Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
The Leading Furnishing Establishment in the City of Liverpool PIONEER J BOLD ST., LIVERPOOL GREAT SALE Now Proceeding. ALL GOODS MARKED IN PLAIN FIGURES. CARPETS made free. LINOLEUMS laid free. BLINDS made free. 1/8 in the £ dis- count on all Linens, &e., & £ Ake. V I Furniture, Carpets, Curtains, Cretonnes, Linens, Ironmongery Cutlery, China, Bedsteads, Linoleums. Casements, Chintzes, Blankets, Brushes, Electro-plate, Glass, etc. Garden Furniture, etc. All Purchases Over £2 Delivered Free to any Railway Station in Great Britain. CASH BY PAYMENTS OUT of INCOME.
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa I [GAN YR HUTYN.] I UCHELWYL Y GYLCHD.AITH.-Caed. pregethu brwd gan bregethwyr glew yng nghylchdaith Coed Poeth yr wythnos ddi- weddaf. Ni fu rhagorach pregethwyr erioed gan y Wesleaid nag sydd yn awr, na gwell pregethu ar Y Clawdd mewn unrhyw wyl. Cymharol ieuanc oedd y cenhadon, ond yr Hen, Hen Stori oedd ganddynt, serch hynny Mawr oedd yrhwyl. Ungwahaniaeth amlwg medd un, rhwng pregethwrWesle a phregeth- wr Methodist Calfinaidd, yw fod y cyntaf yn cciaio cael hwyl yn y pulpud a'r olaf yn ceisio .aelhwyl yn y gynulleidfa,-y naill yn mynd ar dan ei hun a'r llall yn tanio'r gwrandawyr. Yn siwr, y mae gwir angen y ddau y dyddiau hyn. PWLSTON FA WR.-Cafodd y Clawdd y fraint o glywed y gwr annwyl hwn, yn Rhos- tyllen, y Sul o' r blaen. Efe'n anwylun Cymru benbaladr Yn wir, nid oes tebyg iddo,— gwyrth yw mewn dawn, dysg a chrefit. Mae'n anodd credu'r cwbl a ddywedir am ei hylawsedd. Mae ganddo, fel y dywedodd un, wedi dod allan o'r cyfarfod, "A giant mind." Y mae yn ddiamheuol yn un o bre- gethwyr pennaf Cymru, os nad y pennaf i gyd. Dylasai fod yn brifathro yn un o'r prif gclegau, a byddai ei ddylanwad yn anfesurol ddyrchafol. Efe yw ffafrddyn pawb. Brysied eto tua'r Clawdd. Y DDA U DDOCTOR.-Rhos am ganu, ond Coed Poeth am bregethu Rhos am Steddfod fawr, ond Coed Poeth am Gyfarfod mawr." Gwahoddodd yr Annibynwyr Cym- reig eleni y Parchn. Pitar Preis a Gwylfa Roberts, y ddau ddoctor"—y naill yn Ddoethawr mewn Diwinyddiaeth, a'r llall yn Ddoethawr mewn Llenyddiaeth. Tynasant dyrfa, ac ni siomwyd neb, er mai tipyn o siom fydd y graddedigion at ei gilydd. Dyma eithriad. TORRI TRWODD.-Llawenydd mawr darllen am lwyddiant ein rhengoedd yn tyllu trwodd tua Berlin. Quick march, boys I ond gwyliwch'ar eich troed lie sangwch. Mae uffern fwrn o'ch hamgylch, odditanoch, ac uwch eich pennau. Mae'r Glep yn proffwydo y bydd y frwydr drosodd ar fin y gaeaf. Mae yma ddisgwyliad mawr am glywed y latest bob dydd. IAITH FRWMSTANAIDD. Cwynir ,gan y milwyr yn gyfiredin oblegid iaith aflan ac anfoesol y swyddogion. Onis gellir rhoi atalfa ar beth fel hyn ? Anodd meddwl fod unrhyw swyddog mewn byddin y dyddiau hyn y fath adyn adwyth ag i gymryd, enw annwyl ein Duw yn ofer. Dylid crogi unrhyw swyddog euog yn ddiseremoni, fel un ajiadd as i gymd eithas. Pa beth a ddywed y Senedd ar hyn ? GWASTRAFF ARSWYDUS.—Ttjwedir fod gwastraff y Ddiod a gwastraff y f yd din yn arswydus meddwl amdano. Difrodir tunelli o foodstuffs i wneud gwirod bob dydd, a theflir tunelli o fwydydd o wersyll y milwyr bob dydd, am yr unig reswm fod gormod' ohono. Bydd raid dioddef am hyn. TAWEL DDYDD Y 'GETHWYR.- Dywedir i nifer fawr o weinidogion fwynhau "dydd tawel ar ymyl yr Alun yr wythnos ddiweddaf. Nid ad eg "dydd tawel" yw, frodyr! Rhy dawel y buom. "Up and doing, friends A gaf fi apelio atoch, er mai Hutyn wyf, am i chwi ddod allan o'ch tawel. woh, gan daranu yn erbyn y pechodau, nid parod i'n hamgylchu." ond y sydd wedi ein hamgylchu eisoes, sef y diota, y rhegu, y cwp bocsio, y torri Saboth, a'r esgeuluso cyffredin ar foddiongras ? Cynhaliwch gynhad]edd i gychwyn, yn mhrif dre'r brag, sef tref Gwraig Sam, i ddeffro'r ardal, ac ewch ati gan arwain fel gweision dewr y Duw Anweledig," ac fe'ch dilynir gan yr Home Defence fwyaf a welodd Cymru erioed 'Does dim ond eisiau bloedd "I'r Gad!" a rhywrai i arwain. A phwy fel y chwi ? Mae yma frwydr fwy i'w hymladd gartref, coeliwch fi PERYGL YR ORANGE PEEL.-Ymae rhisg yr eurafal (orange peel) a'i berygl i d roed wedi cael cryn sylw gan Gyngor Tref Gwrec- sam. Mae'r Cyngor hwn yn dod o hyd i bethau ysmala iawn, ac yn gwastraffu ei ddawn, ei amser a'i nerth ar bethau dibwys a byddai ei ymddygiad yn chwerthinllyd i'r eithaf onibai am yr amserau difrifol yr ydym ynddynt. S6n am the dangers of orange peel, yn wir, pan y mae mynyddau o beryglon o bob tu. Beth am berygl y ddiod-famol a'r -> wast raff annuwiolsydd ynlladd dynoliaeth y ) t The dangers of orange peel, indeedl Dim ond orange peel o ddyn, ac orange peel o Gyngor, a fuasai'n treulio amser gwerthfawr i ddadwrdd ar fater mor ddistadl pan y mae pethau mwy a phwysicach wrth ei ddrws. Chwi orange peelites, ymddeffrowch CAN PUNNOEDD Y RHOS.—Gwyr hael yw caredigion y Rhos, yn neilltuol felly tuag at yr Achos Da." Yr oedd casgliad chwarterol y Capel Mawr (C.M.), y Sul o'r blaen, dros gan punt (illo 19s. 11td), a'r casgliad chwarterol yng nghapel yr Annibyn- wyrCymreighefyd d.rosganpunt ( £ 100 3s. 6). Y Parch. Wyn Dafis yw bugail parchus a ddiadell flaenaf, a'r Parch. Peter Preis yr olaf. Nid yw casgliad odditan gan punt yn gasgliad gwerth son amdano yn y Rhos yma. EISIO CAN PUNT AM E1 DDANT. —Gwysiwyd deintydd yng Ngwraig Sam gan ddioddefydd am adael cyfran o'r dant ar ol wrth dynnu'r gweddill. Mynnai gael can punt o iawn, ac yn wir i chwi, fe gafodd £ 35. Wedi clywed hyn, y mae llawer un wedi bod yn procio ei safn er cael gweld a ddigwydd fod darn ar ol yn rhywle, oblegid y maent yn werth eu cael. Ceir tua £ 35 yr un amdanynt yn y d ref, ond hwyrach y costia twrne fwy na gwerth y darn dant. Byddai ffortiwn yn y dannedd onibai am v twmeiod. O'R MAEN LLOG PR OLA WDD.- Cyhoeddwyd Eisteddfod Pen y Bercwy yr wythnos ddiweddaf, a'r fath floeddio oedd ar y Maen Llog nes clywyd y lleisiau o gopa'r Clawdd, sef Clawdd Offa. Yr oedd seiniau y Band Pres hefyd yn hyglyw yma. Yr ydym ni ar y Clawdd yn disgwyl gwahoddiad i'r Eisteddfod gan Olygydd ffein y BRYTHON. Nac anghofied. MILWYR MEWN TAFARNDAI.-Nid o es dim d aioni o letya milwyr mewn taf amdai. Mae llawer un o'r milwyr wedi mynd ar y goriwaered trwy hyn, ac ing i deimlad ami i fachgen crefyddol o deulu duwiol yw ei osod mewn ty felly, ac mewn awyrgylch mor anghrefyddol. Efo'rholl gabanau a adeiledir yny wlad, ai tybed fod angengosod milwyr yn y fath dai o gwbl ? Cwyna'r tafarnwyr eu hunain. A oes gwlad yn y byd mor ddwl a'n gwlad ni ? Y TREIBIWNAL YN RICRIWTIO. —Amryfal yw'r pethau a ddisgyn i ran y Tribunlysoedd sydd yn y wlad. Gwelir yn awr eu bod yn myned yn recruiting sergeants i'r Volunteer Training Corps (V.T.C.), neu yn ol yrhen enw a erys arnynt tra bont bellach- yr Home Defence. Y mae rhywbeth swynol yn yr hen enw, hebiaw ystyr. Pa ystyr sydd i'r Voluntary, os gweagir ar y befchgyn yn y Tribunlys i ymuno a'r Corps ? Ond, atolwg, a oes gan y Tribunlys awdurdod i wneud hyn ? Ai recruitio yw ei fusnes ynteu barn,ac edrych fod tegwch yn cael ei wneud a phob un ? Fe garai y Clawdd gael goleuni ar hyn. Mae y Glep yn son tipyn am y peth. Y GOL. AR Y CLAWDD.-Dagennym ddeall fod y Golygydd wedi bod yn rhoi tro tua'r Clawdd. Pell oeddym o gartref, fel na I allem gael ei gwmni diddan, pegwyddem am ei wyl. Rhyfedd mor amrywiol ei ffansi mewn mynwent a Ffridd y bu. Mae'r lion a'r lleddf yn gymhlethedig yn awen a dawn ein golygydd clodwiw. Brysied yma eto. Mae yma stabl i'w ferlyn pan ddaw, a llofft glyd i'r gyriedydd llengar. [Bydd y merlyn yn gwybod i ble i anelu'r tro nesaf, ac a ddaw'n syth i stabl a phreseb Yr Hutyn blasus ei ebran.—Y GOL.]
[No title]
LLAWLYFR ABERYSTWYTH.—Dyma gopi'n cyrraedd o Lawlyfr Hymnau a Thonau y Gymanfa Ganu Genedlaethol wythnos yr Eisteddfod y mis nesaf-7c. drwy'r post oddi wrth Mr. T. Lewis Old, Bron Ceris, Aber- ystwyth. Yr Athro David Evans, Mus.Doc., Caerdydd, sydd i arwain, adyma'rtonau, etc., sydd yn y llyfr: Dymuniad (Tyrd, Ysbryd glan), Deemster (Mae Duw yn maddeu), Brynhyfryd (Mae'r Gwaed a redodd), Vaenol (Mae sain yr utgorn arian), St. Mary (At un a wrend y), A bergele (Mor ddedwydd yw y rhai), Gwinllan (Pererin wyf), Lledrod (O'r holl fendithion), Ymlyniad (0 lesu mawr), .Llanllyfni ('Rwy'n ofni'm nerth), Pererin (Wel, dyma'r Ceidwad), Glan 'r Afon (Bydd bydd), Dorcas (0 tyn y gorchudd), Braint (Braint, braint), Builth (Rhagluniaeth fawr), Liverpool (Nis gallodd angau du),-Moab (Ar lan lorddonen ddofn), Ramoth (A heibio'r dywell nos), Rhosymedre (O nefol addfwyn Oen), Andalusia (0 Dduw! rho im'), Glan Geirionydd (Doed holl drigolion llawr), Mathafarn (Y mae'r dyddiau'n dod i ben), Llanfair (Clod i'r bendigedig), Whitford (Fy Nuw, fy addfwyn Iesu), Rhyddid (0 Arglwydd Dduw Rhagluniaeth), Penlan (Pale, pafodd.), Llangeitho (lor trugarog), Aberystwyth (Arglwydd, pan fo'r dydd), Merthyr Cyno I (Wele'r dydd), Groeswen (Wele cawsom), Caersalem (Iesu, Iesu), Y Delyn Aur ('Rwy'n Dy garu), Capel y Ddol (Nad i'r gwyntoedd), Llanilar (0 dragwyddol Graig), Gwahoddiad (Golwg, Arglwydd), Margaret (Arglwydd, gad im), Hyfrydol (0 llefara, addfwyn lesu), Cwynfab Prydain (0 fy lesu), Alexander (0 anfeidrol rym), Moriah (Marchog, lesu), Sanctus (Glan geriwbiaid), Gwalia (0 am. nerth), Dies Irce (Dduw mawr), Llangoedmor (Gwnaed concwest), Trewen (Mi wn), Crug y bar (Mae ffrydiau), Elliot (O arwain), Bethel (Yr Arglwydd a feddwl), Cyfamod (Hen Ddarbi 0 agor fy llygaid.), Joanna (0 gariad), a'r ddwy anthem Teyrnasoedd y Ddaear a Mor hawddgar yw Dy bebyll. Dyna ichwi ddeunydd cymanfa ddiangof, tybed
[No title]
PLISMAN Y PLANT: COMEDI NEWYDD TAFWYS.—Yn ddiweddar cef- ais y pleser o weled perfformio'r gomedi uchod yn Neuadd y Farchnad, Caerffili. Euthum yno gan ddisgwyl noson ddifyr, ac ni chefais fy siomi. Y mae Tafwys wedi llwyddo i greu cyfanwaith da anghyffredin, a cheir teirawr o ddifyrrwch diniwed, a bair i un anghofio y rhyfel a phob peth annymunol arall. Hanes plisman y plant (shool attend- ance officer) ydyw. Hen lane newydd ei benodi i'r swydd, ac wrth siarad a chyfeillion am y rhagolygon, etc., yn cymharu ei fywyd ef ei hun a. gyrfa lwyddiannus ami un o'i gyf- oedion oeddwedi dringo i sefyllfaoedd pwysig mewn byd ac eglwys. Awgryma un cyfaill -efrydyod d iwinyd diaeth—mai'r llwybr goreu i gyrraedd llwyddiant cymdeithasol, iddo ef, fyddai priodi gwraig gyfoethog. O'r diwedd, penderfyna yntau wneud hynny, ac i'r pwrpas hwnnw el i Landrindod am ei wyliau. Y mae yna ddau arall wedi pender- fynu cyrchu i Land rind od tua'r un amser, sef Morgan Hopcin, y Twmpyn, Bryncarno, a'i wraig. Yr oedd Morgan newydd ddychwelyd o'r America ar ol gwneud ei ffortiwn yno, a theimlai Mari Hopcin fod rhaid iddynt, fel pobl gefnog, gadw rhyw gymaint o urddas, a byw mewn style. Perswadiodd Morgan, er enghraifft, i newid enw yr hen dy oTwmpyn i The Mount. Erbyn cyrraedd y llety yn Llandrindod, yr oedd yno ddwy ferch ieuanc yn aros; a'r ddwy, fel y digwydd weithiau, yn llawn o awydd priodi. Ymhen tipyn, cyrhaedda plisman y plant. Yr oedd y stori wedi ei lledaenu yno eifod yn llenwi swydd bwysig ym myd addysg, a mawr oedd y dis- gwyliad am Mr. Rhys Bellis. Mae Rhys, gan gredu ei bod yn gyfoethog, yn syrthio mewn cariad ag un o'r ddwy, sef Miss Bates ac ymhen pythefnos, priodant. Ar ol y neithior briodas, mae'r wraig ieuanc yn cyffesu iddi dwyllo ei gwr, ac mai geneth dlawd ydoedd. Mae'r gwr yntau'n gorfod cwympo ar ei fai hefyd, oherwydd nid oedd yntau ond plismon y plant. Ar hyn, dyma Morgan Hopcin yn peri tipyn o syndod iddynt, wrth ddweyd fod Mrs. Bellis yn nith iddo, a'i fod am ei anrhegu a chan punt. Dyna rediad y cynllun, y plot. Mae rhywbeth swynol iawn yn y gwaith ar ei hyd. Dangosir llawer o wendidau'r hil ddynol, ond treiddia ysbryd trugarog drwy'r cyfan. Hawdd gwybod fod yr awdur yn caru ei gyd-fforddolion, ac heb deimlo'r uchafiaeth ffiaidd hwnnw a geir mor ami yn gysylltieidg a gallu. Nid peth dibwys yw hyn. Dyna gamp Thackeray, onite ? Gallai ddefnyddio gwawdiaith ddeifiol, eto ceryddai mewn d agrau megis. Er gweled ohono drwy bob ffug, yn nyfnder ei enaid carai ei gyd- ddyn. Dywedirhefyd am Molieregan awdur Seisnig He is never paltry, never spiteful, never. small. At his heaviest blow, he means no harm, and has no desire to crush or to wound. He sees what is ludicrous with a glance which is penetrating and quick as lightning, and cuts through and through the veils of false meaning, but yet beholds hie fellow-creature behind and does all in fun anc nought in anger." G all d y nion ath rylith gar o'r fath yma chwerthin llawer geubeth o fod. Cadwodd Moliere at destynau a rodd- odd iddo gyfle i greu chwerthin heb ymdrin ag ond ychydig iawn o ddiodaefaint na thosturi wrth gario 411an ei gynllun. Gwelir felly too Tafwys j n oilyn ol traed rhai o feistri'r grefft wrth gyfansoadi gwaith syml, naturiol a di- wenwyn. Dyna'n anad dim a deimlwn wrth wranè.o'rgome< i hon, sef ei naturioldeb. Mae cysylltiad agos rhwng pob golygfa a'i gilydd. Rhed yr ymd liddan ymlaen mor naturiol ar i lljfna'rafon. Nid oesymaddimuchelgeisiol, a sieryd pob un iaith naturiol. Cryn gamp yw hyn. Dyma un elfen o gryfder yn Thomas Rardy gall ysgrifennu ymddiddan t:9" tafarn, neu gornel y fforda, mewn pentref, nes y teimlwn ein bod yno'n gwrando, nid ar bentrefwyr yn siarad iaith gaboledig, ond yn arfer geiriau sathredig gwlad, a phob un yn ymgomio yn ei ddull priodol ei hun. Pe bai I gofod, diddorol fuasai nodi amryw o'r 8cenes mwyaf chwerthinllyd yng nghomedi Tafwys, ond llawer gwell i'r darllenydd fydd ceisio cael cyfle i'w chlywed. Credaf mai mewn comedi y mae cryfder Tafwys, ac y gallwn ddisgwyl ychwaneg o waith o'r fath yma ganddo. Boed iddo hir oes ac iechyd i gyn- ysgaeddu ei genedl a dramodau. tebyg iddi. Hwyrach y dylwn ddweyd mai gweinidog parchus gyda'r Annibynwyr yng Nghaerffili yyv'r awdur, sef y Parch. D. Tafwys Jones. Ymae'n eiddgardros yrheniaith, ac yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Cymrodorion yno. Ond i ddychwelyd. Nid ydym yn unfryd- unfarri yng Nghymru, mi wn, parthed lie a neges y ddrama; ond rhaid cofio un peth ynglyn a hi, sef fod miloedd o fechgyn Cymru yn 0 y fydd in, ac yn mynychu chwaraedai y Llywodraeth y tu ol i'r ffosydd. 0 ganlyniad, panddychwelant, bydd y reddf ddramayddol sydd ynom fel Celtiaid wedi ei datblygu i raddau helaeth, a bydd llawer ohonynt yn dyheu am weled actio. Rhaid paratoi ar gyfer h nny. Os na chant ddramodau uwchraddol, ant i wrando ar sothach, a gwaeth na hynny hwyrach, ar bethau a lych- wina euheneidiau. Mantaisfawr, ganhynny, fydd ai cael nifer o weithiau tebyg i Plisman y Plant i'w chwarae, yn enwedig ym mhentrefi ein gw lad. Bydd angen llaw er mwy o ad Ion iant. ym mharthau gwledig Cymru yn y dylod.ol nag erioed o'r blaen, os ydym am gadw rhai o'r bechgyn goreu ar y tir, yn lie heidio ohonynt i'r trefi mawrion. Un gair wrth derfynu. Bydded gennym hyder ynom ein hunain, a chredwn y gall Cymro gynyrchu gwaith cystal bob blewyn a Sais neu Almaen- wr. Rhyw ddirgel gredu yr ydym, onite, y rhaid i bopeth bron fod yn Saesneg neu yn waith Sais, cyn y gellir ei ystyried yn safonol Aeth yr Almaen i eithafion wrth bregethu hunan-hyder llenyddol, etc., yn y gorffennol, ond er hynny dylem ni Gymry gadw hyn mewn cof yn barhaus Os am wneud ein rhan, rhaid i ni fod yn berffaith annibynnol mewn barn. Y mae gormod o gymharu pethau Cymreig a phethau Seisnig wedi bod, a met1 uwl fod y gwahaniaeth hanfodol sydd rhyngddynt yn codi o waeledd cynh) rchion y Celt. Nid, felly y mae. Nisgellirbarnullen- yddiaeth wrth ganonau llenyddol gwlad Groeg. Dyna a wnaed gan amryw yn adeg y Deffroad Llenyddol (Renaissance) yn Eu rop nid rhyfedd gan hynny ydyw darllen fod Petrarch, er enghraifft, yn rhoddi cryn bwys ar deilyngdod ei weithiau yn yr iaith Ladin, tra yn meddwl yn fawr o'i farddoniaeth yn yr iaith Eidalaidd, sydd wedi ei anfarwoli. Yr oedd edmygedd o gyflawniad au" y gorffennol yn parlysu ffydL4 yn y dyfodol, ys dywed un awdur o fri. Gwelir effaith anni- byniaeth meddwl yn hanes Wagner a Words- worth. Dyna a wnaethant hwy torri ar draws pob rheol oedd yn tueddu i'w caethiwo a mynnu tragwyddolheol. Nid anwybyddu'r gorffennol, ond gwrthod cymryd eu llyffeth- eirio ganddo, na slafaidd ddilyn neb dyn na chenedl arall. Yr oeddynt ynllaw nbeiddgar- wch, ond eto heb redeg i eithafion ffol. Celfyddyd fylchog yn unig a wna hyn. Peidiwn ag oini beirniad aeth pan yn torri llwybrau newydd ion. Cofiwn gymaint o gamgymeriadau a wnaed gan feirniaid yn yr amser a fu parthed teilyngdod llenyddol gweithiau a ystyrrir heddyw'n safonol. Diddorol fuasai nodi ychydig enghreifftiau o garilyniadau yr hyn wyf yn bwysleisio, sef annibyniaeth barn, yn llenyddiaeth amryw 6 wledydd blaenaf y Cyfandir, ond rhaid ym. atal. Y mae'r gallu ynom, fel cenedl, a'r cwbl sydd eisiau ydyw hunan-hyder i weithio yn ein ffordd ein hunain.—John Dawes. -0--
Gorea Cymro, yp un Oddieantre
Gorea Cymro, yp un Oddieantre BOLTON.-Nos Iau, cynhaliwyd cyfarfod i ffarwelio a'r Parch. J. S. Roberts ac i ddymuno'n dda iddo yn ei gartref newydd yn Clwydian Cottage, Vale Street, Dinbych. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. Roberts, Ogwen Villas, yr hwn a alwodd ar Mr. Wm. Evans blaenor) i siarad dros yr eglwys. Methodd Mr. T. Davies a bod yn bresennol i siarad dros yr Ysgol Sul; ond dywedodd Mrs. Barclay eiriau priodol iawn dros y chwiorydd, gan gyfeirio yn arbennig at ofal Mr. Rob- erts o'r chwiorydd ieuainc mewn gwasanaeth. Can- odd Miss M. Parry, ac adroddodd Miss K. Parry eiriau a gyfansoddwyd gan eu tad, Mr. Wm.Parry,ar gyfer yr amgylchiAd. Yna galwyd ar Mrs. Roberts, Ogwen Villas, i gyflwyno anrheg i Mr. Roberts, sef oriawr aur dillyn, a phwrs o aur melyn, gan ofyn iddo eu derbyn fel arwydd fechan o'u parch iddo a'u gwerthfawrogiad o'i lafur a'i ymdrech gyda hwy am yr 20 mlynedd diweddaf. Diolchodd yntau'n gynnes am yr anrheg. Taflodd olwg frysiog dros eu hymdrechion er pan oedd yn eu plith, yn arbennig gyda'r capel newydd a'rddyled drom a ddisgynnodd arnynt,ond sydd erbyn hyn wedi dod i swm bychan iawn; a dymunodd yn dda iddynt yn y dyfodol, gan obeithio na byddent yn hir heb sicrhau dilynyidd iddo. Pregethodd Mr. Rob- erts ei bregeth ymadawol nos Saboth i gynulleidfa oedd yn gwir lenwi'r capel eang, am fod y cyfeillion yn Farnworth wedi dod ac ymuno am y tro. Meth- odd Mr. Richard Evans a bod yn bresennol i ganu yn ol ei addewid, oherwydd anhwyldeb, ond sicrhaodd yr oreu allai gael yn ddiau yn ei le, sef Miss Annie Davies, Penrhyndeudraeth, a chanodd yn fendigedig fel arfer. Diau nad anghofia neb oedd yn bresennol mo adsain ei "Buddugoliaeth" tra byddont byw. Yr oedd dwyster hyfryd ac arogl esmwyth yn nod- weddu'r holl wasanaeth. FARNWORTH, GER BOLTON.-Mehefin 24ain, cyn- haliwyd cyfarfod ymadawol y Parch. J. S. Roberts, sydd wedi'n gwasanaethu amyn agos i ugam mlynedd fel bugail y ddwy eglwys. Cyfarfod pur hwyliog; cadeirydd, Mr. John Roberts gweddiodd Mr. Wm. Evans, a chaed rhan mewn canu ac adrodd gan Sarah H. Lewis, Blodwen Williams, Myfanwy Jones, Mrs. Wonfindale, Myfanwy Parry, Blodwen Parry ac Edith George. Yna deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno pwrs a'i gynnwys melyn i Mr. Roberts. Mr. Thomas Evans oedd i'w gyflwyno, ond yn ei absenoldeb fe ofynnwyd i Mr. Wm. Hughes, hen frawd sydd dros ei bedwar ugain oed, i wneud yn ei le, ac a'igwnaeth yn hwylus a chaibnnog, gan siarad yn fyr a c i'r pwrpas, ac adrodd gosteg 0 benhillion cynnes eu dymuniad. Cydnabuwyd y rhodd a'r teimladau da gan Mr. Roberts a gair deheig fel arfer, ac wedyn siaradwyd a chanwyd gan Mr. Robert Humphreys, Lewis Williams, Edward Williams, Edward Lewis, a therfynwyd trwy ganu ton gynulleidfaol a gweddi gan Mr. J. W. Parry.
Advertising
Or EVERY WOMAN Should send a stamps for our 32 page Illustrated Bool containing valuable information how aU ,??gu"jiti. and Suppressions may be entirely avoided or removed by simple t Recommended by eminent Phy?icane a# the only Safe, Sure and 6enume Remedy. Neve< 'it Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD 8elm*nti!Hease,Sainton Laur. tGNDOM IN STOCK. „ 6/6 h.p. Rudge-Multi & Budge Sidecar; Demonstration outfit, in perfect order, Cash Price 155. 3$h p. L.M.O. 3 speed, Chain-cum-Belt drive. Splendid machine for solo or sidecar work. Cash Price £66 21. Od. Si h.p. B.8.A. 3 speed, Chain-eum-Belt drive. Cash Price £62. 81 h.p. Rudge-Multi, Russian War-Service Model, Enami elled service Green; in perfect order. Cash Price f47 10a. Od We have only one each of the above, First Cheque received secures same. Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Salet by auction on owners' premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, 27 Newington, Liverpool; 18 Rydal Bank & 106 Liscard Road, Liscard. Tel. 646 Royal. TelophoaO-Lnfteld. 800 155 KENSINGTON, LIVERPOOL. R. W. EVANS, funeral director- All Orders personally attended to throughout. | P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELZPHONE-261 BOOTLB. TELEPHONE-sys ANFIELD. J. T. JONES. Funeral Undertaker, EVER TO N 40 Street,' EVERTONG and 53 .X Raa LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts* Why go to Town ? When the BOOTLE Shorthand & Typewriting ACADEMY, 4 TRINITY ROAD, give pupils a practical business training in Shorthand, Typewriting, and General Offico Routine equal to any City School, No Failures. Day and Evening Classes. Apply Principal. BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, JL) Yosts, Smith, Premier, Barlocks, Bm. pires, Oliver, Blicks, Royal Standard, from 1:12 new condition, See the REX 223 worth for 12 guineas.—LONGMORK, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. COOK& TOWNSHEND Special Value this week. Boys' Oilskin Coats, 8/6 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats. 14/6 to 21/6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suits. 12/6 to 15/6 15/6 to 21/6 Boys' Covert Coats, 12/6 to 21/- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Date St., LIVERPOOL. For Baths, LavatoriesClosets, Brats Fmtiw t Lead Pipes, etc., apply to— JAMES CHEW 6 CO., Plumbers' Merchants & Brassfonndeta, Tel. No. 58 & 60 PARADISE STREET*. BanK 3402. LIVERPO La Manufacturers ol Copper Cylinders, Boilers, and Gas Wadiing Boilers. DIM TALU YMLAKB LLAW. ARIAN YN FENTHYG. (yn ddistflw bach), mewn symiau bach neu fawr (heb fod llai na £10) AE ADDAWEB T BENTHYCIWR DI KUP, IEFYDLWYD ER8 46 MLYNEDD. ac yn awr yn rhoi £ 80,000 YN FENTfiYG BOB BLWYDDT* Am daflen a thelerau ymofynner a George Payne a'i Feib., 3 Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpe" PAINLESS DENTISTRY. J. (Soil of the late J. Lampiough, for many years in til* Denial Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Hours-10 Am- to 8-80 p.m. Consultation free, t Tel. 345 Anfleld. iN a Letter Home a Soldier writes It is hard to find a clean soldier now. The belt yon sent me h splendid, and every man out here should be provided with one." He refers to KENNEDY'S KILL-LIOE BBMBS, which absolutely repel vermin and disease. Help your boy to keep clean. 3 Oelts for 4/- AU Chemists, 1 /6 each, or post paid anywhere frem KENNEDY, 2 Park-rd., Liverpool. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & stOTT LTD., ¡' 116, 118 a 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 II 0 < i; S Telephone 2131 Royal.