Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

News
Cite
Share

o Big y Lleifiad. HEIDIO TUA'R LLOFFT STABAL.' Cyn- hyddu bob wythnos y mae'r dyrfa sy'n hel tua Llofft Stabal yr Hen Was bob nos lau a chynhyddu, feddyliwn i, y mae ei ddawn sgrifennu a'i hiwmor yntau. Y mae dameg y ddau fabi—babi'r Plas a babi'r Bwthyn-yn Y BRYTHON heddyw, yn gyforiog o ddoniolwch glan ac o synnwyr ysbrydol; ac os na thyn llith fel hon y balchter o gorun pawb sydd wedi meddwi ar ddillad a phethau'r byd hwn, wel, a helpo'r gwirion, meddaf fi a chwedl Dr. Moelwyn Hughes, Nid yw'r dyn sy'n colli pen felly ddim yn colli Ilawer. tt AIL GTNNU'R TAN TEMLTDDOL.—Dim ond pedair cyfrinfa fyw sydd gan y Temlwyr Da Cymreig ar Lannau Mersey ar hyn o bryd, lie byddai cryn ddeunaw flynyddoedd yn ol, a'r rheiny'n lluosog eu haelodau, yn gryf ac amrywiol eu talentau, ac yn llawn asbri dros Ddirwest a thros gadw pob Cymro a Chymraesa ddeuaii'r ddinas rhag cwympo i golledig- aeth ar y Llwybrau Llithrig. Ond sychodd y set, a chaeodd y Temlau y naill ar ol y Ilall, nes bod dim ond y rhain yn gweithio heddyw Eryri yn Seacombe, Cambrian yn Boo tie, Gwalia yn Edge Lane, a Gwynedd yn Laird Street. Ond er i'r mam ddarfod, y mae'r tan temlyddol yn mud-losgi yng nghalon rhai Teml- yddion o hyd, ac yn ysgoldy Fitzclarence Street, nos Sadwrn ddiweddaf, daethant at ei gilydd i ystyried beth, tybed, a ellid ei wneuthur i ail gynnu'r tan a chael y temlau oedd wedi pallu i ail gychwyn a blodeuo fel cynt. Mr. Lewis Roberts, y Dosbarth Brif Demlydd, a lywyddai, a chymrwyd rhan ganddo ef a'r Mri. R. O. Jones (Rhydzvenydd), Griffith Davies, J. H. Jones, Hugh Lloyd, Chambers, W. Philip Jones, J. Williams (Binns Road), Henry Davies, J. Owens (ysgrifennydd y Dosbarth Deml), J. Evans (Glenart, Birkenhead), Ernest Hughes, a Mrs. Foulkes. Gosodwyd ar Bwyllgor Gweithiol y Dos- barth Demi i geisio trefnu rhyw gynllun sut i wneud yr awgrymiadau a glywsid yn yr anerchiadau yn rhai ymarferol. Pan fo'r cynllun hwnnw'n barod, fe elwir cyfarfod eilwaith. Llawenheid fod y Dosbarth Deml bellach yn ddiddyied, a hynny'n ddyledus i raddau mawr i ymdrechion y Br. J. E. Roberts, TemI Gwynedd. Dyma sylw neu ddau a ddywedwyd :— Nad arwydd iach iawn ydpedd gweld bragwr fel yr Henadur Salvidge yn cael ei anrhydeddu gan y Llywodraeth a'i godi'n farchog gan y Brenin. Nid wrth syrio bragwyr yr enillai Prydain ei brwydr, yn sicr i chwi. Er fod trai ar Demlyddiaeth Dda yn Lerpwl a mannau ereill, peidied neb ohonoch ag anghofio mai y hi, serch hynny, yw'r Gymdeithas Ddirwestol gryfaf a mwya'i Ilwyddiant drwy'r byd i gyd, ac mai nid ceisio galfaneisio corff marw yr oeddym heno, eithr cymhwyso tipyn o massage treatment at un aelod bach ohono sydd wedi oeri -a diffrwytho tipyn. Sonnid a pharch dwfn am y diweddar Barch- edigion Dr. John Thomas a Griffith Ellis,—dau ddigon mawr ac eirias eu sel iffaglu'r wlad drosti, ac nid Lerpwl yn unig. Gweddiid am weld eu cyffelyb yn codi eto, nes bod dipyn o swn yr hen bwerau i'w glywed drwy Gymru. Clywsom hefyd waith mor fendigedig ac achubol a wneir yn y Fyddin, gartref ac ar faes y frwydr, gan Gymdeithas y Y.M.C.A., ac fod yna yn agos i gant a hanner o filoedd o lwyrymwrthodwyr proffesedig yn y Fyddin a Llynges Brydeinig; ac fod gwell gwedd ar bethau ar hyd dociau Lerpwl nag a fyddai, gan fod y gweithwyr yn achub y cyfle i fynd i'r tai bwyta dirwestol a godir yno, yn lie gorfod mynd am eu cinio a'u prydau i'r dafarn, y hi a'i sawr ffiaidd a'i swn rheglyd < v -v » HTN AC ARALL Sylwch ar yr hysbysiad am Seiat Fawr y Sun Hall' sef mai nos Lun y Sulgwyn y cynhelir hi, ac nid yn y bore fel arfer. Y mae'r 2nd Lieut. M. O. T. Hughes, mab Mr. a Mrs. Edward Hughes, Maldwyn, Birkenhead, wedi cael ei ladd yn Ffrainc. Yr oedd yn llanc tal a chryf ei gorff, ar fin ei un ar hugain oed, a phawb o gydnabod y teulu yn cydymdeimlo a'i rieni trallodus. Dyma gyfeiriad at ei farwolaeth allan o lythyr y Lieut, F. Venmore, D.C.M., at ei dad, Mr. James Venmore, Y.H.:— You will be very sorry to hear that 2nd-Lieut. M. T. Hughes, of Birkenhead, is killed, and we are all very sad. He was very popular with all his men and fellow-officers. We shall all miss him very much, for we were very fond of him. We truly sympathise with his family." H Y mae Mr. Wm. Thomas, Treflyn, wedi prynnu busnes y diweddar Mr. Owen Jones, plumber and decorator, Conway Street, Birkenhead, tt I GLEWDDYN r CAMEROONS.-Y mae'r Lieut. Stirrup, Catrawd y Gold Coast, West African Frontier Force, wedi cael ei grybwyll gan Syr Charles Dobell am ei wroldeb a'i bybyrwch fel milwr yn y rhan bellennig honno o'r byd,-mentioned for dis- tinguisbed and meritorious service yw geiriau'r Gazette fel y cyhoeddid hwy yn y Times yr wythnos ddi- weddaf. Efe a'i wyneb ar y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr ac yng Ngholeg Bangor pan dorrodd y rhyfel allan; y mae'n frawd i Mrs. Tecwyn Evans, Birkenhead ac wedi gweld a phrofi pethau cofiadwy tros byth wrth hela'r Ellmyn ystumddrwg o'r Cr meroons-gwlad anferth, mwy na Germani ei hun, gyfoethog ei hadnoddau, a'r unig un o'u trefedigaeth- au oedd yn talu ei ffordd iddynt, ebe'r Times. Bydd ei lu cydnabod ym Hon a'r wlad yn falch o glywed fod ei wrhydri wedi ennill sylw a. chydnabyddiaeth yr awdurdodau. HIRAETH JOHN HUGHES AM EVAN I JONES.—Y mae gan y Parch. John Hughes, M.A., cyn-fugail Fitzclarence Street, gan hiraeth am y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn Nhraethodydd Ebrill,—dau bennill ar hugain, a deg llinell ymhob pennill. Ysgrifennwyd hi yn Oakland California, Rhag. 2i, 1915 cyffyrdda'n dyner a gwir deimladwy a phob tant yn y cymeriad cryf ac amlochrog hvrnnw ac er cymaint galw sydd ar ein gofod, rhaid mynnu lie i dri neu bedwar o'r ddau bennill ar hugain, yn enghraifft o weddill y gan Wylaf yma 'mhell o dref, Ddagrau'n Hi', Am dy symud fry i'r nef, Heb i mi Mwy dy weled yn y cnawd, A chael croesaw'n ol gan frawd Ae fydd Cymru imi'n dlawd Heb dy wedd, Er dy fod yn uwch dy rawd Hwnt i'r bedd. Yno'r wyt yn tawel huno Heb wahardd; Ni ddaw atom mwy i'n swyno, Un mor hardd; Ni chawn byth dy weled eto, Yn dy fedr yn dadweinio Dy hen gleddyf, ac yn taro Gelyn gwlad, A dy floedd fel ilew yn rhuo Yn y gad. Pwy amheua ei wroldeb Gyda ni, Neu ei hawl i anfarwoldeb Yn ei fri ? Glew efe-nid heb ei feiau,— Cysgod oeddynt o'i rinweddau Llechu wnaent o dan geseiIiau Didwyll ddyn,— Gwelid hwynt, pan welid yntau, Oil ei hun. Braint a defod gwlad goleuni Ddwg i ti Lewyrch haul ar y trueni Welwn ni; Culni Sectau-sel Enwadaeth, A gorfaeliaeth Eglwysyddiaeth, A holl annhrefn Methodistiaeth, Nid ynt mwy Yn dy olwg-lachawdwriaeth Guddia hwy. O fy nghyfaill! gwiw yw cofio Oriau cu, A rhyw ddistaw prudd freuddwydio Am a fu; Ni all dawn na grym darfelydd Fyth ddisgrifio dy lawenydd, Gyda'r saith ugeinmil dedwydd, Uwch y byd, Wedi cyrraedd trwy'r ystormydd Hafan glyd. Amlwg wyt ar fynydd Seion, A dy ddawn Yn difyrru'r cadwedigion Fore a nawn; Os oes yno brinder defnydd Newyddiadur a Golygydd, Mae dy ddoniau'n fwy ysblennydd Nag erioed Caiff y nef Oleuad newydd Yn ddioed. Minnau yn y nos arhosaf, Nes daw'r wawr; Ar y ser yn fud y tremiaf, Ar y llawr; Yn eu llewyrch mi ymlwybraf, Heibio'r ffos, a'r waun, a'r gwaethaf, Ac am danat y disgwyliaf, Yn y nef; A chawn gwrdd-fy nghyfaill mwynaf, Ynddo EF. H Gwers i'r Hirwyntog.-Un o effeithiau gofidus y rhyfel ydyw mynd a chymaint o sylw'r byd nes fod dynion mwyaf a goreu'll cenedl yn cael disgyn i'r bedd mor ddisylw. Leied o son rhagor a haeddent a fu am Syr Edward Anwyl a Syr John Rhys ac ereill a gollasom yn ystod y ddwy Hynedd ddiweddaf; ond dichon y bu mwy 0 ysgrifennu ar y Parch. Evan Jones nag odid i neb, yn y newyddiaduron a'r cylchgronau ac y mae atgofion y Parch. Rd. Jones (Glan Alaw) amdano yn y Traetboyddd hwn ymysg y pethau mwyaf diddan a byw a ddywedwyd amdano. Byddai n eithaf peth dyfynnu'r pwt a ganlyn er mwyn iddo fod yn wers i bob cadeirydd sy'n chwannog i andwyo cyfarfod drwy frygawtha'n hir ac amgylchog. Ym Moriah y gwelais ef gyntaf ar noswaith ei sefydliad. Yr oedd y cyfarfod sefydlu yn un lluosog iawn, ond aeth yn llawer rhy faith. Y Ilywydd oedd y Parch. T. Hughes, Moriah, ac fe gymerodd ef lawer gormod o'r amser i siarad. Nid wyf yn cofio pwy oedd yr oil o'r siaradwyr eraill. Y Parch. D. Davies, y Bermo, oedd yn "cyflwyno Mr. Jones dros Gyfarfod Misol Gor- Ilewin Meirionydd, a'r Parch. R. Ellis, Ysgoldy. oedd yn ei dderbyn dros Gyfarfod Misol Arfon. Y mhlith pethau eraill, dywedai Mr. Davies, pe buasai ganddo ef i gyflwyno ambell un i eglwys fel Moria, mai ei gyngor iddo fuasai, am iddo ymwroli a pheidio ag ofni, am fod Mr. Jones fe lefiathan wedi ei lunio heb wybod am ofn. N chydsyniai Mr. Jones a hynny, a dywedai, os oedd weithiau yn ymddangos yn hun heb wybod am ofn, mai ceisio troi y tu goreu allan y bydda i Ymhell cyn y diwedd yr oedd y lluaws yn blino. ar hyd y cyfarfod, ac yn myned allan. Yni gweled hynny, gwaeddodd y Ilywydd, Peidiwch a mynd allan, gyfeillion; nid oes yma neb i siarad eto ond Robert Ellis, ac fe fydd ef yn fyr.' Gyda'r sydynrwydd oedd mor nodwedd- iadol ohono, cododd y gwr o'r Ysgoldy, ac meddai Na fyddaf ddim yn fyr; nid oes fawr neb yma yn ceisio bod yn fyr. Mynnodd y Ilywydd i ddechreu gael dweyd yr oil oedd ganddo, a dilyn- "odd pawb ei esiampl, ac felly gwna finnau. Ewch chwi allan, mi siaradaf finnau.' Ar hynny, dechreuodd pawb droi yn ol, a chafodd Mr. Ellis y gwrandawiad goreu o'r oil." U Yn rhestr y London Gazette o'r rhai a gyfrifwyd yn deilwng eu crybwyll am waith da a dewr ynglyn a'r rhyfel yn y Dardanelles, ceir Capt. John Parry, H.M.T. Georgian. Cartrefa Capt. Parry yn 10 Exeter Road, Bootle, ac y mae'n aelod 0 eglwys Stanley Road. Yn 1906, pan yn gap ten y Bostonian, bu'll foddion 1 achub bywydau lawer oddiar y British King, am yr hyn y cafodd gwpan arian ddrud a hardd odiaeth gan y Llywodraeth, ac anrhegion eraill gan Lywodraeth y Taleithiau, am yr hyn a gyfrifid yn orchest achubol fwyaf y flwyddyn honno. Brodor o Benmon yw'r capten glew; ac y mae'r anian achub fel petae wedi mynd i waed pawb o bobl y trwyn creigiog ac enbyd hwnnw. H Nid oes dref ym Mhrydain ddyfnach ei diddordeb na Lerpwl yrn mrwydr fawr Mor y Gogledd mawr y gofid a ddatgenir wrth feddwl colli cynifer o ddynion glew, ac ami i Gymro, mae'n ddiau, yn eu mysg. Dyma un Cymro a gollwyd Instructor Thos. Elwyn Jones, B.Sc., ail fab y Parch. S. T. Jones, Colwyn Bay, a brjiwd i'r Sergt. W. H. Jones, B.A., (Elidir Sais). Derbyniodd ei addysg yn y Rhyl a Choleg Bangor, a mathematical master yn Ysgol Sir Caerfyrddin ydoedd pan ymunodd a'r Llynges. Efe oedd yr instructor ar y Defence, a mab i Syr Percy Scott ymysg y rhai oedd tano. H Cymro arall oedd yn y frwydr oedd Mr. Emrys Daniel, Lerpwl (nai i Mr. Robert Roberts, Y.H., Judges Drive), paymaster ar fwrdd y Cordelia, un o cruisers cyflymaf ein Llynges. Bu'n brwydro am chwe awr a banner ac wrth forio'n ol wedi'r alanas, gwelodd gyrff ar wyneb yr eigion am gan milltir o ffordd! A'r olwg arnynt yn rhy ofnadwy i eiriau byth fedru ei fynegi. tt Rhag PryJedu.-Byddai'n werth i ch wi d afln golwg dros hysbysiad Kennedy's Antiseptic Belts, a welir ar tudal. 5, sef at ddifa'r pryfetach sy'n peri'r fath flinder i'n bech- ¡ gyn glew yn ffosydd y rhyfel. I

I DAU T U"R AFON.

COlli ARGL WYOD KITCHENER.

Advertising