Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

froich-ym-mroich efo Gwr Bryn…

News
Cite
Share

froich-ym-mroich efo Gwr Bryn Derw. Wrth fedd Williams o'r Wern CAFODD y merlyn a minnau wahoddiad pur daer a chynnes y dydd o'r blaen i dreulio egwyl vng Nghoed Poeth dan nenbreri Mr. John Harrison, un o'r saint diddan hynny sy'n cadw Maelor mor lan ag y gellir cadw lie sydd mor agos i Glawdd Offa-Clawdd a fylchir mor fawr mewn rhai mannau gtn y: llanw Cenhedlig a ddaw a'r fath lysnafedd i fyny gydag o i ganlyn ei ychydig o bethau da. | Ffwrdd a ni ein dau ar ddydd lau ar draws Sir Gaer nes cyrraedd Cefn y Bedd i ( geven-in-a:bed, chwodly Philistiaid Seisnig a dienwaededig am enw mor gu) yna Ot-wylr Ffrwd i fyny i Bentre Saeson, heibio cefn Brymbo a'i simnau Gehennaidd nes cyrraedd crib yr allt a dod i olwg brafiach bro, sef mynyddoedd Cyrn y Brain a'r Berwyn, a Morfa Mawr Caer a gwastadedd y Mwythig j a'r Midlands yn glas-ymledu mor dlws oddi- fcanom. Gwedi cael o hyd i dy'm gwahoddwr, a lluniaethu'm llond dan nawdd arglwyddes dirion Bryn Derw,, dyna ddodi fy hun yn llwyr ynHaw Mr. Harrison mynd lie bynnag yr ai o penderfynu gwrando glust a genau ar bob sylw astori a ddHerai mor ddiball dros ei ddeufin a bod a 'mhensil a 'mhapur yn fy Haw i daro i lawr bob drvchfeddwl a ddeuai imi oddiwrtho fo o'r tuallan neu ynteu oddi wrth fy merlyn i fy hun o 'r tumewn. Buan y canfum fy mod yng nghwmni dyn odiaeth o ddiddan ac awyddus i beri mwynhad dyn a wyddai bo b smic am y fro; dyn cwbl hysbys o bob cast ac odrwydd sydd yng nghymeriad ei phobl; a dyn a wyr am bob twlc .hynod a gwertli mynd ato. Garech chwi weld bedd a chapel Williams o'r Wern ? ebe'r Harrison, wrth fotymu ac anelu am ffon. "0 'nghalon," ebr finnan, canys byth er pan ddarllenais ei gofiant rai blynyddoedd yn ol, y mae rhyw dynfa ryfedd yn fysbryd at y seraff dwys ac athronyddol hwnnw, a gododd o le mor Iwm ynghanol clogwyni'm hen sirym Meirion draw. Dyma gyrraedd Mynwent Adwy'r Clawdd, sef Clawdd Offa. Gan fod ewrcld gweddi yn y capel ar y pryd, aed i'r fynwent yng nghyntaf, a dyma gael fy hun yn sefyll o flaen y golofn ithfaen sydd ar Iwch Williams, a dyma ysgrif sydd arun o'i thalcenni :— Erected in memory of Wm. Williams of Wern, who died March 17th, 1840, Aged 59 years. Dyna'r cwbl; ac yn llawn ddigon, canys nid rhaid i'r un dyn mawr wrth draethawd na rhibi-di-res ar ei faen dim ond ichwi waeddi WILLIAMS O'R WERTST a dyna boll glod a pherarogl bywyd y gwr ardderchog hwnnw yn neidio yn ei grynswth i'ch cof. Wrth weld y fath Lyfr Cronicl o weithredoedd a grasusau wedi eu torri ar rai cerrig beddi byddaf yn methu yn fymyw beidio â meddwl am ambellgrwt o ddyn a gwrddaf yn gwisgo het silc er mwyn edrych yn dalach nag y mae. Ni waeth iddo heb, ddim canys os gwel y bobl chwi'n ddigon ffol i geisio'u twyllo am eich hyd efo'ch het, a wyddoch chwi pa beth a wnant ? Eich mesur o'ch ysgwyddau i lawr, heb eich pen, ganystyriedhwnnw'nrhyysgafn a diwerth i roddi'r tap arno. Cofiwch mai'r rnerlyn ac nid y fi sy n gyfrifol am fynd o'r ffordd fawr at y blewyn glas yma. Yn d 'ol at fedd Williams, ddoi di Dafnau o Gostrel Hiraeth Wm. Rees. Prin fod yr un farwnad odidocach na mwy gwir hiraethus yn yr iaith na marwnad Gwil- ym Hiraethog am Seraff y Wern; a rhag fod rhai d'n darllenwyr ieuainc heb ei gweld, neu fod ereill heb gopi wrth law, y mae mysedd yn ysu am godi pennill neu ddau o'r 53 sydd yn y gan, petlae ddim ond er mwyn codi tipyn o flys yn y to sy"n codi am dipyn o hufen bardd oniaeth grefyddol eu gwlad :— 0 'r fath olwg fyddai arno, Pan uwch ben y dyrfa fawr- Delw'i enaid yn disgleirio Yn ei wedd ac ar ei wawr; Myrdd o glustiau wedi 'u hoelio Wrth ei enau'n ddigon tyn, A phob llygad syllai arno, Pawb yn ddistaw ac yn syn. Yntau'n tywallt allan ffrydiau O'r hyawdledd pura'i flas, Agor ger eu bron wythienau Hen drysorau dwyfol ras Arg'oeddiadau'r nef yn cerdded, Cydwybodau deimlent loes— Ni chai'r euog un ymwared, Nes y deuai at y Groes. Weithiau byddai yn ymwisgo A chymylau Sinai draw- | Mellt yn saethu, t'ranau'n rhuo, Nes y crynai'r dorf mwen braw Wedi hynny, i Galfaria, Enfys heddwch am ei ben, storom a ddistawa, T'w'nna'r haul yn entrych nen. il Gweld y Beibl mewn galarwisg Ar yr astell, fel yn syn, I Ato a theimladau cymysg, Awn dan holi, Beth yw hyn ? Wei'i'i agor, gwelwn olion Dwylaw Williams ar y dail—• I Gwel destynau," meddai I' plygion, Hen bregethwr heb ei ail Dyma'r fan mae'r tafod hwnnw, Gynt roi Gymru oil ar dan, Wed.i'i gloi yn fudan heddyxr, Yn iselfro'r tywod h-itin; Ar y wefus fu 'n diferu Geiriau fel y diliau mel, Mae hyawdledd Iwedi fferu, Clai sydd ami, mae dan sel Pe bai tywallt dagrau'n tycio Er cael eilwaith wel'd dy wetid, Ni chait aros, gallaf dystio, Hanner munud yn dy fedd Deuai'r holleglwysi i wylo, A gollyngent yn y fan, Ffrwd. ddigonol i dy nofio 0 waelodion bedd i'r lan Nid oes genni ond gair i'w ddwedyd, Wrthyt, angau creulon mawr, Hen anghenfil brwnt a gwaedlyd, Ceir dy gopa dithau i lawr Dydd sy'n dod cawn weled claddu Dy ysgerbwd hyll ei wedd, Minnau dd euaf yno i ganu Haleliwia ar dy fedd. Wrth gerdded islaw Capel y Wern heno, dyma'r Harrison diball yn dweyd hanes rhyw lymeitiwroedd wedi sobri a chael rhyw fath ar "dro am dipyn dan un o bregethau Will- iams, ond a syrthiodd maes o law i'w hen rych yn ol. Ac yntau'n gwegian dan faich ei ddiod, dyma, fo'n cyfwrdd Gwr Duw ar y Ion, ac yn gweid 0 i Y chi f'achubodd i, Mr. Will- iams." "Ddyliwn i, wir," ebe'r Seraff fel saeth, 'rwyt ti'n debyg iawn i 'ngwaith i, achos petase'r Brenin Mawr wedi d'achub di, nid gwaith fel hyn a wnaethai 0 amat ti." Fe ddywedir yr un stori am Dr. Jenkyn Lewis a phwy bynnag biau'r pwyth, un dp odiaeth ydyw. Gwelsom yr Hybarch Ddr. Owen Evans yn ei study ddydd Llun diweddaf ac a glywsom lawer o bethau newydd ahen am Williams o'r Wern a Hiraethog ac ereill o Hoelion Wyth Cymru oedd yn eu hanterth drigain a hanner can mlynedd yn ol. Ac wrth ei glywed yn eu codi mor fyw o'u beddau, ac yn braslinellu'r naill ar ol y Hall mewn brawddeg fer a di- gwmpas, cefais awro living pictures aurhaethol well na dim o'r sucan merfedd. sy tua Lime Street yna nac unman arall. Cofiai Williams yn eithaf da ond drwy dipyn o ddamwain pan oedd tua'r deg oed yma, collodd yr unig gyfle a daeth heibio iddo i'w glywed yn pregethu. Pan aeth wedyn i fugeilio eglwys i Wrecsam, clywodd lawer o'i ddywediad.au gan bobl Maelor, a gresynnai na fuasai wedi eu hysgrifennu a'u rhoddi ar gof-a-chadw. Rhyfeddem at gryfder cof y Doctor ac at fywiowgrwydd dihafal corff a chynheddfau y patriarch saith a phedwar ugain. Dyma Iwch Ishmael Jones. Dipyn uwch i fyny dyma ddod at fedd un pur wahanol i Williams, a gwahanol i bawb a fu ar y ddaear erioed. Dyma oeqd ar ei garreg o :■—■ Bedd y Parch. Ishmael Jones, Ponciau' Rhos. Pregethodd yr Efengyl gyda chy- meradwyaeth mawr ymhlith yr Annibyn- wyr aros 55 o flynyddoedd. Bu farw Medi 9fed, 1876. Yn 82 oed. Canodd Hiraethog farwnad iddo yntau, ac wele bennill neu ddau :—• ISHMAEL JONES! Bu yntau farw Yr hynotaf dan y nef Erys chwithdod ar ein calon Dymor hir am dano ef Dyn ar ben ei hunan ydoedd Yn ymdeithio drwy y byd, Nid oedd un yn debyg iddo 0 holl feibion Adda i gyd. Lluniai natur fold o bwrpas I roi ffurf i'n gwron ni; Conglau d.yrys, a chromfachau, Dieithr iawn oedd ynddi hi Allan pan ddaeth ef ohoni, v Natur roes y fold o'i llaw Felly ar ei ol ond hynny, ISHMAEL arall byth ni ddaw Ac wele un enghraifft o'i ddawn bwytho digyffelyb Yr oedd hen ferch yn Sir pur gref- yddol ei ffordd, yn lletya pregethwyr, ac yn derbyn tal am eu lie. Achwynid nad oedd yno bopeth yn y modd goreu-fod y llety- ferch yn rhy gynnil i roddi yn gyf artal i'r tal adderbynnid, etc. Modd bynnag, yroedd efe yno un noson yn cael swper a gwely. Pan yn paratoi at swper, gwelai gruglwyth lied, dda o esgyrn, heb fawr arnynt, yn cael eu dwyn i'r ford. Gofynnai Ishmael Jones ynlled awgrymiadol, "Ydech chi'nmeddwl i mi fwyta esgyrn, ffrind. ? Mae digon arnynt i chwi a minnau, Mr. Jones." Fvdda i ddim yn arfer bwvta, esgyrn, .rwan,-—own fydd yn* bwyta esgyrn. Deuwch at y bwrdd, Mr. Jones." "Wet i'ch boddhau chi, ma'am, mi ddof at y bwrdd." Gofynnwch fendith, Mr. Jones. Ar ba beth, ffrind ? Na wna i .wir." Pah am ? Y sawl a fwyta9dd y cig i ginio ddylai ofyn bendith ar yr esgyrn i swper, rwan, ffrind." Ishmael Jones biau'r darnddiad diguro hwnnw o athrylith Wel, y mae genius yn rhywbeth above rule rwan nid gwiw gosod genius o dan y llinyn a'r square, rwan--above ru,le." Chwiliwch lenyddiaeth y byd, ac ni ehewch ddeffiniad gwell. Huw Dafis a'i dd'yflwydd. "Ond 'rhosm eh, ebc, Harrison, gan wyro, "dyma i chwi hen gone rhyfedd sy nghladd dan y garreg hon. Fe fu'n ddigon gwyllt ac ofer nes oed 1 yn be 'war ugain oe-l yn yr oed ran pell hwnnw, dyma fo'n cael 'tro,' ac yn caeldwy nynedd o fyw'n Gristion. Pan ddaeth i farw, tynghedodd hwy i ddweclyd "dwyflwydd oed ar garreg ei fedd, g an gyfrif fod y pedwar ugain arall yn waeth nag ofer, ac mai dim ond y d ( wy flynec ( y bu yng Nghrist oedd yn deilwng i gael eu cyfrif ynfywraewngwirio-nedcl. Felly fu ufudd hawyd i'w orchymyn a dyma sydd ar y garreg :•— J Hugh Dayies Ytoadawodd a'r byd hwn Mis M-di 24th, 1842, Yn 2 flwydd oed. Wrth graffiti, gwelem rhyw hen bennill yn gerfiedig ar y garreg copiais ddwy linell ohono ond gan fod y gweddill o'r golwg, dyma'r Harrison gwreiddiol, heb lol na mwmian, i nol rhaw ac a duricidd y pridd nes bod y pennill yn y golwg i gyd, a dyma fo :— Lloch yma mewn llwch ennyd I'th gastell o'th gystudd a'th ad.fyd, Mewn monwent ym min mynydd Llwch sant yn llechu sydd. 'Does fawr o ddim yn y pennill, ond y mae yna lawer iawn, iawn yn y cldlyflwydd sydd uwch ei ben. Ac wrth dacluso'r bedd, a rhoddi popeth yn ei ol cynddeled ag ydoedd cynt, dyina'm cyfaill a finnau'n ystyried y byddai'rhen Huw, a chyfrif ei oed o'r un fan ag y cyfrifodd ef ei hun, yn bed air ar ddeg a thrigain fis Medi nesaf. Ond dyma rhyw ias ac awel ryfedd yn cripio drosom ein dau, a dy.ma glywed rhyw lef addfwyn ddigyffelyb Oddifry yn dywedyd rhywbeth tebyg i hyn, cyn belled ag y medrai'nTclustiau cnawdol ni ei deal!:— "Ie, dim ond 74 ydwyf wrth gyfri'n ol ond cyfrifwch o yn ei flaen, a 'does yna jdim digon o ifgures yn holl arithmetic y dd aear i ddweyd fy oed. Bywyd Tragwyddol Pa beth a dal eich decimals a'ch compound multiplication at gyfrif hwnnw ? A'ch helpo mynd yn iau yr ydym ni yma bob un wrth fynd ymlaen, yn lie myndyn hyn fel y chwi i lawr yna; a'r llencyn ieuengaf yn y Nef yw'r hwn a ddaeth yma gyntai i gyd—Abel gyfiawn. Ni welais byth mo Cain, ei frawd, ys gwn i a welsoch chwi ? Tybed ai crwydro y mae o byth ? Gwelwyd llu o feddau ereill, ond gan eu bod hwy i gyd yn cyfrif eu hoed o'r groth ac nid o Gristf. fel Huw Dafis, ffwrdd a ni i weld, y capel, gan sylwi ar hyn ar ei dalcen o'r tu mewn :— Er coffadwriaeth am I y Parch. Wm. Williams o'r Wern, Urddwyd yn weinidog i'r Eglwys hon Hydref 28, 1806. Bu farw Mawrth 19, 1840. Oed, 59. ] Oedd enwog archddiwinydd,—iachusaf A chyson athronydd Cyfaill, pwy Wei hefelydd ? Brawd o wir barch, ysbryd rhydd. Hiraethog biau'r englyn, ac yr oedd y ddau fel Dafydd a Jonathan am ei gilydd. Capel go hynod yw Capel yr Adwy. Hyn a hyn o seti i wrandawyr yn ei gonglau, tan sgafell y llofft-" seti pechaduriaid," fel y galwai un o weilch Lerpwl eu cyffelyb yn ei gapel ef. Rhyw flwch bach, heb le i neb ond iddo fo'i hun, yw set y cedwr canu a phe'r elai hi'n orfcledd a diwygiad* rnae'n debyg mai allan i'r aisle y byddai raid mynd er mwyn iddo gae lledu ei esgeiriau a cholli tipyn arno'i hun. Cornel go od ydoedd hon, ond glyd a snec ryfedd ol yn ochr yr offeryn. O dipyn i beth, anturiais i'r Set Fawr, nid o ran fod amaf ddim oi bly- achos roedd honno y bum i ynddi flynyddoedd yn ol mor anesmwyth a'r Gad air Wichlyd yma brqn, ond am fod yn rhaid imi fynd drwyddi i fedru esgvn i'r pulpud, gael imi gael y fraint o sefyll lie y safodd Seraff y Wern, a cheisio dychmygu fy mod yn clywed ei lais a'i besychiad wrth ddechreu datod ei destyn. Ei besychiad ibabeth y soniweh am beth felly ? Ddyn annwyl y mae yna rywbeth ym mhesychiad dyn mawr a da nas ceir byth ym mhesychiad dyn bach a diawen. Pwy fyth, a'i clybu, a fedrodd anghofio Hy Mathews Ewenninagawrfloedd. John Jones Talsarn, wrth neidio o dorian ei rag- ymadrodd i nofio ym mor diwaelod ei bwnc ? Pa faint a roiswn heno, John Harrison, am gael clywed Williams yn traddodi un o bregethau mawr dydd ei anterth, a finnau'n cael y fraint a'r hyfrydwch o bel fy nghyn- heddfau at ei gilydd, a'u trethu ar eu heithaf glas wrth nyddu portreiad ohono gogyfer a Galeri Hoelion Wyth Y BRYTHON. Mawr.o beth i'r bensil yma fuasai cael deunydd mor odidog. Os byth y caf fy nghodi i'r unfan ag o, fe fynnaf ei threio hi. A phwy a wyr na ch af ? Hai Iwc I I Gweld yr Hen Glawdd- Allan a ni bellach i'r Ion a'n dygodd i Gadwgan, clobyn o ffermdy palasog, hen a hanesyddol iawn, er dyddiau Cromwell neu gynt, a'r manylion amdano i'w cael yn ysgrif- eniadau H. N. Palmer, hanesydd trylen Maelor sydd yntau bellach yn ei fedd. Er hwyred yr awr, yroedd pob drws yn agor led y pen i Harrison, a chefais sblo ar ei drawstiau derw anfert-h, ar oi risiau cedyrn, ac ar y lie y bachid ac y crogid milwyr yn yr hen amser. Yr oedd yno argoel digon o rhyw fath ar fawredd ac urddas a chadernid ar y lie swn yiriladd cigyddlyd yr oesoedd gynt i'w glywed yn yr awe l a suai drwy ddail y coed tewfrig sydd o'i gwmpas ond am fyw ynddo, na wnawn byth Y mae gormod o ol gwaed iy iaid ar ei barwydydd, i olwg fy nychymyg i Ni wyr y teulu sydd yma heddyw air o Gym- raeg, ac ni faliant hwy ffeiien na chwrligwgan am rhyw sucan sentimental fel oedd yn fy mhoeni i pan safwn ar ganol ei gegin anferth. Cyflwr y cnydau a'u maip a'u rwdins, y gwartheg a'rhwch fagu,'—-dyna'ii Puro. Pwnc hwy, aed iaith a chenedlaetholdeb Cadwgan lle'r elont, canys 'does dim i'w gael am hwnnw mewn if ai r. Yr oedd yna rhyw lencyn bach caredig a thafotrvdd ia,wn yn dangos hyn ac ara l l inni, ac yn traethu'n helaeth a gwybodus tuhwnt ar ei hynafiaethau. Chwarae teg iddo,—yroedd o'nmeddwl ei fod Yr oeddwn innau'n hollwybodol bron pan yn grwt pymtheg oed, ac yn methu deall sut yr oedd fy nhad a f'athro Ysgol Sul a'rgweirddoc a'r ysgolfeistr mor dwp a phendew. Y mae Clawdd Offa am y cae a Chadwgan ac euth- om ato ac i'w ben, i edrych a Welwn ol traed larll Eidiol neu rhywun arall o'm hynafiaid wrth ymd rechu cadw Sacsoniaid anwar rliao, sathru'n Hen Wlad. Fflanders o le ydoedd hwn yn yr hen amser-yr hen Gymry a, ddioddefodd rany Belgiaid, a'rSaesonoedd yr Huns y pryd hwnnw, megis y (lengys Tudno yn ei awdl i Glawdd Offa Chwerw fu'r edrych' ar frwydrau— d ifiodo Hyd Frydain yn forau. A gweled gwlad ein tadau A'i hyd neu'i lied yn lleihau, Bu treisiwr heb betruso,—tmry waseju, Yn treisgar yspeilio I Y deyrnas, gan ei darnio Heb un drefn-pawh yn ei dro. I Ein dirWasgu yn dreisgar—a gawsom. I Mewn dig oesau cynnar Ar hyf weilgi ryfelgar-—■mordwyem A Chymru welem, uWch mor o alar.. Yma ago rem yng nghariad,-—heb neb Yn nabod drwg-<loiialad Nes ydoedd ymosodiad Gerwin gledd ar gyrrau'n gwtadi. Y difraw waed ferwai wedyii.ynt mraieh Cymru oil yn sydyn Gwalia, herfeiddiai'r gelyn Yn newydd-gref-yn ddi grytt. Pob gwron-pawb a garai Ei frodir hoff-—i'r frwydr ai A'r rhyfelwr gorfilain, Dan ei rwd, dynnai o'r Wain Orenwog lafn yr hen giedct Hongiai'n hyf mewn tangnefedd. Dyrnaid o wyr dewrion, d a,, Ddiogelent bridd Gwalia, A'i sengyd roes i angau Y ddifyr swydd o'i frasau, Llu, ar ol llu arall, yrrid Allan o Loegr llawn o lid, Ond llon-wyneb neb yn ol Ni ddiengai'n ddihangol ? Brwydraubrwd fu'n bryder bron ;—ae Offa Ar gyffin y Saeson Wnelai glawdd yn ail glo Neu ddor i leng o ddewrion. Mewn drygfyd mynnid rhagfur 0 glawdd dwl ond gloewodd dwr Cymru fach, ac amryw fu Fel yn falch o'i flin fylcliu. Mur dewr oedd y Cymry dig— Gweis di ofn ac ystyfnig 7 Eu clawdd balch oedd cledd heb ofn, A gwelai Gwalia golofn Ddiystyrrodd ystorom Dramawr a drud, er mor drom, A phan yn amddiffynnol, Ni bu neb wynebai'n ol Hwy a ddalient. yn ddilesg Filwyr hyf-nid fel rhyw hesg, Ond fel eu dur daflai dan Erch yn null gwreichion allan. Bobl Coed Poeth a'r Adwy a godre Maelor areihyd, awelwch chwimorddrad y costiodd eich tiroedd i'ch dewrion dadau yn y canrif- oedd pell yn ol ? Cofio amdanynt hwy a'u gwaed a barai imi feddwl fod rhywgochni dwfn ar bob talp a bridd oedd dan fy nhraed heno. Y mae'r galon yn lliwio'r llygad bob amser. Y fo'n gwarchod yr oedd hi'n hannernos ar yr amser newydd erbyn cyrraedd Bryn Derw ond yn lie cael ein dwrdio a'n troi dros y drws, ein croesawu'n dirion a gawsom, nes yr oedd hi'n tynnu at ddau ar gloch y bore erbyn i'r Harrison diball ddweyd ei stori olaf'. Rhaid gadael honno a hanes yr ymweliad drannoeth a Nant y Ffridd hyd FRYTHON arall. Llygad y Wawr J.H.J. I

Advertising

Cranogwen.