Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

8yboeddwyr y CymodI Y Saboth…

Advertising

-- -,- -1-" fo Big yI Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

-1-" fo Big y I Lleifiad. Cyhoeddi Eisteddfod 1917 a hwng dwy gannon ym Mharc .1 Birkenhead. YDYW, y mae'n dyn ar ddeugain mlynedd er pan welwyd Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yn Birkenhead o'r blaen ond os Duw a'i myn, fe geir gweld hynny unwaith eto brynhawn dydd Sadwrn wythnos i'r nesaf, megis y dengys yr hysbysiad ar tudal y 6ed. Dyma rai fydd yno'n areithio a gwreich- ionni oddiar y Maen Llog Dyfed yr Archdderwydd o Gaerdydd, Pedrog, Pedr Hir, Hawen, Cadfan, Tec- wyn, Syr Vincent Evans, Eifionydd, Ap Gwyddon, Gwynedd, ac yn y blaen. Gobeithio y bydd hi'n braf ac yn hindda, canys y mae'r beirdd a'r gorseddogion, a bagad o urddasolion gwlad a thref, i droedio'r prif heolydd yn eu erysbeieiau Ilaesion ac amryliw, hyd oni chyrhaeddont Cannon Hill, yrn mhen uchaf y Pare, a elwir felly am fod yno ddwy gannon a gipiwyd oddiar y Rwsiaid yn Rhyfel y Crimea, ac sydd i danio yn Gymraeg am y waith gyntaf erioed y prynhawn hwnnvv, sef drwy i rai o'r beirdd ergydio'u henglynion poethion i fewn drwy un pen ae j'r rheiny gJedan allan o'r pen arall heb ladd neb ond Die Shon Dafyddion a gwawdwyr Philistaidd a dienwaededig iaith a defodau'r hen Gymry. Diau y bydd yno dyrfa faw, A chan y rhgffir am Gylch Cyfrin yr Orsedd, goreu fydd brysio yno mewn pryd, cyn i'r estroniaid CenhedJig lenwi'r lie nes na bo modd i neb ar y godreu pell weld na chlywed. Bydd yr olwg yn un swynol odiaeth, a'r hyn a ddywedir yn godiad ysbryd i bob Cymro teilwng o'r enw, Cofiwch fod mewn pryd, i gael lie rhwng y ddwy gannon. Nid oea dim ceiniog o dal am weld na chlywed. +? HEM DDU AR ODRE'R FANTELL WEN.- Y mae Mr. G. W. Hughes, G. & L.T.S.C., wedi cael ei ail ethol am dair blynedd arall ar Gyngor Llywodr- aethol Coleg y Solffa, l,lundain. Pump o Gymry oedd ymysg yr ymgeiswyr, a'n cyd-ddinesydd pobl- ogaidd oedd yr uchaf o'r pxifl|p, Aclodau'r Coleg biau'r hawi i ethol y Cyngor, ac y maent hwy ar wasgar drwy'r Deyrnas i gyd. Ac yng Nghymanfa Gyffredinol Colwyn Bay, bythefnos yn ol, penodwyd Mr. Hughes yn ymddiriedolwr Cronfa Ysgoloriaeth Gerddorol Eleazar Roberts, ar ran y Cyfundeb, yn ddilynydd y diweddar Mr. Thos. Thomas, Caerdydd. Dyma amcan y Gronfa hon Os bo llanc neu lances yn dangos dawn go amlwg fel cerddor neu gantor, ond heb ddigon o foddion i fynd ymlaen a chael chwarae teg,-wel, ymorol na bo'r rheini, beth bynnag am bawb arall, ddim ar ol, ond eu bod yn cael addysg gerddorol mewn coleg, er mwyn i'r gallu a'r athrylith gael cyfle i sgleinio a dod allan. Ac y mae tipyn o hem ddu tlodi ar odre mantell athrylith yn peri iddi edrych yn wynnach a harddach na mantell felen y lleill, tt CAEL HrD I BREGETHWR.-Clywais ddweyd mai un o bethau goreu'r Gymanfa GyfTredinol yng Ngholwyn Bay oedd araith y Parch. J. Lewis Jenkins, bugail newydd eglwys M.C. Oakfield Saesneg yma a dyma ddywedodd y Parch. J. Puleston Jones wrth godi i siarad ar ei ol, ac fe wyr ef yn o dda beth yw'r gwahaniaeth rhwng swri a sylwedd :— Diolchwcb am y Gymanfa GyfTredinol, pe am ddim ond cael o hyd i hwn-(chwerthinl,. Ond er mai yn Saesneg yr oedd yn siarad y mae cryn lawer o'r Cymro ynddo, a Hawer o r Methodus Methodus ydi o yn un peth, mae'n dechreu'n ddistaw-(chwerthin.); peth arall 'dyw o ddim "yn credu mewn siarad os na bydd o'n cario'r gynulleidfa gydag o, ac yr oeddym wedi mynd i co rywle gyda'r areithiwr, wedi cael ein cario a'n cqdi, ac yn dechreu dweyd, Gwnawn dair ('pabell I-Chwerthin,)." Yr oedd araith yr lberiad gloywddu o'r De yn frith o syniadau byw, hwn yn un :— The appeal for economy to-day, unless it is wise and moralised, may make us a nation of misers and I would prefer a nation of spendthrifts to a nation of misers." tt BALM I'R CLAF A'I GALON FRIW.—Y mae'r Parch. John Evans, Beaconsfield Street, wed. cyhoeddi ail gyfrol o'r Iacbawdwriaetb, sef detholiad o adnodau ac emynsu a brcfodd yn gysur a chynhal- iaeth i'r cleifion yr ymwel a hwy yn ysbytai'r ddinas. Y mae yma ambeU air o brofiad a dawdd galon y caletaf; ac egyr y Ilyfryn a phenhillion Mr. R. H. Jones, Up. Brighton, i'r Gymracs yn yr Tsbyty :— 0 ferw y ddinas, ei thorf, a'i thrwst, Mi droais i ysbyty gerllaw; Ynghanol y cleifion gorweddai Cymraes, Yn dawel heb arswyd na braw. 'Roedd yno yn unig ynghanol y llu, Yn estron mewn gwedd ac mewn aeg; Oes neb yn eich deall, ? gofynnais cyn hir: "Oes 'ma neb yn medru Cymraeg ? "Wel, na," meddai hithau, "y Saeson yw pawb; A minnau heb ddeall eu haeg." Ond," ebai drachefn, "y mae yma Un— Mae Hwnnw yn medru Cymraeg." "'Rwy'n gweld wrth y daflen sydd uwch eich pen Fod gennych chwi feddyg o fri." Wel, oes," meddai hithau, ond waeth i chwi prun, Y Fo yw fy Meddyg i." Gobeitbaf yn fawr cewch fynd adre cyn hir— Adre i fyw yn eich bro "Nid y fi sydd i drefnu pa bryd y cfif fynd; Ond at adre pan y dywed O." Ymwel Mr. Evans a Chymry'r holl ysbytai'n ddi- fwlch ers dTOs ugain mlynedd, ac heb geiniog o dSl gan nag eglwys na chymdeithas—dim ond y tal distaw a dwfn-felys a ddyry'r Nef iddo'r ochr yma, heb son am a gaiff yr Ochr Draw. tt TIRION OS TTWTLL.—Y mae'n dda gan fy nghalon gael cyhoeddi'r llythyr isod ac a deimlais yn euog braidd na buaswn wedi bod yno ymhell cyn hyn yn edrych am y Cymry tirion os tywyll sydd yn Ysgol y Deillion yn Hardman Street, petae ddim ond er mwyn peri imi ddiolch yn ddyfnach nag erioed am y ddau lygad yma, er eu IIwyted. Diolch yn faw i bob! Chatham Street a Grove Street am fod mor garedig wrthynt. A dyfna' diolch, diolch y dall. Gwelais rai ohonynt yn cael eu nol i gyngerdd yn y -nail] neu'r Hall o'r ddaugape1 uchod, ac a dsoinai ddeigryn llawenydd i'm Uygad pan yn gweld eu mwynhad, wrth fethu pelydru aHan o'u dau lygad, yn cerdded yn iasau drwy groen eu hwynebau. o ydyw y roae pob modfedd o'r hen gorffyn cywra in yma'n medru siarad yn ei ffordd ei him pan gynhyrfir ef gan rywbeth mawr. Meddyliwch am drwyn ambell cynic a welsoch,—y mae'n draethawd ym- gnawdoledig ar surni, ac a droisai Lyn y Bala'n finegr pe digwyddai blannu ei flaen tursiog yn ei ddwr. Ond rhoswch i wastatu pethau, a dod a chwi atoch eich hun—ac ati hithau-dyma wen genau a gwefus un o rianedd Cymru'n disgyn mor dirion arnoch nes eich bod yn teimlo mor braf a phe baech yn cael eich fanio ag aden angel. Ond ei llygaid yw coron ei hwyneb hi, wedi'r cwbl, a druan o'r dall sy'n gorfod mynd drwy'r byd hcb weled hwnnw. Fe'i gyr i gwyno fel Miltwn am ei ddellni yntau ö. Seasons return, but not to me returns Day, or the sweet approach of even or morn, Or sight of vernal bloom, or summer's rose, Or flocks, or herds, or human face divine. From the cheerful ways of men Cut off, and for the book of knowledge fair Presented with an universal blank Of Nature's works, to me expunged and rased, And wisdom at one entrance quite shut out. Pwy ohonoch a fedr ddweyd ystyr yr hen air hwnnw ? Saith mlynedd y byddis yn darogan dellni cyn ei ddyfod. K kt1 BENDITHIO MRS. WM. THOMAS.-Madd- euwch i mi am ymdroi; a dyma'r llythyr :— Ysgol y*Deillion, Hardman St., Lerpwl, 8 Meh. ANNWYI, MR. GOI.YGYDD,—A gawsoch chwi erioed lythyr, ys gwn i, o'r ysgol hon o'r blaen ? Mae yn wybuddys i chwi, modd bynnag, fod yna amryw o fechgyn Cymru bob amser yn yr Ysgol yn dysgu rhyw grefft neu'i gilydd. 'Rydym yma o wahanol siroedd Gogledd Cymru, gan fwyaf, yn ceisio cyfaddasu'n hunain i ennill ein torth. Nid ydym yn dod i cyffyrddiad agos a bywyd y dref, ond derbyniwn lawer o garedigrwydd gan rai pobl yma. Y mae Eglwysi Chatham Streer a Grove Street wedi dangos caredigrwydd mawr a chyson tuag atom, ac yn gwneud rhywbeth o hyd i sirioli ein bywyd. Y rheswm fy mod yn ysgrifennu atoch heddyw ydyw fod arnaf eisiau i chwi wybod am yr outing ardderchog a gawsom yr wythnos ddiweddaf Aeth Mrs. Wm. Thomas, Aigburth Drive, a ni Gymry'r Ysgol allan am motor drive i Knowsley Park. Mae ami i fraint i'w chael y dyddiau hyn o fod yn Gymry. 'Roedd Mrs. Thomas wedi clywed y gog ryw ddiwrnod yn y wlad, a meddyliodd fel y buasem ni fechgyn yr Ysgol yn hoffi ei chlywed. Ac aeth a ni. Wedi i ni fynd i fewn i Knowsley Park pwy a ddaethheibio o bawb ond Lord Derby, a wyddoch chwi, Mr. Golyg- ydd, mi dynnodd i het i ni. Treat annisgwyliadwy oedd el weted'ef, ond beth am y gog ? Sut y gwyddai fod Mrs. Thomas yn disgwyl iddi ddod yno y p'nawn. hwnnw ? Ond 'roedd yn amlwg fod yna ryw ddealltwriaeth rhwng y foneddiges fawr ei chalon a'r gwew, oblegid daeth i'w chyhoeddiad yn brydlon, a chawsom odfa gerddorol felys odiaeth. A chododd yr hwyl. Canasom hen alawon Cymru, a Sospan Bach a Keep the home fi-res burning. Pan yn dych- welyd yn ol, pwy a'n cyfarfu drachefn ond Lord Derby, a'r tro hwn cododd ei law arnom. Wedi hynny olwyno'n ddifyr i Aigburth Drive, lie derbyn- iwyd ni gan Mrs. a Miss Thomas, y Parc.h. R. R. Hughes, Chatham Street, a Major Herbert Williams. 'Rol hynny, nid cinio, Mr. Gol., ond grand banquet. Ac yna un o'r cyfarfodydd byrfyfyr difyrra y buoch ynddo erioed. 'Roedd yr hwyl wedi codi; a phe basa'r BRYTHON yn cael gafael ar holl ffraethebion y cyfarfod hwnnw, gallai fforddio i retirio yn bur fuan. Cynhygiwyd diolchgarwch i Mrs. Thomas gan Edward Price, a chefnogwyd gan Edward Owen. 'Roeddwn i wedi meddwl cael englyn iddi, ond 'ddaeth yr awen ddim mae'n debyg y daw un o'r dyddiau nesa, a phan ddaw anfonir brysneges i'r Parch. R. R. Hughes, i ddod i'w ddal i'r BRYTHON cyn iddo ddianc. Wedi diolch 'roeddan ni yn meddwl cychwyn adre, Mr- Gol., ond na 'choelia fawr. 'Roedd yn rhaid cael y Sospan Bach a'r Home Fires wedyn, ac aros i swper. Ni aethom ar 01 swpar mewn style yn y modur. 'Rwy'n siwr y bydd yn dda gennych gael y pwt hwn, Mr. Golygydd, gyda hanes diwrnod difyr yn ein bywyd, a hefyd ddeall am garedigrwydd mawr Mrs. Thomas tuag atom. Ac nid dyma'r waith gyntaf. Hi yw'r gyntaf i fynd a bechgyn yr Ysgol yn ei motor. Pe buaswn yn medru ei hanfarwoli mewn can, gwnawn. Ond beth bynnag am ei chanmol ar gan, mae'r bechgyn i gyd a finna yn ei bendithio yn ein c,-tloiia.- Wyf, anwyl Mr. Golygydd, yr eiddoch yn gywir, THOMAS ROBERTS (Cesarea, Arfon). ti CWYRTH 0 W A RED IGA El H.—Y chy dig, ond odid, o ddarllenwyr Y BRYTHON a wyddai mai mab hynaf yr hynaws fardd-offeiriad, y Parch. R: W. Lloyd-Owen (Mathajarn), cyn-ficer Eglwys Oen Duw, yw'r Midshipman J. I-I. Lloyd-Owen, a achubwyd yn ddianaf pan suddodd y Queen Mary ym mrwydr fawr* Mor y Gogledd, y dydd olaf o'r mis diweddaf. Aethai i lawr gyda'r ]long, ond fel gwyrth daeth i fyny i'r wyneb wedyn, a nofiodd am dros hanner awr; a phan oedd ei nerth ar fin paliu, daeth destroyer heibio ac a'i cipiodd i fyny i'w bwrdd. Un swyddog arall, yn ddiglwyf, a dau glwyfedig, a nifer fach o'r dwylo, oedd y cwbl a achubwyd o'r mil eneidiau oedd ar fwrdd y Hong anffodus. Deallwn fod ail fab Mathafarn ar y King Alfred, a'r ieuengaf o dan addysg ym Mhrifathrofa Caergrawnt. tt TUSW BRITH- Y mae'r Parch. O. J. Owen, M.A., wedi symud i. fyw i ig Hydro Avenue, West Kirby, yn y gobaith y bydd i hynny beri lies i iechyd gwannaidd Mrs. Owen Parha'i gysylltiad a'r eglwys yn Rock Ferry, a bwr- iada gadw'i gyhoeddiadau Sabothol yn Lerpwl a'r cylch fel o'r blaen. Mrs. Owen yn ferch y diweddar Mr. Eleazar Roberts, a gymerwyd ymaith mor dirion cyn dyfod yr Armagedon a fuasai'r fath loes a siom i garwr mor fawr ar heddwch ac i gashawr mor ddisyfl ar bob gorfod a gorthrwm militaraidd. Darlithiai'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., ar Ann Griffiths yn Nolanog nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, sef o fewn hwb cam a naid bron i'w chartref, Dolwar Fach. Un o ddisgynyddion yr emynyddes yn y gadair, sef y Parch. E. Griffiths, lleifod a lluaws o weinidogion a gwyr amlwg y Sir wedi cerbydu yno i wrando ac unwaith eto "weld y mannau bu." Cynhaliodd TemI Gwynedd, Laird Street, Birken- head, gyfarfod agored nos Fawrth yr wythnos ddi- weddaf, dan lywyddiaeth y Prif Demlydd John Evans Glenart. Caed papur gan Mr. Goodman Ellis; anerchiad gan Mr. Hugh Jones adroddiad gan Mr. Evan Evans; cAn gan Mr. Humphrey Roberts; detholiad ar yr offeryn gan Miss Olive Jones cingan Miss Doris Roberts; ac ar amnaid y llywydd, cododd pawb ar ei fud-sefyll am eiliad neu d'dau, i amlygu eu parch i'r milwr mawr oedd wedi cael eihyrddio i dragwyddoldeb mor sydyn y noson cynt—Arglwydd Kitchener. Y mae'r Parch. Lodwig Lewis, Seacombe, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys Cruglas, Abertawe, yn ddilynydd y Parch. T. E. Davies, Treorci. Yn 1891 y daeth Mr. Lewis i Liscard Road. Merch Dr. Owen Thomas oedd ei ddiweddar briod, ac y mae iddo fab yn y Fyddin. Y mae'r Parch. E. J. Jones, B.A., Llangernyw. wedi cael rhyddhad gan ei eglwys i ddod i efengylu i'r milwyr Cymreig yn LItheHand yma. Bu mawr flas ar genadwri a gwaith y Parch. D. P. Jones, a ddaeth yma i'r un gwaith o'r Groes, Dinbych. Mor anwastad yw dylanwad y rhyfel. Clemio a methu cael deupen y llinyn at ei gilydd y mae llawer o deuluoedd gweithwyrtrhai mathau o waith; end bancio wrth y dyrneidiau y mae crefftwyr yr ierdydd mawrion yma, a rhai ohonynt yn gweddio am hedd- wch a'r genau ac am i'r Armagedon barhau a'r galon. Gwelir oddiwrth hanes y Cyfarfod Misol ar tudal. 5 fod y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., wedi dywedyd amryw bethau diddorol a theilwng o sylw wrth drafod ystadegau'r nwyddyn. t Yr oedd y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., Peel Road, yn un o'r wyth cennad a bregethai yng Nghymanfa Bethesda Fawr yn Arton y Suigwyn hwn. Y mae Mr. R.O. Eamts, B.Sc., o Laboratory Port Sunlight, wedi cael ei benodi i swydd gyfrifol gyffelyb ond uwch dan gwmni y British Dye yn Huddersfield, lie y mae ffrwyth ymennydd gwyddonwyr yn cael ei grynhoi i'r amcan o ennill y diwydiant hwn yn ol o ddwylo'r Ellmyn, oedd medi medruso ac elwa cymaint oddiwrtho rhagor y ni. Mr. Eames yn un o blant Bangor, ac yn gefnder a Dr. Gwilym Owen, Prifysgol Lerpwl gynt, Prifysgol Auckland bellach. £7,752 oedd gwerth ystad y diweddar Mr. Edward Parry, Westminster Road, a blaenor yn eglwys Anni- bynnol Great Mersey Street. Y mae Pedr Hir wedi sgrifennu drama 3r311- Iorzverth 0 Gaerlloen, un genedlaethol, fel Owain Glyn Dwr, ac i'w llwyfannu ddechreu'r gaeaf nesaf. Dyma'i phrif gymeriadau lorwerth, Gzvladys ferch Seisyllt, Tr Arglwydd Brews, Mailt (gwraig Brews), 1- Brenin John, a Charadoz-math ar gomedian direidus ac anturiaethus sy'n gwlwm a llatai campus rhwng lonoerth a'i Wladys, ac a ddyry gyfle i lygeidiwr ac ymnyddwr ystwyth fel Arvon Hope ddangos ei ddawn Yr oedd Chief Petty Officer Hywel Glyn Roberts, mab Mr. a Mrs. John Roberts, 128 Bedford Road, Bootle, ym mrwydr fawr Mor y Gogledd, fel peirian- nydd ar y Barham, llong newydd o faint y Queen Mary, a niweidiwyd yn dost ond a ddaliodd aryr wyneb. Disgynnodd un o ergydion y Germanlaid i ganol y sachau blawd, ac onibae i hyriny dorri ei nerth, y tebyg ydyw maj'n ysgyrrion y biiasai'r Ilong a'r cwbl. Ymunodd Hywel Glyn a'r llynges ar ddechreu'r rhyfel; ac y mae iddo ddau frawd yn y fyddin Ogwen Lloyd Roberts, Lieut. yn y Royal Welsh Fusiliers, ac yn Ffrainc ers tair wythnos a'r Preifat Elwy Clwyd Roberts, 3rd Batt. Liverpool Pals, ac yn Ffrainc ers chwech mis. Y mae Master Wm. Ivor Jones (mab Mr. a Mrs. Wm. Jones, G. & L.T.S.C., Glover Street) a Master Griffith John Williams (mab Mr. a Mrs. D. G. Will- ams, Willmer Road) wedi ennill ysgoloriaeth wert h 1 Lg 15s. am bedair blynedd i'r Birkenhead Institute. Da mechgyn i. Dyma chwi wedi rhoddi eich troed ar ffon gyntaf yr ysgol sydd a'i phen yn Rhydychen a Chaergrawnt. Mynnwch gyrraedd ei chrib, îJ1 dau AT r MOTOR AMBULANCE- ¡; C Dosbaith Mr. J. R. Williams (Ysgol Prince, Road1) Crwvdr Rabv Mere, trwv Mr. M. G. c. I Roberts. I 15 0 I Drwy H.E.R p 2 6. Cyfanswm yr hyn a gafwyd, £436; £64 yn cisiau gwblhau'r £ 500. :j:t' yr TsMT GwAMA, EDGE LAKE.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd cAn 3" Tylwyth. Teg gan y Br. Ernest Hughes. Adroddiad gan Miss Jones, o Birkenhead. Hefyd gair ar Sut i lwyddo fwyaf ar y Deml, gan y Br. R. O. Jones, J. M. Evans, Henry Davies, G. Davies a'r Prif Demlydd. Llywyddwyd gan y Prif Demlydd Br. John Williams.—Cymraes.

Advertising

Advertising

CYMANFA'R SULCWYN ey Mtill…