Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

Undeb yr Annibynwyr Gymreig ymdMrynaman. Brasolwg ar y Cyrddau. [OAN Y PARCH, J. EVANS JONES, Soiwen]. Am y tro cyntaf yn ei hanes^anrhydeddus, Brynaxnan fu man cyfarfod Undeb yr Anni- bynwyr Gymreig. Wrth drded y Mynydd Du ar y tlin rltwng Sir Forgannwg a Sir Gaer- fyrddin, y mae'r lle. Ernadywar lunadelw trefiagyd-dyfodd ag ef, inae yn lie eang, pobl- og, ac yn ganolfan diwydrwydd a masnach. Reb fodyn nepell y mae Cwmllynfell, Cwm. aman, Glanaman, a Gwauncaegurwen, ac nid yw Ajtnahford ond cymydog agos. Gyd a'r enw mwyaf ad nabydd us I Gymru ynglyn a'r ardaloedd yw Watcyn Wyn, adreuliodd ei oes firain bron yng ngolwg mwg oartref ei faboed. Caawyd ei emyn gobaith 'Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod Bydd pob cyfandir is y rhod Yn eiddo lesu mawr ar, ryw weithiau yng ngwahanol gyrddau'r Undeb, a cherddai ei ysbryd proffwydol vn wefr trwy galon v cynulleidfaoedd gwresog. Ffynnodd Ymneilltuaeth cyn foreued yn y cyLhoedd hyn ag unrhyw ran arall o Gymru. Rhoddai cilfachau y mynyddoedd,a glannau culionyr afonydd, nodded allonydd cymharol pan erlidid y saint. Yn ardal Cwmllynfell yn ddiau y dynheuwyd y tan gyntaf, ac oddi. yno y dygwyd y golosg i leoedd cylchynoL Prif rym Ymneilltuaeth yn yrboll ardafoedd yw'r Annibynwyr, er fod gan yr enwadau ereill eglwysi cryfion. Ni raid mynd yxnhell iawn yn ol i gael dechreu r a:3hos yn Gibea, Brynaman, canolfan yr Undeb y fiwyddyn hon, gan mai yn 1842 y codwyd y Gibea ,ynt,af. YrooddunoIeiafyiibresennol-yr Hybarch Ddr. Owen Evan-.—a fedrai gofio'r ad eg yn dd a. 0 aelwyd, Hezeciah Williams, Cwmgarw, tad Watcyn Wyn. y tarddodd y mudiad daionus. Caed yno fan-cyfarfod i bobloodd yn medd wl am ei eIlW Ef," a chyn hir ymffurfiodd eu zel yn babell gorffwys i arch Duw. Mae'r holl ardaloedd hyn gyd a'r mwyaf Cymreig-y plant yn ch warae'n Gym raeg aryrheolydd, ac acenion eu mamiaith yn bur a dilediaith. Nid rhyfedd i'r Undeb e eni gael y fath hwyl a bias ynghanol awyrgylch mor ffafriol. Un o brif gyrddau'r Undeb bellacli yw Cyfarfod y Plant. Nis gwn chwaith pah am y rhaid ei gynnal ar ad eg pan nad oedd yn agos ddigon eyfleus i lawer ei gael a hoffasai fod ynddo, sef am 5.30prynhawndydd Mawrth, a chyfarfod aralli fodam saith. Cadeirydd da wnaeth Wnion, gyda'i anerchiad ar Y Cymer- iad goreu, a moeswers nad anghofir yn fuan a roddodd Mr. Artlien Evans, ysgrifennydd pýbyr Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, ar y Milwr da I eStt Grist, ac arweiniwyd y dorf i'r Ardd Flodau gan y Parch. T. Eli Evans, Aberdar, mewn iaith ddengar, nes yr ym- hoffodd pawb o'r newydd yn yr Eglwys— Gardd yr Iesu." Swynoliawnoedd canu'r plant, a da oedd gweld fod nifero donau arou cyfer yn rhaglen leol ragorol yr Undeb. Erfod nifer dda o bobl ieuaincyn bresennol yn y cyfarfod arbennig ar eu cyfer yn Gibea nos Fawrth, credaf y dylasai fod darpariaeth well er cyfyngu y fath gyfle mor llwyr ag a îyddo posibl iddynt. Ni fuasai dim allan o Ie mewn cadw cynrychiolwyr yr Undeb allan a gwnoud trefniadau gofalus i lenwi'r fath gyfarfod a'r bechgyn a'r merched a fwriedir gyrraedd. Gwnaeth Mr. Salmon Evans, Lerpwl, gadeirydd gwych, a llanwodd araith fyfyrgar ag ystyriaethau dwys ar dymhorau bywyd. Darluniodd y niodd i oresgyn anawsterau drwy Ap Fychan, a gwelsom y llanc o Grieietli yn codi o aelwyd grefyddol mewn bwthyn dinod i un o'r safleoedd uchaf yn y wladwriaeth. Un o'r pethau mwyaf gwrol a vvnaed yn ystod yr Undeb oedd dat- ganiad yr areithiwr cyntaf-y Parch. Bryniog Thomas, Caerau—yn ffafr cenedlaetholi'r Fannach Feddwol. Ei destyn oedd Gyfyng- iadau'r Llywodraeth ar y Farnach Feddwol, a chyfffr Eglwys. Pwnc y Parch. Rhys T- Williams, Panteg, Lerpwl gynt, oedd Gwobr Crist i'r leuanc. Nod.edig o ddwys oedd ei ymdriniaeth,—gwelem Grist felprif gynhysg- aeth bywyd, a phrif waddol pob oes. Safodd yr areithiwr olaf—y Parch. J. H. Hughes, Abertawe-yn d.dewr a chryf tros burdeb iaith. Traethai ar grefydd a phurdeb iaith crefydd i gymryd ga,fael ar iaith, ac i wneud iaith goeth yn gyfrwng. Ceisiai arwain pawb i fyd y "wefus bur." Cwrkid oedd, bwn a adawodd berarogl ar ei ol. Bellach daeth Cyfarfod. y Gweinidogion a Chyfarfod y Diaconiaid yn sefydliadan per- thynol i hanfod yr Undeb. Efallai y ceir, ryw dro eto, fel newid, gyfarfod uhol o weini- dogion a diaconiai(l,a,c o hynny v deilliai cryn ddaioni, yn ddilys ddiameu. Cadeirydd o'r De oedd i gwrdd y blaenaf, y Parch. D. Will- iams, Llandeilo,^ Penfro, a'r Parchn. W. E. Jones (Penllyn), Colwyn, a T. W. Morgan, Philadelphia, Caerfyrclodin, yn annerch. Caed papurau doeth, cyforiog gan ffrwyth sylwad- aeth a phrofiad. Yn eiddo y diaconiaid, cad eiriwyd gan Mr. W. J. Parry, Y.H., Bethesda, a siaradodd Mr. E. Morgan, Lerpwl, i bwrpas ar Y Ddiaconiasth yn ei pherthynas a'r Ysgol Sul. Hanes da sydd i'r cwrdd hwn. Pan ddaeth y cynyrchiolwyr yn unol i gwrdd y DrysorfaGynorthwyoi, yroedd naws cyrdd au. y bore ar bopeth. Yr oedd min a mynd aiO araith y cadeirydd—Mr. T. G. Williams, Caer- dydd Gogleddwr eraffus a enillodd safle ddayno. Eriddoorfqdrhoiergyd hwnt ao yma i'w gyd. -IOiacoriiai(3 am ormod claearineb yn,-Iy^n ^a"r Drysorfa a gychwynnwyd gan- ddynt, yr oedd ei genadwri'n amserol tros ben wrth gymell ffyddlondeb mwy. Dywed odd y Parch. W, James, Abertawe, arolygydd y mudiai, fod 261 eglwys wedi add aw £21,300 ond fod 594 ar ol heb add aw dim eto. uaeci gan y trysorydd—Mr. T. Davies—fod. £ 7,198 eisya mewn Haw, ac fod yr arian yn parhau i ddod. "Y rhagolygon yndda "oedd tystiol- aeth y rhan iwyaf, Yng Nghynhadledd Busnes yr Undeb, y penderfyniad a barodd fwyaf o gyffro oedd yr un ar y Fasnach mewn gNNirOOYCIO, meddwol. f Wrth ddiolch i'r Llywodraeth am a wnaethai, cynhygid anfon cais i gwtogi mwy eto ar y Fasnach, gan ofyn am ataliad. llwyr d.ros dy- mor y rhyfel, a ch we mis ar ol hynny. Mynnai Dr. Peter Price godi at y delfrydoJ- Am byth ond y mwyaf ymarferol a orfu y tro hwn. Nid anfuddiol chwaith cofio'r ideal Teimlid hefyd fod perygl cynhyddol oddiwrth effeithiau ffileminau dichwaeth, a gofynnwyd am sensoriaeth swyddogol. Cefnogwyd y mudiad i geisio cadw y Cadfridog €bve:r £ Thomas mewn awdurdod yn ei wlad enedigol, felnoddwr "einhiaith,euicrefydd,a'ndyhead- au oenedlaethol." Anfonwyd apel daer at Ad ran Gymreig y Bwrdd Addysg, i roi lie hanfodoi i'r Gymraeg yng nghwrs addysg myfyrvgyr y Colegau Hyfforddiadol Cymreig, Cymeradwywyd yn ga-lonnog i sylw'r Eglwysi apel daer y Capten-Gaplan Edward Jones, M.A.,B.D., ar ran y mudiad i godi adeil- ad canolog at wasanaeth y milwyr Cymreig yng ngwersyll Kimnel Park, Rhyl. Bydd hwn tan ofal y gwahanol enwadau crefyddol, ac o worth amhrisiadwy pan orffenner. .< Caed dwy oedfa o bregethau'r Undeb y tro hwn. Yn Gibea y Parchn. J. ff. Parry, Llansamlet, a Dr. R. Davies, Gibeon; ae yn Carmel, Gwauncaegurwen, y Parchn. H, T. Jacob, Abergwaun, a J.G. Jones, Cana Mon. Mae pob un or pedwar yn hen gyfarwydd a thorri bara'r bywyd ac yn yr oed.feuon hyn, rhoed urddas newydd aryr Efengyldra- gwyddol, ac nid aeth neb o'rtyrfaoedd ar eu cythlwng." Un o gyrddau rnu-yaf mawroddog yr enwad o fiwyddyn i fiwyddyn yw Cynliadledd yr Undeb, lie y trad dod. a y cadeirydd ei anerch- iad o'r gadair. Nid. pawb a adwaen y Parch. James Charles o ran ei bersoii-y gwr tal, urddasol, meddylgar,dwys a weinidogaethodd am ddeugain mlynedd. Hannyw o linach Charles y Bala, a cheidw anrhydectd ei deulu i fyny. Mae'n amheus a oes yn y pulpud Cymreig heddyw feddyliwr mwy clir, ac awdurdod mwy pendant ar athrawiaethau a syniadau Cristionogaeth a chrefydd. Pa syndod. fod. ei lyfrau'n safonol ? Mynegodd. ei destyn- Y Ddynoliaeth Newydd, ac aeth ysbryd y peth byw i galon ei wrandawyr astud. Dywedodd fod Cysegred.igrwyd.d y teulu a'r aelwyd yn hanfodol Rhaid i Iesu Grist gael y fam. Rhaid rhoi mwy o Ie i'r chwiorydd mewn cymdeithas. Egwy- ddorion moesol sydd i'w llywodraethu." Nid oedd symxwyr, meddai, fod. y millionaire yn cofio angau'r groes, a miliwn o bobl yn yr un ddinas eisieu bwyd! "Rhaid cael Duw, meddai. Llawer yn mynd heibio'r gorehym. yn cyntafyn sly at yr all (" Cardy gymydoo-, etc). Ei osodiad olaf oedd "Iesu Grist yw Gwaredwr a Phen y ddynoliaeth newydd Fed.r Duw ddim gwneud heb lesu Grist." Pan tua chanol ei araith y datganodd yn groew ei farn fod Prydain yn y rhyfel pres- ennol yn ymladd. dros Gyfiawndek, yr oedd y banllefau'n fyddarol. Ni arferir meddwl am Mr. Charles felgwrhyawdl, ond pa areith. iwr a aeth yn ddyfnach i galon ei wranda- dawyr ? Mor ddwys, mor angerddol, mor real; a, phan yr adrod.dal ar y diwtxld 0 lesu mawr, pwy fel Tydi Allasai farw trosom ni, A'n dwyn o warth i fythol fri Pwy all anghofio hyn ? yr oedd > dorf wedi ei Ilwyt-orchfygu, ar unig ffordd i gael gollyngdod oedd torri allan i ganu'r emyn enaid-gynhyrfiol. Byth ni anghofiwn y proflad Amser a gofod a ballai imi nodi llawer o bethau'r Undeb hwn, a'r cynulleidfaoedd gor- lawnion ymhob cyfarfod. Cwrdd Cenhadol heb ei ail oedd yr un a gaed yn Gibea pryn- hawn dydc1 lau. Cadeiriai Mr. D. Harries o Lanelli, Siaradai'r genhades dog o China- Miss Myfanwy Wood, Cymraes er gwaethaf ei henw, a'r cenhaAOon, y Parchn. Wm. Evans a Robert Griffith, Madagascar. Ni wnaeth Eglwysi Annibynnol Cymru yn well ers blyn- yddoedd at y Genhadaeth Dramor na'r fiwyddyn ddiweddaf. Dywedir fod mynd rhyfedd ar y Cyfarfod Diwinyddol a gynhelid yr un amaer yn Ebenezer. Ond pa ryfedd ? Onid yr athrawon, y Parchn. D. Mi all Ed- wards, M.A., Aberhtmddu, a J. Morgan Jones, M.A., Bala-Bangor, a ofalai amdano ? Dygasant ddiwinydd.iaeth i gylch tra ym- arferol, a thystiolaetli llawer fu yno oedd, eu bod wedi mwynhau'n well nag mewn llawer cyfeillach grefyddol Caed dau gyfarfod cyhoeddus eleni. Cad- eiriwyd yn Gibea gan Mr. W. R. Owen, Llun- dain. Areithiwyd gan y Parchn. J. L. Will- aims, M.A.,B.Sc., ar Y Rhyfel presennol a'i wersi H. Jones, Trefriw, ar Grist (t Ghyfadd- awd; R. Williams, Brychgoed, ar Price, Gvjmllynfell, n't atnserau. Yng Ngharmel, Gwauncaegurwen, yr oedd Mr. Ben Davies, Abertawe, yn llywyddu y Pai-ch. J. Vernon Lewis, M.A., B.D., Lerpwl, yn siarad ar Yr Eglwys a'r Argyfwng presennol; Gwilym Higgs, B.A., Whitland, ar Ddyletswydd yr Eglwysi i feithrin ysbryd heddweh T. B. Matthews,Pen y darren,ar Y pwys, o adfer nos Sadwrn i grefydd. Am yr olaf gallaf dystiol- aethu ei fod yn un or cyrdd au cryfaf y ces y f raint o Pgael erioed. Clywais dystiolaeth fod y blaenaf yn gyffelyb. Ni raid petruso am ddyfodol Cymru cyd ag y megir y fath weled yddion ar fronnau ei heglwysi. I wneud yr Undeb y fath lwyddiant, gweithiodd y pwylIgor lleol yn airderchog. Yr oedd deg eglwys ar eu goreu glas yn uno i groesawu. Ac nid yn unig hwy ond. eglwysi'r enwadau ereill ac hefyd Eglwys Loegr. Agored oedd aelwydydd i groesawu cynnes, ie brvvd, oedd y croeso. Y prynhawn cyntaf, gwelwyd wynebau siriol yr Henadur W. J. Williams, Y.H., a'i briod. Mrs. Williams,- y gantoresbera adwaenid gynt fel Miss Kate Morgan, wedi hulio byrddau'r Te Croeso gyda thoreth o flasusion. Bu'r Parch. W. D. Thomas,Gibea,cadeirydd ypwyllgor; yParch. D. B. Davies, Carmel, yr is-gadeirydd yr ysgrifenyddion llool-y Parch. John Llewelyn, Bethania, a'i ddau gydweithiwr, Mr. Jenkin Jones, a Mr. Griffith Morgan; Mr. D. W. Lewis, F.T.S.C., cadeirydd y pwyllgor cerdd- orol: Mr. Wm. Thomas, cadeirydd. Pwyllgor RheiHfyrdd, a Mr. Fred Hargreaves, y trysor- ydd lleol, yn weithwyr difefl, ac yn hoIlol Iwyddiannus gyda'u trefniadau. Hoffwn, hefyd roi gair o glod. i Mr. John Williams, Waiuiwen, Abertawe, am ei ffordd urddasol o wneufchur ei waith fel ysgrifennydd hynaf yr I Undeb, ac i'r Parch. D. Jeremy Jones. Cwmllynfell, hanesydd. eglwysi Annibynnol y eylch yn y Llawlyfr hylaw. Bellach, 1 wele fiwyddyn arall o baratoi yn ein hwynebu, y Parch. Jacob Jones Merthyr, fel cadeirydd, a'r Parch. J. Tow yn' Jones, A.S., i'w ddilyn. Canlyned bendith y Net vr Undeb ym Mrynaman yn 1916. Pregethwyd ddydd Gwener fel y canlyn :— Gibea, bore yr Hybarch Ddr. Owen Evans, Lerpwl?; prynhawn, y Parch. T. Talwyn Phil- ips, B.D., Bala hwyr, y Parchn. Owen Jones, Nant Ffrancon, a D. A. Griffith, Troedrhiw- dalar. Bethani a, hwyr y Parchn. Stanley Jones, Caernarfon, ac O. L. Roberts, Lerpwl. Ebenezer: y Parchn. Hywel Jones, Towyn, a J. L. Williams, M.A.,B.Sc., Aberystwyth. Brynsion, y Parchn. Ddr. Peter Price, M.A., a D. Adams, B.A., Lerpwl. Bethel Newydd y Parch. Samuel Roberts, Llanbrynmair. Cwmllynfell; y Parchn. Llynfi Davies, M.A., Abertawe, a J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl.

Undeb yr Annibynwyr Gymreig…

YS1AFELL Y BEIROD