Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Trem I-Undeb yr Annibynwv…

News
Cite
Share

Trem I-Undeb yr Annibynwv r. GAN inni dreulio'r rhan fwyaf or wythnos ddiweddaf yng nghyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymreig, nid hawdd yw edrych heibio at wrthrychau ereill, ac nid ydym yn meddwl y tyb ein darllenwyr ein bod yn rhy enwadol wrth son am uchelwyl ein henwad canys arfer y BRYTHON yw rhoi eu tro i'r holl enwadau fel ei gilydd. Yng ngliyffm terfyn siroedd. Caerfyrddin a Mor- gíumwg. ac wrth odren'r Mynydd Du, y saif Brynaman, lie y cynhelid. yr Undeb eleni. Tua 1842 y codwyd yr addoldy cyntaf yma, ac yn ol yr hanes yr oedd hwnnw, o ran ystad foesol a chrefyddol yr ardal, yn "dabernacl yn yr anialwch." Erbyn heddyw, hebla,w capel mawr a hardd Gibea, ceir addoldai helaeth ac eglwysi cryfion trwy'r holl gylch. Ceir Annibyniaeth yn ei grym yn yr ardal hon, as mae'n syn mai dyma'r tro cyntaf i'r Undeb Cymreig fod yma. Cafwyd cyfarfod- ydd nodedig o lwyddiannus ymhob modd. Ni chafwyd erioed. Bwyllgor Lleol a wnaeth ei waith yn well. Er druted prisiau ymborth, ni chafwyd yn unman well Te Croeso nag a gaed ar draul Mr. a Mrs. W. J. Williams. Ymunodd yr holl enwadau, ac Eglwyswyr yr un modd, i letya'r ymwelwyr, ac ni fu ball ar garedigrwydd. Cawsom ni a'r Parch. S. Roberts, Llanbrynmair, groeso tan gronglwyd glyd. y Parch. Rhystyd. Davies (M.C.). Lled- odd y nefoedd ei heulwen ddigwmwl dros yr wyl, a j; "iBu'r wyl heb ymbarelo "— o ran dim. o'i angen. Hin ogoneddus a gaf- wyd. c)'r cl ecb reii. i'r cl iw!Dcl-i. Bu'rcynulliad- au'n dra lluosog, yn enwedig ddydd Mercher a (i. y dd Iau. Gorlenwid yr addoldai mawrion. Nos lau, luosoced oedd y torfeydd fel y bu raid wrth oedfa chwanegol yng ugh ape] y Methodistiaid. a chyda hynny oedfa i dorf yn yr awyr ago red. Ac nid oedd hyn ond rhan o'r cwbl, canys cynhelid cwrdd eyb.oe-Ocius arall yn Wauncaegurwen, lle'r oedd y capel mawr o dan ei sang. A rhag digwydd inni anghofio, yn y lie olaf hwn y traddodid. amryw anerchiad.au ar destynau penodedig achy da llawenydd yr hysbyswn ddarfod i'n cyfaill galluog, y Parch. J. Vernon Lewis, M.A.,B.D., draddodi anerchiad penigamp ar Yr Eglwys a'r Argyfvnig Presennol. Araith gofiadwv ydoedd, y traddodiad ohoni'n rymus, a'r effaith yn nerthol iawn. Ac ni waeth ini chwanegu yma ddarfod i Mr. Evan Morgan, Tabernacl, a Mr. Salmon Evans, Park Road, anrhydeddu'r ymddiriedaeth a rodd.ed iddynt-y cyntaf yn narlleniad papur rhagorol ar Y Ddiaconiaeth a'r Ysgol Sul, a'r Hall fel cadeirydd y Cyfarfod Cyhoeddus nos Fawrth. Dau o batrieirch ffyddlonaf yr Undeb oedd Dr. Owen Evans a Mr. Robert Davies, Lerpwl; a chwith gan eu cyfeillion lluosog ddeall fod Mr. Davies, erbyn hyn, yn rhy wanllyd i allu dilyn y sefydliad a ddilyn- odd, agos yn ddifwlch, am lawer iawn o flyn- yddoedd. Am Dr. Evans, mae ei ieueng- rwydd yn wyrthiol. Efe ei hun a bregethai fore dydd Gwener, yn yr "oedfa ddeg," a gwnaeth hynny gyda bywiogrwydd, ffraeth- ineb, ac eneiniad a mawr y parch a delid iddo gan bawb. Ond rhaid ymatal, canys mae'r gofod yn prinhau, a'r gwrthrychau a nod.ir yn lluosogi o flaen y Drych.

Trem llnAnerchiad y y Gadair.

Trem III-Ein Hathrawon.

T r@mi IV-Oyd wy bod au Cyfamodol.

Advertising