Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ipr GOSTEG. t - , GOizi j,4…

D :*diaduh. i !

ICyiioeddwyr y Cymod I

Advertising

t IBasgedaid o'r Wlad.

Sl AFELL Y BESRDDI

Family Notices

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

Parhad o tudal. 5 mis cyntaf o'r flwyddyn. Wedi iddo wneud hynny, galwyd ar Mr. Griffiths (trysorydd yr eglwys) i ddweyd gair; ac wedi dwyn tystiolaeth uchel i ffyddlondeb mawr Mr. Parry Williams am yn agos i ddeng mlynedd, cyflwynodd iddo, ar. ran yr eglwys, treasury note case hardd. a Rawer iawn o currency notes j ynddo, yn cynrychioli swm sylweddol 0 avian. Siar- adwyd i'r un cvfeiriad gan y Parch. T. P. Davie", J. T. Williams, Aaron Evans, Caracog Price, A. T. Evans, John -Hughes, E, Herbert Jones far gan), E. If Roberts a John Davies. Yna cafwyd gair 0 daiolchgarwch gan Mr. a Mrs. Parry Williams. Yroedd teulu Seaview RODel wedi harddu'r ysgoldy a blodau fel arfer, a diolphwyd iddvnt. Yr oedd tad Mr. Parry Williams yn bi.esennol, a llawenvchai'n ddlau weld ei fab yn c'lcl ei -E,H.R. Fel hyn y cano d d yR, Ii. j..3,;cs :— Pwy a anrliydeddi 1 'Rhwn mae pawn A I Parry WiJiU:nis I Anrheg fach o waelod calon, I'r ysgrifennydd medrus, ffyddlon, Parry WrUiams." Pwy iavut-ia yn ddioiffwys ? I Pwy rydd oreu ei oes i'r eglwys ? Parry Williams I Gwyr pa beth. yw hunanaherth, Nid oes dim yn ormod trafferth Gan Parry Williams." Nid y swm yw gwerth yr anrheg, Mr. Williams, Son wna'r rhodd am lawer chwaneg— Son am barch a sercb cydnabod Tuag atoch chwi, eich plant, a'ch priod Son am iechyd hoen, a hindda, A'r oil i deuln Haddon Villa. DYDD O YMOSTYNGTAD.—Mae Esgobion Eglwys I Loegr, ac arweinwyr yr Eglwys Rhyddion, wedi trefnu fod ySul cyntaf 0 Awst i fod yn Sul o y mostyng- iad gerbron yr Arglwydd, ac i ymbil arno am derfyn buan ar y rhyfel. Ond ymddengys fod rhyw gam- ddealltwriaeth ymysg eglwysi Cymreig Lerp\Vl'l Credai rhai am fod cyn Ifer yn arfer mynd o'r dref dros y Sul hwnnw, mai gwell fuasai penodi Sul aral] ond gan toci yr awdurdodau wedi gwneud 1 ttwrdd a r holidays, nid yw'r rheswm yna'11 sefyll ar y ffordd. Da iawn fyddai i arweinwyr y gwahanol Gyfundebau adael i'r eglwysi wybod trwy gyfrwng Y BRYTHON yr wythnos nesaf beth a fwriedir ei wneud, fel y gellir trefnu, a chyhoeddi'r Sul olaf o OrlTennaf, MARWOLAETH MRS. EDWARD WILLIAms.-Nos Sadwrn, Gorffennaf 15, bu farw Mrs. Edward Will- iams, 2 Newman Street, Liverpool, ar ol blin gystudd yn 46 mlwydd oed. Merch hynaf ydoedd i John ac Ellen Rowlands, Peryddon, Penmorfa, a chwaer i'r Parch. Caradog 1. Rowlands, Llanrhaeadr. Mae ei thad wed; ei rhag-Baeau ers llawer o fiynyddoedd ond mae ei mam yn fyw ym Meddgelert. Daeth Maggie i Liverpool tuag ugain mlynedd yn ol; ac ar ei phriod- as a Mr. Edward Williams, bu yn aelod ffyddlon a gweithgar o eglwys M.C. Stanley Road. Cymrai ddiddordeb yng nghyfarfod y chwiorydd yn York Hall. Yr oedd yn fedrus, a gwnaeth ei rhan yn dda. Gwraig garedig meddai lawer o gyfeillion, a gofalai am eu cadw ar ol eu cael. Bydd lliaws yn hiraethu ar ei hoi. Cydymdeimlir a'i phriod a'i hunig eneth fach, a'i mam, Mrs. Rowlands. Claddwyd ym myn- went Longmoor Lane, a gwasanaethwyd gan y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. Y trefniadau yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones. Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth, daeth gair fod ei nai, Mr. D. J. Williams, a arferai letya gyda hi cyn i'r rhyfel dorri allan, wedi ei ladd yn Ffrainc. Efe'n wr leuanc tuag ugain'oed. yn fab Mr. a Mrr. Williams, Criccieth, yn aelod o eglwys M.C. Stanley Road ac Ysgol Sul York Hall. UN o LANCIAU DUWIOLAF LERPWL.—Gadael yr ardal hon i wynebu maes y frwydr yr oedd ein pobl ieuainc yn ystod yr wythnosau diweddaf; ond ddechreu'r wythnos hon, aeth un o'n bechgyn hawdd- garaf i wynfyd, a heddweh tragwyddol. Cyfeirio yr ydym at Mr. Lewis Williams, Rathbone Terrace, Groeslon. Yr oedd llu mawr o drigolion Liverpool yn adnabod y gwr ifanc uchod. Treuliodd bum neu chwe bJynedd yn Compton House. Bu am ran o'r cyfnod hwn yn aelod ffyddlon yng nghapel M.C. Edge Lane, ac wedyn yn Chatham Street. Yr oedd yn gymeriad prydferth eithriadol, ac yn hynod gymer- adwy ymhlith ei gyd-wasanaethwyr yn Compton House. Ffordd ambell un i ennill poblogrwydd ydyw ymostwng i gyfarfod chwaeth isel, ac efallai mai hon yw'r ffordd rwyddaf hefyd ond fe aeth Lewis yn boblogaidd trwy fyw mor debyg i Grist fel nas gallai undyn beidio ag edmygu ei gymeriad tlws. Anodd fuasai cyfarfod a dyn ifanc ag ynddo gynifer o rasau crefydd, a'r rhai hynny'n addfed ac iach. Nid oedd yn sych-dduwiol. Pe felly, pwy allasai ei garu ? A dyweder a fynner am yr oes, y mae hi'n ddigon sensitive i deim!o reality pan geir ef cafodd ef yn y gwr hwn, a hoffodd ef. Yr oedd ei addfedrwydd crefyddol yn peri i ddyn gredu syniad Wesley,—fod yn bosibl i ddyn gyrraedd perffeithrwydd Cristnogol ar y ddaear. A phan fyddwn i yn ymddiddan ag ef, byddwn yn tybio ei fod wedi cyrraedd uchelderau yn y byd moesol ag y mae yn amhosibl pechu yn- ddynt; ac fe gyrhaeddodd yno trwy goncwest, a hynny'n hollol deg. Yr oedd yn ormod o foneddwr i wneud cam hyd yn oed a'r diafol. Yr oedd ganddo lu o gyfeillion yn Lerpwl; ond Iesu Grist oedd ei gyf- aill goreu,—ni flinai'n son amdano. Soniai lawer am Lerpwl a'i chrefydd, ac ni roddai dim fwy o loes iddo nag awgrym a chysgod o amheuaeth ynddo am gref- ydd yr eglwysi. Nid oedd yn ddall i ddiffygion y dref, ond credai fod yn rhaid fod rhywbeth gwreiddiol ddrwg mewn pobl na allent fyw yn dduwiol yn Lerpwl. Nid oedd yn bosibl cael gwell blaenoriaid a gweinidog nag a geir yn Chatham Street. Ni flinai'n canmol Mr. Bebb ac eraill, yn ogystal a'r Parch. R. R. Hughes, B.A. Bu'r cyfeillion hyn yn ffyddlon a charedig tuhwnt iddo yn ei waeledd blin a maith. Dioddefodd y cwbl yn dawe!. Tybed a oes rhyw argyfwng yn rhoi mwy o brawf ar ddyn na marw ? Aeth ein cyfaill trwyddo'n arwr anfarwol. Nid anghofiafei ddyddiau olaf. Yr adnodau a'r penillion y pwysai arnynt, ac yr oedd yn llawenydd i'm calon gael prawf arall ym marwolaeth Lewis Williams fod ein crefydd yn dal. Dywedodd bethau tlysion iawn yn ystod ei gystudd. Clywais ef yn dweyd nad ofnai farw,-dymunai gael mynd, Canys llawer iawn gwell ydyw," ebai, agwen o fwynhadpur ar ei wyneb Dywedodd y darn pennill hwnnw ryw noson neu ddwy cyn marw:— A chanu am ei ddirfawr boen Byth gyda hwy; ac wrth ei ddweyd gwrandawai fel pe bai'n clywed y canu hwnnw. Y diwrnod cyn iddo farw, dywedodd wrth ei annwyl fam ei fod yn mynd adre'n araf bach bach a chafodd fynd yn ddigon araf i gael golwg ar olygfeydd y glyn olaf Claddwyd Gorffennaf 15, ym mynwent dawel, Brynrodyn. Gwasanaethwyd gan y Parchn. E. Arfon Jones, Brynrhos J. Jones, Brynrodyn; J. Knowles Jones, Abergele; T. P. Williams (B.); a Mr. a Mrs. Hugh Hughes yn yr angladd dros Eglwys Chatham Street. Pa sawl athrylith aeth i'r glyn Yng nghanol hoen ac irder oes, Ac ar ei hysgwydd graith y groes, A'i llwybrau'n waed wrth droed y bryn ? Fe wclwyd ambell ddeilen grin Ar hlTbr gobaith yn y byd. Ac ambell fedd a ddwed o hyd Am dalent glwyfwyd yn y driii. 'Roedd goleu'r wawr yn lliw ei gwedd A phroffwydoliaeth glts-tcn nen Yn goron brydferth ar ei pnen Ond cojlwyd hi yn niwi y bedd. Mi glywass ddengwaith (ideclir, u cerdd A wnaeth fy nghalon oer yn dan Rhyw ddarn o'r nefoedd oedd y gan, and co'lais hi dan ywen werdd. Yng ngwanwyn bywyd beth mi or brudd A thalent loew ar ei thaith Yn gorfod marw dan ei chraith, Cyn cyrraedd grym ei banner dydd. ? Mown j'au y gwela i s ef, Hcb we'e d dim ond ta li i- grin; Ond goieu ddaw ar adfyd blin, Pan'd un i Dduw yw'r byd a'r nef. Tu hwnt i'r lien coir gwanwyn gwell, Tt sjrsvyddo! Fai a'i irddail gwyrdd, NJ fema un o'i flagur fyrdd, Cant dyfu 'm aen i'r gwynfyd pe'1. E. Ar j on Jones WTL ROLANT DWP.—Annwyl Syr,—Mae'rnewydd vola.eth'Cranogwen yn dwyn i'm cof ddigwvdd- iad go ysmala a achlysurwyd gan destyn un o'i au oedd mor boblogaiddyr adeg honno. Pan ocddwn yn fachgen pur ieuanc yn byw yn ardal Beth- e,da1 ac yn gweithio yn chwarel y Penrhyn, trefnwyd i Granogwen draddodi darlith yng nghapel Jerusalem ar Tubzcnt Z"r MyKy?o?? Creigiog. Go sod wyd bysbyslenni breision ar leoedd amlwg drwy'r gym- dogaeth, i dynnu sylw ati. Bvddni Wm: Rolant bron bo 0 amser ar 0], ac ar frys gwyllt yo mynd i'r gwaith ond yr oedd wedi. cael cipolwg ar y poster wrth basio'r bore hwnnw, ac meddai ar yr awr ginio yn y caban bwyta Wyddoch chi be, hogia, mae na ryw ddvn- as yn darlithio yng nghapel lerusalem, mae hi tu bwnt i MynyddgT Y di wir," ychwanegai, mae'r I papur sydd ar y graig fawr yn dweyd hynny."— J. J'-nes, Fell Street. I Y DIWEDDAR THOMAS DAVIES, BROWNLOW I HILI..—Annwyl Syr,—Yn ein nod iadau coffa am y I diweddar Thomas Davies, gadawyd allan o blith y perthynasau, enw Mr. J. R. Jones, 9 Karslake Road, Sefton Park (cefnder). Drwg gennym am yr amryfusedd.— Y NODWR. TEML GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, anrhegwyd y Br. D. Evans a I set o carvers, ar ei fynedd i fyd y fodrwy.. Cyflwyn- wyd yr anrheg ar ran y Deml mewn modd donio] gan y Br. Parch. D. Jones. Pasiwyd cydymdeimlad ¡ a'r Br. R. R. Williams, Botanic Road, yn ei brofedig- aeth o golli ei frawd, yr hwn a fu'n gwasanaethu yn Compton House am rai blynyddoedd hefyd pasiwyd i anfon llythyr o gydymdeimlad a'r Preifat R, Glynne Davies, mab Mr. a Mrs. Henry Davies, Maxton Road, sydd wedi ei glwyfo, ac ar hyn o bryd yn yr ysbyty yn Rochdale. Dymunwn i'r brawd annwyl adferiad buan. Hefyd, datganwyd teimladau da'r Deml i'r Br. Oweft Lewis ar ei symudiad gyda'r fyddin i Farnborough. Cafwyd gair gan y Brodyr Griffith Davies, Henry Davies, R. O. Jones, a'r Prif Demlydd. Derbynhvyd un o'r newydd-y Chwaer Doris Halton Morris. Llywyddwyd gan y Prif Demlydd, y Br. John Williams.—Cymraes. I Dan rwymau i ddiolch. I I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL OLYRYDD.—Yr wyfyn deall fod Y BRY. THON yn gyfrifol i fesur helaeth iawn i'm gwneud a'm teulu yn ddyledwyr i wmbredd o gyfeillion o bel j ac agos, yn y dyddiau profedigaethus hyn ein hannwyl fab yn cael ei ladd, a hynny'n peri archoll drom i ninnau. Wel, y mae'r ymweliadau personol a'r llythyrau-ugeiniau ohonynt—a'r cwbl yn llawn o gydymdeimlad, yn. troi'n olew i'r archoll. A gaiff Y BRYTHON eto fod yn gyfrwng i gario ein diolchgar- wch ni fel teulu i bawb, o Bedford i Ddolgellau, a der- bynied swyddogion ac eglwys Bethlehem eu rhan. Buont fel mur o dan o'n hamgylch, a derbynied y teuluoedd hynny sydd mewn cyffelyb amgylchiadau -a mawr yw eu rhif-ein llawn gydymdeimlad. Diolch i'r BRYTHON hefyd am ei eiriau caredig.— D. T. JONES a'r teulu, 55 Faraday Street.