Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Basgedrtid 0"1 Wlad.
Basgedrtid 0"1 Wlad. TREFFYNNON—DrA'g gennym am wael- add maith Mr. Richard Jones (Yr Hen Flaenor). Bycld yn dd a gan bawb sycki yn ei adnabod ddeall ei fod yn gwella'n raddol, ac fod gobaith cael mwynhau llawer o ffrwyth diddorol Li ysgrifbin eto. Ein dymuniad ydyw ar L:do gael adferiad buan i'w gynefin lechyd, i fynd i mewn ac allan eto ymysg ei frodyr fel cynt.J.D. T GWRES MARWOL.—Ddydd Llun diweddaf, cwympodd Mr. David HoiN-ells, fferm Bengedw. Sir Drefaldwyn, yn farw wrth gerdded ar ol y peiriant lladd gwair. Rernir mai'r gwres eithafol a fu'n ormod iddo. Yr oedd Y11 ddiacon yn eglwys Anni- brnnol y Sarnau. it 0 CAERNARFON.—Braw mawr i bobl y dref lion ydoedd clyvved am farwolaeth sydyn Mr. David I Roberts, draper, Waterloo House, a ddigwyddodd yng Nghricieth bore ddydd Sul diweddaf. Aethai ef a'i briod yno am dipyn o egwyl, ac yn eithaf iach, i bob gohvg. Bore'r diwrnod hwnnw. aeth i gaer batb -dwr oer; cwynai gan-gryndod ar ol dod ohono, ac aeth i'w wely, a bu farw yn y fan. Yr oedd yn frodor o Gorwen, ond yn masnachu yng Nghaernarfon ers cryn hanner can mlynedd, ac wedi ymneilltuo ers chwe blynedd. Yr oedd yn flaenor gyda'r Wesleaid Cymreig; ynwr amlwg a defnyddiol iawn yn y Cyfundeb hwnnw yn ynad heddwch ac yn ddihareb am ei haelioni. Cleddir heddyw (ddydd Mercher) yn Llanbeblig. it HEBRWNG ARGLWYDD NEWBOROUGH.- Claddwyd gweddillion y diweddar Arglwydd New- borough meivn bedd a dorrwyd ar dir un o ffermydd ei ystad yn Llan Ffestiniog, ddydd Llun diweddaf. 0 Lundain y cychwynnwyd y corff-ei gap a'i gleddeu ar gaead yr arch seindorf y Welsh Guards yn cerdded o flaen y cerbyd ac yn chwarae Funeral March Chopin nifer o filwyr y Grenadier Guards yn dilyn jna Syr Vincent Corbet, ei ewythr a'i berthynas agosaf oedd yn y wlad ar y pryd, gan fod ei frawd, yr I Argiwyaa -i\ewoorougn newydd (yr Anrnyct. 1. J. Wynn) gyda'r Llynges ym Mor y Gogledd. Yna aelodau'r teulu, Lady Newborough, ac ereill. Aeth yr orymdaith ar hyd Park Lane, Edgware Road, hyd i orsaf Paddington, lle'r oedd Major-Gen. Syr F. Lloyd a'i staff yno i gy'arfod y cynhebrwng. Wrth fynd i Iwyfan yr orsaf, cerddai pump ar hugain o Grenadiers :a wreath gan bob un i'w dodi ar yr arch, ac ymysg y rhai a aeth gyda'r tren i Gymru yr oedd Arglwydd Harlech, Mr. a Mrs. Halpert, a Miss Chauncey. 'Cyfarfuwyd hwy yn Llan Ffestiniog gan yr Anrhyd. F. G. Wynn (Glvnllifon) ewythr; yr Anrhyd. Mr. Hill; Mr. J. W. Price (Llundain) Mr. Thos. Jones, Agent yr ystad Mri. Wm. Owen, J. Lloyd Jones, a Griffith Jones, goruchwylwyr chwareli'r ardal ac ar ystad ei arglwyddiaeth, a pharti o fechgyn y Scowts. Aed a'r arch i eglwys y plwyf, lie yr arweinid y gwas- ;anaeth gan Esgob Bangor a'r Rheithor T. A.Williams. Yr oedd y bedd wedi ei dorri mewn craig ar dir y fferm, a'i arglwyddiaeth wedi cyfarwyddo yn ei ewyllys ei fod i'w gladdu yn y dull mwyaf syml a dirwysg, a'i fedd yng ngolwg Dyffryn Maentwrog a ymled mor ddiail o dlws o ben y clogwyn lle'r huna'i Iwch hefyd, nid oes dim ond carreg foel oddiar ei ystad i fod ar y bedd, a rheiliau haearn i'w gadw rhag cael ei sathru gan ddieithriaid. Ymysg y wreaths yr oedd un oddiwrth ei gatrawd, y Welsh Guards, ac angor oddiwrth ei frawd a'r aer i'r ystad. tt O'R HEN SIR, SEF SIR FON.— Saboth a chysgod tywyll y Rhyfel yn drwm arno oedd y Saboth o'r blaen yn Llangefni, pan wibiai'r newydd o fin i fin fod y Preifat Jas. Harries Roberts, unig fab i wraig weddw, a bachgen o fucbedd hardd, wedi ei lad.d yn Ffraine felly hefyd y Preifat Arthur Will- iams, mab ieuengaf Mr. a Mrs. Williams, Mona House. Arthur yn 24ain oe(t, ac yn ddyn ieuanc o gorff llathraidd a golygus. Ym- j ddeng,\s mai'r llyn a eilw'r ,yr yn illtiltnelt, ydoedd ei waith, a thra -wrth y gwaith prvsur hwnnw, saethwyd ef trwyi galon. Chwaer iddo yw Mrs. Josephine Lewis, y gantores hysbys, a brawd idela yw arweinydd y gan ym Moriah (M.C.). A dvna ddewrddyn hoff oedd y Lifft. Torwerth Griffiths, mab i Mr. a Mrs. Griffiths, Worcester Roar, Bootle .cyn dyfod i'vvced, vs y d.-yweiiir, aeth i wiad' lie nad oes cvfrif oeiran o'i mewn. TCi fam o Fodfforld a'i dad o eras Llew Llwyfo. Ym Modffordd y trenlioèd ei fljnycie.oedti di- weddaf, a bu yn Ysgol Sir Llangefni, ac yn ffefryn gan bawb yno a phan dorrwyd y newydd i'r Ysgol, wylai pawb yn hidl. Sibrydir, a hynny oddiar awdurdod. fod ym mryd yr Annibynwvr i wahodd y Parch. Llewelyn Lloyd i'w Cymanfa nesaf, a gy nhelir yn Llangefni. Talu'r pwyth i'r M.C. ar ol i'r Parch.O.L. Roberts fod ynySasiwn ynLlan- nerchymedd. Tebyg na chollodd Mon yr un gwr cyhoeddusach na mwy blaenllaw na'r Henadur A. McKillop, a gleddid ym Mheniel, Llannerch y medd, ddydd Llun cyn y diweddaf. Efe'n byw yn y Ty mawr, a'i fywyd yn fwy na'i dy, ac na'r Llan. Ni wel- odd y Sir wr mwy aml-ganghennog ei fywyd, na neb y n fwy o bwyllgorwr. Fyth ahefyd ar hyd y lynyddoedd yn cynadledda a phwyll- gora. Am chwarter canrif yn warcheid wart, yn YnaJ Hedd am un mly ned d ar hugain, yn gadeirydd y Fainc am un mlynedd ar ddeg, ac yn gadeirydd Bw-rdd yr Undeb am ddeu- tJdeng mlynedd. Yn ddiacon cadarn gyda'r Annibynwyr, a bwlch Uydan a dwfn fydd. ar ei ol yn y capel, ac yng nghwrdd chwarter ei enwa,d,Ile y'i hystyrrid y lleygwr cryfaf. Yn ddirwestwr eidagar, ac yn gefn i ddirwest- iaeth y wlao. Mewn gwirionea J, y r oed d ei fywyd llyd an yn cyffwrdd a phopeth ym mywyd gwleid yddol, addysgol, a moesol y Sir. Dechreuodd ei fywyd fel gorsaf-feistr, a bu yng Nghaer a Thycroes, cyn symud i'r Llan. Dolur y galon oedd ei waeledd, ac nid hir y bu ar ol ei fab Sand y." Cafodd arw yl tyw ysog --tori anferth ei maint yn ei hebrwng i'w orffwysle lonydd. Agos i ddeugain o weini- dogion, llu o Gynghorwyr ac Ynadon Hedd, cynrychiolwyr gwahanol fyrddau, a diacon- iaid lawer. Ac wrth dalu gwrogaeth iddo, -nid oedd atal-dweyd ardafod neb. Gadaw- odd vveddw a meibion a merched, un yn briod a'r Parch. R. Morris, gweinidog ei gapal. Hefyd, Mrs. McKillop, o Rosneigr, yn chwaer yng nghyfraith, a'r ddwy Miss McKillop yn nithoedd. Weithiwr da, boed, y bedd yn orffwysle hyfryd iddo. Pan y clywid Swn y bladur Yng Ngorffennaf ar y ddol,— Aeth i ffwrdd-hen weithiwr prysur— At ei waith ni dd aw yn ol Arfau'i waith o'i ol yn loywon, Ond mor oer ei law yn awr Ac heb wefr ei wyneb tirion Gwag yw'r Llan a'i hoff Dy mawr. —Llyyad Agored.
Wrth Grybinio a Myd) lu.
Wrth Grybinio a Myd) lu. I RHWNG Y DDAU.-Dywetiir fod Mr. D. Davies, A.S., we,i dychwelyd. o Ffrainc i fod, yn ysgrifennydd seneddol Mr. Lloyd George a'i tod yn bur debygol felly y ca'r Cadfridog Owen Thomas rhyw swydd a fo'n deilwng ohono ef a'i aberth dros Gymru. Pa beth na allai'r fath ddau ei gael ? CLECIO'U BA WD.-Oncl pa beth bynnag a wneir ag Oven Thomas, erys hyn yn wir Fod Arglwydd Kitchener a'r wlad yn falch iawn o'i gael ar y dechreu, ac mai trwyddo ef y cafwyd, y Fyddin Gymreig o chwarter miliv.n at ei gilydd mor gyflym ac mor effeithiol ond wedi iddo ei chael, ac nail oe-ld eisiau hysio neb ar ol pasio'r Mefmr G-orfod, tro gwael yn yr awdurrlodau oedd clecio'u bawd ar Gymru. I Y GWIR YN GWANU.—Y mas s6n am droi gwas da d, ros y drws yn atgoffa dyn am atebiad yr hen weithiwr hwnnw a gawsai rybudd i ymadael am ei fod bellach yn hen a musgrell Rhoddais ddeugain mlynedd goreu f'oes "yn eich gw asanaeth ac wedi i chwi lyfu'r mer mor lan o f'esgyrn, pa beth a "riaethoch ond eu taflit dros y clawdd i domen yr unemployed Aeth ei feistres fel y galchen o wyn wrth glywe'J pigiad mor finiog ond nid aiff ei gweithred wael yn wyn byth. I P ED WAR CY STUDDIOL.—Dyma bedwar sydd wedi bod yn gystudqiol yn ddiwejdar Syr 0. M. Edwards, Gol. y Cymru Mr. Her- bert Lewis, A.S. y Parch. D. CwyfanHughes B.A., Bryn du, un o bregethwyr ieuainc mwyaf addawol Mon; a'r Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, golygydd Y Tyst Annibynnol, ac ysgrifennwr cryf a diamwys ei farn. LEWIS EDWARDS A B.D. OWEN.— Y mae gan y Parch. R. Leigh Roose lythyr atgof am y diweddar Rd. Owen y Diwygiwr yn Y Cymro diweddaf, lie y sonia mor gryf oedd y nwyd bregethu yndrlo rhagor oedd, y nwyd efrydu a sgleinio yn yr arholiadau. Dyma un digwydiad a goffheir am ei dymor yn Bala :— Un pry nil awn, yn ystafell eang yr hen goleg, traethai Dr. Lewis Edwards ar ddiwinyddiaeth, agofy'nnodd y cwestiwn canlynol,—' Which is the first, the greater and more important of the two, Justice or Law ? Nid oedd neb yn ateb am ennyci, yna edrychodd ar y h.vrdd lie yr oedd Richar(I Ow en y n eistw- d, adywedai: Mr. Richard, Owen, will you answer that c,,iestior, ? G,, n,f, syr, os caniatewch i mi ateb yn Gymraeg.' Cewch, Rich- ard Owen/ nief'd ai'r Doctor, 1 ateb vveh yn Gymraeg.' Diojch i chwi, syr,' medcai yrr efrydydd. Wel, y mae cynawnderyn sail pob cyfraith deilwng o'r enw, ac nid cyfraith syd d yn sail i gynawnder, felly cyriawnderyw'r cyntaf a mwyaf pwysig.' Well, done, Richard Owen, you have well and correctly ansveered.' Yna rhoddwyd cheers iodo drwy i'r holl efryd- wy r guro eu d wylaw, a bu hyn yn fodo ion i godi Richard Owen yn syniad au Dr. Ed wards a'r holl efrydwyr." Y MWYAF YN SIARAD EFO'R LLEIAF.—-A phan welwyd. Dr. Lewis Ed- wards yn cadw seiat yn y Bala ac wrth. fynd i'r llawr i^holi profiadau, a sefyll wrth set hen wr, duwiol ddiamheuol, ond un o'r saint gwannaf ei gynheddfau, dyma rywun yn dweyd :—■ Dacw'r dyn mwyaf yng Nghymru yn siarad efo'r dyn lleiaf yng Nghyrmru y "ddau yn mwynhau cwmni'r naill y llall, a hynny am fod y ddau yng Nghrist, ac felly'n wastad a'i gilydd o ran urcldas a pherthynas a'r Pen." GRADDEDIGION DOLGELLA U. Y mae Miss Morfudd Huws,-sef merch y Parch. W. Parri Huws, B.D., un o olygyddion Y Dysgedyddr-wedj graddio'n M.A. a Mr. Emrys Evans, B.A.,Ll.B.—mab Mr. E. W. Evans, Gol. Y Cyniro-wedi pasio arholiad Intermediate y Law Society. Gan ei fod wedi graddio yng Nghaergrawnt, nid oedd raid iddo basio ond un ran o'r arholiad uchod. Y mae efe bellach yn articled clerk yn swydd fa Mri. Lloyd George a'i frawd ym Mhorth- matlog, y swyddfa hefyd y dechreuodd Dr. Moelwyn Hughes ei yrfa ynddi cyn i'r ias bregethu a bard doni brofi'n drech lawer na'r ias glercio a chyfreithio. Efe oedd clerc cyntaf Mr. Lloyd George. -Ein evc] ymd eimlacl dyfnaf a Mr. John Griffith, prifathro Ysgol Sir y dref, ar farwolaeth ei annwyl fab yn y rhyfel. PABELL UNDEBOL 'KINMEL.-Y mae'r adeilad a godir yng Nghinmel at gadw moddion gras i'r milwyr Cymreig yn cael ei chwblhau'n gyflym, a disgwylir medru cael Mr. Lloyd George yno i'w agor. Y mae'r tri enwad—y Methodistiaid a'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr-yn ei godi cydrhyngddynt. Cyst tua d wy fil o bunnau, ac y mae teulu hael Llandinam yn estyn un o'r ddwy fil. Y mae gan y Wesleaid le iddynt eu hunain, megis yr oedd ganddynt h,vy gaplaniaid yn y Fyddin cyn y rhyfel, fel yr oedd gan y r EglwysWladol. -4;1- ELOR AR YR AEL WYD.-Wrth ateb gohebVdd yn Y Faner, dywed Ysgriblwr mai Tudur Llwyd, Gweirglawdd Gilfach, Llan- uwchllyn (1781) biau'r englyn dwys a ganlyn, a gyfansoddodd wrth ddilyn angladd a elai dros yr ysmtoyn lle'r arferai hen gartre'i bardd fod Dyma'r fan a'r lie y'm ganwyd ,-heno Nid oes hanes cronglwyd Dan y Ne' pa le mor lwyc; |? Llwybr elor lie bu'r aelwyd. Hiraethwr heb ei fath yw'r Cymro. 0 GAERN ARFON.-Bu Se-gt. Noble, mab hynaf Mr. E. Noble, Caernarfon, farn o'i glwyfau yn Ffrainc ac ebe Mr. Wm. Owen (un o fechgyn y dref a glwyfwyd ym mrwydr enbyd Mametz Wood ac a gafodd dd,od ad ref i wella) Diolch i Dduw am un olwg arall ar yr hen dref annwy l Yr oedd ganddo helmet un o'r Prussian Guards yngof-a-chadw am yr uffern y diangodd mor wyrthiol ohoni. CAEL DAWN POB OENEDL.Dym"r doniau a gymerai ran mewn cyngerdd yn Llundain ddydd lau diweddaf er budd y mil- wyr a'rmorwyr Cvmreig Miss Auriel Jones, Mr. Ben Davies, Mr. H. B. Irving, Mdlle. Nilla, Mr. Vladimir Rosing, Mdlle. Cristieh (yn canu alawon gwerin Serbia), Miss Beatrice Evelyn, Miss Dilys J'ones, a M. Vaislav Taniteh. Yr oedd y Countess Plymouth, Miss Olwen Lloyd George, Syr Vincent Evans a Mr. Wm. Lewis yn cefnogi'r peth. FEL or AM DDAF AD.Lladdwyd cynifer a 64 o ddefaid ac wyn gan gwn yn Siir Fon yn ystod y tri mis diweddaf ac y mae yno gryn grasineb rhwng y ffermwyr a'r awdurdod au. 0 LANGOLLEN.—Daw gair o Awstialia fod y Parch. W. Arthur Roberts-brodor o Langollen yrna a aeth yno be] air blynedd yn ol i fugeili eglwys Saesneg, wedi cwympo n farw wrth roi gwers grefydciol i blant yr "$sgol-bob-dyda yn Preston, ger llaw Mel- bourn. -.Qr- GWILI A LLYFR ABERYSTWYTH. -Ebe Gwili'r golygydd yn Seren Cymru Cyrhaeddodd atom raglen Cyrnanfa Ganu'r Eistedo.fod GenedJaethol yn Aberystwyth. Y mae'r casgliad o hen donau yn un pur ddiddorol, ar y cyfan, eithr y mae rhai o'r emynau a gynhwy sir yn galw am eu claddu ers tro. Ni allwn ond cofio am Capelulo a'i Breswy lwyr yr Aifft hyd ei xhopia a phethau cyffelyb, wrth dd.arllen ambell emyn." EYNON A'R PHILISTIA ID.Gwr miniog ei air (racy, chwedl y Saeson) yoy w r Parch: Ej non Davies, sy'n ysgrifennu O'r Babilon Favor i'r Tyst bob wy thnos. Y m ae'r Parch. R. J. Campbell wedi bod yn gocyn hitio ilaw er un ergydio ato er pan neidiodd o'r golwg i fynwes yr Hen Fam OIL nid oes dixri bustlaiod yn ergydion Eynon ac y mae hon yn un Ida i'r professional paragraphists, a'i heisiau arnynt ers talm Pry sur iawn yw gwyry wasg y (yddiau hvn ynglyn a phenodi gweinidog newydd i'r City Temple. Brawd o'r America yw'r eilun newydd, ac y mae ysgrifenyddion "Jawer yn ceisio gwneud allan mai efe yw anfonedig y nefoedd. Ofnirfod hyn VI erli gwneiid iddo fvvy o ddrwg nag o dda. Y mae eglv. ysi, fel rheol, yn bur jealous yn t £ y mater hwn, ac y mae'r busybody ambell waith vn ei sel ddall yn myned yn rhy bell. Nid oes ond gobeithio'r goreu. Gresyn fod pulpud Joseph Parker yn "myned yn sport i'r Philistiaid, a hynny yn herwydd mympwy dyrnaid o anfodd ogion d inod. YSU AM Y SET.—Dyma fel y dywed rhyw ohebydd yn Y Darian "Tynnid crvnlaw er ar y gwifrau, meddai r Weekly Mail, o flaen etholiad diaconiaid "mewn capel ym. Morgannwg, a chyda hyn mewn golwg cynhygiodd pwyllgor eis- teddfod leol wobr am yr englyn goreu i'r Set Fawr, ac ",ele'r buddugol 0 holl wych orseddau'r llawr—chwen- Uchel sedd y blaenawr [ychwn Wy'n darfod gan boen dirfawr, Sut ai fewn i'r set fawr." A phair nodyn dyn Y Darian i ninnau gofio mai'r ochenaid ddwysaf a mwyaf chwerw a glywsom erioed oedd honno gan wr siomedig am y Set wrth iddo ddolefain :— Set Faw r, ond nid set i fl." Bu'r Esgob Edwarcis, Llanelwy, yng Ngholwyn Bay ddydd Mercher diweddaf yn cysegru egl-A ys nev^ydd St. George, Whitehall Road. Cyst £ 7,345, a L2,900 sydd eto heb ei gael. Dyma rai Cymry sydo wedi cw ympo a chael eu lladd yny rli-, fel Lance-Corporal Geo. Wynne, mab Llys Tirion, Llanrwst. Preifat Joseph G. Jones, 2 Rose Cottage, Penmaen- rhos, Hen Golmyn. Major R. H. Mills, brawd Mr. Mills, Veterinary Surgeon, Caer- sws. Lieut. Llewelyn Lewis, nai Syr Henry Lewis, Bangor. Capt. Arthur Pryce, Tra- llwng. Sergt. F. Rowlands, Sea View, Trallwng (ac iddo bed war brawd arall yn y Fyddin). Mab rheithor Caerwys,—y Parch. Sinnett Jones-yn 19egoed, ac yn ddisglair eithriadol ei yrfa addysg. Preifat Wynne, Gw:ern y Mynydd. Corp. Bert Williams, 85 Wrexham Street, Wyddgrug. Preifat J. Williams, Coedllai. Preifat David Thom- as, Glanrafon Road, Wyddgrug (ar goll). Lance-Corp. Eddie Williams, mab y Cyng- horycld Edward Willians, Y.H., Morannedd, Abergele. Preifat Wm. Davies, fferm y Gwreiddyn, Abergele. Preifat Isaac Roberts, Pwll Coch, Lance-Corporal Iorwerth E. Roberts, R.W.F., mab ysgolfeistr Corris.
Advertising
Liverpool Guardian Trade .Protection Society 'Phone 4885 Bank, '.Vird'i" :"r>1'Hti,}¡) The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY. A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board 01 Honorary Directors. or terms writa- F MEATHER, Secretary, 41 North John Street, Liverpo 0 .,Telephone-Anfleld. 809 155 KENSINGTON. I LIVE PPO OL. R. m, FUNERAL DIRECTOR- All Orders personally attended to throughout. J P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELEPHONE-261 BOOTLE. "TELEPHONE-575 ANFIELD. J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVE R TO N 40  Street, EVERTONP and 55 R?ctt Roa LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Why go to Town ? When the BOOTLE Shorthand & Typewriting ACADEMY, 4 TRINITY ROAD, I give pupils a practical business training in Shorthand, Typewriting, and General Office Routine equal to any City School. No F. =. Day and Evening Classes. Apply Principal. BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, Yosts, Smith, Premier, Barloctas, Em. pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, from 1,2 new condition, See the REX £ 23 worth for 1H guineas. -LONGMORIIC, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. COOK i TOWNS"[N.D Special Value this week. Boys' Oilskin Coats, 8/6 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats, 14/6 to 21/6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suits. 12/6 to 15/6 15/6 to 21/6 Boys' Covert Coats, 12/6 to 21/- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. For Baths, Lavatofie<,CIoee?s, Brass Fittings F Lead Pipes, etc., apply to— JAMES CHEW 6 CO., Plumbers' Merchants & Brassfounders, Sel. No 58 6 60 PARADISE STREET, Bank 3402. LIVEJkPOOLi Manufacturers of Copper Cylinders, Boilers, and Gas.Washing Boilers. DIM TAL U YldljAR-K LLAW. ARIAN YN FE^THYG. iyn ddifitavv bach), rnewn symiau bach neu ft,* (heb fod llai na £ 105 4JR iDDAWEB T BENTHYCIWH II HU 8BFYDLWTD 46 MI.YKUDD, ac yn awr yn rhot £ 80.000 YN FENTHYG BOB BLWTDDI1 Am daflen a thelsrau ymofynnera George Payne a'i Feib., S Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lang, Liverpeoh PAINLESS DENTISTRY. J. P. (Son of the late J. Lampiough, for many years in the Dental Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Hours-10 a.m. to 8-30 p.m. Consultation free. Tel. 245 Anfield. IN a letter home a soldier writes :—" It is hard to -L find a clean soldier now. The belt you sent me is splendid, and every man out here should be provided with one." He refers to KENNEDY'S KILL-LICE BELTS, which absolutely repel vermin and disease. I Help your boy to keep clean. 3 Baits for 1 All Chern ists. 1/6 each, or post paid anywhere from KENNEDY. 2 Park-rd, Liverpool. —————————————————————. I For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, I18S6 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 ø 0 0 Telephone i2131 Royal. V s as DAVIES'S SECOND-HAND PIANOS For Cash. A GREAT CLEARANCE SALE. Special Opportunity. Sale Price Worth £ 10' /17 ROSEWOOD Beautiful Mcdel sweet tone; good appearance light tcuch. 118 112/17 GHALLEN. Handsome walnut, panel front, sconces ivor) keys, good tone Ago 115/1 0 DREAPER. Beautifully carved, walnut case, rich tone. nice touch very handsome piano £!6, 116/16 ERARD. Magnificent concert semi grand, very powerful tone and respons= ivetouch grand condition f45 £ 18/18 HOPKINSON. Brilliant tone and elastic touch, walnut case; very superior instrument in perfect o rder 12 1/10 BRINSMEAD. — Rose- wood, ivory keys, powerful and brilliant tone, perfect touch wonderful bargain III 124/10 COLLARD & COLLARD. ———'—— High Class Black Model. great brilliancy and power r of tone, and faultless touch, 7 octaves, trichord a mag- nificent piano bargain £ 25/' 10 KIRKMAN Genuine Bargain.- Handsome wal- nut, high class instrument, perfect check action, fault- less tone and touch only wants seeing 28/10 OVERSTRUNG, Walnut Art Model de Luxe, iron frame brass pin plate, trichord full compass, unsurpassed for touch and tone, of wonderful mech- anical perfection, almost human in response and sympathy of soul; like new; great bargain. £ 40 NOTICE.- Attention is directed to the above Piano Bargains offered for flashy offering a saving of fully 108. in every pound. Full satisfaction guaranteed. Inspeetion invited. DAVIES'S, 30 LOW HILL. LIVERPOOL. Closed Wednesdays at I. Open Saturdays until 9.30. Old Swan Car from all stations. Fare, One Penny.