Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YSl AFELL Y BEIRI)D I

Gyda'r Milwyr yn Ffrainc.

In ainedi ym Manoeinion.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

In ainedi ym Manoeinion. Ceahadon y Sul Nesat. Y METHODlSTIAID OALFINAIDD Moss SIDE-10.30 a 6.30, T Trefor Jones, Sto kport PBNDLETOX—10.30, ,6 R Williams ffErwooi) ST—10.30 R Williams 6, VICTORIA PK—10.30 a 6, FARNWOBTH—2-30 a 6 LEIGH—10.30 a 6, WASHINGTON—10.30 a 6, R Parry Jones EARIBSTOWN—10.45 a 5.30, ASHTON-IWDEB-LYNE—10.45 a i.,30, EGIIWTS UNDEBOL ECCLES-ll a 6.30, YR AXNIBYNWYB. CHORLTON RD-10. 30 T C Davies, 6.15, Ellis Jones, I Bangor BOOTH ST—10.30 E Jones, 6.15, T C Davies,Cilcennin QUEEN'S ROAD—10.30 a 6.15, Watkin Williams, Vron OD DUNCAN ST, SAiFORD-10.30a 6.15, John Morris, BotUNWOOD—10.30 a 6.15 G Tibbott Y WESLEAID DEWI SANT—10.30.W G Jones, 6, D R Rogers SOREB—10.30, 6, J S Williams Ho&EB—10.30, D R Rogers, 6, John Feiix SEION—10.30, D R Rogers, 6, John Felix BEAULAH-2.30 T H Evans, 6.30. W G Jones OALFARJA-IO.30, J Felix, 6, T Hefln Evans WICASTE-2.30, J S Williams, 6-30, J T Ellis Y BEDYDDWYR crp. MEDLOCK: ST.—10.30 a 6, G H Clevar, Bootle LONGSIGHT-10.30, G H Clevar, 6 30, Cyfarfod Gweddi ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5.30 SULGWYN HEB Y TRIP.-Ynghanol y digwyddiadau eithriadol yr ydym yn awr, ac y mae rhoddi heibio Wyliau'r Sulgwyn yn un ohonynt. Atalia hyn bleser-deithiau ein Hysgolion Sul yn gyf angwbl ataliwyd hwy 'n rhannol y llynedd. Hen arfer blynyddol ers tros drigain mlynedd gan y Cymry oedd mynd gyda'i gilydd i'r wlad. Bu adeg pan oedd yr holl Gymry mewn undeb trwyadl ynglyn a threfniadau y Sulgwyn yr oedd cvfamod rhyngddynt, a'i glwm mor glos heb os nac onibai." Ond yn araf, llaciwyd yr undeb, nes y daeth bron bob ysgol i ddewis ei dydd a'i lleeihun ond nileihaodd hynny y diddordeb a'r brwdfrydedd oedd yn y plant a'r ieuenctid yn arbennig i gael seibianna'n ddifyr hyd lwybr a gwelitglas yn lie heol a phalmant Mae llawer pleserdaith Ysgol Sul wedi gadael atgof hapus ar feddwl llawer ohonom. Yr wythnosau diweddaf bu cryn lawer o son am Shakespeare, a phob tro y daw ei enw ger fy mron, cofiaf am bleserdaith Ysgol Sul Hey- wood Street lfynyddoedd lawer yn ol, i Stratford-on-Avon, ac ymunais innau gyda hwy i gael golwg am y tro cyntaf ar gartref y bardd. Mae amryw o'r rhai mwyaf difyr ac amlwg yn y bleserdaith honno wedi mynd i daith na ddychwelant, coffa da amdanynt Ond dyma un o'r pethau a arhosodd yn fy nghofhyd heddywo'rhollgreiriau addangos- wyd yn y ty lie ganwyd y bardd. Safai amry wohonom ar lawr y J lofft,a chy f erbyn a ni yr oedd y pennill canlynol wedi ei ysgrifennu a phensil ar y pared, ac wedi ei gyfansoddi yn y fan honno gan Lucien Bonaparte, brawd Napoleon, panymwelodd a Stratford yn 1818, dair blynedd cyn marw'r rhyfelwr mawr cadwodd fy nghof yr ysgrif ar y mur fel hyn The eye of genius glistens to admire How memory hails the sound of Shake- speare's lyre One tear I'll shed to form a crystal shrine For all that's grand, immortal, and divine. Y SAMARIAID TRUGAROG.- Yn y rhifyn diweddaf enwais rai o'r Pwyllgor sydd yn gofalu am filwyr Cymreig sydd yn ysbytai rhanddeheuoly dref. Ymddengys na enwais mo'u hanner yn ol y rhestr faith o enwau a dderbyniais. Y tro nesaf y cylfawnwch rhyw waith mawr gofalaf am yr enwau i gyd goddefer y tro hwn ddim ond y rhif, sef 37 Moss Side, 9; Gore Street, 5; Medlock Street, 5 Booth Street, 4 Chorlton Road, 4; Manley Park, 4; Victoria Park, 4; Longsight, 2. Goreu po fwyaf i wneud daioni. YR HEN A WYR.-Clywir yn amI am bryder ein henafgwyr ynghylch crefydd y dyddiau hyn oherwydd mae rhyw farweidd- dra teimladwy yn amJwg trwy ffigyrau y cyfundebau ac yri arbennig yng nghyfrif aelodau'r Ysgolion Sul. Wrth synied hyn, yn wyneb trybini ofnadwy ein gwlad, traeth- odd un henafgwr ei brofiad wrthyf a'r pennill godidog hwn a ddysgodd dros hanner can mlynedd yn ol. Niwyddaiefddimohanesy pennill, a oes rhywun arall yn gwybod ? Pa le mae yr hen bwerau Ddrylliodd gaerau lawer gwaith ? Pie mae Arglwydd Dduw Elias O na ddeuai at ei waith Braich yr Arglwydd Deffro yn y dyddiau hyn. Y ORYDD A'R BOTEL.-Buasai Idris Fychan wrth ei fodd yn awr, pe gwelsai bawb trwy'r wlad wedi symud ymlaen i ddefnyddio mwy o oleu dydd. Credai ef na ddylai neb weithio ar ol machlud haul, ac na threfnodd Rhagluniaeth ddim i ddyngyflawni gorchwyl- ion wrth oleu celfyddyd. Bu fyw wrth ei gredo canys ni thrwsiodd esgid neb yn yr hwyr crefodd llawer amo wneud, ond gwrthododd yn bend ant ar hyd ei oes. Un o'r dyddiau diweddaf, clywais yr hanes hwn amdano Yr oedd Idris a Chyffin a Rhobert Gruffudd yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi cyrraedd gorsaf Caer, bu syched mawr ar Idris, ac aeth i gyrchu potel. Erbyn dod yn ol yr oedd Hwfa Mon wedi ymuno A'r cwmni, ac yn gweld y botel yn llaw Idris tamnodd allan fel hyn.- Dowch a'r Porter gloewbw, ltn, 0 fachau ldris By»h»n. WRTH GROESAWU W. M. HUGHES. -Dyma anerchiad y Parch. J. H. Hughes, cadeirydd Cymdeithas Genedaethol Man- ceinion, wrth siarad yng nghyfarfod croesawu ac anrhegu'r Gwir Anrhydeddtis Wm. Morris Hughes, Prif Weinidog Awstralia, y dydd o'r blaen.N i raid hysbysu'rcynhulliaè. anrhvd- eddus hwn am athrylith uchel, ymroddiad angerddol, a chamre rhyfedd hanes y gwr y mae Dinas Manceinion yn chwennych ei anrhydeddu. Gwyddom am ei ddyddiau bore yn Llandudno, yng ngolwg mynyddau Arfon. "A pha arlunydd a dynnoddar y llenogoniant Arfon ? Ei hardderchog Iu o fryniau yn ymledu dros y nen, mae'rddaearfelyntroi yn nefoedd fry." Gwyddom am yr arwr ieuanc yn wynebu Awstralia, heb ddim ond ei adnoddau personol i frwydr bywyd, ac am ei lwyddiant ani-hydeodus yn gweithio ei ffordd yn llywydd ynys ehangaf y ddaear. Llawen- hawn fel Cymry yn y modd mwyaf calonnog yn hyn oIl, ac os yn bosiblllawenhawn yn fwy fyth nad yw Joseph yn anghofio Canaan. Mae'r Gwir Anrhyd. W. M. Hughes vn arddel ei wlad, yn cydnabod ei genedl, ac yn caru ei frodyr. Cas gwr na charo'r wlacl. a'i mag- odd," ac nid oes dim o'r rhodres hwnnw i'n rhyswr bydenwog. Pa ddydd y talai'r wrogaeth uchaf i brydferthwch Dyffryn Llan- gollen, ac y gwnaeth bererindod gysegredig i bentref tawel, neilltuedig, LIansantff raid TO Mechain,ergweld manbeddrod ei annwylfam. Heb fod nepell iawn o'r gymdogaeth honno y safai Svcharth—lie yr oedd llys godidog Owen Glyn Dwr, ac ai nid oes" gwaed gwron- iaid Cymru yn y gwron a anrhydeddir heddyw ? Ac onid ar hyd y bryniau cyfagos y barddonai Huw Morus ? A pha le y daeth Morris i enw'r gwr mawr heddyw ? Tywysog a gwr mawr o Gymro, mewn gwirionedd, a groesawir ac a fawrygir gennym heddyw. Ac y mae gerinym fel Cymry hawl i groesawu i Fanceinion nid traws- ymwthwyr ydym, ond rhai yn trigiannu yn etifeddiaeth ein cyndadau. Onid oddiwrth enw un o lwythau gwronol ac anturiaethus yr hen Frythoniaid y daw yr enw seinber Man- ceinion, ac onid ymgyfaneddai yr hen Fry- thoniaid ar lannau'r Irwell, yr Inc, a'r Fed- lock ? Ac os edrychir ar Fanceinion yng nghyfnod ei chynnydd i fod yn un o brif ddinasoedd y byd, ceir fod gan y Cymry ran tra, blaenllaw yn ei gwneuthur- iad. Yn y flwyddyn 1789, cyrhaeddodd. v Cymro ieuanc Lewis Lloyd dref Manceinion, ar gefn ei ferlyn gwyn, unig gynhyscaeth ei dac1 iddo yn Sir Gaerfyrddin: ac mewn cys- ylltiad a'r Cymry—William a Samuel Jones-- diau mai hwy fu y cyfryngau mwyaf effeithiol i eangu masna-ch yr Ariandai ym Manceinion, Mab i John Lloyd oedd Samuel Jones Lloyd, a fu farw'n Arglwydd Overstone ac yn werth pum miliwn o bunnau. Ym Manceinion y treuliodd Robert OwenyCymdeithasydd flyn- yddoedd mwyaf pwysig ei fywyd, ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o roi bod i egwyddor y Co-Operative Stores gyda'r gweithwyr. Gan- wyd Robert Owen yn y Drefnewydd, Mald- wyn, Mai 14eg, 1771, a bu o wasanaeth dirfawr i ehangu masnach y cotwm ym Manceinion. I'r Cymro llwyddiannus John Owens, mab i Owen Owens o Dreffynrion, Sir Fflint, y mae Manceinion yn ddyledus am ei phrifysgol. Cyfoeth John Owens aeth i gychwyn y Coleg, ac ai nid Cymry sydd wedi bod a'r rhan fwyaf blaenllaw mewn eangu breintiau ac effeithioli addysg a gwasanaeth y Brifysgol ? Pwy fu o fwy gwasanaeth i'r SefydJiad ardderchog na'r Proff. Morgan, brawd i'r Gwir Anrhyd. C. Osborne Morgan a Syr William Roberta -yr hwn oedd prif physician ei ddydd. Edward Edwards oedd Gymro a gysegrodd ei oes i symudiad y "Llyfrgelloedd Cyhoeddus," ac a wnaeth y gwaith mwyaf ardderchog yn yr ystyr hwn ym Manceinion. Mae'r Cymry yn enwog ynglyn a Manceinion yn ein dinas y treuliodd Ceiriog flynyddoedd goreu ei oes ym Manceinion yr oedd Ceiriog pan enillodd "Myfanwy," yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858. Goddefer un pennill Myfanwy, 'rwy'n gweled dy rudd, Mewn meillion, mewn briall, a rhos, Yng ngoleu dihalog y dydd, A llygaid serennog y nos Pan gyfyd claer Wener ei phen Yn loew rhwng awyr a lli', Fe'i cerir gan ddaear a nen, If 'enaid, Myfanwy, goleuach, 0 tecach wyt ti, Mil glanach, mil mwynach i mi. Ym Manceinion, yn lonawr, 1863, y ganwyd David Lloyd George, a ofala am un ochr i'r byd, tra, y gofala y Cymro Gwir Anrhyd- eddus, William Morris Hughes, am ochr arall y byd a rhwng y ddau Gymro eiddgar, athrylithgar, bydd y cwbl yn ei le. Bu'r athrylith uchaf ym mhulpud Cymreig Man- ceinion, megis Huw Tegai, Meudwy M6n, Cynfaen a David Rhys Stephens, y canodd Caledfryn ac Islwyn mor ardderchog iddo. Ac erys Cymry ar y blaen, ac o'rgwasanaeth mwyaf ym Manceinion. Yn y byd masnachol ceiry Meistri J. ac F. Roberts, J. D. Williams, Pugh Davies, y brodyr Mason Powell, Lloyd Rees, Morris a Jones, David Jones, ac eraill. Yn y swyddau uchaf dan y Gorfforaeth Ddinesig ceir J. Williams, L. C. Evans ac eraill; ac ym mhulpud yr eglwys ceir y Canon Edwards-Rees, yn llenwi lie uchel, ac y mae Cymry athrylithgar gyda'r enwadau Ymneilltuol. Ac ar ran y rhai hyn, a'r Cymry y n gyffredin ol ym Manceinion, dymunwn oreu Nef a daear i'r Cymro enwog, y Gwir Anrhyd- eddus William Morris Hughes, Prif Weinidog Gweriniaeth Awstralia, ei briod hoff, a'u heiddo mwyn,- Boed bendith fwya'r byd, a bendith fwya'r N, f, Fel dwy angyles deg ynghyd yn rhodio gydag ef.

Advertising