yw'r ynad ond y mae clep y gwragedd yn glap ar ei ben. GOHIRIO'R STEDDFODAU. — Mae naca'r wyl ar ddydd y Bane wedi peri gohirio amryw o'r eistetldfod.au o amgylch y Clawdd, ac yn eu plith Steddfod y Conas Ci a Bwlch. j Gwyn ond er hynny fe erys digonedd ohon- ynt ar ol fel na fydd dim perygl i ddawn neb rydu. CA U'R YSGOLION AM Y G W YLIA U. --Mae digonedd o blant yn awr at wasanaeth pawb, a drws yr ysgolion dydd ar glo. Byddant yn ddefnyddiol iawn yn y meysydd gyda'r gweiriau, a bydd hynny yn holiday dymunol irawn a llesol iddynt. Famau, cofiwch anfon eich plant o'r heolydd,lle clyw- ant dyngu ac y gwelant feddwi, i'r meysydd bydd hynny'n lies i'w cyrfl a diogelwch i'w heneidiau. Hefyd, bydd llawer o'r athrawon yn rhoi helping hand i amaethwyryr haf hwn, yn lie mynd oddicartref. Hyn a wna'r goreuon ohonynt, ond y salaf a wgant gan ffoi i ffwrdd. Y GWRAGEDD DEWR.-Maecaredigion Dirwest wedi dangos gwrhydri nid bychan yn yrymgyrch i gelsio ca-Li"r tafarncaai yn ystocl y rhyfel. Y mae'r gwragedd wedi bod o dy i dy yn y gwahanol ardaloedd. Cawsant gan gannoedd o ddiotwyr i arwyddo eu henwau, a llawer hefyd i ardystio dirwest. Dywed y Glep mai nid gyda'r meddwon y ceir yr an- hawster, ond gyda'r yfwyr slei, a llawer o'r rhai hynny yn perthyn i'r gwahanol gapeli. Y rhain yw bwrn y wlad ond y mae rhestr go gyflawn ohonynt yn awr ar gael, a cheisir mesurau chwyrn i'w cyrraedd, a hynny heb oedi. Mae dydd eu barn yn dod ar frys." PENODIAD Y MILIWN YDD.—Lion gan y Clawdd glywed am benodiatl Dafydd Dafis, A.S., Llandinam, pen-filiwnydd Cymru, fel ysgrifennydd cyfrinachol yr Anrhydeddus Lloyd George. Bu Mr. Davies ar faes y Rhyfel hyd yn hyn, a gwnaeth waith anheb- gor, ond y mae ei angen yn fawr yn y wlad yma, a chanfu'r Ysgrifennydd Rhyfel hynny. Dyma'r gwr haelionaf ei law yng Nghymru yn wasanaethydd cyfrinachol i'r gwr enwocaf heddyw yn yr holl fyd a'r ddau yn Gymry trylwyr, iaith a chalon. DYSGU DIRWEST I'R PLANT.— Gwelir oddiwrth Pass List Arholiad Dir- westol Gwynedd mai Summer Hill a'r Cefn sydd ar y blaen yn nifer yr ymgeiswyr llwydd iannus eleni. Maent yn britho'r list drwyddi, Da pe gwnelai'r holl ardaloedd yn debyg.

Advertising

Heddyw'r Bore

Advertising

1 I- -....-Trsm III—Ennill,…