Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Basgedaid o'r Wlad.

News
Cite
Share

11 illi ift GOSTEG. I Papurau'r Patagoniaid.-Os iawn y bamwn, rhyw bum mil o'n cydgenedl sy'n gwladychu a phentyrru golud ar lannau Camwy ym Mhatagonia, ac yn medru cadw dau bapur yn fyw, canys heblaw r Dratod a ddaw yma ar hyd y blynyddoedd, dyma rhywun yn anfon swp o'r Gzverinwr, papur arall, newydd mewn cymhariaeth, a thipyn o Saesnegac Ysbaeneg yn y ddau heblaw Cymraeg. Ac wrth edrych dros yr hysbvsiadaa. cewch wybod ond odid ma: ras sydd oreu gan Sais. gornest deirw gan Ysbaen- wr, achwrddpregethugan yrhenGymro. Dengys blewyn ffordd y chwyth y gwynt. Dyma fel y mae rhyw ddyn gwneud campiau" yn adferteisio'i hun Deallwn fod y Br. David Sosa yn bwriadu ymweled a'n tref yr wyrhnos nesaf, i'r amcan o'n ?iddori ychydi rv; diddori ychydig, trvvy wneud triciau a chastiau 4; anhygoel bron gyda gwahanol wrthrychau a mantoli pethau ar ei ddwylaw a'i hen gyda medr tuhwnt i ddychymyg dyn. Gydag ef y mac ei eneth fechan naw oed, sy'n rhagori ar bawb trwy'r holl Weriniaeth am neidio a phrancio ac adrodd. Gall neidio i fyny, a rhoi tro crwn yn II yr av/yr, a dispyn ar ei thraed fel cristinn neu gath, ac yn cu dilyn y mae hen delynor 7oain mlwydd oed. 'Wait and see.' Diolch liciyd am gopi o'r El Progreso, papur Ysbaenig Trelew a Chubut; ond ofnwn mai swn tebyg i swn sgidiau hoelion y Times tuag at Gymru sydd yn ei draed, sef y swn a wna cenedl fawr wrth sathru cenedl fach. Y mae'r Ysbaenwr yn foesgar tuhwnt; ydyw, ond gwalch peryglus ac ystumddrwg efe, a gwyliwch ei wen. Fe. gewch chwi weld y bydd raid i chwi droi'n Ysbaeniaid neu ynteu'n Sinn Ffeiniaid maes o law. Prun fydd hi, blant yr Hen Wlad ? Cofiwch ni at R. J. Berwyn ac Arthur Hughes a Thryfan a Shan Huws, telynores y Fuches Wen. Na symu jiocb yr hen derlyn.-Y mae'n dda gennym am eich llythyr, a mawrhawn eich amcan. Credwn em bod yr un mor eiddigus a chwithau dros fannau anhebcor y Ffydd sydd yn cadw, ond teg yw cofio o hyd mai un peth yw mynydd gwirionedd Duw ac mai peth arall, a phur wahanol yn sicr Ichwl, yw dyfaliadau dyn wrth odre'r mynydd mawr hwnnw. Ydyw, y mae tipyn o agnosticiaeth dawedog, ostyng- edig, yn beth mwy gweddaidd iawn ar rai pynciau pell, ac yn ras llawer mwy dymunol gan nef a daear na'r pendantrwydd anffaeledig sydd mor chwannog i niwlio llygad y cul a'r penboeth. Parth buchedd Huxley, yr oedd hi uwchlaw i'r un o'i wrthwynebwyr erioed fedru codi bys ato ac heblaw'r un a nodwch chwi, dyma enghraifft arall o'i fedr i glensio'r hoelen a phwytho i'r byw:- "What has become of Bishop WilberforceVgibe at the British Association meetings of i860, about the disquietude he should feel were a vener- erable ape to be shown to him as his ancestor in the Zoo ? If this sally is remembered at all, it is because of the crushing rejoinder which it drew forth from Huxley For myself, I would rather be descended from an ape than from a divine who employs authority to stifle trUth." Hoff o'm dosbarth.—Diolch am eich llythyr, a gwnaethom bob ymdrech bob amser i gael lie i bopeth a ddaw yma am yr Ysgol Sul. Nis gwn i am yr un nefoedd felysach na dosbarth pan fo'n un iawn; ac er cymaint a glywais o anerchiadau ymhiaid yr Ysgol ar hyd fy oes, y mae ergyd y cwbl, a mwy, wedi ei grynhoi'n daclus yng nghwpled Ben Bowen bach;— s Fyth annwyl, dyner Ysgol Sul, Canllawiau Duw i'r Llwybr Cul. Ii Ychwanegwch chwi at hwnyna, camp i chwi. Daliwn at ein dosbarth, ond gofalwn lafurio ar ei gyfer, rhag inni feddwl mai'r athro fydd yn sych a diafael yn lie BFn hunain. Dyma hanes y naill hanner ohonom ihuthro at yr esboniad cyfundebol chwarter awr cyn adeg yr ysgoI,ac yna crybinio hwnnw'n arwynebol ond heb gael dim. Na, nid yw meddyliau ddim mor rhad a hynny ychwaith, cofiwch. A goreu'n y byd hynny, onite pa flas fyddai ceibio i'r dwfn amdanynt ? Gwr diftew li da-od.—:Un felly yw Gol. r Darian, papur Cymraeg yr Hwntws, a'r unig un iawn a thrwy- adl sydd ganddynt, ac am hynny a ddylynt wneud Uawer mwy ohono. Dyma ddarn o'r hyn a ddywed wrth Gymry Saesonllyd y Rhondda wrth ffieidd'o'r gl-er anghyson. Byddai yn dda i grefyddwyr y Rhondda wybod ein bod wedi gvrthod tAl am hysbysebu'r Cinema, a gwirodydd a phethau creill yn y Darian t: Yn wir gallem gael punnoedd bob wythnos am roddi lie i bethau y byddai'11 groes i'n hargy- = hoeddiad eu cyhoeddi. Yn wyneb difrawder y weinidogaerh ar eglwysi r-Ve In syn fod y Wasg Gymraeg wedi dal mor ffyddlon i ddelfrydau crefydd a chenedlaetholdeb ein gwlad, a gwrthod elw mawr oddiwrth yr hyn a filwriai yn erbyn y pethau hyn. Eto'r papurau a roddant eu colofn- « au i bopeth y dylasai'r eglwysi sefyll yn ei erbyn, hyd yn oed many lion aflan llysoedd puteindra, a brynir gan grefyddwyr y Rhondda, ac a roddir yn nwylaw eu plant, a chai y rhai a geisiant ddarpar llenyddiaeth iach a glan drengi o'u rhan hwy." Gwir bob gair; a phe ceid yr arian a delir yng Nghymru gan grefyddwyr, heb son am bobl y byd," chwedl hwythau mor hunan-gyfiawn, am bapurau dimai'rWasg Felen. Doriaidd a Rhyddfrydol bob wythnos, fe dalai am gadw pumcant 0 efengyhvyr ar y Meysydd Cenhado!. Un o blant y Garn.- Y mae Mr. Hugh Jones, un o. blant llengar Gam Dolbenmaen sydd ar y Glanpau yma, yn meddwly byd o Drebor Mai fel dyn a birdd, ac wedi gofyn a gofyn inni laweroedd o weithiau os oedd modd cael cip ar wedd ei wyneb. Wel, dyma gael o hyd i'r bloc o'r diwedd, ond ei fod braidd yn hen ac annelwig. Ond y mae'n debyg iawn i'r Trebor:— Gan eich bod yn gyfa-wydd a'i waith a'i hanes, afraid dodi dim 0 hynny yma,diin end dweyd fel y byddai'r Trebor, wrth dcilwra a phwytho ar fwrdd ei weithty yn Llanrwst, pan neidiai rhyw feddwl da neu gynghanedd bersain i'w ben, yn taro i'w sgrifennu'n funud honno ar y mur, nes fod pared y gweithty'n frith bob modfedd 0 linellau a damau o linellau. Ac adeg noswylio, dacw f o'n hel y Uinellau a'r damau llinellau at ei gilydd, ac yn eu pwytho'n gan neu gywydd heb i'r gwniad fod yn y golwg, megis y mae yng ngwaith pob bardd a theiliwr diawen a di- grefft. Deisyfodd lawer gael marw'n sydyn a chael ei gipio ar draws yr hen Iorddonen ddu ond ei lusgo ar eihyd a gafodd gan y darfodedtgaeth hir el nychtod Annichon cau hyn o nodyn am y Trebcr heb ei englyn dwys i Cbwilito? y Galon :— Dealla lor hyd a lied—y galon, GwyJja wraidd y weithred Edwyn ddyn, nid yn a ddwed,— I'w du mewn mae Duw'n niyncd. A hon i'r Teiliwr, yn enghraifft o'i hivir.or vrth son am ei grefft ei bun Gwr' bach,' rr' <'<'■> 'j/ -1 v 1 '< ■ Gwrbnch:-rf<i.y?- (.  Mae'n. blypwr tnri a ('c I'w fol El,-mae fel ohvyn, A'i draed yn ymyl ei drwyn. A wnaiff hynyna'r tro, Hugh Jones ? ? Cyxiriad.—Drwg gennym am y gwall a lithrodd i nodyn yn "Ar Gip y rhifyn diweddaf, sef dweyd fod lleibad o fil yn rhifedi aelodau Ysgolion Sul yr Annibynwyr yn Meirion. Y gwir yw mai dim ond 77 oedd y lleihad y llynedd,— lleihadbychan iawn a chofio fod 423 o aelodau wedi mynd i'r Fyddin a'r Llynges. Y gwyn a ddatganwyd yng nghyfarfodydd blynyddol Cyfundeb Meirion a gynhelid yn Arthog ydoedd hon fod aelodau'r Ysgol Sul fil yn llainag oedd rhif yr aelodau Eglwysig, ac fod yn hen bryd curo'r twmpathau a chael aelod- au'r Ysgolion Sul a'r aelodau Eglwysig yn wastad o ran rhifedi. Hynny yw, y dylai pob aelod eglwysig ofalu hefyd ei "fod yn aelod o'r Ysgol Sul a'i mynychu hi mor eiddgar a chyson a phob moddion o ras arall. Diolch i Mr. George Davies (ysgrif- enydd Cyfundeb Meirion), Bryn Bowydd, am alw ein sylw at y gwall. H Cziiytti,"—Gan fod y llythyr hwn mor synhwyrol, ac yn cymryd golwg mor gywir ar yr hyn a ddywedwyd, y mae'n deg iawn ei gyhoeddi ANNWYL MR. GOLYGYDD.—Gair neu ddau. Yr wyf yn ddarllenydd cyson o r BRYTHON a phob amser yn cael pleser a mwynhad wrth ddarllen eich erthyglau. Gan fy mod oddicartref yn arwain cymanfaoedd, etc., yn ystod y mis diweddaf, fe ddarfu i mi golli golwg ar y papur. Ond galwyd fy sylw gan gyfaill tuag wythnos yn oj at adroddiad 0 gymanfa ganu yn Nhreffynnon ym mha un y dywed I yr ysgrifennydd fod "Gwynt yr arweinydd yn erbyn pob clap," etc. Y mae llawer o'm cyfeillion yn y De wedi camdeall y frawddeg hon, ac yn ei deliongli fel sarhad uniongyrchol amaf fi fel arwein- ydd. Wrth gwrs, defnyddir y gair gwynt yn ami yn y De i ddisgrifio dyn balch, mympwyol, hunan-gyfiawn, etc. Ond yr wyf yn berffaith sicr fy hun nad oedd yr ysgrifennydd, pwy bynnag ydoedd, yn meddwl dim amharchus, angharedig. amdanaf fi'n bersonol wrth ddefnyddio'r gair. Ond gan fod ereill y ffordd yma yn meddwl hynny, hwyrach y byddai gair 0 eglurhad yn help i osod y peth yn ei le. Gwn fy hun yn dda beth a olygir wrth y frawddeg. Cefais amser rhagorol gyda'r cyman- faoedd canu yn y Gogledd yn ystod y pythefnos a aeth heibio. Bum yn arwain tua hanner dwsin ohonynt,ac nid wyf yn credu fy mod wedi clywed gwell canu erioed mewn cyfarfodydd o'r natur yma. Nis gallaf feddwl am well gair i'w disgrifio na nefol- aidd.-Yn serchog, j Castellnedd. T/HOPKlN EVANS. Y mae ystyf" gwynt y dyn yn erbyn y peth a'r peth neu ynteu o blaid y peth a'r peth mor hollol hysbys a chynefin i wyr y Gogledd nes fod yn amhosibl i ni ddimad sut y gallodd neb feddwl peth mor hyll ag a feddyliodd yr achwynwyr a anfonodd at Mr. Hopkin Evans. Gwynt glan a sweet oedd y gwynt oedd ym mrawddeg Y BRYTHON ond aeth rhywbeth tebyg i arogl y sibols atgas arni wedi iddi fynd drwy ben a chalon y gwyr o'r De. Dengys ei lythyr fod Cerddor Castell Nedd yn ddigon cyfarwydd i'r Wyndodeg i beidio a syrthio i bwll o anwybodaeth mor ddwfn a lleidiog ei waelod. Clep y Chrxdd.—Cyrhaeddodd yn rhy hwyr i hwn fe ddaw'r wythnos nesaf. Buom yn cyn- hwyro am yr Hutyn gwreiddio! yr wythnos ddiweddaf, gan ysu na fuasai ar gael i ddod gyda Mr. John Harrison, Coed Poeth, a ninnau at fedd Williams o'r Wem ym mynwent yr Adwy ac i Nanty Ffridd, parlwr y Cread. Dyna golled a gafodd o am beidio a gado inni wybod ymhle'r oedd o yn Hechu I Yn y nesal.-Llith Liew Deulyii ar Cymanfa Ganu Dyffryn Nantlle. rn ein nesaf.-Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Wedi cyrraedd.-Cyfrol y Patriotic Poetry, Greek and English. An address given on theooth anni- versary tAgincourt. Gan y Proff.W. Rhys Roberts, D.Litt., Ll.D., Daw adolygiad gynted y gellir. j

11 illi ift GOSTEG. I

I DYPDIADUH,

,A-, lyboeddwyr y Cymod I…

Basgedaid o'r Wlad.