Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Tilt i-iVr-RPOOL d ew E-LL t R:p  OF'IC£ f\.å' OLID POST OFFICE ?)JJMX?mR6ESr SBLEMMt ?Im&T PBtCR TELEPHONE 3075 ROYAL.
GYBDEDDIEISIEDDFDD 191?
GYBDEDDIEISIEDDFDD 191? ym Mharc Birhenhead. Prydnawn Heulog, Gorsedd Urddasol, Tyrfa Anferih, a Hwyl tan gamp. Brensiach Be sy ? I Do, fe gvhoeddwyd Eisteddfod Genedlaethol 1917 yn Birkenhead brynhawn dydd Sadwrn diweddaf ac er mai amser echrydus o fyr a gafwyd i hwylio a thaclu'r trefniadau, y mae'n ddiogel dweyd, heb ronYll o wag- ormodi na fflamychu gwyntog, na chafwyd amgenach Cyhoeddi i'r Hen Wyl Annwyl yng nghof y neb oedd yno'n gweld a chlywed. Cydgyf arfu a chydblethodd popeth allanol a mewnol nes coroni'r ddefod gu a, llwyddiant digamsyniol. Cafwyd ff-Lirf af en las a hollol ddigwmwl; prynhawn heulog ac odiaeth o'r hyfryrd ar ei hyd tyrfa filoedd o Gymry Glannau'r Mersey cannoedd ereill o siroedd cyffiniol Lloegr a Gogledd Cymru, heb son am haid o edrych wyrCenhed lig oeddyno'n cywreinio a rhythu'n safnrwth ar olygfa mor dlos os dyrus iddynt. Ymwisgodcl y beirdd a'r Gorseddogion yn Neuadd y Dref erbyn 2.30: ac oddiyno aed yn orymdaith ar hyd. Hamiltonn Street, Grange Road, Cole Street, Park Road South, nes cyrraedd Cannon Hill, man cynnal yr Orsedd yn y Pare Isaf, allecyn addas ddiail i gadw gwyl o'r fel. Yn 1877 y bu gorymdaith gyffelyb yn y dref o'r blaen, sef undydd a blwyddyn o flaen Eisteddfod Genedlaethol 1878 ac yr oedd y cannoedd edrychwyr ar hyd yr heolydd yn brawf diymwad o ysblander a hudoliaeth yr olygfa, ac o'r fel y mae swn seindorf a gwych- ter gwisg a Itynafiaetl-i ffurf adefod ynmed ru deffro'r dref a thynnu pawb i ben y drws i waeddi Brensiach be sy ¡ Dymadrefnyr orymdaith hudol a dynnodd gynifer o bobl i rythu ami oddiar riniog eu drysaii 1-Seindorf Shore Road ar y blaen, ac yn canu alawon Cymreig mwyaf sbardynol yr hen amserau. 2-Cerbyd y Maer a'r Faeres, a Mr. R. T. Jones (ysgrifennydd Bwrdd Addysg y dref) ac Eifionydd, Cofiadur yr Orsedd, ynddo gyda hwy. 3-Baner yr Orsedd, yn cael ei chario gan Mri. Robert Jones, Ellis Humphreys, a dau arall na chafwyd eu henwau. 4-Y Corn Hirlas (y corn yn werth mil o bunnau, yn rhodd Arglwydd Tredegar yn Eisteddfod Casnewydd, 1897, o gynlluniad vr arlunydd Herkomer, ac yn cael ei gludo gan Mri. Evan Evans, W. Humphreys, David Thomas, a R. W. Edwards (Rolant Wyn). 5-Cerbyd Syr W. H. Lever, llywydd yr Wyl, a Syr E. Vincent Evans, Dyfed, Cadfan, Gwynedd, Hawen, ynddo gyda I Syr William. 6-.Cerbyd Mr. Arthur Smith, yn cynnwys Dr. Rees (Ap Givyddon), arwyddfardd yr Orsedd, a'i briod Awen Mona, a PhedT Hir Cerbyd Dr. A. G. Owen, Gorwyl; ac ynddo gydag ef Mr. J. H. Roberts (Pencerdd Gwyn- edd), Ap Lleyn, .a phriod Dewi Clwyd, Llangollen, yn ei diwyg Gymreig, ac yn destyn sylwa cbodia d bys gan filoedd yr heolydd, oblegid golwg hudol yr oesoedd gynt oedd arni; ( ac yn dilyn yr oedd Madryn, G. Mathafarn, Gwilym Deudraeth, Alaw Berwyn, Abon, J. Jones (Trefor) E. Williams (Alaw Garmon), J. Roberts (Alaw Lleifiad) a'i fab J. Roberts, ieu. tair geneth mewn diwyg Gymreig Misses Ceridwen Holland, Ceinwen Morris, Menna Price, a Freda Holland ydelynores pwyllgorgweith- iol a chyffredinol yr Eisteddfod a llosgwrn hir o Gymry'r cylch ddau tu'r afon. Dyma rai a welwyd o gwmpas y Cylch Cyfrin pan gyrhaeddwyd Cannon Hill:—y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., J. H. Jones, y Parch. Joseph Davies, y Parch. T. J. Rowlands, M.A. D. Roger Rowlands, Tom Morris, Thos. Davies, Evan Roberts (West, Derby), Wm. Jones, Parry Williams, D. T. Jones, Robert Davies, Wm. Parry. John Roberts (Watson Street),y Parchn.J. J. Rob- erts, B.A., a T. Price Davies, W. Garmon Jones, B.A., Hugh Evans; H. B. Evans, W. R. Pritchard, A. A. Rees, H. Humphreys Jones, P. H. Jones, Isaac Davies, Ben Thomas, Edward Roberts, Sam Evans, Arvon Hope, T. H. Williams (Preswylfa), J. Roose Will- iams, Lewis Jones (Ynyswr), R. Wynne Jones, Chas. Collins, Walter Baker, A. E. Griffiths, y Parch. S.mon G. Evans. B.A., D. R. Hughes (ysgrifennydd Eisteddfod Llundain, 1909), R. Pierce Jones, Wm. Jones, R. J. Ellis, T. H. Jones, Thos. Williams, John Griffiths, Miss Eluned Jones, Mrs. Woolford (Ffeitiniog), J. E. Lloyd Barnes, Thos. Williams, Y.H., a'i briod, R. E. Hughes, Wm. Jones (Glover Street), J. Francis, Wm. Will- iams, yr Hen. Goodwin, Miss Millicent Rich- ards, J. Lewis (Merthyr), J. R. Roberts, Evan Hughes, John Thomas (Coltart Road), J. W. Evans, R. J. Jones, H. Daniels, Mrs. Herbert Jones (Waterloo) a'i chwaer, J. Evans (Glenart), R. Roberts (Glasfryn), Col. Sergt. Morris, a Sertg. R. J. Roberts. Rhyw wedd ac argoel am for o fwynhad oedd ar wyneb y dorf bedair mil oedd o amgylch y Cylch Cyfrin pan ganodd un o wyr y seindorf y Corn Gwlad, ac y gweddiodd Gwynedd Weddi'r Orsedd felhyn ."Dyro, Dduw, dy nawdd Ag yn nawdd, nerth Ac yn nerth, deall; Ac yn neall, gwybod Ag yng ngwybod, gwybod y cyfiawn; Ag yng ngwybod y cyfiawn, ei gani Ag o garu, carti pob hanfod Ag ymhob hanfod, caru Duw." Dyfed ar y Maen. I Wedyn daew'r Archdderwydd yn esgyn i ben y Maen Llog, pawb yn ddistaw ac esgud i wrando, ac yntau'n rhoi cywair campus i weddillyprynhawna'ranerchiad a ganlyn:—. Yr ydym wedi cydgyf artod o dan amgylch- iadau eithriaclol iawn i gyhoeddi Eisteddfod Pen y Bercwy—amgylchiadau nad ynt yn digwydd yn ami, a gobeithiwn na ddigwydd eu cyffelyb byth mwy ar ol i'r eymhelri mawr a disynnwyr hwn fyned heibio. Meddiennir pob cylch o gymdeithas gan bryderon, a diffrwythir pob anturiaeth sy'n amcanu dyrchafu a gwella'r byd. Y mae'r Eistedd- fod, fel popeth arall, wedi ei pharlysu gan y "cynhyrfus dincian arfau" sydd rhwng gwahanol deyrnasoedd a'i gilydd. Un o arwydd -eiriau amlyeaf y sefydliad yw Hedd- wch, ond rhaid i hwnnw fod yn sylfaenedig ar egwyddorion cyfiawnder, teilwng o hawliau dyn, ac o iawnderau a rhyddid gwlad a chenedl. Heb hynny, y mae heddwch yn amhosibl. Y mae em syniad am heddweh yn uwch na rhyw waseidd-dra meddal a di- asgwrn cern. Ond y mae gennym arwydd air arallsydd ynllawno ysbryd rhyfel—■ Y gwir yn erbyn y byd." Os bydd gwirionedd dan draed, rhaid i orsedd heddwch droi yn orsedd barn, a dyletswydd pawb yw hyrwyddo'r ffordd i wirionedd darddu o'r ddaear, ac i gyfiawnder edrych i lawr o'r nefoedd. Er ein bod yn caru heddwch, ac yn dyheu am heddweh, i bell ac agos, y mae amgylch iadau yn ein cyfarfod yn awr ac eilwaith sy'n ein gorfodi i gyhoeddi rhyfel. Y mae gennym ein corn gwlad, a chleddyf wrth law, a hwnnw'n gleddyf digonmawri dorri pennau ymherawd- wyr, a phan yn bloeddio "heddweh yn y cynulliadau hyn, gwneir hynny ar ol canu'r corn gwlad, a'n dwylo ar y cleddyf, ac y mae ystyr dyblyg i'r holl bethau hyn. Gwyr beirdd a llenorion Cymru sut i ymladd pan fo taro. Ceir prawf o hynny ar ol pob Eistedd- fod. Os drwgdybir fod cysgod cwmwl dros uniondeb, bydd y cleddyf allan mewn mo- ment, ac wedi ychydig o ffugchwarae digon diniwed, ysgydwir Haw mewn heddwch heb ladd neb. Ond os bydd bywyd ac anrhydedd gwlad mewn perygl, gwyddant sut i ymladd o ddifrif, hyd waed, ac hyd farw. Hawdd cyfrif am hynny, oblegid y mae pob bardd sy'n werth ei halen yn caru rhyddid, ac os cyfyngir ar ei Iwybr, fe dry'n nlwr rhag blaen. Y mae rhyddid y byd mewn perygl yn y rhyfel mawr hwn, ac y mae cyfartaledd gwerin sydd wedi anturio i'r maes yn sefyll allan yn anrhydeddus ymhlith miliynau milwyr Prydain Fawr. Mae'n naturiol i Gymru gydymdeimlo a chenliedloedd bychain, obleg. id yr ydym fel canedl wedi dioddef dan orthrymder ac ymosodiadau cenhedloedd mwy drwy'r canrifoedd. Nis gallwn lai na chydymdei nio a'r gwan a'r diymgeledd o dan y bedydd tan, gan fod y bedydd hwnnw yn brofiad chwerw yn ein hanes. Pa hawl sydd gan alluoedd mawrion i ddiddymu rhai llai ? Arwyddairrhaio genhedloedd Iwrob y blynyddoedd hyn yw Y trecha treisied, y gwanna gwaedded." Os galllleidr a llofrudd orthrechu arall, fe gyfrifir ei rym iddo'n gyf- iawnder. Ond y mae synnwyr moesol dyn yn gwrthdystio yn erbyn athrawiaeth mor annynol. Y mae dyn wrth weithredu yn ol yr egwyddor hon yn mynd yn fwy o fwystfil nag o angel, yn fwy o ellyll nag o ddyn. Hyderwn yn fawr yr a'r gyflafan fawr hon heibio cyn pen undydd a blwyddyn, ac y ceir heddwch cyffredinol hyd eithafoedd y ddaear. A chan mai Pen y Bercwy a ddywedodd Dyfed, gan ddilyn y Cymreigiad o enw'r dref oedd ar y rhaglen, gobeithio na chlywir dim chwaneg o alw Birkenhead yn Benbedw gyf eiliorn. Birch-head a fuasai hynny, ac nid Birken. Mrs. Wm. Jones, Elm House, oedd i gyf- lwyno'r Aberthged i'r Archdderwydd; eithr, er ein gofid, gomeddai hi'n wael yn Llundain, a chyflawnwyd y ddefod yn ei lie gan Mrs. Thos. Davies, Bryn, Pine Walks, sef priod trysorydd diwydbwyll yr Eisteddfod yna daeth y Faeres (Mrs. Merritt) ymlaen i gyflwyno'r Corn Olew, a Miss Edith Darby- shire, L.R.A.M. yn gweini fel maid of honour arni. Canu gyda'r tannau. I Dyma'r penhillion a ganodd Mri. W. R. Holland (Ap Elwy) a G. O. Davies (Bootle) oddiar y Maen, a'r Freda Holland fedrns a phrofiadol yn en dilyn ar y delyn Croesaw fil i Dyfed lwys, A Gwynedd bwysig berson, Syr Vincent Evans o Gaerludd Cadfan, ac Ap Gwyddon Ac i Eifionydd fawr ei ffus, Gwr nerfws o Gaernarfon. Pryd y myn fe fyn Eifionydd Barchu gwaed braich o gywydd, Ond diobaith i un diben, Yw ei grefydd mewn ysgrifen. I Ben y Bercw y doweh i gyd Mewn hedd y fiwyddyn nesa', I fwynhau prif wyl y byd, Ni fu ei gwell mi goelia' Bydd hon yr ora glywyd son, Am ddynion ac am ddonia'. Codi wnawn ei phabell gref Yng nghanol tref ganolog, Tref ddywedir ddaw yn ben, Fel Llundain fawr gyfoethog, Disgwyl wnawn ar drefn y rhod I beidio bod yn wlawog. Canu croesaw gan a wnaf Dan huan haul Mehefin, Croesaw bawb o Gymry gltln Sy'n carli can a thelyn Claddu wnawn bob loes a chlwy' Yng ngorsedd Pen y Bercwy. Llwydd i awen Cymrn lan Hen wlad y gan a'r delyn Llwydd i'r hen Eisteddfod sydd I fod 'mhen dydd a blwyddyn Llwydd i'r awen eto'n fwy, Meda 'Steddfod Pen y Bercwy. Mae'r hen Eisteddfod ar ei thro, A llawer bro'n ei gofyn, Ac i bob lie mae Cymry da Yn dal o hyd i'w dilyn, Ni fydd ei chroesaw'n unrhyw hhvy Yn fwy na Mhen. y Bercwy. Yma gwelir bonedd gwlad Yn gwisgo'u dillad gorau Trioedd Barddas yn eu gradd Yn gwisgo'u haddurniadau Dyma gylch yr orsedd wen, A'r awen yn ei blodeu. Tra pery swynion y Gymraeg Hon fydd yn aeg gwir Frython A gwell fydcl gancldo golli ei waed Na mynd dan draed un estron Defodau 'i iN lad t'i huchel wyl Sy'n annwy l gan ei galon. A wado'i iaith, y cenaw gwael, Fe ddylai gae- ei grogi A dyna'r ffordd i dewi dawn Ei ddilyn llawn o ddwli; Fe deimla gwerin Cymru fach Yn gallach wedi'i golli. Rhowch i'r Sais gyffylau teg I red eg am anrhydedd Rhowch i'r Ffrancwr bach ei fryd Ffasiynau'r byd a'u gwagedd"; Rhowch i galon Cymro glan Eisteddfod, can a gorsedd. Gwaith hyfryd im' yw canu pill 0 bennill ar y bannau Yn ffrwd o gan mae Ffreda gu Yn tynnu mel o'r tannau Tra seinir ton, try seiniau'r tant, Yn fwyniant ynof finnan, Yng Ngorsedd beirdd ein hynys hen, Mae'r awen yn amrywio A thra bo Dyfed ar y maen Hi geidw'i graen heb grino Un abl yw ef, saif iddi'n blaid Ei henaid gaiff o hono. Y Prifardd talbraff, Pedr Hir, A welir yn ei hwyliau, Pan ar y maen cawn ganddo wledd Hyawdledd yr hen chwedlau A gwres ei dan Cymreig, hehros, Sy'n aros yn ei eiriau. Fe ddeil yr iaith Gymraeg yn fyw, Er gwaethaf Puw a'i pwyodd A'r naid roes Tecwyn, meddant hwy, I'r adwy a'i gwaredodd A'i ymadroddion ceinion coeth, Ei chyfoeth a ddyrchafodd. Y dydd o'r blaen fe ddaeth i'm Haw Rhwng wyth a naw, ly thy mod, Bu dilyn symudiadau'r pin, Myn Armin i mi'n ormod. Ni wnaiff Eifionydd go leu'i ben, Un diben o'i gydwybod. Os anodd hel y corau 'nghyd Yn swn y byd presennol, Awn ati ar unwaith, nac ymdrown, I Ymrown fel Cymry unol; Daw i'r Eisteddfod o bob pau Dylwythau cenedlaethol.-M adryn. Gwladgarwyr Glannau Mersey. Yna caed anerchiad gan y Parch. D, Adams, (Hawen) ar berthynas Lerpwl a'r cylch a'r Eisteddfod a llenyddiaeth Cymru, ac yn cynnwys y ffeithiau a ganlyn DinasgymharolddiweddarywLerpwlo ran eiphwysigrwydd masnachol, adiweddar iawn yw ymdyriad y Cymry iddi. Ond panddaeth- I ant yma yn niwedd y 18fed ganrif dygasant gyda hwy rai o brif nodweddion rhagorol y Celtiaid, sef eu crefydd a'u hoffter at len a chan. Cyfeiria Syr James Picton yn ganmol- iaethus at foesoldeb uchel y Cy'mry a bres- wyliai yn Everfcon,yr hon a ystyrrid yn fath ar drefedigaeth Gymreig. Fel prawf o hoffter Cymry. at lenyddiaeth, gellid crybwyll i Eisteddfodau gael eu cynnal yma yn 1836, 1839. Yn 184.0 cynhaliwyd Eisteddfod ar imidfa eang am bed war diwrnod. Y lly wydd oedd Arglwydd Mostyn, ac yr oedd yr enwog- ion a ganlyn yn bresennol loan Tegid, John Williams, Archddiacon Aberteifi, Carn- huanawc, leuan Glan Geirionydd, Ab Ithel, Dr. Rowland Williams-urddasolion Eglwysig oedd ynt igyd. Ond chwarae teg i'r Eglwys- wyr, y maenifer dda ohonynt wedi parhau yn Eisteddfodwyr pybyr drwy'r blynyddoedd. Yn yr Eisteddfod hon enillwyd y Gadair gan Eben Fardd am awdl ar Job. Yn 1851, cyn- haliwyd Eisteddfod bwysig arall, Ile'r enillodd Gwalchmai y Gadair, ac leuan Gwynedd, o fendigedig goffadwriaeth, y wobr am bryddest ar Palestina. 0 1867 i 1878 cynhaliwyd cyfres Eisteddfodau y Gordofigion yma. Yn ddiweddarach, cynhaliwyd yma Eisteddfodau Cenedlaethol, yn 1884 ac. yn 1900. Dyna ddigon o brawf fod. y teimlad Eisteddfodol wedi cadw'n gryf ymysg Cymry Lerpwl. a Birkenhead am y can mlynedd diweddaf. Ond nid trwy gyfrwng yr Eisteddfod yn unig y dygodd Cymry'rddinas eu cyfralliad gwerth- f awr i lenyddiaeth Cymru. Pan yn preswvlio yma y cyhoeddodd Dr. Owen Thomas ei Gofiant John Jones Talsarn,-a chywir y cyd- nabyddir hwn fel bywgraffiad goreu'r iaiti-i. Oddiyma, o dan olygiaeth Hiraethog, y cychwynnodd y wasg newyddiadurol allan ar ei rhawd esgynnol o ddylanwad dyrchafol ar wleidyddiaeth, lien a moes ein cenedl. Gymerodd Lerpwl ran flaenllaw gyda Dirwest ahyrwyddo Addysg Uchraddol yng Hghymru yn ogystal. Yn ein dinas y cafodd y Method- istiaid un i ysgrifennu hanes eu Cyfundeb o'r cychwyn, ac ymahefyd y cafodd yr Annibyn- wyr hanesydd eu heglwysi hwythau. Y mae gweinidogoin Lerpwl a Birkenhead wedi arfer bod yn llenorion yn ogystal. Y| mae tra- ddodxadau llenyddol y ddinas yn parhau o hyd hyd. Gofala Pedrog am hawliau'r Cyngan- eddion braidd na ddywedwn mai Pedr Hir yw'nprifDdramodydd Cymreigheddyw. Gall Birkenhead ymffrostio mai hi ar liyn o bryd biau prif feirniad Emynyddiaeth Gymreig, ym mherson Tecwyn Evans. Gofala Gol. Y BKYTHON am gario ymlaen draddodiadau goreu'r wasg. Hyd yn ddiweddar, gallasem ymffrostio mai yma y llafuriai prif arweinydd corawl ein gwlad ond yr athrylithgar Harry Evans nid yw mwy. Er ein cysur, mae Pen- cerdd Gwynedd, un o brif gyfansoddwyr cerdd orol y genedl Gymreig, yn aros ac yma heddyw gyda ,ni. Hyderwn yn fawr y gwna'r Eis- teddfod a gyhoeddir heddyw yn Birkenhead ei rhan i feithrin a dyrchafu a choethi chwaeth ein cenedl at lenyddiaeth, dysg, a moes. is Peidiwch a diffodd y tan! ebe Elfed. xr oedd Elted wedi cyrraedd y Cylch erbyn hyn, eithr heb gael amser i ymwiseo yng ngown yr Orsedd ac arno ef y galwyrl nesa.f. Traethodd ei genadwri oddiar y Maen mewn llais per a hyglyw hyd odre'r dorf ac os oedd yno rhy wun yn grwgnach yn erbyn Gorsedd Gyhoeddi ar ganol rhyfel mor filain a gwaedlyd, rhoes y Prifardd melysfin o Lundain daw ar ei rugn a'r sylw a ganlyn :— Maddeuer am dro i ddyn am sefyll ar y Maen hwn heb y wisg briodol. Brysiais yma o'r Bala ar fy ffordd i Fanceinion i ddangos fy mod, fel Pwyllgor a Chymry Birkenhead, am i'r hen sefydliad fyw a chael ei chynnal yn ddifwlch, canysgwybyddwch hyn nafyddai yn galondid yn y byd i'r bechgyn sydd yn y rhyfel (ac y mae gan y Prifardd ddau fab yn y gyfiafari ei hun) glywed ein bod ni gartref yn llaesti dwylo a gollwng ein gafael ym mhethau annwyl gwlad ein tadau. Y mae'r bechgyn wedi mynd a'r Eisteddfod gyda hwy. Ni chlywais i erioed son am gadw Eisteddfod yn Aldershot nes i'r rhyfel fynd a'r Cymry yno. Ac ni fynnwn i i'r un bachgen ddych- welyd o'r frwydr a chael yr Eisteddfod wedi marw. Cywilydd fuasai i neb ohonom gartref beidio a gwneud ein goreu i gadw'r gan yn fyw a'r ysbryd yndwym, fel pan ddychwelo'r ymladdwyr o dir a mor y caffont lawenychu wrth weld ein bod ni wedi cadw hen aelwyd y genedl yn gynnes, yr hen arferion yn fyw, a bod heddweh Duw yn creu heddweh rhwng dynion. Phiol y Beirdd. Wedi i'r glap a'r gymeradwyaeth ddarfod, neidiodd y naill fardd ar ol y llall i glecian englynion oddiar y Maen fel y canlyn O'n gorsedd, dawn a gwersi-ddaw i'r oes Oddirhwng ei meini; Mae sylwedd a moesoli 'N swydd a nod i'n gorsedd ni. Heulwen d@g, oleua'n dydd,—yw talent Ein teilwng Archdderwydd Dyfed fawr in d efod fydd-byth yn ben,—• Drwy ei gu awen bydd fyw'n dragywydd. Gwilym Mathafam. Heddyw'n eofn. nis ofnwn-alanas Y gelynol waedgwn Ni ddaw un -ar wedd Annwn I ddamnio hedd y Maen hwi. Nid yw mawredd Gorseddau Aur y byd i gyd ond gau Gwell yw hedd a mawredd myg Swydd Gaer a'i Gorsedd gerrig. A'u dur gadau ergydied-gelynion Ein glanhau'n ddiarbed Yma'u hanes fydd myned Heb roi cnoc i Birkenhead. Gwilym, Deudraeth. Diolch am fangre dawel—a heddwoh I gyhoeddi'n uchel Eisteddfod fyn fod yn fel Ar wefus gwlad mewn rhyfel. 0 un flwydd i flwydd, felhyn,—yn y cylch Mwynheir cainc ar delyn Ond am wrach, salach, mae'n syn Ffeiria rhai'r hen offeryn Os yw i fudd Sais ei Fand-rhoi i dwylawj Ar delyn wnaiff England t Ond i iawngreu'r nodau'n grand,— Rhaid dwylaw Freda Holland. Yn hyglyw wys y Corn Gwlad—a ganwyd Clywch gynnes Wahoddiad I wyl—mawrhewch yr alwad, 0 ben y corn heb nachad. Magu rhyw ofn wna cam grod'i'w clrygm Bia rhai'n drogari colled Na choeliwch hwy, cewch weled Cawn ni hwyl yn Birkenhead. Madryn Adlais y Cyhoeddiledled y byd I bob cwr fo'n myned, I Walia y wys eled 0 bare cainhardd Birkenhead, Ouid difyr yw gweld Dyfed--a'r hpffi Bedr Hir, gydag Elfed, A'r trylen Hawen., hoewed Eu can hwy ym Mirkenhead. Y Rhyfel Duw arafed-a'i wAr ffoedci Cyn i'r flwyddyn fyued, I'n Gwyl uchel, O I deled Acen hedd i Birkenhead.—rAbon. Trindod Llundain. Yr oedd Syr E: Vincent, Evans, a'r ddau Seneddwr J. Hinds a W. Llewelyn Williams wedi cyrraedd yn un swydd o Lundain, a chaed gair gan y tri. Sylwai Mr. Hinds- loan Glan Tawe wrth ei enw Gorsedd—os am Gymro iawn, y rhaid ei anfon allan o 'i wlad am dipyn.; ac wrth gofio a chadw pethau annwyl ei wlad ym mro'r estron y gwelid y Cymro ar ei oreu. Yr oedd am i Gymry Birkenliead gredu fod ou cydwiadwyro'rtuallangydahwy yrnhlaid cadw'r Eisteddfod adymunai ef all roi cyngor Paul i Timotheus iddynt hwythau sef ail ennyn y tan oedd ynddo. Y mae Mr. Hinds wedi colli mab yn y rhyfel; a dyna a roddai ddwyster ychwanegol ar ei sylw pan ddywedai fod yn dda, ganddo gael awr o ddianc o swn y rhyfel a'i herchylltra i'r swn mwy hoff a'r sain mwy hyfryd a glywid ar Faen Llog Gorsedd gampus Cannon Hill,—lie hafal i Hyde Park ei hun am gyfarfod o'r fath. Wrth esgyn ar ei ol, dywedodd Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. (LJwydfryn) ei fod megis yn gweld o ben y Maen Llog i'r flwydd yn nesaf, ad eg Eisteddfod 1917, aheddwch ym teyrnasu drwy'r byd i gyd. Dyfynnodd y darn a ganlyn o'r hen Daliesin Ben Beirdd gan ddangos mor hir heb syehu y deil y stig sydd yn llinellau'r cynfeirdd Pan swynhwyd godeu Ing o weith angeu Godorrid cadeu 0 bedryd tanheu Cwynynt am aerau- Trychyn drymddieu. When the hinds were enchanted For the work of destruction, The engagements were interrupted By the harmony of the harps, Which deplored the conflicts And banished sorrowful days. Cathlau Hiraeth. Wedi anerchiad gan Cadfan, yr hwn a lawenhai weld osgo mor ddibetrus yn y bob! oedd o'i flaen am ddal eu gafael yn yr wyl, ac nad oedd dim a ddigwyddai yn y byd a'i gymhelri mawr or ttiallaii i'r Orsedd yn ddigon i fygu cariad y Cymro at ei bethau hen ac annwyl—canodd Mri, Holland a Davies; osteg bob yn ail o benillion coffa am Orsedd- ogion ymadawedig, y rhain yn eu mysg :— Heddyw Gorsedd benna'r byd Agorwyd yng Nghilgwri, A'r Eisteddfod ymhob modd A haeddodd ei chyhdeddi Rhaid yw coffa'n brudd ein bron Am rai fu'n ffyddlon iddi. Ing yw dweyd yr angeu du A orfu draw yn Arfon. Claddu hynaws fardd, a fu Yn nyddu cynganeddion Dagrau Gorseddogion gant' A lifant am Alafon, Colli'r Canon Roberts fwyn, A ellir dwyn y golled ? Darfu'r dydd, a'r nos a ddaeth, Noswylio wnaeth Isaled Ffagan yntau megis Sant I'r mwyniant wedi myned. Pur a glan a pher o glod Oedd dafod. Ieuan Dyfi Syrth y ser mewn llawer lie—■ Glan Tawe wedi tewi Lerpwl gwyna golli can Alonydd lan eleni. Ofer inni gwedi'r gwyll Ymholi am Ringyll Miller, Gwell yw iddo yn y Nê, Y lie y mae y llawer Beirdd y cor yn gwisgolr gwyn Heb ofyn gwisg yn ofer. Erys eco'r hen Faen Llog Yn enwog ac yn union, Mawr ei le yng Nghymru lan A'r gan a'r meini gwynion Hithau'r Awen goeth ei rhyw Sy'n cynnal byw acenion. Pedr Hir. Fy annwyl wlad, ar ol dy blant, Tarawi dant hiraethlon Dy etifeddiaeth a dy reddf Yw canu lleddf alawon A Hawn yw'r Orsedd yn ddi-os, Heb Eos Dar mor dirion. Er colli'r Eos yn y glyn Mae'r gan er hyn yn aros, Ac awen Cymry yn fwy per Pan gyfyd ser y cyfnos Ni chaiff alawon Cymru gam Wrth wylo am yr Eos. Trwm yw tannau'r delyn ber, A phrudd-der sy'n y galon, Colli arweinydd, cerddor cu Y Cymry ddeutu'r afon Ond mae Harri Evans gain Yn arwain Cor Angylion. IIfor Hael Port Sunlight. Y mae rheolau'r Orsedd yn eiddigus eithr- iadol rhag i ddim o'r iaith fain gael ei phig i fewn i Verdun y Gymraeg ond oblegid ei hawddgarwch personol, a'u nawdd a'u cym- orth sylweddol i'r Cymry a'u g ^yl,goddefwyd i Faer y dref a Syr Wm. Lever gyfarch yn Saesneg. Yr oedd Mr. R. T. Jones wrth ei benelin i fras gyfioitliu'r areithiau i'r MaQr" Parhad ar tudal. 5.