Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

VOT GOSTEG. I

!DYDDIADUR. '-

lyhoeddwyr y Cymod

CAFFAELIAD 0AKFIELD

News
Cite
Share

CAFFAELIAD 0AKFIELD i I Y Parcb. J. Lewis Jenkins. S F-FYDLI D y gweinidog hawddgar ac addawol uchod yn fugail ar eglwys Saesneg M.C. Oakfield Road neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 6). Fe'i ganed yn Chicago, eithr a ddaeth i'r Hen Wlad pan yn febyn teirblwydd oed. Y mae ei dad, Mr. David Jenkins, yn flaenor a chodwr y gan ym Mhencoed—hen ardal Deon Howell (Llawdden)-ers deugain mlynedd. Dechreuodd bregethu ym Mhen y bont, a bwriodd bedair blynedd o efrydiaeth yn Nhrefecca dan y Prif- athro Prys. Bugeiliodd un o eglwysi Barri am amser byr, ac yna aeth i eglwys y Trinity, Aberdar, yn ddilynydd y Parch. R. R. Roberts, B.A.,LI.B., Caer- dydd bellach, ac oddiyno, wedi deuddeng mlynedd a hanner o arddeliad a chymeradwyaeth amlwg, y daw i Oakfield, Lerpwl, sef y gorlan a fugeiliwyd mor ddyfal am saith mlynedd ar hugain gan y diweddar Barch. T. G. Owen, M.A., i'r hwn y talwyd ami wrog- aeth gan y siaradwyr heno, fel gwr pybyr ei air a di- droi'n-oi gyda phob gwaith da yr ymaflai ynddo, ac fel ei Feistr, am orffen pob peth a ddechreuai. Daeth rhai ugeiniau o'r aelodau a charedigion o eglwysi'r cylch, bob enwad, i'r ysgoldy cyn y cyfar- fod, i groesawu'r bugail dan ysgwyd Haw a mwynhau cwpanaid a Iluniaeth ac am 7.30, aed i'r capel uwch- ben, He y llywyddid gan y Parch. H. Ridehalgh Jones, M.A.; a chan fod rhifedi'r siaradwyr mor enfawr, nid oes fodd i roddi dim mwy na hanfod ac ergyd yr hyn a. ddywedodd pob un. Ond yng nghyntaf, galwyd ar Mr. H. E. Jones, ysgrifennydd yr eglwys, i ddarllen llythyr oddiwrth Gyngor Eghvysr- Rhyddion Aberdar, a phentwr o lythyrau oddiwrth frodyr na fed rai fod yno, sef y Parchn. O. Lloyd, M.A.,B.D., Bootle; J. T. Rhys, Abertawe; Dd. Hughes, Ysw., Prestatyn Wm. Evans, Ysw., Y.H., C.C.; Liverpool; y Parchn. J. Hughes Morris, F. Linstead Downham, ficer St. Simon's a St. Jude's, Liverpool; Dr. W. Howells, Liverpool; y Parch. Wm. D. Ross, B.Sc., Liverpool; Dd. Jenkins, Ysw., Pencoed, Glam. (tad y bugail newydd); y Parchn. A. Wynne Thomas, Abertawe T. C. Jones, Penarth H. H. Hughes, B.A.,B.D., J. H. Burkitt (Cyngor Eglwysi Rhyddion Liverpool); John Inglis, ficer eglwys St. George, Everton W. M. Price, Mancott; R. Elias Jones Mr. a Mrs. H. J. Roberts, Wyddgrug; Preifat Alfred Jenkins, B.A.. Cambridge (bjawd); a'r Parch. R. L. Powell, Moreton." Wedi anerchiad o groeso cynnes iawn gan Mr. W. Thomas, un o swyddogion Oakfield, caed gair i'r un perwyl ar ran yr Henaduriaeth gan Mr. J. D. Evans, Everton Brow, a fu, efe a llywydd y cyfarfod, yn gwneud eu rhan i arolygu'r eglwys er pan fu Mr. Owen farw. Yr oedd yn eglwys ac ynddi wyr cryfion, ac yr oedd yn ddiadell effro, eiddgar ac addfed i dderbyn bugail. Sylwodd y llywydd mai ffaith go ddiddorol ydoedd hon sef fod y bugail newydd yn dechreu ar ei waith heno flwyddyn i'r diwrnod er pan gollasid ei flaenor- ydd ac felly yr oedd hi'n oedfa goffa amdano ef yn gysfal ag yn oedfa groesawu ei ddilynydd. Galwyd yn nesaf ar gynifer a chwech o gynrychiol- wyr y Trinity, Aberdar Mr. Nicholas (ysgrifennydd yr eglwvs), a fwriodd olwg dros holl ffurnau gweith- garwch Mr. Jenkins. mewn byd ac eglwys yn y De; Mr. Daniel Jones, yr hwn a sylwodd, er cystal pobl. oedd yn Oakfield, y meiddiai ddywedyd y byddai dyfodisd Mr. Jenkins yn sicro godi ton ysbrydol y He, ac a awgrymodd fod ynddo awydd cryf i godi tani a chael newid rheolau sefydlog y Corff nes deddfu, lie bo un eglwys yn chwennych a lladrata bugail neu odidog oddiar eglwys arall,-fod iddi dalu iawn teilwng iddi amdano,—un o wreichion ffraethineb Hwntwaidd a barodd i wen lydan daenu drqs y dorf; ond diffodd- odd y weri oddiar wyneb y Daniel direidus pan awgrymodd Mr. Miles, un arall o gynrychiolwyr y Trinity a siaradai ar ei ol, sut y daliai hynny pan elent hwythau i chwennych a lladrata rhywun yn y dyfodol i geisio llenwi lie Mr. Jenkins. Sylwodd Mr. Miles hefyd fod Mr. Jenkins yn bre- gethwr campus, ac o ddifrif os bu neb erioed felly, ac i ddangos y pwyso hynny, coffhaodd atebiad SyrHenry Irving i'r cwestiwn a ofynnwyd iddo pan yr heidiai cymaint i'r chwaraedai tra'r eglwysi mor Ilwydaidd a gweigion. Ac ebe'r actiwr craff hwnnw:— Yr ydym ni'n actio ffug fel pe bai'n wirionedd, a chwithau'n pregethu gwirionedd fel pe bai'n "ffug." Mr. Howell Davies,—dyn ieuanc hyfryd ei agwedd a'i acen, a rhyw ddwyster Cyfnreig yn ireiddio'i holl anerchiad,—a sylwai fod ieuenctyd y Trinity yn banner addoli Mr. Jenkins yn ei garu mewn gwir- ionedd a hynny am ei fod yn byw mewn cymundeb mor agos a'i Dduw nes fod ganddo gyfrinacfrau newydd ac ysbrydol i'w dywedyd yn ei bregethau, a bod gwlith y Nef ar ei holl weithredoedd. Gem 0 bregethwr i blant yw Mr. Jenkins," ebe Mr. T. D. Davies, un arall 0 gynrychiolwyr ieuanc y Trinity; ac yn awgrymu fod ei allu cithriadol i ennyn serch a sylw had yr eglwys yn un o'i brif gymwysterau ac yn un o'r prif resymau paham y gofidient hwy gymaint am ei golli. Yn nesaf, daeth Mrs. Walter Lloyd ymlaen: chwaer dros ei phedwar ugain oed, ond a ddaeth yr holl ffordd o Aberdar i dalu ei theyrnged o barch i'w chyn-weinidog; ac yn amlwg, pe cawsai ragor o am- ser, y buasai wedi codi'r cyfarfod i dir uchel, gan mor dwt a 6wynol ei ffordd o draethu ei meddyliau. Y hi'n adnabyddus iawn drwy'r De am ei hymroddiad gyda dirwest a chrefydd, a chanddi ddawn hyfryd cystal ? se ) danbaid. Ac ebe hi wrth ddibennu Bu Mr. Jenkins acw ddeuddeng mlynedd a hanner heb i'r un gair garw erioed na'r rhithyn lleiaf 0 ddim annymunol ddigwydd cydrhyngddo ef a neb o'r eglwys. Caed gair gan y Parch. i. R. Dann dros Undeb Eglwysi Rhyddion LerpWl; ac yna gan y Parch. S. O. Morgan, B.A.,B.D., Hoylake. Mynnai ef ci fod yn adnabod y bugail newydd yn Ilwyrach na neb oedd yno, ac a dystiai fod dynoliaeth bur a diwyrni ynddo; a chwedl Henry Ward Beecher wrth ei efrydwyr un tro ■. Os na bo pregethwr yn ddyn, nid oes gan hwnnw hawl i ddringo grisiau'r un pulpud." Yr oedd y gwr a groesawid heno wedi cael ei drwytho yn y Diwygiad gwyddai beth oedd pangfeydd argy- I hoeddiad o bechod, a gwyddai hefyd beth oedd gor- ffoledd dihangfa o'i afaelion drwy Efengyl Crist. Dilynwyd gan y Parch. Oliver Williams, Everton Brow ac wedi gair gan y Parchn. J. Owen (Anfield Road), G. Wynne Griffith, B.A.,B.D. (Doug- las Road), y Parch. J. H. Holman (bugail yr eglwys Wesleaidd gyfagos), a'r llywydd, cododd Mr. Jenkins ¡ i gydnabod yr hyn a ddywedasid amdano. Credai reddf ei enaid ei fod wedi dod i wydd cyfeillion cy wir, a diolchai i bawb, cyfeillion annwy] Aberdar yn enwedig, am eu geiriau grasusol. Y mae'n llawenydd I tuhwnt i ddim a fedr geiriau byth ei draethu i mi fod I fy ymdrechion yno wedi dwyn y fath dystioiaeth o'u geneuau a'u calonnau; braint fwyaf bendigedig fy mywyd ydyw clywed hyn ond coelwich fi-ac yr wyf yn ei ddywedyd o ddifrif ac yng ngwydd fy ¡ Nuw, ac nid o ddim ffug-ostyngeiddrwydd—fy mod yn hollol annheilwng 0 ddim a briodolwyd imi, canys I Cnst sydd yn gwneud y cwbl, trwof fi; erfyn bach ydwyf yn ei law Ef; ac yr wyf yn berffaith barod bob amser i fynd o'r golwg ac aros o'r golwg os daw Ef i'r amlwg yn fy He. Cerais fy mhob! yn Aberdar; ac a'm cerid ganddynt; ac O dyna ddedwydd oeddwn yn eu mysg a gallaf ddweyd hyn yn onest a diragrith ? nad euthum erioed i fy mhulpud heb deimlo a disgwylfod rhywbeth mawr i ddigwydd a rhyw neges i ddod. Canys rhaid i bob dyn- pregethwr a phawb-oedd am osod y byd yn ei le, gofio y rhaid iddo ef ei hun fod yn ei le yng nghyntaf, sef gyda Duw. Terfynwyd cyfarfed maith mewn cywair bbsus; fod yn amlwg fod bugail newydd Oakfield yn rhwym o fod yn gaffaeliad i'r eglwys ac i ddifrifwch ac ysbry d olrwydd y ddinas a'r cylch. Rhif aelodau Oakfield ar hyn o bryd ydyw 277; a sylwodd y Parch. John Owen (Anfield Road) heno y cyfrifid ei swyddogion ymysg y setiad galluocaf o hiliogaeth Methodistiaid Cymreig Lerpwl. j °

Advertising

Ffetan y Gol. I

[No title]

Advertising