Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising
Cite
Share

Gorsedd Cannon Hill ddydd Sadwrn nesaf. Argoel am dyrfa fiwr ac am Gyhoeddi tan gamp. TE, argoel am dyrfa anferth sydd yn BIrkenhead ddydd Sadwrn nesaf, sef i weld a chlywed Cyhoedd i Eisteddfod Gcnedlaethol i?i?—defod swynol na ?welwyd mohoniyno o'r blaen ers yn dyn ar ddeugain mlynedd yn ol, sef yn 1877. Dyna destyn siarad y jCymry ers dyddiau, a byddant hwy yno'n llengau o ddau tu'r Mersey, heblaw o Fanceinion a Dyffryn Maelor a chyffiniau siroedd Dinbych a Fflint. Ond y mae'r Saeson a phob rhyw genedl yn clywed rhyw son mawr am y peth, ac yn ysu'n gywrain i gael gweld beth yw'r cliwilen hon sy'n corddi'r hen Gymry. Y maent. yn sicr o fod yno wrth y cannoedd a rhag ichwi fod yu bell o'r Cylch Cyfnn, a methu cae I!e i weld iia chlywed. lie i weld na ehlywed, gofelwch fynd i lawr at Neuadd y Dref erbyn chwarter wedi dau, ac ymuno a'r orymdaith oddiyno ar hyd Grange Road hyd i Cannon Hill, ac yna fe gewch fynd dnvy'r bwlch cyfyng a bod yn ddiddos arnoch. Bydd yr Archdderwydd Dyfed o Gaerdydd yno'n ben; a cheir anerchiadau ganddo ef a Phedrog ac Elfed a Phedr Hir a Hawen cenir gosteg o benhillion hefyd yn swn telyn Freda Holland gollyngir clec ar ol clec 0 englynion gan y beirdd, o bob maint, siap, ac odl; ac os ceir haf a hindda, bydd Dydd Cy- hoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1917 yn ddydd i'w gofio yn hanes y dref ac yn hanes croesawu'r Hen Wyl gan y Cymry Oddicartref. Dyma fydd trefn yr orymdaith ;— 1—Seindorf Gym 2—Baner yr Orsedd 3-Cleddyf yr Omdd 4-Com Hirlas 5- Y r Archdderwydd a Swyddogion yr Orsedd, yn en gwahanol grysau. 6-Cynrychiolwyr Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Cymrodorion, yn eu glas a gwyn 7-Pwyllgor Gweithiol a Chyffredinol Eisteddfod 1917. 8—Y Bobl, 0 bell ac agos, o dref a gwlad. IDa\V'r hanes yn bur lawn yn Y BRYTHON yr wythnos wedyn. TUSW BRITII— Clywsem o'r blaen fod yr ias gynghaneddu yn cosi bysedd Mr. David Jones, Cremlyn; ond dyma'r waith gyntaf inni weld ffrwyth ei awen, sef ar ol gwrando'i gymydog hoff, bug-ail cawraidd Ballio] Road, yn pregethu'r Sul diweddaf Pedr Hir, wel, paid a hvrio,-pregetha, Par i gaethion ddeffro Y gwir dwed a'u gwaredo, Gwir y nef dy goron fo. Deued yswain hawddgar y Cremlyn i'r Orsedd ym Mharc Birkenhead ddydd Sadwm nesaf, i gael liaw a bendith yr Archdderwydd. H Y mae Sasiwn Bregethu Msthodistiaid Mon yr wythnos hon, sef dydd Iau a dydd Gwener, yn Llannerch y Medd; a dyma'r galwedigion :-Dr. Cynddylan Jones, Caerdydd; R. Beynon, B.A., Abercraf; W. M. Jones, Llansantffaid Glan Mech- ain; H. H. Hughes, B.A.,B.D., Princes Road; ac O. L. Roberts, y Tabernacl. Dyma enghraifft hapus arall, at y mwy a mwy o hynny a geir yn ddiweddar, o'r brawdgarwch hwnnw sy mor feithrinol i deimladau da rhwng llwythau Israel Duw. it Y mae Ilawer o rieni, a chanddynt fechgyn yn y Fyddin a'r Llynges, yn llidiog tuhwnt wrth y Llyw- odraeth am adael cynifer o Ellmyn yn rhyddion draw ac yrna. Dywedir fod amryw byd ohonynt yn West Kirby,-Ile mor fanteisiol iddynt snechian ac anfon eu cudd-negesau ystumddrwg dros y mor i'r Kaiser. Pe gwnaethai'r Swyddfa Ryfel lygad bach ar Mr. Lewis Jones, Ynyswr yr Hilbre, fe fuasai pob un 0 gystowcwn y Kaiser mewn eithaf cenel cyn y nos. tt Yn Y BRYTHON nesaf, daw ysgrif ddisgrifiadol J.D.R. o Fy Mbump sef y pum pregethwr a a, ais yng Nhymanfa'r Sulplwyn. Y mae ynddi bortreiad byw a chryno o ddyn oddiallan cystal ag o ddyn oddimewn pob un o'r pum cennad gair hefyd am ei ddawn a'i deithi meddwl, ac ambell wreichionen yn enghraifft o dan y De a than y Gogledd., +4. TT Ar fwrdd y St. Paul y dychwelodd y Parch. J. Hughes, M.A., o'r America i Lerpwl. Clywsant drwy neges ddiwifra u am frwydr f awr Mor y Gogledd bore drannoeth wedi'r newydd, cynhaliwyd oedfa o daer- weddi; y saloon yn orlawn, a'r gwasanaeth yn un dwys dros ben. Yr oedd Esgob Courtney o Nova Scotia ymysg y teithwyr, ac yn cymryd rhan yn y gwasanaeth, efe ac amryw weinidogion Ymneilltuol. Dydd Iau ydoedd hyn y Sul dilynol, darllenodd yr Esgob y llithoedd, ac a fynnodd gael gan Mr. Hughes bregethu, "er mwyn clywed Methodist wrthi am unwaith." Dr. Courtney yn darllen yn ei wisgoedd esgobol, a Human serog y Taleithiau'n chwyfio oddiar y pulpud. it FFRWYTH rR rMWELIAD.-Bu'r Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, ar ymweliad a Lerpwl a'r cylch y dydd o'r blaen, sef ar ran Mudiad Ymosodol y M.C. yn y De, ac wele'r tanysgrifiadau y dymuna amom eu cydnabod :—Mr. W. O. Roberts, £ 25 Mr. Robert Thomas, £ 10; Mrs. Jones, Tyrol, £ 10 Mr. W. Pritchard, £ 5 je, j-; Mr. Ellis W. Jones 7 L5; Mr. John Rowlands, £ 5; Mrs. Ann Jones, 228 Parliament Street, L5 Mri. Morris a Jones, £ 5 Mrs. Walter Lloyd, Aigburth Drive, £ 5; Mrs. Williams, Fernhill, L5; Mr. David Jones, £ 5 Mr. D. Hughes Jones, £ 3/3/ Mrs. Ellis Jones, 303, Edge Lane, £ 3 /3 Casgliad Catharine Street, 13; Mr. J. R. Jones, Seacombe, £ 2 jz Mr. Griff. Davies, eto, 2/2/ Mr. John Davies, Whitechapel, 1£2/21- Mr. J. Matthews, Hoylake, £ 2 /2/ Mr. D. Jones, Douglas Road, L2 Mr. R. O. Williams, £2; Mr. Thomas Williams, fz; Mr. James Hughes, Spellow Lane, £ 2 Aelod o Anfield £ 2 Mr. John Edwards, 64 K'rkdale Road, £ 2; y Parch. J. Owen, Anfield Road, f2; Mr. O. W. Owen, fili Mr. J. H. Jones, Lilil-; 'Mr. T. Bunney, Mr. H. G. Williams, Li ii Mr. Robert Roberts, 100 Anfield Road, £1. it AT Y MOTOR AMBULANCE.-Ysgol Sul Belmont Road (Tabernacl). £ 2/10/ Cyfanswm yr hyn a gafwyd £ 438/10/ C61liol- yn eisiau i gwblhau'r ESoo. Ddydd Mawrth, Mehefin 13, bu farw Mrs. Kyffin. ym mhreswylfod ei brawd, Mr. Gomer Evans, 25 Moss Lane, Aintree, ar ol maith a blin gystudd. Cafodd ei rhan o brofedigaethau collodd ei phriod ymhen ychydig fisoedd ar 01 ei phriodas, a thair blynedd a hanner yn ol, collodd ei hunigfab, wedi tyfu ifyny'n wr ieuanc hardd a rhinweddol. Aeth trwy'r cwbl yn hollol ddirwgnach, gan fwrw ei baich ar yr Arghvydd. Yr oedd yn aelod o eglwys M.C. Stanley Road, lie y cafodd ei dwyn i fyny, a lie y pery ei brawd a'i chwiorydd yn aelodau. Yroeddeitheiiluhiatheulu ei phriod ymysg y rhai fu a rhan amhvg gydag achoS yr Arghvydd yn Bootie yn ei fabandod. Tad ei phriod, Mr. David Kyffin, a'i thad hithau, Mr. Evan Evans, fu a rhan lfaenllaw yng nghychwyn Ysgol Clyde Street, York Hall yn awr. Claddwyd ym mynwent Anfield, Mehefin 16, y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., yn gwasanaethu. Cydymdeimlir yn ddwys a'i brawd, Mr. Gomer Evans, ac a'i thair chwaer, Mrs. John Owen, Miss Catherine Evans, a Miss Maggie Evans. Gwasanaethwyd yng nghyfarfod pregethu Leigh eleni gan y Parchn. J. Stanley Roberts, Bolton, ac R. Parry Jones, Warrington. Tywydd dymunol cynulliadau da; ac eneiniad anilwg ar y genadwri. TEML GWALIA, EDGE LA.NE.-Nos Fawrth yr wythnos ddivieddaf, cafwyd cystadleuaeth ateb cwestiynau cyffredinol dan ofal y Br. Ernest Hughes goreu, y Chwaer Lily Hughes. Pianoforte Solo, gan Miss Gwennie Evans, Edge Lane a chan, Bugeiles y IVyddta, gan y Br. Griffith Davies. Ymwelwyd a'r Deml gan Mrs. May Williams o Chwilog, a Mr. Morris Jones, o Dalysarn, a chafwyd gair ganddynt. Llyw- I yddwyd gan y P.D. Br. John Williain,Cymracs. EGLWYS M.C. WOODCHURCH ROAD Siriolrr Clwyfedig.—Prynhawn dydd Iau, Mehefin 15, dar- parwyd gwledd ragorol i amryw o filwyr clwyfedig y dref. Cafwyd cyfarfod da iawn, a'r milwyr yn edrych wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Cafwyd cyfarfod amrywiaethol dan arweiniad dihafal Mr. Ifan Tomos; ac aed drwy'r rhaglen a ganlyn :—Can, Children's Home, Miss Maggie Jones (Megan Bedw) can, Where my caravan has rested, Miss Williams, Cairns Road; can, I zconder if love is a dream, Miss Davies, Bangor; can, The Voluntary Organist, Preifa t J ones-milwr clwyfedig wedi colli un lung canu penillion, Tegid Davies, Bangor can, A perfect day, Miss Williams, Beech Road; can, There's a land, Megan Bedw can, Unwaith eto yng Ngbymru annzoyl. Miss Williams, Cairns Road; can, Mary of Argyle, Miss Fearnett; can, Gwlad y ddyn, T. A. Edwards; can, Y GWCZiJ Fach, Megan Bedw can, When you come homei, Miss Davies, Bangor; can, Gwlad y brynian, Miss Williams, Cairns Road; adroddiad, Wil Bryan a'r Cloc, Private Williams; can, The anchor's weighed, Miss Fearnett; can, The sunshine of your smile, Megan Bedw can, Arglwydd, arzoain drwy'r anialzvch, T. A. Edwards;, can, Angus Macdonald, Miss Williams, Cairns Road. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Mrs. Thomas, Aberystwyth Miss Hughes, 25 King's mount; Miss Dorothy Hughes, Crofton; Miss Williams, Grange Road W. Gwnaeth pawb eu rhan i fodlonrwydd mawr. Cafwyd anerchiad buddiol gan y Parch. W. 0 Jones. Yr ydym yn dra dyledus i'r chwiorydd am ddarparu mor helaeth dan arweiniad Mrs. Jones, King's Mount, yr ysgrifennydd. Diolchwyd yn gynnes i bawb gan y Parch. W. 0. Jones, a chefnog- wyd gan T. A. Edwards. Terfynwyd cyfarfod I gwir dda trwy ganu Duw gadwo'r Ereniii.-T..I.E.

Gorsedd Cannon Hill ddydd…