Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

CYMANFA'R SULCWYN ey Mtill…

News
Cite
Share

CYMANFA'R SULCWYN e y Mtill lqw IRW A Seiat Fawr y Sun Hall. Selat fiasus, a thyrfa fwy nag arfer. Yr Ugain Cennad ac Un. DYMA'r ugain cennad ac un a ddaeth i Gyfioeddi'r Cymod. yng Nghymanfa Sulgwyn Methodistiaid Calfinaidd Lerpwl a'r cylch eleni: y Parchedigion J, Puleston Jones, M.A., Pwllheli; D. M. Phillips, Ph.D. Tylorstown T Mordaf Pierce, Dolgallau Thomasjones, Rhostyllen J. Glyn Davies, Rossett; T Charles Williams, M.A., Porthaethwy; G. H. Havard, B.A.,B.D., Rhyl; W. D. Rowlands, Caer- fyrddin; R. W. Jones, M.A., Gerlan; Thomas Williams, Caergybi; Rees Evans. Llanwrtyd; Hugh Williams, Amlwch; R. Beynon, B.A., Aber- craf; J. Owen, M.A., Caernarfon J. T. Davies, Llanidloes; Lemuel Jones, Goppa; Morgan W. Griffith, M.A., a M. H. Edwards, M.A., Llundain; R. J. Jones a H. H. Hughes, B.A.,B.D., Bangor; W. Wynn Davies, Rhos. I. Clapio John Hughes. Bore dydd Llun y Sulgwyn yr arferid cadw'r Seiat Fawr bob amser, ond eleni bu raid ei hoedi hyd yn hwyr, am nad oedd hi'n ddydd gwyl. Yn hytrach na'i leihau, yr oedd y cynhulliad yn fwy os yr un, ac o dair i bedair mil o bobl yn y Sun Hall, a'r olwg arnynt yn ysbrydiaeth i bob siaradwr a godai i'w cyfarch. A'r cyfarfod ar fin dechreu, dyma'r Parch. John Hughes, M.A., yn cyrraedd i'r llwyfan, o'i daith chwe mis yn yr America a dacw'r tair mil a hanner yn clapio'u mwynhad dros y lie eilwaith a thrachefn, wrth ei weld yn cael ei arbed a chael dychwelyd i'w hen rodfeydd yn edrych mor dda'i iechyd ac mor addfwyn ac awgrymiadol ei wen ag erioed. Croeso i'w gofio ydoedd hwn, ac ynddo arwyddion digam- syniol mor ddwfn yw cyn-fugail Fitzclarence Street yn serchiadau holl eglwysi'r cylch ond er cymaint yr ysai'r dyrfa am air ganddo, bu raid bodloni heb yr un heno oherwydd rhifedi'r siaradwyra meithter y Seiat. Ond fe ddaw'r gair maes o law yn ddiau ac fe fydd honno'n Seiat Fawr hefyd. Y mae ganddo goflaid o'u cofion oddiwrth anwyliaid tudraw i'r Werydd, a choflaid fwy fyth o feddyliau ac o argraffiadau am helynt crefyddol a chyindeithasol Cymry'r Gorllewin. I Y Gair o'r Gadair. 0 bydd lie, dichon y dywedwn air adolygiadol am y seiat a'r siaradwyr yr wythnos nesaf ar hyn o bryd, rhaid inni roddi'r Ile i gofnodion ein gohcbvdd arbennig. Y Parch. J. H. Morris, llywydd y Cyfarfod Misol, oedd yn y gadair ac ebr ef :— Nid rhaid i mi ddweyd ein bod yn cynnal y Seiat Fawr eleni o dan amgylchiadau pur eithriadol- eithriadol yn hanes y Gymanfa, eithriadol yn hanes yr eglwysi, ac eithriadol yn hanes ein gwlad. Fe ddywedir wrthym fod y Seiat Fawr y flwyddyn hon yn gant a naw ar hugain mlwydd oed, ac felly yn un o'r sefydliadau hynaf, os nad yr hynaf i gyd, a berthyn inni fel Cyfundeb. Y mae'n debyg—mae'n sicr o ran hynny-nad oes neb sydd yn bresennol heno yn cofio cyfnewidiad yn amser cynnal y Seiat Fawr. Ymddengys, pa fodd bynnag, oddiwrth yr ysgrif werthfawr a gyhoeddodd y Parch. John Evans, Chatham Street, yn r Drysorfa rhyw ddeuddeng mlynedd yn ol, fod cyfnewidiad wedi bod yn ei hanes, a hynny 74 mlynedd yn ol. Y flwyddyn y cyfeirir ati—1842—fe'i cynhalivvyd ar brynhawn y Llungwyn, a hynny yn hen gapel Pall Mall. Ymddengys fod gwasanaeth arallyn cael ei gynnal yn y bore, iordein- io, tri chenhadwr. Un o'r tri oedd y Parch. James Williams, ein cenhadwr cyntaf i Lydaw; a'r ddau arall oedd Dr. Owen Richards a'r Parch. Wm. Lewis, Ymddengys na throir y Seiat Fawr oddiar ei chwrs ond pan ddaw'r Genhadaeth Dramor ar ei thraws! Y flwyddyn hon, gwneir i ffwrdjd a'r sylwadau ar yr ystadegau. Gobeithir, er hynny, gan fod y Cyfrifon yn cael eu hargraffu, na bydd yr eglwysi yn colli eu cenadwri. Fe gyfarfyddwn fel eglwysi am yr ail waith yn swn terfysgoedd digyffelyb; terfysgoedd sydd yn siglo pob teyrnas ond teyrnas Iesu Grist. Y mae'n bur sicr mai'r flwyddyn a aeth heibio fu'r fwyaf pryderus yn ein hanes. Ni gredwn ei fod yn ddiogel hollol inni ddweyd nad oes yr un eglwys, na'r un teulu, na'r un aelod unigol o'r bron, nad ydyw wedi ei gyffwrdd mewn rhyw ffordd gan yr amgylch- iadau profedigaethus presennol. Ni fedrwn ni ddim peidio a meddwl am ein brodyr ieuainc sydd yn ab- sennol heno. Ni wyddom ni ddim pa faint yw eu rhif; ond pa le bynnag y maent, gallwn deimlo'n sicr-er fod rhai yn Ffrainc, rhai yn India, rhai ym Mesopotamia, a rhai ar y môr-gallwn deimlo'n sicr iawn fod eu meddyliau wedi crwydro adref ddoe a heddyw at y Gymanfa ac at y Seiat Fawr. Gadewch i ninnau eu cofio hwythau. Anfonwn saeth weddiau ar eu rhan. Fe ddichon Duw beri i'r atgof amySeiat Fawr fod yn gysur ac yn fendith iddynt vmha le bynnag y maent. Beth ydyw effaith yr amgylch- iadau hyn ar fywyd yr eglwysi ? Beth ydyw eu heffaith ar ysbryd yr aelodau ? Y dyddiau diweddaf, gwyddom fod y tywyllwch yn crynhoi o'n cwmpas, colledionargolledion, tristwchar dristwch bywydau ieuainc a gwerthfawr yn cael eu torri i lawr; a'r gwr yr oedd ein hymddiried fwyaf ynddo fel dyn, ac y credem oedd yn rhodd Duw i'n gwlad, yn arwein- ydd inni yn yr amgylchiadau presennol—hwnnw wedi ei gymryd oddiwrthym. Os bu'r Eglwys mewn angen am genadwri yn y Seiat Fawr, heno y mae hynny: neges i'n codi uwchlaw ofnau; neges i'n dwyn yn nes at Dduw ac i roddi ein hymddiried yn llwyrach ynddo Ef Y mae'n arfer coffhau am y swyddogion a gollasom yn ystod y flwyddyn, y rhai sydd wedi eu galw adref er y Seiat Fawr o'r blaen- cynifer ag unarddeg Wm. Jones (hynaf), Crosshall Street; Wm. Williams, Princes Road; John Herbert, Anneld Road Edwin Roberts, Laird Street; John Hughes, Peel Road; Robert Roberts, Parkfield; Thomas Jones, Widnes Wm. Jones a Peter Davies, Seacombe; Edward Smallwood, New Brighton; John Frimston, Princes Road. Credwn fod eu coffa- dwriaeth yn berarogl, a gweddiwn ar i Dduw anfon dynion cyffelyb iddynt. Chwi ganiatewch i mi ddat- gan ein llawenydd fel cynulleidfa o weled y Parch. John Hughes, M.A. (Fitz clarence Street gynt) wedi dychwelyd atom gobeithiwn y cawn fel eglwysi ei glywed eto. I Aed y byd, fe erys Duw. Pwnc y Seiat oedd "Y Duw ffyddlawn a digyf- newid," seiliedig ar Esaiah liv, 7-10. Agorwyd gan y Parch. John Owen, M.A., fel y canlyn:- Fe ddefnydd- yddir llawer o ffigyrau yn y Beibl wrth son am yr Eglwys. Dau ddefnyddir yn y bennod y darllenwyd rhan ohoni'n awr,gwraig a dinas. Ond fe wneir un peth yn amlwg bob amser, beth bynnag fydd y ffugr. Gwneir yn amlwg mai o Dduw y mae digonedd yr Eglwys, ei nerth, a'i chadernid, a'i gogoniant. Os gwraig, ei phriod yw yr hwn a'i gwnaeth, a dyna derfyn ar eigwaradwydd. Os dinas, Efe yw eihadeil- r adydd, ei phreswylydd a'i hamddiffynydd. Ond et j mor annwyl yw'r Eglwys yng ngolwg Duw, nis gall Efe ymddwyn tuag ati bob amser, o dan bob amgylch- iadau, yr un fath. Weithiau y mae'n agos iawn ati; y mae yn ei hymyl. A'r pryd hwnnw, y mae ei bywyd yn llawn 0 gan a gorfoledd.—pob sant a'i delyn wedi ei chyweirio y gwanwyn Dwyfol yn anadlu ar ei gerddi ac yn britho ei holl lanerchi a blodau Paradwys Duw. Ac adegau dedwydd iawn yw'r rhai hynny pan y mae Duw yn agos at Ei Eglwys. Y mae gwasanaethu Duw ar adegau fel yna yn hy- frydwch; y mae popeth yn hawdd y gweddio'n hawdd, y canu'n hawdd, y gwrando a'r pregethu'n hawdd, a hyd yn oed cadw seiat yn bleser. Nid oes eisiau cymell neb i ddim. Nid yw arch Duw yn faich ar neb. Y mae'r rhai Ilesgaf o'r lfcythau yn ymryson am gael eu hysgwyddau o clani, Ondnid ywfel yna bob amser, Y mae adegau ereill. Y mae Duw weithiau o dan rhyw fath o angenrhaid i guddio'i wyneb oddiwrth ei Eglwys mewn soriant, ac y mae'r adegau hynny yn rhai digalon. Nid pawb yn yr Eglwys a wyr ei bod yn ddigalon. I liaws mawr, adegau o anystyriaeth, o galedrwydd a difaterwch ydynt. Ond i ddynion byw, effro yn Seion, y maent yn adegau o ddigalondid mawr a thristwch dwfn y byd yn dod i wybod nad yw Duw yn Seion, annuwiolion y wlad yn dod i ddeall fod y mellt wedi diffodd ar glogwyni Seion. Ni fedr y Duw mawr fod bob amser, o dan bob amgylchiadau, yr un fath yn ei ymwneud a'i Eglwys. Paham ? Am ei fod yn Dduw ffyddlon a digyfnewid. Y mae Duw yn newid yn yr amlwg am ei fod yn ddigyfnewid yn nirgelwch ei fywyd ei Hun. Ni fedr Duw ddim bod yr un fath o hyd yn y golwg yn ei ymwneud gwiethredol a'i Eglwys, am ei fod yr un fath o hyd o'r golwg. Y mae Duw yn amrywio yn ei oruchwyliaethau at ei bobl, am ei fod yn dragwyddol ffyddlon i ryw egwyddorion mawrion, dyfnion, sefydlog, sydd yn cartrefu yn oes oesoedd yn nyfnderoedd ei fywyd Dwyfol ei Hun Y mae'r cyfnewidiad ymddangosiadol yn seiliedjg ar anffyddlondeb yr Eglwys i Dduw; ond y mae'r diysgogrwydd tragwyddol yn gorffwys ar y peth yw y Duw mawr ei Hun. Y mae Duw yn ddigon ffydd- Ion iddo'i Hun, ac yn ddigon ffyddlon I ddaionlpenfiaf yr Eglwys, i amrywio yri ei oruchwyliaethau tuagati dan wahanol amgylchiadau. A phe buasai'n llai ffyddlon iddo'i Hun, ac i ddaioni pennaf ei Eglwys, byddai ei ymwneud a hi yn dynerach ac yn esmwyth- ach lawer pryd nag ydyw. Ond y mae'r adnodau sydd yn fater y Seiat yn ein dysgu mai'r peth arhosol yn ymwneud Duw a'i Eglwys yw ei drugaredd. Rhywbeth achlysurol, ysbeidiol, yw cuddio yr wyneb mewn soriant, ond rhywbeth cyson, difwlch, gwastad, yw trugaredd y Duw mawr. Ac y mae'r ddaear yma'n llawn o dystiolaethau i ffyddlondeb Duw ymhob cyfeiriad. Gwybydd mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlawn." Duw y gallwch ddibynnu arno.; Duw y gwyddoch lie i'w gael bob amser. Nid oedd duwiau y Cenhedloedd felly. Yr oeddynt yn gryfion iawn. Yr oedd y bobl yn credu fod holl rymusterau natur wrth eu galwad. Ond yr oeddynt yn cael eu llywodraethu gan nwyd, gan fympwy. Nid yw y peth ydynt heddyw yn sicrwydd am y peth fyddant yfory ond nid Duw fel yna oedd Duw Israel-Duw ffyddlawn! Gwyddech bob amser beth i'w ddisgwyl, dan bob amgylchiadau. Beth bynnag fyddai agwedd ei Eglwys tuag atoEf,gwyddai ei bobl beth i'w ddisgwyl oddiar ei law. Ac y mae'r byd yma yn llawn 0 dystiolaethau i'w ffyddlondeb. Ni raid i chwi ond sylwi ar y drefn fanwl sydd yn treiddio trwy bopeth. Y mae'r Cread yma yn llawn o ddeddfau a rheolau. a rhaid inni ddysgu eu hadnabod a'u parchu. Dywedir wrthym yn ami iawn yn y dyddiau yma, fod dyn yn awr yn dod yn feistr ar Natur, ac y mae llawer iawn 0 wir yn hynny. Ond sut y mae dod yn feistr ar natur ? Trwy ddod yn was iddi; trwy wthio ei hun i fewn i'w chyfrinach trwy adnabod ei ffyrdd trwy ddeall ei deddfau, eu parchu, ac ufuddhau iddynt. Y mae pob meistrol- aeth a enilla dyn at Natur i'w hennill drwy ufudd-dod i ddeddfau natur. Y mae dyn wedi medru gwneud y gallu ofnadwy sydd yn creu'r mellt yn was ufudd iddo'i hun. Y mae'n defnyddio'r trydan i droi ei olwynion, i yrru ei gerbydau, i anfon ei negesau ond ddarfu i chwi sylwi mor ofalus y mae gyda'r trydan ? Sofala am ddeall ei lwybrau cudd i gyd; a phe di- gwyddai iddo dorri un ddeddf am un eiliad, try'r trydan urno fel sarff danllyd, ac a'i trywana i farw- olaeth. Yn awr, ffyddlondeb Duw sydd yn gwneud pob gwyddor yn bosibl, pob gwybodaeth drefnus am bopeth. Pe byddai un diferyn o anffyddlondeb yn y Creawdr mawr, fe fyddai'n ddigon i wneud y greadigaeth yn dryblith i gyd. Fe barlysai bob rheswm,ac fe droai bob gwybodaeth yn wallgofrwydd. Y mae'r geiriau yma'n dysgu bod y Creawdr mawr yr un mor ffyddlon yn y pethau a berthyn i achos mawr ein henaid. "Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant; eithr"—a diolch am rywbeth i syrthio arno ar ol i'r mynyddoedd symud. Nid oes dim byd cadarnach na'r mynydd. Y mae'r mor yn aflonydd y mae'r awyr las yn eang ond yn gartref cyfnewidiad. Ond y mae'r mynydd yn aros o hyd. a rhyw dawelwch yn goron o urddas ar ei ben. Y mae'r stormydd yn rhuthro dros y mynydd, y mellt yn gwibio dros ei ystlys; y niwl yn. ymgordeddu amdano, ond wedi i'r niwt a'r mellt gilio i gyd. Aros mae'r mynyddau mawr." Ond y mae amser y bydd y mynyddoedd yn cilio a'r bryniau'n symud ond bydd rhywbeth yn aros y pryd hwnnw. Fe erys y Duw mawr yn dragwyddol ffyddlon i bob llythyren o gyfamod ei hedd, ac ni fedr hyd yn oed ffiam y dydd diweddaf gymaint a chyffwrdd 4den angel trugaredd yr Anfei4rol lor. Duw a'n dygo, o dan amgylch- iadau fel hyn, i ymddiried yn y pethau hynny sydd yn aros yn dragywydd. Cadw'r ddafad yn nanneddystorom 1 Y Parch. REES EVANS Yr wyf yn leicio'r testun "y Duw ffyddlon a digyfnewid" ond byddaf yn meddwl mai nid testyn i siarad llawer arno ydyw,- testyn i feddwl amdano, a myfyrio arno. Mae fy nghalon yn sgrifennu, Ac yn adrodd wrthi ei hun, Enw hyfryd a rhinweddol, Duw yn gwisgo natur dyn. Calon yn ysgrifennu I Ni fydd y galon byth yn ysgrifennu llythyr maith. Y cwbl a fedrodd mam Ceiriog ddweyd wrtho, wrth ei ddanfon i'r station, oedd, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Peth i'w ailadrodd i ni ein hunain yw ffyddlondeb Duw. Byddaf yn meddwl mai y peth cyntaf a fuaswn i yn ei ddweyd ydyw, fod Duw yn ffyddlon iddo'i Hun. Yn Hamlet, c eir cyngor un i'w fab wrth fynd oddicartref Above all, to thine own self be true, then it must follow as the night the day, thou canst not then be false to any man." Duw yn ffyddlon iddo'i Hun. Tyngais i'm sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd." Dyna adnod ryfedd,—fel pe buasai'n arfer dweyd anwiredd wrth bobl ereill (chwerthin). Beth y mae'r Anfeidrol yn ei ddweyd ? Y mae mor amhosib! i mi ddweyd an- wiredd i Dafydd a dweyd celwydd. Ac y mae'n amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog. Duw'n ffyddlon iddo'i Hun; ac y mae hynny'n cynnwys y bydd yn ffyddlon i ni. Y mae hyn feI dyfroedd Noa i mi," medd Duw. Ni chewch chwi byth fynd i Babilon eto, Y mae bron yn edifar gennyf foddi y byd meddai Duw. Clywais y diweddar Edward Matthews yn dweyd fod Duw yn dweyd Mae'r byd yma'n rhoi mwy o boen i mi na neb arall: fodda i byth mohono eto." Y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant '-gallant. fynd. Ond trugaredd Duw- nid oes gyda hi ddim Ile i gilio. Trugaredd y Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddol- deb V" meddai Evan Phillips. Y mae yn llond y ddaear i gyd, ».(, yn amgylchu y byd. Dyna beth prydferth-ffyddloiideb, V mae yn brydfcrth mewn cyfaill. Y mae yn brydferth mewn anifail. Yr wyf fi yn byw mwy yn eu canol na dynion. ae nid wyf yn meddwl fod hynny'n golled fawr (chwerthín 1. Duw yn ffyddlon "Osmynni. tia ellify nglanhau." ebe'r gwahanglwyfus: ameu ewyllys Iesu Grist. Teim- lodd yr Iesu i'r byw. a dyma Fo'n brysio i'w lanhau, am na fynnai i neb ameu ei ewyllvs. "Where there's a will there's a way." Y mae terfynau i'n way iii. Ond dyma'r Duw holl gyfoethog yn tyngu y bydd yn ffyddlon inni: Bendegedig fyddo'i enw Pan elych trwy y dyfroedd,' mi neidiaf atat, mi'th ichub- af—nage; "byddaf gyda thi." Awn i'r dwr efo'n gilydd, a thrwy'r afonydd, fel na lifont drosodd. Duw gyda ni ymhobman ac ymhob amgylchiadau yn y stormydd, yn y cwbl. Duw'n Dad inni, Ffyddlondeb Tad dyna fo. Tad sydd yn llywodr- aethu ac yn trefnu'r cwbI. Credwch yn ffyddlondeb Duw. Y mae barnan Duw yn drugaredd Canaf am drugaredd a barn." Y Salmyddynsonamfarnau Duw oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Y mae cyfeiriad wedi ei wneud at y rhyfel erchyll yma, Nid wyf yn credu mai Duw sy'n gyfrifol am dano fy hun,ond mi wn y medrEf oruwch-lywodraeth u y cwbl er lies i'w deyrnas. Cawsom aeaf caled iawn ffordd acw. Rhyw nos Lun, nid wyf yn cofio'r fath noson y gwynt a'r eira a'r oerfel. Bu amryw ddynion farw ar y ffordd o'u gwaith i'w cartref. Yr oedd miloedd o ddefaid ar y mynyddoedd acw, a bum yn gofyn i fugail drannoeth, A oes rhai ohonynt yn fyw ? Y maent yn fyw bron i gyd." Sut hynny ? Yr oeddynt yn nannedd yr ystorm, a bum yn treio eu cadw yno." Ac yr oeddwn yn meddwl y buasent yn gofyn. Paham na rowch gys- god inni ? Pe buasai wedi gwneud hynny, buasent yn trengi bob un, am mai i'r cysgod yr oedd yr eira yn ymgasglu. Y mae bywyd ein teyrnas yn wynebn yr ystorm ofnadwy yr ydym ynddi. Ye fearful saints, take courage. The clouds you so much dread. Are big with mercy, and shall break In blessings on your head. Ac y mae cyheithiad Dr. Lewis Edwards lawn cystal yn Gymraeg :— Y saint un niwed byth ni chant. Cymylau dua'r nen Sy'n llawn trugaredd, glawio wnant Fendithion ar ein pen. I I Yn Hoffi'r Pethau Tragwyddol. I Y Parch. THOMAS WILLIAMS Yr wyf yn teimlo yn llawen iawn o weled y fath gynulleidfa.:Imiloedd 0 bobl wedi dod i Seiat. Ond yr wyf yn teimlo eisoes ein bod wedi cael tal rhagorol iawn. Y mae yn dipyn o ryfyg ynnof fi i siarad ar ol y brodyr yma. Y mae Mr. Owen wedi mynd i ddyfnderoedd y pwnc y cwbl sydd gennyf i'w wneud yw codi dipyn o'r cregin sydd wedi dod i'r lan. Y mae'n dda gennyf am y mater-,y Duw ffyddlon a digyfnewid. Y mae yn fater anodd iawn, yn enwedig i un fel fi, ond y mae yn eang. Y mae'n dda ei fed yn eang yn gystal a dwfn. Gallwn ddweyd unrhyw beth bron heb fynd o'r testyn. Yr wyf yn teimlo fod gennyf gryn dipyn yn fy ysbryd i ddweyd. Byddai hen bregethwr o Sir Gaernarfon yn dod i Walchmai acw unwaith yn y flwyddyn. Y tro diweddaf y bu yno, cofiaf eifod yn dweyd, 'Chadwaf mohonoch chwi; nid yn unig y mae y nerth corff yn darfod, ond y mae'r bregeth wedi darfod." Nid wyf fi fel yna. Y mae'n dda gennyf am y pwnc. Y syn- iad uchaf ym meddwl dyn yw'r syniad am Dduw—T Duw. Y mae llawer o dduwiau yn cael eu cynnyg inni; y mae rhyw bobl yn son am ryw ffrwd o ddy- lanwadau yn rhedeg i gyfeiriad Duw. Y mae fy enaid yn treio gafael yn y Duw mawr a digyfnewid. Y mae yn ffyddlon iddo'; Hun. Ac mae'n debyg mai nid mater o ewyllys i Dduw ydyw ei ffyddlondeb a'i anghyfnewidioldeb, ond mater o raid Ei natur. Rhaid iddo fod yn ffyddlon iddo'i Hun. Ac wrth fod yn ffyddlon iddo'i Hun y mae yn ffyddlon i'w bobl. Ac y mae yn anghyfnewidiol yn ei holl ymwneud a 'i bobl. Nid yn y golwg ond o'r golwg; a c yr wyf yn credu mai mater mawr yr adnodau yma ydyw Duw yn mynnu ei ffordd; Duw wedi pen- derfynu dwyn ei fwriadau tragwyddol i ben. Ac mi gaiff wneud hyn fel y myn. Nid oes arno eisiau consultic neb. Cyflawni ei fwriadau tragwyddol y mae trwy'r cyfnewidiadau i gyd. A gwirionedd cysurlawn yw hwn. Cysur i'r Eglwys ydyw'r gwir- ionedd ei fod ef Ef yn aros yn ffyddlon nis gall Efe ei wadu ei Hun. Y mae gennym Dduw ynghanol y malurion o'n cwmpas heddyw. Yr wyf yn teimlo awydd dweyd y funud yma, 0, y Digyf- newid, aros gyda ni." Gweddiwn am hyn yn y dyddiau I cyfnewidiol a thywyll hyn. Duw yn barod i dderbyn Ei Eglwys yn ol: ac yr wyf yn hoffi darlleniad Briscoe yn dda iawn, ac a thrugaredd mi a'th adgymeraf." Mi a'th gymeraf yn ol eto. Rhaid inni gydnabod fod Eglwys Dduw wedi gadael ei Duw yn y blynyddoedd diweddaf hyn. Yr oedd rhywun yn gofyn mewn cylchgrawn yn ddiweddar, Paham y cilia'r bobl o'r capeli ? A dywedwch a fynnwch, cilio y maent mewn llawer man. Y mae Duw yn dweyd wrth lawer o'i bobl: chwi a'm gad- awsoch i." Wrth ddarllen y Llyfr yma, y mae yn amlwg fod yr Eglwys wedi cilio. Gadael Llyfr Duw gadael Dydd Duw gadael Cysegr Duw. Y mae'r tri yn y broffwydoliaeth, ac y maent yn ddarlun o ymddygiad yr Eglwys yn y dyddiau hyn. Ond yr wyf am eich cymryd yn ol, medd Duw. Os yw'r Eglwys wedi gadael Duw, y mae Duw yn glynu wrthi hi. Y ni sydd yn gadael gyntaf; y mae Duw yn gadael wedi hynny. Ond y mae yn barod i ddod yn ol; ac yr oeddwn yn meddwl fod yno dri pheth- perthynas dragwyddol, cariad tragwyddol, a chyf- amod tragwyddol; ac yr wyf yn leicio'r pethau tra- gwyddol yma. Y mae gennym hen wr yn y Seiat acw, yn bump a phedwar ugain oed, ac anaml iawn y cyfyd heb son am y pethau tragwyddol. Efallai mai o dan ei ddylanwad ef yr wyf finnau. Yr wyf yn hoffi'r pethau tragwyddol yma. Y mae firms mawr- ion-a rhai bach, hefyd, o ran hynny-yn hoff iawn o roi'r flwyddyn y sefydlwyd hwynt ar eu sign a'u pethau ereill. Dyma i chwi firm Cyfamod tra- gwyddol." I Duwlbiau Ewrop, ac nid y Diafol. Y Parch. J. GLYN DAVIES (yn Saesneg): When I came on this platform first to-night, I felt very much from home but when I found out that you were sensible enough to cheer, and when I found every speaker said Mr. Chairman," I was very much at home. I do not know how much time is allotted to an English speaker in a meeting like this, but I can assure you that a Welshman speaking English knows how to be short. I have listened with extreme pleas- ure ot what has already been said, and I should just like to drive the matter a little bit further home still. There is no doubt about it, before this war broke upon us, we were in this country lullabying ourselves inte, the fancy that God's love was just good nature, and nothing more. We were playing with the patience of God. I heard a lad say these words the other day, I can do just what I like with mother." And he went on doing just as he liked with his mother. We were in this country thinking we could do just what we liked with Jesus and with His love we were breaking his Sabbath, we were tearing hij Scripture to ribbons, we were thinking we could do what we liked with Him. But we are just beginning to rub our eyes, and waking up to the fact that the love of God is something stronger than mere good nature. It ig. strong enough, righteous enough, to burst upon us in wrath. If your life is a clean life, if your hands are the hands of an honest man, you need not fear. Even the strength of this love ought to appeal to you ifyott are an. honest man. I heard a Christian professor sav the other day in the train, the devil is ruling in Europe now." Not a bit of it! The sceptre of Europe is in the hands of our Strong Redeemer, Hallelujah (" Haleliwia 1" dros y lles ebe rhyw hen batriarch gorfoleddus 0 un o'r seti blaen). The devif ruling Europe ? The love of our Redeemer is simply magnificent, and I want the strength of it to appeal to the soul of every man and woman in this hall to- night. While His wrath is little, His mercy is great. I want you to notice the contrast. It is the contrast which makes His love the most perfectly balanced thing in the world. And amid all that goes on in Europe to-day, His mercies are upon us. Mr. Spur- geon and a friend were once touring in the south of England, and they came to an old church tower with a weather cock on it, with this inscription, God is love." "How absurd, to put that most unchangeable truth upon the most changeable thing in the world Ha you don't understand," said Mr. Spurgeonl That is to show that God is love whichever way the wind blows." Be it from the sunny south, be it from the cold north, be it from the blasting east or the blustering west, whichever way it blows, God is Love," and His mercies are great; and because His love is so strong and so great, therefore He will save us. I like a word in the text, and will great mercies will He gatber them." That was good news for Israel: scattered asunder in Babilon, they were going to be led back to the dear homeland. What a GospeUt was for them My friends, there is a Gospel for you and me to-day, and for Europe. When this war will be over, when the old Europe will have passed away, and a new Europe will emerge, there is going to be a great ingathering of men to the Church of our Redeemer. "Christianity is a failure," say some pessimists. They were saying something like that when our Saviour was on the Cross. But the Saviour went down into the depths and rose again. Then came the Pentecost, and the wind and the fire, and men were saved by the thousands.—Cymanfa y Sulgwyn yn Jerusalem. Sin will be deleateC A" Jesus shall reign in Europe. The mountains shalt depart; Showdon is not the chap he was twelve months ago he is dtihiblliig every day. Here is a love that will never crumble, and His love will be x supreme in Europe. Keep His love burning in the churches of Liverpool. A friend of mine was goingto hold a service in one of the churches of Liverpool, and when he went there, he asked the chapel keeper, who had the blood of one hundred Welsh generations in his veins, Have you any water here ? It is not rcattar we want here," he said, with a very pronounced Welsh accent, but friar" Ddarfu o ddim taro'r hoelen ar ei phen ? Tan yn eglwysi Duw yn Lerpwl; cariad y Duw tragwyddol yn Ilosgi yn eneidiau dyn- ion. Friends, the lads from the front will be home soon. I want you to keep the churches warm till they come and when they come, they will find the old fires burning more brightly than ever. May God grant it I Rhaid inni edifarhau. ac nid putein- io ar 01 pleser. Y Parch. WILLIAM THOMAS: Y mae Duw wedi gwenu ar Brydain tuhwnt i unrhyw wlad ar y ddaear, ac y mae wedi rhoi breintiau neilltuol iawn i'r wlad yma, Y mae wedi rhoi Ile arbennig iddi ynglyn a'i deymas ar y ddaear. Ym Mhrydain y cychwynnwyd yr Y sgol Sa bothol; Prydain Fawr fu crud Cymdeithas y Beiblau; ym Mhrydain y cychwynnodd y Cenad- aethau Protestanaidd. A dyma'r tri sefydliad sydd wedi gwneud mwyaf at ledaenu'r Efengyl. Yn awr, ni roes y Duw mawr mo'r pethau yma inni heb ddis- gwyl inni wneud y goreu ohonynt. A wneuthom ni hynny ? A fuom ni'n ffyddlon i Dduw ? Onid dyma'r gtwyn addaw o bob cwr o'r wlad fod yr Ysgol Sabothol yn mynd i lawr, miloedd ar filoedd bob blwyddyn yn cefnu ami ? Nid yn unig ni wneuthom y goreu i'r Ysgol yn ein gwlad ein hunain, ond ni wneuthom ein goreu i'w chario i wledydd creill A wneuthom ni hynny a fedrem i'n cenadaethau ? Pe buasem wedi cyfrannu'r ddegfed ran o'r swm a werir am y diodydd meddwol arnynt, buasal'r wlad yn llawnach o'i wybodaeth Ef. (Yr holl dyrfa bedair mil yn curo'u traed mewn cymeradwyaeth cryf i'r cyfeir- iad hwn at orthwm y Fasnach Feddwol, ac ymollyng- dod gwarthus y genedl i'w gloddest ar adeg mor ddifrif). Y mae'r Arglwydd hefyd wedi rhoi tiriog- acthau mawr inni: India, rhan fawr o gyfandir Affrica, Canada ac Awstralia. Ac mae'r ynys yma'n galon ymerodraeth nad yw'r haul byth yn machlud ami. Duw sydd wedi rhoi y gwledydd inni, a hynny er mwyn inni eu gwneud yn feddiant i Grist. Ai nid y ffaith yw, fod Prydain wedi bod yn meddwl mwy am y fantais faterol iddi hi nag am y fantais ysbrydol a fedrai hi ddwyn iddynt hwy ? Nid ydym wedi bod yn ffyddlon i'n Duw. Nid ydym wedi bod yn cyfiawni y peth a ddisgwyliai'r Arglwydd oddi- wrthym. A chwaneg, yr ydym wedi mynd ar ol eilunod: Cyfoeth, pleser, uchelgais. clod,-dyma'r pethau y buom yn eu gwasanaethu. Fel yr oedd Israel yn aberthu ar y bryniau, yn y Ilwyni, yr ydym ninnau wedi bod yn addoli'r pethau hyn ar draul esgeuluso Ei gysegr a'i bethau sanctaidd Ef. Yr wyf yn credu fod llond y rhyfel yma 0 Dduw. Y mae Haw r Arglwydd arnom ni; 'fedrwn ni ddim gwadu hynny. Ond da gennyf feddwl hyn, os ydym ni heb gredu, eto y mae Efe'n aros yn ffyddlon. Os ydym ni Brydain Fawr wedi bod yn anffyddlon i'r disgwyl- iadau oedd gan Dduw oddiwrthym ni, a'r ymrwym- iadau a roes arnom, eto erys Efe'n ffyddlon. 'Wnaiff 0 mo'n gadael. Wnaiff 0 mo'n rhoi i fyny. Ond 'chawn ni mo'i amddiffyniad a'i wenau, mwy nag unrhyw wraig anffyddlon, os na edifarhawn. A dyna angen mawr Prydain heddyw-nid mwy o longau, nid mwy o filwyr, ond mwy o fynd i lawr i'r llwch. Awn i lawr. Nid yw wedi bod yn ddigon o wasgfa eto. Nid yw'r bobl fwyaf difrif yn y wlad yma yn gweld arwyddion gwir ymostyngiad i'r graddau y buasent yn dymuno yn eglwysi Prydain. Rhaid inni fynd i lawr. Er fod gennym fyddin alluog a llynges ar- dderchog, i lawr yr awn os na fydd Duw gyda ni. Rhaid inni gael y Fasnach Feddwol o'n gwlad. A phan ddown i'r llwch mewn gwir edifeirwch gerbron Duw, y mae'n sicr 0 ddychwel atom mewn trugaredd a maddeuant. Parhad ar tudal. 6.