Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YSl AFELL Y BEIRI)D I

Gyda'r Milwyr yn Ffrainc.

News
Cite
Share

Gyda'r Milwyr yn Ffrainc. [GAN Y PARCH. GAPT. JAMES EVANS, B A.] I ,-1. Oaplaniaid yr Eglwys,, Rydd.—Erbyn hyn yr wyf wedi cyrraedd yn ol at y ffosydd, ac wedi cael amser i ail-ymgynefino a'r gwaith. Ni ddis- gwyliais, pan yn ail-gychwyn yn ol, gael fy nanfon d rachefn at yr Ad ran Gymreig, am fod un arall wedi ei osod yn fy lie. Ond wedi oyrraedd y pen-cadlys, cefais ar ddeall fod eisiau un arall yn yr Adran Gymreig, drwy fod y Parch. W. Llewelyn Lloyd wedi dy- ohwelyd oherwydd afiechyd,a'rParch.R.Peris Williams newydd ei ddyrchafu yn olygwr Ymneilltuol yr Ad ran. Felly, gyda'r 15th a'r 16th R.W.F. y gweinidogaethaf yn awr. Gyda'r ad-drefniad hwn ceir yma gynrychiol- aeth o weinidogion y Pedwar Enwad yng Nghymru y Parch. Hugh Jones (B.), Glan- wyddan, a minnau gyda'r 113th Brigade y Parch. Arthur Hughes (M.C.), Caerfyrddin, gyda'r 114 th y Parch. P. Jones-Roberts (W) Bangor, gyda'r 115th, ynghyda'r Parch. R. Peris Williams, Gwrecsam, yn Esgob Ymneilltuol yr Ad ran. Fe welwch fod yr Eglwys Rydd Unedig yma mown oyflawn fodolaeth Ydech chi yna, mam ?-Profiad diddorol a melys ydoedd cael dychwelyd eto a chysgu y noson gyntaf yn swn y rhyfel drachefn. Teimlwn fel y melinydd wedi bod oddicartref am dipyn, yn dychwelyd yn ol ac yn cysgu'n braf yn s vn ei felin yn malu neu ambell low r wedi dychwelyd o'i wyMau yn nhawelwch y wlad, yn huno'n esmwyth yn swn cynefin peiriannau y lofa. Mor gyfarwydd a chynefin ydym a ffrwydriadau y gynnau mawrion, a rac-rac-rac-rac-rac-rac-y machine-gun, achlic- glic y rifles, fel y byddai'n anodd ymollwng i gwag heb eu hwian-gerddi. Os na chlywn eu swn, teimlwn fel y bachgen bach hwnnw yn methu cysgu am na chlywai swn ei fam ar y llawr. Mam meddai o'r diwedd o ben y grisiau, "ydych chwi yna?" Ydwyf, fy machgen i," ebai hithau, "beth sydd yn bod ? Wel, gwnewch dipyn o swn ynte, i mi gael eich clywed chwi. Rwy'n methu cysgu." Felly ninnau yn "awn y rhyfel fe gysgwn yn dawel, er yn gwybod y gall y gelyn, pe dewisai, ymhen chwarter awr, ein hysgubo oddiar wyneb y 4daear. Sut na buasai yn gwneud, moddweh ? Mi ddywedaf i chwi. Y foment y bydd ef yn dechreu, byddwn ninnau'n chwalu yr un cymaint o'r eiddo yntau. Bydd pawb yma yn teimlo bob nos cyn cysgu fel diolch i Mr. Lloyd George am ei ymdreohion gyda'r defnyddiau tan i'n galluogi i ddwyn Fritz i dymer bihafio. Gwyr hefyd mai'r cam nesaf fydd rhoddi notice to quit iddo. IiIII Braw y Belen. -Ond er mor gyfarwydd ydym a swn, bydd ambell sain hynod weithiau yn creu cryn gyffro, ac yn debyg o ddeffro'r cysgadur pennaf. Daeth un ohon- ynt ychydig foreau yn ol. Lluestem yn bur agos i un o'r batteries. Pan gymer Fritz yn ei ben i chwilio am y rhain a'u chwalu, bydd ynburberyglusynycyffiniau. Gollynga belennau ar antur ar bob ty a thwle, yn y gobaith y datguddir safn y gwn. Y bore hwnnw, yn blygeiniol iawn, clywn chwibaniad cynliyddol a chras, a'i neges yn dweyd "Am hynny byddweh phwithaubarod" wrth bawb yn agos i'r fan honno. Ni wn i ddim pa un ai diogi ai ystyfnigrwydd fu na throais allan o'r gwely ar ffrwst. Sut bynnag, cyn i mi gael amser i ymdroi na phlethu dwylo, wele un arall ar ei thaith a'i swn yn dynesu "dawynnes,yngynt,yngynt." Ow! daw yma! Och, dyma hi ar ben ein ty ni Dyma'r diwedd wedi dod Yr hyn a fawr ofnais a ddaeth, A chyda hyn, neidiais i ganol y'llofft, ac ar yr un pryd dis- gynnodd y belen wrth gefn y ty Yn ffodus, pelen farw (dud fel y 'i gelwir) ydoedd hi hefyd, ac ni ffrwydrodd, fel na ddigwyddodd dim gwaeth i neb na'r codi diseremoni o'r gwely a gafodd llawer o'r cymdogion fel fy hunan y bore hwnnw. Ni ddisgynnodd pelen mor agos ag yna i mi o'r blaen, neu dylaswn adna- bod ei swn, Oblegid y mae'n un o'r maxims sefydlog yma cyd ag y elywoch y swn, gell- weh fod yn sicr nad yw'n disgyn ar eich pen. Tra bo anadl y mae gobaith," medd ai'rh en air, ni wn i ddim a yw'n ddihareb chwaith. Eithr tra bo swn y mae gobaith yw'r ffurf ddiwygiedig allan yma. Yng Nghysgod yr Hollalluog. -Wrth i ni sôn am y pelennau tan, fe'm hatgofir i mi fod mewn mwy enbydrwydd mwy ar ddiwrnod arall. A mi yn dychwelyd o'r ffosydd deuth- um ar draws nifer o'r bechgyn wedi eu clwyfo gan shell a ddisgynnodd arnynt wrth eu gwaith. Rhedais gynted medrwn i'w llusgo i ddiogelwch, am fod shell8 eraill yn disgyn hyd y fan. Ac yna, aed ati i rwymo eu briwiau." Yn fuan, roedd nifer o fechgyn y R.A.M.G. yno, ac yn gwneud eu gwaith gyda deheu- rwydd. Yn ffodus, nid oedd yr un wedi ei glwyfo'nddrwg, ond bu raid cludo un ohonynt ar y stretcher. Wrth groesi o gongi y cae lie y buom ynllochesu rhag y cenllusg, ac yn noddi y clwyfedigion, troais i siarad ag an o'r bechgyn. Adwaenwn deulu ei dad yn dda ac os oes rhywunyny nefoedd, y mae ei dadcu yno. Gan y; gwyddwn mai yn yr ysbyty yn nes yn ol yr arferai fod, gofynnais i pam y daeth 1 fyny ffordd honno a'i atebiad ydoedd ei fod am fod yn llinell y tan, ei bod yn rhy dawel yn ol yno. A'r gair yn disgyn dros ei wefus, yroedd eintraed ar ganol yffordd eto a chyda hynny, dyna gawod o shrapnel yn ffrwydro uwch einpennau. Yroedd y foment yn rhy ddifrifol i gellwair neu buaswn wedi ateb Dyma ddigon o excitement iti 'nawr Rhedasom am ein bywyd. Cyn i ni fyned bymtheg Hath wele gawod arall. Ow, foment sobr Gwaeddai'r truan ar y stretcher amom i'w adael ef a dianc am ein bywyd, ond nid oedd berygl i ni wneud hynny. Yn ffodus, cawsom gilfach a chysgod ac erbyn edrych ar ein gilydd,gwelsom na chyffyrddwyd a'r un ohonom, yr hyn oedd yn wyrthiol bron. Eithr yr oedd trwch Ei aden Ef rhyngom a'r perygl y dwthwn hwnnw ac Nid i ni, 0 Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw Dy Hun dod y gogoniant." Os Clwyfo, Clwyfo digon i gael mynd adref.— Gynted ag y daw'r cil wyfedig yn abl i athronyddu ei glwyfau, yr ymholiad cyntaf a gwyd yn ei galon yw, A gaiff fyned trosodd i Loegr ? Os elwyfir ef yn ysgafn, cymer ei adferiad le yn yr ysbyty yr ochr yma. Os bydd yr adferiad yn debyg o fod yn hir, gyrrir ef trosodd i Loegr, a gWyr y daw cyfle l ym- Y fomenty gwawria y gobaith hwn arno, ymsiriolp, ei wyneb felheulwenhaf, ac ni chofia ei glwyfau mwy ond i ymffrostio ynddynt. Pan gyr- aeddasom yn ol at y Iteill, ac i'w gyfeillion weld ar wyneb y brawd ar y stretcher" nad oedd y clefyd hwn i farwolaeth," fel hyn y'i cyfarchwyd gan un o'r mwyaf tafodrydd o'i chums: Helloa, Boosey. have yet got a Blighty ? Good luck, old chap A ffwrdd ag ef yn yr Ambulance Car, nid fel dioddefydd ond felprif arwry dydd, ynghanolbanllefau ei gyfeillion. Niwniddim a ydych chwi yng Nghymru yn deall psychology y pethau hyn. Beth bynnag, bu'r olygfa a'i hiwmor iach yn help i minnau anghofio'r gawod shrapnel dinistriol a phopeth annymunol arall am y tro.

In ainedi ym Manoeinion.

Advertising