Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Telephone Reya!UI7 IrtafclJehed 1804 ROBERT ROBERTS 1ST ATS A GUN"! 8J Nether field Roed So a h Mas Properly to Let Is varum* parte at u o-w.u, 1?amQ,huH1 m, 205 Established 1884. "Phoos 1140 bootie I 547 WOOSNAM ROBERTS. F.A.I, Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAD, BOOTLB (% doors from Bedford Road) Telegrams -1 WoosNAm. BOOTLZ. Telephone No. 7809, J. LEWIS JONES, B8TAT1 4.GBN F VALTISR 60 Victoria St., Liverpool Proparllfta cariefully managed. Real* pe eonally collected. Purchases sad SaIM m u foilftled. Mortgagee arranged and Into cafe? < eSeotetL THOMAS JONES, liST ATBAGENTS VALUBRS, iSSVSaYMlSf «VIk»iaKta, 61 Lord Street, Liverpool Telephone No. -3868 Bank. Properties Bought aud Sold. Mortgot, arranged. Valuations made. Reals oonMt, 'Tim. SB 7 Asryxsux BSIARIJBKSD iill Stephen Roberts & Sot MSTATil AGBNT9 « VALUERS 137 Everton Road, Liverpool Properties carefully managed. Rents pe v sonally Collected. Purchases sad ffel* j s«fotlated. Mortgages arranged rind h auraaces affected. Henry Jones, EST AT B AGHltfT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool hlrl Basti mm 0. JONES WILLIAMS. F.AII., BSTATE ÅGENT. & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St Liverpool. EM, 1885. h Tslephons i 567 Royal Telephone 8S88 Ba nk JONES allUGHES, WSTASE OFFIOE, 13 Whltechapeli Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALB. Advances Made. R. E. HUGHEbt -Notate Agent^Sunreyor Valuer, Clsoirifig Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head. Maa Houses to Let and for Sale in various put, of the Town and out distriots. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made tc Baildera. Estates laid out. Eents.Colleoted, tsJ Property oarefaUy managed. LADIES BLANCH4RD PILLS Aw anrivailad lot all lmgwadusx, &&, they opwl,, afford relief and nsvsr fall to alleviate all Htfierfngg a, ae&ty mpei'Mde P?aytoya!, pllom&t BittMAppS? & rAlS arL the best of .U PttHof WamM." sold In boxes, ifli, by BOOM" Btanshca, 'J.l.ncut'¡ Branaha*. and all Ohemlsie, or paat free, same frer IES1.I8 MABTYN. Lte, Chemiste,34 Da'ataa Laae Landow Bootle Auction Rooma, 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLE, W. H. Butterfield Co. holds Weekly Sale at their Rooms every Friday Evening, 7 p.m. Fwrniture and Stocks of every kind bought for prompt eash. Telephone 1299 Bootle. ANWYD, PESWCH, INFLUENZA—Mae y rhaingydanibobamser. Pair hinsawdd gyfnewidiot iod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitie, Pa^ Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyginiaeth "DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth- fawregi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn ielya, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. i id. a zs. 9J (postage, 3<<.)-HUGH DAVIZS, Chemist, MachynUeth SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.-Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau pendduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnwch botelaid o Sarzine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 2$. 9d. y botel, neu gyda 3d. at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y perchennog— HUGH DA VIES, Chemist, Machynlleth.
O Big y Lleifiad.
O Big y Lleifiad. Pytiao Eisteddfodol. I Dyma rai pethau a ddaeth i'r golwg ym Mhwyllgor Gweithiol Eisteddfod Genedlaetho] 1917 a gynhelid yn Birkenhead nos Wener ddiweddaf, dan lywydd- iaeth Mr. J. H. Jones — Yr oedd y beirniaid ymhob adran wedi dangos y parodrwydd mwyaf i weithredu, ton dirion iawn oedd yn eu llythyrau, ac ysbryd ewyllysgar i aberthu a gwneuthur popeth yn eu gallu i hyrwyddo'r Wyl; ac un ohonynt-yn union fel y fo-wedi anfon ei ateb yn gwpled pert ar fesur cywydd. Cyfeiriwyd at y Cyhoeddi y dydd Sadwrn cynt, a llawenheid a llawenydd mawr am y llewych di- gamsyniol a fu arno, a'r fath argraff a wnaethai ar y dref, a chodi dust ei disgwyliad yn fwy ysol fyth am weld yr Eisteddfod ei hun. A chlywsom fod Trindod Cymrodorol Llundain-Syr E. Vincent Evans, a'r Mri. W. Llewelyn Williams a J. Hinds, A. S.-wedi eu boddio i'r eithaf. Pasiwyd fod y rhain yn mynd i Eisteddfod Aber- ystwyth y mis nesaf i geisio cwblhau arfaethau'r Pwyllgor gyda golwg ar Raglen y Testynau, y Babel] Gyfarfod, a Chymanfa Ganu'r Trydydd Dydd, ac yn y blaen Mri. J. H. Jones, Isaac Davies a Ben Thomas (y ddau ysgrifennydd), Thos. Davies (trysor- ydd), Arthur Venmore a W. R. Holland (cadeirydd ac is-gadeirydd y Pwyligor Cerddorol). Darllenwyd llythyr oddiwr&i y Vinsent, yn dangos fod Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn-cyn- nyg Xgi yn wobrwyon am draethodau (tri), a derbyn- iwyd y newydd gyda diolchgarwch llawen, oblegid y cryfhad sylweddol ar adran lenyddol y Rhaglen. A dyma'r gwobrwyon ereill sydd wedi cael eu cynnyg a'u derbyn yr un mor ddiolchgar; y Goron Arian (gwerth tua fio), gan Syr Edward Evans. Mr. Humphreys Jones, Prifathro'r Liverpool School of Pharmacy, Colquitt Street, Lerpwl, £ 10 /io/am draethawd ar Lysiau Meddyginiaethol Cymru. £ 10 am Gan Wladgarol (£5 i'r cerddor a fS i'r bardd) gan Mr. W. R. Pritchard, Clynnog, Bidston Avenue, Birkenhead. Mrs. Wm. Jones, Elm House, £ 5 [$/- am Stori Fer Gymraeg. Drwy law Mrs. Mary Davies, Llundain, yn y gystadleuaeth alawon gwerin, i gorau ygsolion, £ 10/10/ er cof am y diweddar Lieut. Iorwerth Glynne John, mab Mr. E. T. John, A.S. "Gwobrwyon Aber Clydach," drwy law'r Fonesig Mailt Williams, am ganu'r delyn, f7- £ 3 /3 gan Gymdeithas y Commercial Travellers at yr adrodd- iadau. Miss Owen (Bidston Road), fi /I Mr. Arthur Venmore, Cilil-; Mr. F. S. Richards, £ 1 II a Mr. J. Hamilton Gibson, (Cammell Laird), £1/1-. Gan fod Mr. David Evans, Cynlais-rhoddwr y Gadair—yn awyddus amihonno fod yn hollol deilwng o safon uchaf yr Wyl Genedlaethol, ac yn gadair deg odiaeth i edrych arni, pasiwyd fod Mr. W. Garmon Jones, M.A., a'r llywydd i ymorolpaarwyddlun a chyswyneiriau i'w dodi arni; ac i'r Mri. Evan Roberts (West Derby), T. T. Rees, F.R.I.B.A., T. Davies, Wm. Parry, a'r ddau ysgrifennydd, i ymofyn am ei chynllun a'r gwr sydd i'w gwneud. Gofidid fod Mr. J. G. Rowlands, B.A., Lerpwl, wedi methu dilyn y pwyllgorau oherwydd wythnosau o gystudd; llawenheid ei fod weithian yn well; ac fod argoel y ceid ei gymorth a'i brofiad o hyn ymlaen. Ychwanegwyd Mr. J. T. Jones, pennaeth profiadol Cor y Cymric, at y Pwyligor Gweithiol, ac wedi cy- meradwyo rhai cyfnewidiadau yn hyn ac arall, pasiwyd fod y testynau'n gwbl barod i'r argraffwyr, a'u bod hwythau i'w cael yn barod erbyn Gwyl Aberystwyth. Diolchwyd i Mri.W. Garmon Jones, M.A., Aneurin A. Rees a Wm. Parry am groesawu aelodau'r Orsedd dan eu cronglwyd. $$ ADLODD r CrHOEDDI.-Ni neidiwch i'r un car yn Birkenhead y dyddiau hyn na cblywch y Saes- on yn son am firi Cyhoeddi'r Eisteddfod yn y Pare yr wythnos cynt, -pawb ohonynt wedi ei fwynhau, ond yn y tywyllwch eithaf am ystyr y'defodau a gwisg- oedd y beirdd a'r gorseddogion, ond yndeall y canu cystal a ninnau, ac yn gwybod i sicrwydd fod rhyw flas eithriadol ar y gweithrediadau. Y mae greddf calon yn medru dringo dros ben cloddiau iaith, er eu huched.—Y mae'r Llew Gwyn yn hollwybodol am bopeth Eisteddfod, ac a ddywedai fod gwall bach eisiau ei gywiro yn adroddiad chwe-cholofn y BRY- THON, sef mai nid y Proff. Herkomer a gynlluniodd y Corn Hirlas gwerth mil o bunnau, ond Syr Goscombe John Cleddau'r Orsedd a gynlluniodd yr Herkomer —Llwyr fethodd y Llew, a Mr. R. Vaughan Jones, a Mr. Richard Hughes (bardd cadeiriol Eisteddfod Mon, ac ysgrifennydd Pwyllgor yr Orsedd) a bod yn y Cyhoeddi.-Wrth weld Dr. Rees, (Ap Gwyddon), arwyddfardd yr Orsedd, a'i briod Awen Mona yn y Cylch Cyfrin, gofynnwyd i Fadryn am yr englyn a wnaeth i'w priodas, a dyma fo t— Ap Gwyddon ag Awen Mona—unwyd Yn hoff dwr Moria; At ol ei dwyn, rho le da I'r Fonferch yn Rhufeinfa. t Caernarfon tEnw'u t'yng Nghaersws. it y.D.R. A'I BUJUP.-Llith a fwynhawyd tuhwnt yn Y BRYTHON diweddaf oedd llith J.D.R. ar y pum pregethwr a glywsai'r Sulgwyn. Da y gwyr pob Methodist pwy oedd pob un; ojid bu ereill, anghynefin a'u clywed, yn dyfalu a chosi pen wrth ddarllen y portreiad; ac er eu mwyn hwy teg dywedyd mai dyma'r pump I-G. H. HAVARD, M.A.,B.D., sy'n gadael y Rhyl am y De,, mwyaf gresyn gan y Gogledd. II-T. C. WILLIAMS, M.AV sydd wedi glynu ar hyd ei oes f ugeiliol wrth y Borth, er gwaethaf hudol- iaeth melyn eglwysi cryfion o Gymru a Uoegr, a'r America hefyd, pe buasent rywfaint haws. III-M. H. EDWARDS, M.A., Deheuwr rhigil ,y clywyd son fod rhai eglwysi y tuallan i Lundain yn blysu am dano oddiar Falmouth Road. IV-R. BEYNON, B.A., Abercraf, darlithydd ar Ben Bowen, ac yn bur lawn o'r Iberiaeth ysbrydol oedd yn y bardd a'r gweledydd hwnnw. V- J. PULESTON JONES, M.A., "y pregethwr dall," fel y bydd pobl ddifeddwl yn ei alw. Druan oeddych chwi a'ch dall, y mae yn gweld ymhellach na'r haid ohonoch efo'ch gilydd, i fyd egwyddorion ysbrydol ei adnod, a dyma'r pam Wedi eu troi at y tufewn iddo y mae ei ddau lygad ef, ac felly'n gweld iddo'i hun ac i ddyfnderoedd meddyliau'r Hwn a'i gwnaeth wedi eu gosod i sbio oddiwrth- och at y tuallan y mae eich llygaid chwi, nac yn gweld dim ond y cnawd a'r mater, sy'n ddim mwy na gwisg a chragen am yr hyn a wel Proffwyd Pwllheli. Llanc o Lanarmon Dyffryn Ceiriog yw J.D.R., a'i Gymraeg yn deilwng o ardal ein Prifardd Telyn ar ei goreu a chan ba enwad bynnag y bo Cymanfa nesaf, anelwch yno a phortreiadwch bump o'u Hoelion Wyth hwythau megis y gwnaethoch mor ffres a hudol a Phump Shon Gorff. GOLWG SINN FFEINAIDD ARNO.-Golygfa fynych yn Lerpwl a'r cylch ydyw gweld ein brodyr Cenhedligyn s&fyll i sbio a sbio ar boster YBRYTHON yna'n cychwyn i ffwrdd, ond yn troi'n ol i ail dreio'i ddehongli; ac yn y diwedd yn mynd i ffwrdd dan chwyrnu rhywbeth tebyg i hyn, a'barnu oddiwrth eu cuchiau Beth gebystr yw hwn, d we dwell ? Pe gwyddem mai papur yr hen glerSinn Ffeinnaidd yna ydio, mi rown gic iddo fo." Y mae'r Sinn Ffeiviiaid yn eithaf byw o hyd, er gwaethaf y gyflafan yn Nublin, canys rhyw bythefnos yn ol, anfonodd un ohonynt gopi o'u newyddiadur yma, wedi ei argraffu i gyd bron yn hen iaith y Werddon. Dichon yr adolygwn ef maes o law, os paid neb ohonoch a phrepian wrth y Llywodraeth, ae j ninnau gael ein saethu'n ddiseremoni am ddwrdio ac ystrancio wrth weld Owen Thomas yn cael ei symud 0 Cinmel i rhywle rywle. r GLEW rN ENNILL r GROES.-DVma un arall o Gymry Lerpwl wedi hynodi ei hun yn y Rhyfel ac yn ennill y Groes Filwrol-y Military Cross-am wroldeb amlwg, sef Lieut. A. Lloyd-Jones, mab ieuengaf Mr. a Mrs. R. E. Jones, 81 Edge Lane, Lerpwl, a Phlas Llanfaelog, Mon. Nos Sul, Mehefin 4, arweiniodd ruthr Ilwyddiannus ar rigolau'r Eliinyn, er iddo gael ei glwyfo yn y gwaith. Dyma eiriau Cyrnol y Gatrawd amdano He acquitted himself most gallantly during the peril; was the first to go in and last to come out of the German trench, covering the retirement of his men, and helping to bring the wounded into our line," etc. Dywed sergeant o'r cwmni fod yr holl fataliwn yn falch ohono, ac mai ei ffordd ef o arwain a barodd lwydd yr ymosod. Yr oedd yn hollol hurian- feddiannol, safodd ei dir yn ddisyfl, a daliodd ati nes fod ycwbl o'r clwyfedigion wedi cael eu cludo i ddio- gelwch. Ar ddechreu y rhyfclymunodd a'r Liverpool Pals; buan y gwelwyd ei repldf a'i gymhwyster, a chynygiodd ei Gyrnol gomisiwn iddo; ond gwell ganddo oedd bod gyda'i gydwladwyr; a Chwefrol 27, 1915, ymunodd a'r Royal Welsh Fusiliers, yn 2nd Lieut; ac Ebrill 2, codwyd ef yn 1st Lieut. Bu drwy lawer o'r ymladd caletaf yn Ffrainc a Fflanders, ac yn gwella o'i glwyfau y mae ar hyn 0 bryd yn ysbyty Le Touquet. Yng nghangen Lerpwl o Fane y London City & Midland y byddai cyn y rhyfel, ac yr oedd yn hysbys fawn fel athlete llwyddiannus ar gipio ami i wobr am gampau felly. Y mae'n adnabyddus yng nghylchoedd Cymreig Lerpwl a'r cylch, ac mor boblogaidd gyda hwy ag ydoedd gyda'i gyd-swyddog- ion ar faes y frwydr. Cyd-darawiad go ryfedd ydoedd i'w gyfaill a'i gyd-swyddog yn y Gatrawd-Lieut. Venmore—ennill y Military Cross am lewder cyffelyb rai misoedd cynt. tt CANU WNA'R crMRO LLE BrNNAG r BO.-Y mae rhai o'n cyn-ohebwyr bellach yn ffosydd Fflanders a gwledydd ereill y rhyfel. Ddwyrain a Gorllewin ac yn addaw gair pan geir munud 0 ham- dden a seibiant o'r saethu beunyddiol. El sypyn go drwm o'r BRYTHON atynt i'r Cyfandir, a dyna'r pam y byddwn yn pacio cymaint ag a ddeil o fara cartre'r Hen Wlad iddo bob wythnos, gan wybod mor awchus hwy am hwnnw yn y tir pell. Ac o'n tu ninnau, nid oes dim sy groesawach gennym na chael gair oddiwrth ein bechgyn glew sy'nymladd ar dira^mor, adyma un pwt newydd gyrraedd heddyw'r bore oddiwrth Un 0 fechgyn Fiizclarence Street. yn dangos fel mai canu a fyn y Cymro lie bynnag y bo, hyd yn oed ar ddibyn perygl ac angau :— An Evening at a Base Camp in France.-While we were at mess the word was passed round that the Welsh Choir would render a few selections, and we subsequently a djourned to the adjoining marquee. I was a newcomer, had not heard of the Choir, and asked my neighbour particulars about it. He told me that they were a collection of men from the three Welsh Regimants who had come down fron the line" temporarily unfit. They looked a fine, sturdy lot as they stood in their rough garments stained with mud from the trenches. The concert started with that fine hymn Cwm Rhondda. Here the Celtic tem- perament has full scope and they fully justified it. The place rang with the wonderful harmony. We then had a duet, English this time, The Lar- board Watch. This is very difficult to sing without the aid of a piano,but the singers rendered in fine style. The next item was to be Pcnillion Singing. As we had no harp or piano, a difficulty presented itself. However it was overcome by the remainder of the choir humming the accompaniment. An English verse was brought in introducing the names of several places in Wales which had long names (not omitting of course Llanfair P. G.) A prize was offered to any Englishman who could repeat it. Needless to say nobody entered.—We then had the well-known Sospan Bach. This is supposed to be the war-song of the Llanelly footballers. It is sung by the crowd when they appear on the,field. It cheers them into victory. The men enjoyed singing this, and the harmony was wonderful. It was encored again and again. A solo followed. A man with a wonderful clear tenor. He sang a Welsh song full of pathos and feeling. A chorus now followed: Duw Mawr y Rhyfeddodau Maith. This was cheered most enthusiastically by the audience, and they sang it once more. The bass singers managed their well-known part very well. Thus the evening passed pleasantly.. An officer near me, whom I found was a Welshman, but was in an English regiment, remarked how the hearing rr hen iaith had cheered him. He was going up to the "Line that night, -and he said it had given him quite a new heart. By this time it was getting late, so we all stood up to attention and sang Hen Wlad fy Nhadau in Welsh and repeated the chorus in English. God Save the King followed, and with true Welsh ferYour they repeated the latter half of the anthem-a thing which seems peculiar to Welshmen. After passing a vote of thanks to the choir we said goodnight and wended our ways to our tents. Thus ended one of the most pleasant evenings I ever spent.— Un 0 fechgyn F itzclarence Street. CYFLWYNO'R MOTOR.-Dywed ysgrifennydd y mudiad (Mr. R. Vaughan Jones) fod y cheque I brynnu'r motor ambulance wedi ei hanfon i awdur- dodau'r Groes Goch yn Llundain fod ysgrif i'w dodi arno i ddangos mai rhodd Cymry Lerpwl a'r cylch ydyw; fod tua £ 25 yn cisiau'eto i ga,blhau'r £.soo; ac fod y pwyllgor yn taer ddymuno ar i hynny gael ei gyfrannu heb oedi.
[No title]
Y DIWEDDAR MR. THOMAS DAVIES, BROWNLOW HILL.-Gyda gryn chwithtod yr ymgymerwn a chofnodi marwolaeth Mr.' Thomas Davies. Bu farw, gwedi cryn waeledd, nawn Sul y 25ain o Fehefin, mewn tawelwch hollol. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. John Davies, Oror, Gwyddelwern, a ganwyd ef 6oain mlynedd yn ol, yn Nhy'n Llwyn, Llanfor, ger y Bala, ac efe ydoedd y trydydd o ddeuddeg o blant sydd erbyn hyn wedi eu rhannu yn gyfartal rhwng tair gwlad: pedwar yn aros yng ngwlad eu tadau a'r cymdogion: pedwar wedi croesi'r moroedd Haith, i'r Americ; aphedwar wedi csgyn i'r Wlad o heddwch, gwlad o sylwedd, Gwlad o gariad pur di-drai. Yr oedd teulu Ty'n Llwyn yn deulu crefyddol, ac iddynt barch gan eu cydnabod a'u cymdogion i gyd. Ystyrid John Davies yn wr o farn a dylanwad yn ei ardal. Yn ymneilltuwr cadarn, Rhyddfrydwr selog, a chand do argyhoeddiadau cryfion, i'r rhai y bu'n ffyddlon drwy ex oes, a hynny, rai prydiau, gan ddibrisio'i gvsuron ei hun a'i deulu. Pan oedd ei drydydd plentyn ynghylch tair oed, gwybu'r teulu 11 beth oedd y pris y rhaid ei dalu am annibyniaeth barn a rhyddid ewyllys yn y dyddiau hynny; a chan na phlygai John Davies lin i baal y cyfnod-sef i landlordiaeth a thoriaeth—acnad ymgrymai iddynt yn Etholiad '59, gorfu iddo gefnu ar ei gartref cysurus,a cheisio noddfa a chysgod allan o'u cyrraedd. Yr oedd Thomas Davies yn wr ag iddo air da gan ei gydnabod a'i gyfoedion, ac yn meddu ar lawer o elfennau a'i gwnai'n boblogaidd pe y dymunasai efe eu defnyddio. Yr oedd yn ddiddan ei gwmni, ac yn garedig yn ei holl ffyrdd. Cymerai ddiddordeb nid bychan mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a diwinyddiaeth. Symudodd i Lerpwl pan yn ieuanc, a bu am gyfnod yng ngwasanaeth Bwrdd Addysg, Newtown. Bu'n aelod am flyn- yddoedd yn Eglwys Chatham Street, a chodwyd ef yn flaenor yno-swydd a daliodd hyd ei symudiad i Eglwys Princes Road. Ni bu ei waeledd yn faith: dioddefai oddiwrth Asthma ar ei galon, a bu'n orweiddiog am tua thair wythnos, ond yr oedd yn hollol dawel, ac yn cysuro ei hun beunydd ei fod a'i wyneb tuag adref, a'i brofiad parhaus ydoedd pennill Thomas Williams, Bethesda'r Fro :— Rwy'n tynnu tuag ochr y dwr, Bron gadael yr anial yn lan Mi glywais am goncwest y Gwr A rydiodd yr afon o'm blaen Fe dreiglodd y maen oedd dan sel, Fe gododd y Cadarn i'r lan Mi 'caraf Ef, deued a ddel, Mae gobaith i'r truan a'r gwan. Adroddai'r pennill wrth bawb a ymwelai ag ef, nes i'w lais ddistewi yn swn yr afon Claddwyd y dydd Mercher dilynol yng nghladdfa brydferth Allerton, pryd y gweinyddwyd yn dyner a theimladwy gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D. Dyma'r perthyn- asau oedd yn bresennolMrs. Davies (gweddw), Miss M. H. Davies (merch), Mr. a Mrs. Evan Davies, 3 Thackeray Street; Mr. D. T. Davies, Gwrecsam Mr. Edward Davies, Penmorfa (brodyr); Mr. G. Jones, Eglwys Wen, Dinbych; Mr. W. Jones,*Ty nant, Llanuwchllyn (cefndryd); Miss Jones, eto (nith); Mrs. Jakes, Cumberland Mr. Sam Hannan a Mr. Henry Hannam Oldham (chwaer a brodyr-yng nghyfraith), a'i gyfoed a'i gyfaill pur, Mr. Hugh Hughes, o swyddfa'r White Star. Tawel fo'i hun, Prynhawn dydd Mercher, yn hynod sydyn, bu farw Mr. David Evans, 45 Marion Street, Birkenhead, yn 73 oed. Genedigol o Berriew, Sir Drefaldwyn, ac yn y dref hon ers 5° mlynedd. Claddwyd yn Flaybrick Hill ddydd Sadwrn, a gwasanaethwyd gan ei wsin- idog, y Parch. A. F. Bartlett, Hamilton Square Con- gregational Chapel. Cydymdeimlir a'i weddw, merch y diweddar Meiriadog, ac a'i unig fab, Mr. John Evans, 78 Park Road N. Yr oedd yr hen frawd a'i briod yn y seremoni gyhoeddi yn y Pare y dydd Sadwrn blaenorol —R.J.G. TRINITY ROAD (N.)—Nos Sadwrn, Gorffennaf I, cynhaliwyd cyngerdd amrywiaethol llwyddiannus yn yl ysgoldy gwledd ardderchog, a'r holl gantorion yn eu hwyliau goreu Cadeirydd, J. C. Roberts, Ysw., Walton Park, a chaed gair buddiol ganddo, a rhodd sylweddol iawn. Dyma'r rhai a gymrodd ran soprano, Miss Florrie Pierce; contralto, Miss Bella Jones; tenor, Mr. Griff Owen; baritone, Mr E. Williams (Ieuan Arfon); yn adrodd, Miss Myfanwy Thomas, Park Street Cyfeiliwyd gan Miss L. Kyffin Williams, sydd mor ewyllysgar i gynorthwyo bob amser. Diolch hefyd i Mr. a Mrs. Owen, Queen's Road, am roddi benthyg eu piano. Cynorthwywyd gan sketch party o'r eglwys, dan arweiniad Mrs. T. Roberts, Orrell. Gwnaethant eu rhan yn wir ganmol- adwy. Diolchwyd i bawb gan y Parch. W. Roberts, ac ymwahanwyd a phawb yn canmol. TEML GWALIA, EDGE LANE—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd cystadleuaeth ateb cwestiynau, dan ofal y Chwaer Evans, Botanic Road goreu, y Chwiorydd Dora Jones a M. Evans. CAn, Deio bach, Chwaer Hughes, Adelaide Road. Cystadleuaeth canu ton; beirniadj Br. Ernest Hughes; goreu, y Chwaer Dora Jones. Can, The Blackbird, y Chwaer Olwen Hughes. Derbyniwyd un o'r newydd, sef y Chwaer Mary Evans, 41 Royston Street. Croesawyd hi gan y Brodyr Henry Davies, R. R. Williams ac Ernest Hughes. Cyfeiliwyd gan y Chwaer Madeline Davies. Llywydd, y P.D. Br. John Williams -Cymraes. EDGE LANE (M C ) —Cynhaliwyd cyngerdd Meh. 28 gan blant yjle, er budd Cymdeithas y Groes Goch. Llywydd, Mr Griffith Davies, a chaed anerchiad pwrpasol ganddo. Cymrwyd rhan mewn canu, adrodd, etc gan Mri. Tom Pierce, Trevor Halton Morris, Egryn Roberts, Misses Gwennie Evans, Kate Thomas, Enid Roberts, Iris Roberts, Olwen Hughes, Blodwen Owen, Lily Edwards, Nellie Roberts a Miss Madeline Davies wrth y piano Sylwodd y Parch. D. Jones mai y plant a drefnodd y cwbl eu hunain yn eu hawydd am helpu y rhai sydd yn dioddef drosom. Diolchwyd gan Mri. David Roberts a J. M. Evans. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau; Miss L. Edwards yn cymryd yr alaw. Dydd Llun diweddaf daeth gair o Ffrainc fod Pte. J. Alun Williams, mab hynaf Mr a Mrs John Williams, 55 Keble Road, Bootle, wedi ei glwyfo, ac yn gorwedd yn yr ysbyty, ond credid y byddai'a alluog i ysgrifennu ei hunan ymhen ychydig ddyddiau. Felly disgwylir nad yw ei niweidiau yn ddifrifoh Ychydig ddyddiau yn gynt, derbyniodd ei briod lythyr oddiwrtho yn disgrifio diangfa gyfyng a gafodd pryd y lladdwyd un o'r tu blaen iddo ac y clwyfwyd un arall o'r tu ol iddo, ond diangodd ef yn ddianaf. Dywed ei fod yn credu iddo gael ei gadw am fod gan- ddo gynifer 0 gyfeillion a chydnabod yn gweddis drosto, ac yn erfyn am iddynt barhau, fod y bechgyn yn y ffosydd yn gweddio Uawer iawn --0--
[No title]
GOFGOLOFN Y PARCH. O. G. OWEN (ALAFON).-Dr. T. H. Parry-Williams, Rliycl -(Idn, 10/6; Mr. J. Pentir Williams, B.A., Bangor, 5/ Mr. Hugh Jones, Vine Terrace, Ebenezer, 5 Mrs. D. W. Davies, Caernarfon, 5 Mrs. Pritchard, Hafod y maidd, Cerrig y drudion, 2/6; Mr. Dd. Roberts, Bron waen terr., Ysgoldy, 2/ Mr. R. W. Roberts, Liverpool terr., 2/6; Mr. Ellis Rowlands, Werglodd goch, 2/6; Mrs. Jones, Llys Alun, 2 Mrs. Evans, eto, 2/ Ysgol Sir Brynrefail, £ 20/4/8 (Llan- ddeiniolen, £ 8 /1 /2 Llanberis, £ 6 /5 /— Llanrug, £ 5 /18 /6), yn cynnwys a ganlyn:- Mr. J. Rees Foster, B.Sc., Brynrefail, £ 1 /II/6; Mr. J. J. Morgan, Deiniolen School, 10/ Mr. a Mrs. R. C. Jones, Bron Elidir, Dinorwig, 5 y Parch. Jas. Salt, Llandinorwig, 5/ Mr. H. C. Parry, Beehive, Ebenezer, 2 /6 Mr. Owen Williams, Bryn eryr, Brynrefail, 2 /6 Mr. Robert Roberts, Dinorwig house, 2 /6 Mr. H. W. Roberts, Glandwr terrace, Clwt y bont, 2 /6 Dr. Thomas, Caledffrwd, eto, 2 /6 Mrs. Rowlands, New St, Ebenezer, 2 /6 Mr. J. J. Rowlands, 14 Marian terrace, 2 /6; Mr. W. J. Williams, School house, Dinorwig, 2 /6 Mr. Robert Davies, Gwynfry* 2/6; Mr. O. Llewelyn Jones, Tan yr; aswy, 2 /6 Mrs. Morris, Bron Fuches, 2 Mr. Wm. Hughes, Hen hospital, 2/ Mr. Isaac Roberts, Craig y bela, Fachwen, 2 Mr. Robert Williams, Pant gwyn, Dinorwig, 2/ Mr. J. Roberts, School house, Llan- dinorwig, 2/ Mr. J. Lloyd Roberts, Bod- fryn, Llanberis, 2 Mrs. J. Evans Owen, Graianfryn, 2 /6 Mr. Griffiths, Cwmaelhir, 2/6; Mr. G. H. Jones, Heulfryn, 2/6; Mrs. L. H. Paton, Llwyn celyn, 2 /6 Mr; Thos. Rowlands, Minafon, 2/ Mr. J. Vaughan Williams, Bank buildings, õ Mr. Robert Jones, Talydon, 2 Dr. John Roberts, Llanberis, 5 Mr. R. E. Jones, 5 Mr. W. P. Williams, Post Office, 2/ Mr. Rowlands, Beehive, 2 Mrs. Davies, Der- lwyn, 2 /6 Mrs. Williams, Green bank, 2 /6 Mr. 0. W. Owen, Hafod uchaf, 10 Mr. Meredith Jones, Penllyn Shop, 2/ Mr. Jones, Llety llwyd, Tanycoed, 2/ Mr. J. R. Jones, Bryn Mair, Llanrug, 2/ Miss Aitchison, Plas gwyn, 2 /6 Mr. J. R. Owen, Tros y ffordd, 2 Mrs. Roberts, Ty fry, 2 /6; Mr. J. G. Thomas, Minydon, Cwmyglo, 2 Mr. R. O. Williams, Greuor, Llanrug, 2 /6 Mr. -Wm. Parry {Gwilyrp, Aethwy), Rhyl, 5 Mr. H, Parry, Glanrafon; Pont rug, 5/ Rhodd fechan chwaer, 2/6; Mr. J. Owen, Buarthau, Carmel, 2/6; Mr. R. Evans, Llys Alun, Ysgoldy, 2 Derbynnir cyfran- iadau gan O. J. Jones, Minffordd, Penisa'r- waen, Caemarfon; Thos. Hughes, Y.H., Sunnyside, Caemarfon; R. O. Williams, Ysgoldy, Cwmyglo, Caemarfon.
Advertising
Palatine Trade Protection Office (L'pool). 35 Exchange Chambers. 2 Bixteth Streei6 LIVERPOOL, and at LONDON. Subscription ii is, per annum. Includes an "UNLIMlTED" number of collections of accounts. Tel. 8365 Central (3 lines). 'Telegrams,' Quorum.' Apply for further particulars- PARKIN S. BOOTH, General Manager. MITCHELL BROS., Marsh Lane, Bootle. English Manufactured MAPLE BLOCK FLOORING. AU Sizes kept in Stock. Largest Stock in the Kingdom Phone 839_Bootle. [ Tel. Ad. "Peremptory," Liverpoo EFENGYL IOAN gyda Rhagarweinlad a Nodladau ar bob Adnod, gan y Parch. Owen Davies. D. D., Caernarfon, a'r Parch. B. Cernyw Williams D.D., Corwon- P Pris gostyngol i ysgolion. Oyf. I, td. 202 (2s.) ls.8c Oyf. II, td. 304 (2s. 6c.) Is. 6c; neu y ddwy am 2s. Y cludiad yn rhad. Oaniateir 2s. y swllt i Ddosbarth; wyr a Llyfrwerthwyr am 6 copi ac uchod. Anfoner po& archebion i Rev. O. DAVIES, D.D., Oefntaes, Carnarfoa Rhifyn y Gwanwyn Y BEIRNIAD CYLCHOBAWN CHWASTKBOL drfn navdd Cymdeithasau Cymteig y Oelegaa Cenedlaetho) i; a than olygiaeth J. MORRIS JONES. CynnwYI- Y RHYFEL A HOLLALLUOWGRWYDD DUW Yr Athro D. Miall Edwards GW ANWYN T.Gwynn Jonea Y CHWYLDROAD CYMDEITHASOL YNG NGHYFNOD Y TUDURIAID R. T. Jenkins GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland Y LLAWLYFR MOLIANT NEWYDD Y Parch. D. Tecwyn Evans A ELLIR DISGYBLU'R MEDDWL ? Yr Athro William Phillips ADOLYGIADAU gan y Parch. Ddr. Maurice Jones, Ifor Williams, a'r Golygydd. flogh BvIDl a'i Feihion, Argrftflwf^ 356,858 Stanley Road. Lerpwl