Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

WWT GOSTEG. I

DYDDIADUR. I

•ynoeddwyr y Cymod I

Advertising

Basgedaid olp Wl ad.

News
Cite
Share

Basgedaid olp Wl ad. SASIWN LLANrRCHYMEDD.-Dydd Iau a dydd Gwener diweddaf cynhaliwyd Sasiwn Sirol y Sir yn y lie uchod. Bore dydd lau, yn y capel, cyfarfu'r Cyfarfod Misol, pryd y llywyddwyd gan y Parch. Robert Hughes. Da gan y frawdoliaeth ydoedd gweled y Caplan Llewelyn Lloyd, yr hwn a roes achos cael tabernacl i'r milwyr Cymreig yn Kinmel gerbron. Caed cynhadledd yn y prynhawn, pryd y daeth llonaid Uawr y capei ynghyd. Y mater ydoedd, Lie gweddi yn llywodraelh Dim ar y byd. Agorwyd gan y Parch. W. M. Jones. Llansantffraid a dilyn-ivyd gan y Parch R. Beynon, B.A., Dr. Cynddylan Jones, ac O. L. Roberts, yr hwn a wahoddwyd i bregethu i'r Gyman- fa o fysg yr Annibynwyr, a theg ydyw dweyd iddo roddi boddlonrwydd i bawb. Yr oedd y tywydd yn wlyb ac oer, er hynny mentrwyd i'r babell eang ar y cae. Caed cyfarfod cenhadol ar 01 yr oedfa dan lyw- yddiaeth y Parch. W. Owen; siaradwyd gan Dr. Williams, Harries Rees, y cenhadon, a'r Parch. R. J. Williams, yggrifennydd y Genhadaeth. Nid oedd y nifer yn fawr, and caed cwrdd da. Yr oedd dydd Gwener yn ddiwmod rhagorol, a daeth o wahanol rannau y Sir gynulleidfa na welwyd ei mwy yn Llan- erchymedd erioed. Gwasanaethwyd yn y gwahanol odfeuon gan Dr. Cynddylan Jones 0. L. Roberts (A.) Lerpwl y W. M. Jones, Llansantffraid; H. Harris r Jlhell- Leipwi i itc R-Beynon, Abercrf, MARWOLACTH T PARCHv MORGAN DAVI*«, AB*R- •u.x.—Bore dydd Llun y Sulgwyn, bu farw'r brawd annwyl uchod, yn 58 mlwydd oed. Daeth i fugeilio eglwysi Abergele, Bodoryn, a Moelfre, yn ddilynyddy Parch. E. T. Davies (Jleirion), 27 mlynedd yn ol; ond Abergele'n unig oedd dan ei ofalers rhai blynydd- oedd. Cafodd ysbeidiau o gystudd trwm yn ystod y pedair blynedd diweddaf, a hyderem y caffai adferiad fel arfer, ond daeth y diwedd yn sydyn. Claddwyd yng nghladdfa y M.C. ddydd Iau yr wythnos ddi- weddaf. Cymrwyd rhan gan y Parchn. O. V. Jones, Betws; W. M. Jones, Llanelwy; J. R. Hughes, Jerusalem W. Williams, Colwyn Bay; W. Phillips, Penrhynside^ J. W. Williams, Fflint; W. R. Owen (M.C.), Abergele; Llifon; a'r Mri. H. E. Pritchard, Y.H., Abergele, a Hugh Edwards, Rhyl. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Syr J. Herbert Roberts; Mr. Trefor Roberts a'i chwiorydd o gyfarfod yr Undeb Annibynnol; myfyrwyr Bala-Bangor oedd yn yr Undeb Dr. Pan Jones Dr. D. Oliver; y Parchn. H. Ifor Jones, Caer T. Roberts, Wyddgrug Pen- llyn; Ben Williams, Prestatyn; Talwrn Jones E. Jones-Roberts, Rhyl; T. E. Thomas; Mr. D. Jones, Hartsheath, etc. Nid dyn cyffredin oedd Mr. Davies nid oedd yn debyg i neb arall, ac ofer i arall geisio ymdebygu iddo ef. Hir gofir ei weddiau yr oedd wrth Orsedd Gras megis un yn ymddiddan a'i gyfaill. Yr oedd ei bregethau'n frith o berlau; taflai hwynt heb gymryd nemor drafferth i'w caboli. fel un anymwybodol o'u gwerth. Mae ambell bre- gethwr fel eurych yn gallu curo'r aur yn dafellau teneuon iawn ond yr oedd nuggets cyfain yn disgleir- io ymhob brawddeg o bregethau Mr. Davies. Gwy- ddom fod llawer ohonynt ar gof y sawl a gafodd y fraint o'i glywed o Sul i Sul, a hyderwn eu bod ar gael mewn ysgrifen os ydynt, gwnaent gyfrol fyw. Chwith yw meddwl am Abergele heb y Parch. Morgan Davies. 0 SIR FFLim-r.-Cyrhaliodd Wesleaid Helygain eu cyfarfod pregethu eleni, nos Sadwm a'r Sul, Mehefin 17 a'r 18. Pregethwyd yn rymus a dylan- wadol gan y Parchn. J. Parry Brooks, Caerwys, a G. J.Owen,Penmaenmawr. Ynglyn a Chymanfa'r Bedyddwyr yng Nghaerwys, pregethwyd yng nghapel y Bedyddwyr yn y Berthen nos Fawrth, Mehefin 20, gan y Parchn. T. Michael, B.A..B.D., Lerpwl, a J. Vaughan Pugh, Manceinion. Yn y Berthen, medd Mr. J. W. Jones, Bagillt, y bu'r Cyfar- fod Misol cyntaf gan y M.C. yn Sir Fflint, yn 1783. ac yn y Berthen y bu'r C.M. diweddaf, Mehefin 17. Coffawyd am y Parchn. H. Roberts, Treffynnon, ac Ed. Pierce, Trelo,-an,-y ddau, ebe Tegfelyn, wedi mynd i Sasiwn fawr y Sulgwyn tragwyddol. Ffar- weliwyd a'r Parch. Robert Lewis, Adwy'r Clawdd, a ofynnai am lythyr cyflwyniad i Gyfarfod Misol Mon, sef i Landegfan, yn fugail y ddiadell Fethodistaidd yno. Bydd ei symudiad yn golled fawr i Sir Fflint, ac yn ennill mawr i Fon. Un o ddisgyblion annwyl y C.M yw ef. Bu'n aelod ohono am 20 mlynedd. A siarad yn iaith y werin, dyn yn gwisgo yw Robert Lewis a chredwn y gwisg ym Mon fel y gwnaeth yn Crewe a Sir Fflint. Anodd iawn ei ollwng. a bydd yn chwith iawn ar ei ol. Efe oedd ystadegydd y C.M. am y pedair blynedd diweddaf. a gwnaeth ei waith yn benigamp. Yr oedd rhywun yn dywedyd yti y C.M. ei fod yn genius am ystadegau a llyfr cyhoeddiadau taclus. A phrawf o hynny yw blwyddlyfr Sir Fflint sydd tan ei olygiaeth. Bendith deufyd a fo arno yn ei faes newydd. Sylwasom ar fraWd yn estyn papur bychan iddo yn y C.M., a deallwn mai'r hyn a ganlyn oedd wedi ei ysgrifennu arno :— Gwenau'r Nefoedd fyddo arnat Ðws y Menai draw ym Môn Bendith rasol llwyddiant fyddo Arnat eto pan yn son Yn y seiat gyda'r brodyr Am y Groes a Chalfari, A dylifed goleu'r Ysbryd Yn y pulpud amat ti. Engyl gwynfyd a'th warchodo Yng nghynhaeaf Mab y Dyn; Boed dy gartref cysegredig Yh anwyifan Nef ei hun. Drwg gennym fod disgybl annwyl arall yn trefnu i symud o'r C.M., sef y Parch. W. S. Jones, M.A., Caer. Buasaj'n dda gennym iddo aro*; ond, gan ei fod wedi penderfynu ein gadael, dymunwn ei lwyddiant o galon. Y mae'r eglwys yn chwilio am ddilynydd iddo, a gobeithio y caiff un yn fuan.——Y Paichn., T. Miles Jones, Treuddyn, a G. Parry Williams, M.A., yr Wyddgrug, a bregethodd yn odidog ragoro) yn. oedfa C.M. y Berthen Gron. Nos Sul, Mehefin 25) yng nghapeli M.C., Berthen Gron, traddodwyd pregeth goffa i'r Parch. Edward Pierce gan y Parch T. M. Jones, y Gronant. Disgynnai gwlith y Nef ar yr holl wasanaeth. CORWEN.-Mehefin 21, cynhaliodd M.C. y dos- barth uchod eu Cymanfa Gerddorol yng Ngwyddel- wem, Arweinydd y dydd oedd y Proff. T. J. Mor- gan, F.T.S.C., R.A.M., Cwmbach, Aberdar; cyfeil- yddion, Miss M. Jones, Llandrillo, a Mr. Christmas Evans, Corwen. Llywyddwyd gan Mr. D. W. Roberts, Bryneglwys, a'r Parch. Ed. Edwards, Carrog. Dechreuwyd y cyfarfodydd gan Mr. Ellis, Brynceiriog, a'r Parch. J. T. Williams, Bryneglwys. Canwyd y tonau a ganlyn gydag arddeliacj Porth- gain, Mawl, St. Elizabeth, Rhondda, Innocence, Requiem, San Remo, Dominus Regit Me, Ogmore, Aberteifi, Glyndyfrdwy, Emyn Foreuol, Am yr Tsgol Rad Sabothol, Pwyso ar ei Fraich, Aros gyda ni, salm- don 45 o lyfr M.C. Cafwyd datganiad rhagorol o'r anthemau.Arglwydd, chwiliaist, a Molwch yrArglwydd (D. Jenkins). Dyma ymweliad cyntaf y Proff. Mor- gan a'r dosbarth. Yr oedd ganddo ddylanwad neilltuol ar y gynulleidfa fawr. Ni bum erioed mewn Gymanfa Ganu a mwy o ddistawrwydd rhwng y tonau: enillodd sylw'r cantorion ar unwaith. Rhoddodd ganmoliaeth uchel i lafui Mr. John Evans fel arweinydd y rehearsals; Mr. Evans hefyd yw 1 ysgrifennydd y Gymanfa, ac y mae llawer o glod iddo am hynny. Cafwyd anerchiadau gan Mr. Ellis Evans, Corwen, a'r Parch. D. Thomas, Llandrillo. Hefyd rhoddodd y Proff. Morgan anerchiad yn yr hwyr ar fywyd a gwaith y diweddar Broff. D. Jenkins. Gobeithio y cawn Gymanfa Ganu debyg yn fuan eto. CYDNABOD ARWEINYDD Y GAN.—Mr. Ellis P. Jones-mab hynaf y diweddar Mr. Henrv Jones (Heilip}—fu'n arwain y gan yng nghapel Pen- mount am flynyddoedd, yn nodedig o weithgar gydag ieuenctyd yr eglwys, ac yn hoff gan bawb. Bydd yn chwith iawn gan ei gyfeillion yn Penmount, a'r dref yn gyffredinol, am weithiwr mor ragorol, fel y bydd yn chwith ganddo yntay am ei hen gylch. Y mae'n awr wedi ymsefydlu mewn swyddfa yng Nghaerdydd, ac yn fuan bydd ei deulu'n symud yno ato. Y nos Sui o'r blaen, ar ol yr oedfa, cyflwynodd Mrs. Puleston Jones fheque i Mr. Jones, fel arwydd o weithfawrogiad yr eglwys' o'i wasanaeth, a mynegodd amryw o'r blaenoriaid eu gofid o'i goHi a'u dymuniadau da iddo ef a'i deulu. Mac iddo un mab yn y Fyddin, ua arall ar y m6r. ■ ■. fi-

"Ein CoRfidS ym Manceinion.I

[No title]

-,V"s o Big y Lleifiad.

[No title]

Advertising