Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Chwarelwyr Dyffryn Nantlle

I Sasiwn Godre -Pianlumoi.

News
Cite
Share

I Sasiwn Godre Pianlumoi. RHO ED arbenigrwydd mawr ar Sasiwn Or- deinio Llanidloes ym Mehefin 1916. Yr oedd blaenoriaid fiyddlon capelChinaStreet, a chyf- eillion Bethel Street, ynghyda'r pwyllgoi a nodwyd gan y Cyfarfod Misol, wedi bod ar em goreu, a chredwn i'r Arglwydd hefyd amlygul hun mewn modd neilltuo] iawn trwy'r od- feuon. Yroedd y Parch. David Hoskins, M.A. yno yn ei wisg filwrol. Daeth y Parch. Wm. Williams, Talysarn, yno i draddodi'r Cyngor —gwr cywir a chaff: un o'r rhai mwyeL llwyddiannus fel bugail yn y Cyfundeb. Ae wrth gwrs wele T. Charles Williams, let rhyw Wyddfa fawr,—yn wybodus, yn fedrus, yn Hawn ysbryd barn, ac yn gweled i bob cyfeiriad. Gadewch i ni am funud fwrw gol- Iwg dros rai pethau yn y Sasiwn a'r pregethu. Dipyn yn dawel oedd y rhan amgylchiadol. Yr oedd urddas a thawelwch y llywydd yn gwarantu hynny. Y mae cyfliymder a boneddigeiddrwydd yr ysgrifennydd hefyd yn diogelu sylw i bopeth yn ei dro ac yn ei le. Bu cwestiwn o ystafell at wasanaeth y milwyr yng Nghroesoswallt dan sylw. I'r pwrpa* hwnnw y d aeth ai Mr. Hoskins yno. Dygwyd tystiolaeth uchel iawn i ddylanwad iach Mr. Hoskins ar y milwyr gan amryw, yn eu plith y Parchn. H. E. Griffith, Seion, Croesoswallt, a John Owen, M.A., Caernarfon. Pasiwyd i ofyn i bwyllgor Cenhadaeth y Milwyr edrych i mewn i'r mater hwn. Daeth cenadwri o Lundain ynglyn A' gwrthwynebwyr cydwybodol. Siomedig iawn oedd y sylw a gafodd hwn. Yr oedd yr arweinwyr yn absennol. Nid oedd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, yno, na'r Parch. T. C. Williams. Gresyn na bai'r Parch. Parry Huws i mewn ar y pryd. Tipyn o fendith fuasai clywed y Parch. Peter Hughee Griffiths yn siarad ar hyn ond bu raid bod- loni ar yr hyn y teimlai llawer oedd yn bur siomedig. Trefnwyd i yrra pellebr i'r Athro Levi as hefyd pasiwyd i yrru cynrychiolydd i'r angladd,-y Parch. John Williams. Caerzvbi Yr oedd cyfarfod arbennig o'r blaenoriaid yn eistedd nos Fawrth, ar Gynhaliaeth y Weinidogaeth. Rhaid cael cyfarfod cyffelyb eto yn y Sasiwn nesaf. Argoel dda yw hyn. Gresyn fod y mater yma wedi ei daflu o don i don ar hyd y blynyddoedd a dim yn cael ei wneud ond bellach ymddengys y rhaid gwneud rhywbeth. Yr un amser cynhelid Cyfarfod y Gen- hadaeth Gartrefol yn Bethel Street, dan lyw- yddiaeth Mr. Edward Jones, Y.H., Caersws. Siaradwyd yn effeithiol gan y Parchn. Parry Jones, W. S. Jones, J. Hughes-Morris, as R. R. Roberts, Caerdydd. "Pob dyn ym genhadwr" oedd mater R. R. Roberts. Y mae Mr. Roberts yn byw yn ei fyd ei hun a gwnai les i enaid pawb pe'r edrychai mwy yr un fath ag ef ar faterion mawr bywyd. Dyma restr o'r pregethwyr: John Will- iams, T. C. Williams, R. R. Roberts, W. B. Prydderch, E. James Jones, J. Williams (Caer. gybi), John Owen (Lerpwl), J. H. Williams (Porthmadog), R. R. Williams (Bala), a S. O. Morgan. Credai llawer ohonom fod mwy 0 ddifrifwch a gonestrwydd yn y pregethu yn y Sasiwn hon nag ers llawer dydd. Yr oedd T. C. Williams yn nodedig felly nos Fercher, a John Williams felly y noson olaf. Ond ym- roddodd Mr. Prydderch i ddweyd pethau nid i ogleisio ond i gyffwrdd cannoedd o bobl nad ant i gvfle clywed pethau fel a glywyd ganddo ef. Diolch yn fawr i'r hen arwr am ei oneet- rwydd diwyro. Dylem hefyd gyfeirio as bregeth John Williams, Caergybi. Yr oedd i hon finaneges arbennig. Yroedd pregeth olaf prynhawn dydd lau yn nodedig o briodol ac amserol i'r cylchoedd. Gwnaeth J. R. Williams le am byth iddo ei hun ym mynwesan ugeiniau. Bydd yn rhaid i'r t6 ieuanc wybod mwy amdano ef. Er na chododd y llanw'n uchel eto yr oedd y pregethu yn cyrraedd amcandwfn y tro yma. Yroedd tine newydd yn y weinidogaeth, ac efallai fod yr amgylch- iadau yn paratoi'r bobl i wrando am ea bywyd.

Advertising

GYBDEDDIEISIEDDFDD 191?