Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
0 uiv Ryni TEA. I Good Tea, is like a good, I friend whom we never ge* j tired of Try DWYRYD Tea-and i find the friend you hare been looking for- I <
Advertising
?=)?t.h? ) FLOUR   Self'Raising  It MaKes Perfect Pastry, Scones, d-c. i SOlE WHOLESALE AGENTS— I MORRIS & JONES, Limited, | Liverpool as%€§ I
Advertising
Beaty Bros ltd. I MILITARY TAILORS. OFFICERS' UNIFORMS OF EVERY KIND. ALL ACCESSORIES FOR FIELD SERVICE. I LOWEST POSSIBLE PRICES. ONLY ADDRESSESi] I I Church St. and London RdsJ II LIVERPOOL. Cloae at I mm Open all da, Saturdays. ■ 'Phone—392S Ban!s,fj 12J 580 Bootle, W. Bnffiins & Sons. ,military, Naval & Civil Tailocs, 29SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AM 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Complete Military Outfits DWAM*I SWORDS ?3/- with Sword Knot Nett. Send for Price List. A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw petkan'n iroi'n niwlog ac anelwig? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgeulso- Gallwn ni, IYda'n hoffer gwyddonol, ddwsyd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyllenwi a'r rhai a barai fwyaf o leai chwi. Galwch heddyw- ARCHER & Sons Ensilht Specialists, f 3 LORD STREBYi I Sefydlwyd 1848. LIVERPOOIC, MORRIS EVAIm MINIIS9 Household Oil 1 IS STILL ahead of all other remedies FOR Hbeumatism, BelLntiLCEL9 JLtULXXlfostgO, and WOIAIMCIS, of all kinds, In bottles 1/3 Q 2/9 Grocers & Chemists, or direct for abort prices from MORRIS EVANS & Co., THE MAKOTAOTOBY, FESTINIQGi N b WALES, LIVERPOOL The "SnAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, About < mitu. wetli from Lint ri, Cmiral Stat nt, > A First-olssss Jaasparaaoa Hotel. Moderate ob rok.. Shaftesbury Hotel, L'pool." Ph&nt; ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphoafl and Bottiee, SODA WATER, POTASH WATBR, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL D. GRIFFITHS iD SON «&221 BrecK Rd,, and 9 Moss St.. L'peol.P Pianos by all the leading makers. From St-cer month. From St- Aafleld A 3771 40YAL. Cofiant y Parch. John Jones, Talysarn. GAN Br. OWEN THOMAS. Fe] newycki. Llian, 7s. 6ch. Swyddfa'r .'Brython,* Lerpwl, ROBERTS EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KirRdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royml.
Trem 1-"1 gyd efa'n gllydd."
Trem 1-"1 gyd efa'n gllydd." MAE rheswm da i'r cri pur gyifredinol mai'r un peth mawr y dylai pawb yn y wlad hon ymroddi iddo ar hyn o bryd yw ceisio dwyn y rhyfel i derfyn buddugoliaethus. Anodd meddwl am ddim mwy ynfyd ac anwladgar nag ennyn tan cynhennau ac ymraniad au fel Hg i beryglu'r cydweithrediad llwyraf i'r amcan hwnnw. Gresyn i ddim ddigwydd a barai chwalfa ar y Llywodraeth brasennol, pa mor fawr bynnag ei diffygion, canys dodai hynny ddeunydd chwedlau celwyddog i'r gelyn, yr hwn, yn ol ei arfer a'i fedr dihafal, a ddefnyddiai'r fatb beth i'w bwrpas ei hun, ymysg ei bobl ei hun yn gystal a gwledydd omill-yn emvedig y rhai sydd hyd yn hyn faeb gymryd oehr weith red 01 yn y rhyfeL Nid ydym yn synnu dim o ddeall mai dyma gri rhai o'n trefedigaethau teyrngar ac egniol. Daw eu llof atom dros y moroedd am inni adael heibio bob cwerylon, ac hyd yn oed y gorohwyl o dynnu digwyddiadau Galipoli a Mesopotamia trwy feirniadaeth gyhoedd y Senedd. Maent am i'r anffodion a'r cam- gy-meriakia-ti a-ros eu tro hyd nes bo'r un peth gorbwysig hwn wedi ei sicrhau—buddugol- iaeth Iwyr a llawn ar Filwriaeth Prwsia, a dyinchweliad y Gallusydd wedi gyrru Ewrop yn oddaith o lid, yn chwalfa dinistr, ac yn afonydd o waed dynol,—dymchwelyd grym y Caiser, fel na bo'i ofn ar fyd gwareiddiedig o hyn allan. Oes, mae 11a,wer iawn o resymau dros y ddadlhon, a gresyn fod rhyw ddynion penboeth, dibris, ystyfnig, a chrancyddol, yn codi rhwystrau diangen ar ffordd yr Ymher- odraeth ynghanol yr argyfwng difrifol hwn. Yn sicr ddigon, mae rhywrai ar fai dybryd ynglyn a helynt y Werddon. Pan oedd arweinwyr cydnabyddedig yr Ymreolwyr ac Undebwyr Ulster wedi cytuno ar gynllun gweithiadwy am y tro, hyd derfyn y rhyfel, mewn cyd-ddealltwriaeth a Mr. Lloyd George, mae'n anfad o beth ddarfod i neb arall geisio atal llwydd y cynllun, Ymddengys ar yr wyneb yn rhyfedd ddarfod i ddim gael ei ddwvn i fewn eran v Llvwodraeth a barai. i raddau helaeth, ddirymu dim ar yr hyn y cytunasai Redmond a Carson a Lloyd George arno, na dim hyd yn oed a ymddangosai fel pe'n gwneuthur hynny. Prun bynnag ai cryfder nifer o Undebwyr yn Nhy'r Arglwyddi ai gwendid Mr. Asquith, neu y naill a'r llall, sydd. gyfrifol am y rhwystr, fe deimla'r mwy- afrif mawr o boblogaeth y wlad na wnaed y goreu o'r cyfle a gynhygiwyd i'r Llywodraeth trwy gyfryngwriaeth Mr. Lloyd George. Gall mai digon gwir fod y bobl y mae Redmond yn gynrychiolydd iddynt yn yr achos hwn yn anfodlon ar y cynllun cynygiedig, ond mwya'n y byd o reswm oed,d yn erbyn rhoi achlymr i Mr. Redmond i droi yn ei dresi a rhaid, cyd- nabod iddo gael esgus rhy dda i wneuthur hynny, yn yr hyn a ddywedodd Arglwydd Lansdowne yn Nhý'r Arglwyddi. Gresyn gresyn Dyma'r Werddon wedi dod i ymyl sylweddoliad go helaeth o'r hyn y bu'n ym. dreehu'n ddewr amdano am lawer cenhedl- aeth, ond yn peryglu ei hvydd, ac ar yr un pryd yn peryglu undeb a chydweithrOOiad yr Ymherodraeth pan y mae hi'n ymladd am ei bywyd. Sonia rhai am ymddiswyddiad tebygol Mr. Lloyd George, a Mr. Asquith mewn canlyniad i hynny. Ond nid mater hawdd na diberygl fyddai newid ceffylau ynghanol y chwyrnljf hwn. Heblaw hynny, pairsyniad cyffredin dyn am chwarae teg iddo awyddu am i'r dynion a ddygodd faich gofalon a phryderon yn yr Annagedon aruthr hon barhau yn eu swydd erbyn bore'r fuddug- oliaeth. Aefely cryfha'rsi(,,i-wy(!(i am y bore hwnnw, diau y bydd rhywrai uchelgeisiol yn ba-roci i ymwthio i awdurdod, fel y derbyniont Itwy y clod. Hoffem ni i Asquith a Lloyd George, yn anad neb, fod ar ben y bryn pan dorro'r wawr, a phan genir Can Hoddweh unwaith eto. Gwyddant yn dda beth fu I cerdded yn y pant, yn y niwloedci, trwy gorsydd siglemiog, ac ynghanol dryeinoedd. ond da-liasant ymiaen ar eu taith, gan gyrchu yn ddiencil at y nod. Ond gobeithiwn y bydd iddynt hwy ac eraill ddod ar unwaith i'r cyd- ddeall a bairi achos y Werddon ymlonyddu- o leiaf hyd oni chy flawner y gwaith y mae rniloedd o lewion yr Yinheroclra,etli, o bob cenedl fel ei gilydd. yn gwaedu i farwolaeth erddo.
Trem ll-Addysg Cymru wedi'r…
Trem ll-Addysg Cymru wedi'r Rhyfel. Ond er na ddylid codi cwestiynau rliwvstr i'r undeb angenrheidiol i effeithiolrwydd ein hymgyrch yn erbyn y gelyn, mae'n eglur y dylai poblogaeth y wlad hon, ac yn arbennig y Cyinry, fod yn effro i symudiadau sy'n cych- wyn o'r Llywodraeth gyda golwg ar y sefyllfa newydd wedi'r rhyfel. Nis gall y bydd llawer o sefydliadau a threfniadau presennol y Deyrnas Gyfunol yn parhau'n gyfryw ag ydynt. Mae'r Llywodraeth, ac arweinwyr dyianwadol ar wahanol linellau o'n bywyd cenedlaethol, eisoes yn edrych ymiaen, yn awgrymu diwygiad.au, ac yn ceisio creu gog- wydd ac agwedd. ffafriol i'rcyfryw ym medd.wl y oyhoedd. Dyma fath ar gwestiynau na raid iddynt fod yn rhwystr i yingyreh y rliyf el, nac i efieithiolrwydd y Llywodraeth, er y gallant fod yn de^tynaii dadl a thjr-afodaetli. Er enghraifft, mae pwnc addysg yn ymwthio i'r golwg o amryw gyfeiriadau, canys fe deimlir fod y rhyfel wedi datguddio llawer ynglyn a'r mater hwnnw, ac y rhaid wrth gyfnewidiad.au go fawr yng nghwrs yr addysg a gyfrennir ar hyn o bryd mewn colegau ac ysgolion. Cof gennym am anerchiad a draddodwyd. gan Arglwydd Rosebery, flynyddoedd yn ol. Ei ddadlydoedd nad oedd llawero adctysg y prif- ysgolion yn ddigon ymarferol i ofynion y gened.l yn gyffredinol. Condemniai'r gor- mod lie, yn ol ei farn ef, a. roddid i'r ieithoedd meirwon, gan esgeuluso'r ieithoedd byw—yn enwedig yr ieithoedd a'r wybodaeth angen- rheidiol ar gyfer trafodaeth a gwaith cyffred- inol ac ymarferol bywyd mawr y byd. Ac yr oedd ef, y pryd hwnnw, yn ein cymhara'n anffafriol a'r Eilmyn o ran, ymarferoldeb. Ymddengys fod yr un pwnc yn ymwasgu ar feddyliau arweinwyr addysg yn y wlad hon, yng ngoleuni'r rhyfel, a chyda golwg ar y dyfodol, a bod y farn gvffredinol yn cyng- haned 'u'n bur glir a'r hyn a draethwyd gan Arglwydd Rosebery dro byd yn ol. Faint bynnag o werth sydd mewn hen ieithoedd clasurol i berffeithio pennau ysgolheigion, fe gredir fwyfwy y rhaid wrth fwy o le i'r addysg a berffeithia ddwylo cenedl mewn galwedigaethau ymarferol. Daèleuir dros ddysgu'r ieithoedd a eb yfrayinu'r wybodaeth a gyfac'dasa'r cenedlaethau a ddaw i ym- drafod cymdeithasol, llenyddol, a masnachol a theymasoedd mawrion y byd sydd yr awr hon. Ynddiweddar, fedraddododd Arglwydd Haldane araith bwysig ar y mater yn Nhý'r a thynnodd gryn lawer o sylw. Gwehvn, hefyd, fod arweinwyr addysg yng Nghymru wedi deffro i bwysigrwyd.d cenedl- aethol y pwnc i ni. Gwel rhai ei bod yiVbryd gwylio'r hyn a all fod ymmryd y Llywodraeth, ac ofnant fod tuedd. mewn rhai cynliygion a awgrymir i fod er anfantais i Gymru. Gwel- som hanes cyfarfod a gynhaliwyd ym Mon, ymha un yr amlygid fod y gogwydd presennol i osod gormes Seisnig ar ein colegau, a phas- iwyd penderfyniad eryf i'w anfon at yr awdur- dodau. Anodd iawn yw cael gan y Sais i gydnabod yr iaith Gymraeg fel un o werth yng nghwrs ein haddysg genedlaethol, ac fe fynedrych arnifelanffod i'wgodd.ef,acnid fel rhagoriaeth i'w feithrin. Ac nid yw'r Sais hyd yn oed heddyw, yn deall dyheadau a neilltuolion arbeni-iig cenedl y Cymry. Ynglvn a'r mater hwn, mae gennym hawl teg ar wyliadwriaeth ein cynrychiolwyr yn y Senedd, ac ar bob cyngor a fedd unrhyw ddylanwad ynglvn a sefydliadau addysg yn ein gwlad. Rhaid i Gymru weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun yn ei chenedlaethol- deb, a'r fford.d oreu iddi wneuthur hynny yw trwy wylio dechreuadau arfaeth y Llywodr. aeth, a bod yn barod i gyfleu ei hachos pan ddaw'r cyfle. Honnir fod y rhyfel hwn, o du Prydain, dros iawnder i genliedloed.d bychain. Gofaler, ynteu, fod gallant little 117ales yn cael ei chyfiawn hawl i ymddat- blygu'n rhyd.d, yn ol ei phriod anianawd a dyheadau, ac nid ei gwasgu i ffurf estronol y Sais.
1 I- -....-Trsm III—Ennill,…
1 I- Trsm III—Ennill, ond heb Orchflifgu. Disglair iaWll yw gyrfa fuddugoliaethus y Rwsiaid hyd yn hyn, a'r gelyn yn dod i fewn i'w rhwydi wrth y degau o filoedd. Dyma'r Cadfridog Brussiloff wedi torri trwy'r rhengau ar ffrynt o 80 milltir, o ddwyrain Kovel i Brody, gan gymryd yn garcharorion 651 o swyddogion, 32,000 o filwyr, gyda thua 100 o ynnau. Gwna hyn y cyfanrif o garcharorion gan y Rwsiaid tua 400,000. Beth bynnag all fod yr achos. ymddengys i ni nad yw'r pwys a roddir gan awclur(loclali milwrol ar enillion y Rwsiaid gymaint ag a ddisgwyliem. Ai tybed fod amheuaeth o gwbl naill ai ynghylch gallu Rwsia i barhau ymlaen, neu fod hyd yn oed eto ryw adnoddau cudd tucefn i'r German- iaid ? Ni wyddom ni. Ond anodd iawn i fed.dwl syml beidio a dod i'r casgliad. na yw pethau fel y maent yn brawf diamheuol fod Rwsia yn mynd yn gryfach, gryfach, a Ger. inani'nwannach, wannach. Yr unpryddiogel- ach yw inni beidio âdisgwyl terfyn buan i'r rhyfel, na derbyn y si am i hynny ddigwydd ymhen "ychydig fisoedd." Daw'r diwedd pan orchfygir y Germaniaid, ac mae'r gelyn yn ymddangos, hyd heddyw, yn benderfynol o ymladd hyd yr eithaf. Ae nid gwan mo- hono, fel y gwelir yn eglur oddiwrth sefyllfa pethau yn Ffrainc. Yr ydym yn ennill, ond
Advertising
L  ———————————————" DONEGAL TWEED CO. DON EGAL TWEED COO UFVOERREPMOOOSLT IS TAILORSO MAKE UP YOUR. MIND TO PLACE YOUR ORDER EARLY FOR THAT NEW SUIT. ———— PRICES AS USUAL. S .t t ".t 30/ NO EXTRA Suit to ".eQSUre FROM C"ARGES. FIT GUARANTED. <ur*iir *u' >u>"u>rmr<uj' IT WILL PAY YOU TO SEE OUR F I d.. S # to 40/ Famous n 190 erge easure I 8 LONDON RD., LIVERPOOL M.?ger JOHN JONES. ♦J-S.'lUUSrEiL" C ro am byth. at 226 HIgh Street# Bangor, .??T.?'?..??S????? ?' 23 Hope Street, Wrexham, to order from 501. ?nd<h?.?..<.h.Ktn?.m.