Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

gw- GOSTEG.

News
Cite
Share

gw- GOSTEG. CAMWRI CINMEL Pam y symudwyd Owen Thomas ? Dylai'r wlad gael gwybod. Y GERKOD fwyaf dirmygus a gafodd Cymru er ys talm ydoedd ayntud ei heilun a'i gwasanaethwr cenedl- aethol, y Cadfridog Owen Thomas, o'i swydd yng Ifghinmel Credwn y daw'r gwir reswra am y symud hwnaw i'r goleu yn fuan bellach a bydd gennym air go gryf a helaeth i'w ddweyd amdano Hyd hynny, goddefer i'r llythyr a ganlyn ddweyd ei neges; a goddefer i ninnau awgrymu fod penodi rhywun ar unwaith i fynd yn syth i Lundain, at yr Aelodau Cymreig, ac efont hwy i'r Swyddfa Rhyfel, a mynnu cael gwybod y rheswm hwnnw ac nid y gau resymau a roddwyd mor esgusodol gan y Senedd Y mae'r peth yn gamwri rhy bwys;g i'w adael man y mae; ac 7 mae anrhydedd ac enw da ein Seneddwyr Cymreig yn galw arnynt i fynnu cael y gwir ar hyn i elvw gwlad At Oiygydd Y BRYTHON SVR,-Teimlaf nad yw Cymru wedi sylweddoli y camwri dybryd a wnaed drwy symud y Cadfridog Owen Thomas o Kinmel, onite buasai wedi codi fel un gwr, a datgan yn eglur nad ydym am ddioddef y fath ddirmyg a thrais anghyfiawn Pan ddaeth sibrwd fod ym mwriad rhyw bersonau goruchel yn y Fyddin i symud yCadfridog, cymrodd y wlad y mater mewn Haw, a phasiwyd penderfyniadau cryf gan y Cyng- horau Sirol, etc ac anfonwyd hwy i'r awdurdodau rhyfel yn Llundain ac hefyd at yr aelodau Cymreig, etc Mawr ddisgwylid y buasa; hyn yn effeithiol, a skrhawyd ni gan rai eu bod yn gwybod na symudid y Cadfridog ond erbyn hyn, gwelwn fod yr hyn a fawr ofuid wedi digwydd, ac arnom ni fel Cymry y mae'r bai Da iawn oedd pasio penderfyniadau yn gwrth- dystio yn erbyn y bwriad, ond dylesid ar bob cyfrif fod wedi anfon cynrychiolaeth « Lunda;n, ac i rai o'r Aciodap Seneddol f yned gyda'r ddirprwyaeth honno i'r Swyddfa Rhyfel (nid a cap in band deputation, cofier), a hysbysu'r swyddogion yno yn ddifloesgni mai'r unig reswm a dderbyniem fel cenedl dros symud y Cadfridog fuasai nad oedd yn aUuog i gyflawni ei ddyledswyddau'nfoddhaol. Ondni feiddiwyddweyd 4itu ar y f ath bethhydprma Acfellypa reswmsydd droi ei symud ? tfid mewn llythyr fel hwny gellir dweyd Ein He ni ydyw mynnu cael ymchwiliad i'r paham a'r pa fodd y dygwyd hyn oddiamgylch Gyda phw-y y dechreuodd y syniad, a beth oedd wrth ei wraidd ? Sicrhaf y darllenydd mai nid unrhyw iethiant yn y Cadfridog i gyflawni ei ddyledswyddau a roddodd fod i'r bwriad neu buasai hynny wedi ei wneud yn amlwg Credaf mai camgymeriad ydoedd gwaith y ddirprwyaeth (a ddaeth i fod yn sydyn ac mewn undydd unnos) yn ymweled a Chaer, a chredaf pe buasai'r ddirprwyaeth honno wedi mentro'n syth i'r swyddfa Ryfel yn Llundain y buasai wedi cael gwrandawiad parchus ac wedillwyddo i atal yr anfad- waith Nis gallaf lai na synnu fod ein Haelodau Cymreig mor ddidaro yn y mater Nid oherwydd anwybod nac ychwaith oherwydd nad ydynt yn credu fod anghyfiawnder wedi ei wneud a'r Cadfridog, y inaent mor ddisymud Tybiaf eu bod yn too proud to fight, fel y dywedwyd am yr America Gallai un ieddwl mai hwn yw y rheswm oddlwrtb, yr hyn a fldigwyddodd yn y Senedd y nos o'r blaen pan ddygwyd y mater gerbron Deellais fod Syr Herbert Roberts wedi rhoddi rhybudd ei fod yn bwriadu dod a'r achos gerbron y Ty ar noson benod. edig Llannwyd fy nghalon a diolch i'r marchog anrhydeddus, a pherswadiais fy hun y byddai'r Aelodau Cymreig y noson honno yn taro ergyd nas anghofid yn fuan dros hawliau Cymru Ond « dis- £ wyl neH^lU gwych i ddyfod" fu'r cwbl "Too proud to fight" fu'r hanes, a gadawsant i'r Sais Syr Arthur Markham godi'r pwnc yn Nhy'r Cyffredin Diolch i hwnnw am a wnaeth, ond gwell fuasai i rhyw aelctd arall fod wedi gwneud, canys y mae ef yn un o'r rhai sydd wedi arfer gwaeddi Blaidd a'r blaidd byth yn dod; ac felly, pan waeddodd yn achos y Cadfridog Thomas, ni chymerwyd fawr sylw ohono. Ac ofnaf fod yr aelodau Cymreig hefyd wedi perswad- io eu hunain nad oedd yr un blaidd yn y golwg Ond, ysywaeth, y mae blaidd yn y mater hwn, a dylem fel Cymry benderfynu na chaiff y Cadfridog ddim mynd yn ysglyfaeth iddo Manteisiwyd ar y cyfle annisgwyliadwy a ddigwyddodd drwy farwolaeth Arglwydd Kitchener i gario'r bwriadau anfad i ben. Yn y gorffennol, priodol efallai oedd i'r milwyr Cym- reig fod o dan y Western Command yng Nghaer, ond y mae pethau wedi newid cryn dipyn er pan dorrodd y rhyfel allan. Y mae'r Fyddin Gymreig wedi cyn- hyddu y tuhwnt i'n dychymyg, a chredaf fod yr amser nodedig wedi dod i hawlio Command o'i heiddo ei hun i'r Fyddin Gymreig, ac ar y llinellau hyn y buaswn yn dymuno gweled y camwri a wnaed a'r Cadfridog yn cael ei unioni. Purion peth fuasai i'r holl Gynghorau Sirol yng Nghymru basio penderfyn- iadau i'r perwyl hwn ar fyrder, a'u hanfon i'r Swyddfa Ryfel ac i'r Aelodau Cymreig -Yr eiddoch, AVroy Road, Lerpwl W 0 THOMAS Teitynau Eisteddfod 1917--yu y wasg y mae y rhain, ac a fyddant ar werth wythno6 Eisteddfod Aberystwyth. TN v nesaf.-Adolygiad ar gyfrol y Parch. O. L. Roberts ar y Philipiaid; a Pythyr Cymro Lerpwl ar y (I Bocsio Barnol," chwedl Yr Hutyn.

DYom^nijR. I

y Cymod .Y Sabothjnesaf

IBasgedaid o'r Wiad.

Ein Cenedl ym Manoeinion.

Advertising