Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Trem IV.-Gipdrem Gyffredinol.

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

!Basgedaid o'r Wlad. I

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. I O'R HEN SIR, SEF SIR FON.—Yn arwerth- iant fawr y Groes Goch ym Methel, Bodorgan, am- ryfal oedd y pethau a werthid Jac Nico, a hwrdd, wy, a thatws, a chocos; a chaed elw llawn o £115. Ailwerthwyd wy dros hanner cant o weithiau ac yn y diwedd aeth mor uchel nes cafwyd dros dair punt a phymtheg swllt amdano. Gwilym Einion ffraeth ei barabl oedd yr arwerthwr, ac mor ddoniol yn gweiddi am y rhaw i rawio'r aur. Cawsom olwg ar ad- roddiad eglwys fawr Hen Dabernacl (A.), Caergybi- esgobaeth yr aur-enau, y Parch. R. P. Williams. Hardd ac eang ac urddasol ei olwg ydyw'r addoldy newydd ac efe ydyw Teml Jerusalem Independia y Sir. Edrychir i fyny ar y Tabernacl a'i weinidog gan yr holl wlad. Da mynegi fod y ddyled fawr-ymhell dros dair mil a hanner o bunnoedd-yn cael ei thoddi yn brysur, fel y tawdd haul y gwanwyn eira'r gaeaf, gan wres cariad ac ymroad yr aelodau a charedigion. Dros un cant ar bymtheg o bunnoedd wedi eu talu, mewn amser byr. Buan y delo dydd ei Jiwbil. Chwith meddwl fod y gweinidog uchelbarch yn ym- ddeol. Gwrthun meddwl gynifer o gwn cyfarthog a gedwir gan wahanol deuluoedd crach-fonheddig mewn llawer man yny Sir ar adeg mor gyfyng a chaled ar y wlad. Plant bach yn dioddef, heb ddigon, a'r epil fonheddig hyn yn gwastraffu cymaint ar eu heilunod-y cwn diffaith. Llawer gwaith y gwelsom hanner dwsin a mwy yn yrnlyfu o gwmpas ambell i ladi benwan. Chwip fechan yn ei Haw, ac yn mwyn- hau ei nefoedd yn swn miwsig cyfarthiadau ei chwn sanctaid.d. Nis gellir bod yn ddigon bonheddig a phendefigaidd y dyddiau hyn, ie'r dyddiau y cochir Cyfandir Iwrop a gwaed ein milwyr, heb gwmni dau neu dri o gwn I Wfft iddynt, ebwn ni.- Dyma'r anrhydedd a ddaeth i ran y Lifftenant Tom LI Williams, mab hynaf y Parch. R. P. Williams, Taber- nacl, Caergybi,: cael ymddangos o flaen y Brenin Sior y Puined, a'r Frenhines, a'i Fam, a'i Ferch, a'r Grand Duke Michael o Rwsia; a chael ysgwyd Haw a hwy yn gynnes, mewn cyngerdd yn yr Albert Hall. Dyma rywbeth gwerth cofio amdano, a phwy a'i teilyngai'n fwy na'r Lifftenant Williams hynaws a dewr a gafodd ei glwyfo mor enbyd yn y rhyfel ? Efe ryw bythefnos yn ol yn Llundain, wedi myned trwy weithred lawfeddygol am y nawfed tro Faint ddioddefodd, ni wyr neb, ond Un. Disgwylir ef adref ymhen rhyw bythefnos. A'i frawd ieuengaf, Mr. Percy Williams, yn Kinmel Pare. Drwg gan lawer oedd deall hefyd am waeledd tost Mrs. Williams, ond mae yn gwella'n dda.—Llygad Agored. GOGINAN, ABER YSTWTTH.—Mai 26, cynhal- dd Undeb Cerddorol M.C. Gogledd Ceredigion eu cymanfa gerddorol yn y Dyffryn, Goginan, Gwnaeth Mr. J. P. Thomas, Aberffrwd, a'r Parch. D. Morgan, Penllwyn, lywyddion rhagorol. Yr arweinydd oedd y cerddor ieuanc talentog, y Proff. T. J. Morgan, F.T.S.C., R.A.M. (Pencerdd Cynon), Cwmbach, Aber- dar. Cyfeiliwyd gan Misses Lizzie A. Price, Lizzie Williams ac Emily A. Lewis, y Dyffryn. Gwelliant mawr oedd cael perdoneg at yr organ. Yr oeddynt yn gryn gymorth i'r canu. Diolch i'r Proff. Morgan am awgrymu hynny, sef cael y ddau offeryn. Cafwyd canu gwresog ar y tonau Am yr rsgQl Rad Sabothol, Iesu Byw, Gosteg For, r mae'r Iesu'n galw, Gwinllan, Tonman (Dr. David Evans), H eatherdale (Dr. Caradog Roberts), Penllwyn (Proff. T. J. Morgan), Covenant, Pwllheli, Penybryn, Deganwy, Dezoi Sant. Rhoddodd yr arweinydd ganmoliaeth uchel i'r tonau Heatherdale a Tonman, ac anogodd bwyllgorau cymanfaoedd i gefnogi tonau o safon a pheidio a dewis tonau gwael ac annheilwng. Rhagorol oedd y datganiad o'r Salm-don, ac effeithiol dros ben oedd yr anthem, Wylwn (Dr. Joseph Parry). Dechreuwyd y cyfarfod- ydd -gan Mr. D. J. Morgan, A.C., Penygarn, a Mr. Prys, Aberystwyth. Caed anerchiadau diddorol gan Mr. William Evans, Ponterwyd y Parch. D. Lewis, Dewi; Mri. John Morris, Penllwyn; a Mr. Morgan, Cefn, Bangor; a'r ddau lywydd. Pasiodd rhai arholiadau cerddorol o dan anholiad Mr. John Morris, Pcnllwyn, a darllenodd Mr. Morris enwau'r ymgeisw-yr llwyddiannus yng nghyfarfod yr hwyr. Yr oedd y cariu'n uchraddol, a theimlem fod naws ysbrydol ar y cyfarfodydd. Cododd y llanw'n uchel yn yr hwyr. Yr emynau yn cael eu canu gydag arddeliad. Y mae y Proff. Morgan wedi bod yn arwain yn y cylch- oedd yma o'r blaen ond dyma'r tro cyntaf i ni ei glywed, a gallwn ei longyfarch yn galonnog ar ei allu fel arweinydd. Y mae yn un o'n cerddorion ieuainc galluocaf, a disgwyliwn lawer oddiwrtho yn y dyfodol. Hefyd, y mae gan Mr. Morgan lais tenor rhagorol, yr hyn sydd yn fanteisiol iddo fel arweinydd cymanfa- oedd. Yr oedd yr adeilad eang wedi ei orlenwi, a phawb wrth eu bodd. Y dystiolaeth gyffredinol ydoedd fod hon yn un o'r cymanfaoedd goreu a gaf- wyd" erioed yn y dosbarth. 0 DREF PATROBAS.—Rhyw fis yn ol cof- nodem hanes colli Corp. Evie Morgan Owen, GIan aber, Morfa Nefin, rywlc yn Ffrainc. Nos Saboth ddiweddaf caed pregeth goffa am dano, gan y Parch, E. T. Evans, gweinidog yr eglwys y dygwyd ef i fyny ynddi. Dyfynodd y tystiolaethau canlynol oddiwrth un fu yn ei wasanaeth ym Mangor ynghyda swyddog- ion a chaplan y fyddin. Rhag difwyno dim arnynt dodwn hwy i lawr yn yr iaith yr ysgrifennwyd hwy. My opinion of him was, a thorough conscientious lad, kind, thoughtful, amiable, willing and smart-a great favourite with us all "-Mr. W. O. Williams, Manchester House, Bangor. I am in this shop over 24 years and I must say, he was the nicest and most amiable lad that has been with me "—Mr. Wm. Davies, Manager Yn ystod ei arhosiad yn yr ardal hon, bu yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn ein plith; yr oedd yn gymeriad hawddgar a dymunol. Dangosodd fod Ilawer o ysbryd Calfarta ynddo trwy roddi ei hun yn aberth dros ei wlad ai genedl "-J. Evans, gweinidog Beulah. "'To you now remains the glorious reflection that your son lived the life of a true hero, who feared no one except his God, but respected all, and was respected by all. He died as he lived."—Sgt. R. B. Hughes. Corporal Owen was always most willing, capable and trustworthy. I was proud to have him as my clerc"- Q. M. S. John A. Griffith. His was a lovable nature, and his was a clean, noble character. I was very fond of him and amongst many such sad events, this is the one I think, which has caused me most sorrow"—Major R. H. Mills, "Gellwch fod yn dawel eich meddwl yn ei gylch. oblegid yr oedd yn fachgen neilltuol o bur ei gymeriad a chrefyddol ei ysbryd "-Parch. H. Jones, Caplan. Pwy nad ed- myga y fath gymeriad ag eiddo Evie Morgan ? Yn ystod y moddion chwareuwyd Dyddiau dyn sydd fel glaszvelltyn a Dead March gan Mr. Arthur Roberts, Nefyn. Nid buan yr anghofir odfa nos Sul cyntaf o Mehefin, 1916, gan rai fu yn y Tabernacl. Wele bennillion er cof gan Sgt. R. B. Hughes Roedd ef yn gyfaill tirion, mwyn, Pan gartref flwyddi'n ol, Ei eiriau'n lAn a'i ddull yn deg Fel blodeu ar y ddol; Fe ganodd Udgorn Gwlad yn glir Ar bawb i nerthu'r gwan, Atebodd yntau'r alwad gref Ar frys i wneud ei ran. Mewn arall wlad yn wyneb tan Yr un 0 hyd oedd ef; Ar ffordd dyletswydd cerddai'n hyf A'i gam at Dduw y Nef. Yn swn magnelau clywai lais Yn canu fel bu gynt; Ei lais o draw fel adlais dry Yn gysur, ar fy hynt. I'r wlad sydd well ehedeg wnaeth Ar alwad Udgorn Duw Rhy dyner oedd i fyd o drais- Bu farw fel bu fyw. Yn arwr ffydd, yn wron Crist, Yn iach, a'i wisg yn wen, Mae heddyw 'nghwmni Duw a'r Oen; Mewn gwlad tudraw i'r lien. 0 t sych y dagrau lIaith, fy Nuw, Ar wyneb rhiaint trist; Arweinia'u ffordd i gysur llawn Yn hedd y Groes a Christ. Cyfeiria'u camre tua'r wlad Na fydd un rhyfel byth 0 dan Dy aden, Dduw y Naf, Rho le i wneud fy nyth. Ai nid mab Gwyneth Vaughan yw Sgt. R. B. Hughes ? —J. Davies. CYMRY CAER.-Cynhelid cvfarfod blynyddol Cymdeithas Cymry Caer nos Wener, tanllywydd- iaeth Mr. W. L. Llewelyn. Cymeradwyyd yr adrodd- iad ariannol, a dangosai adroddiad arbennig y trysor- ydd parth eu hapel ar ran yr Ysbytai Cenediaethol fod y Gymdeithas wedi medru cyflwyno'r swm campus o £ 353 !3S. lId. i'ramcangrasusolhwnnwdrwydanys- grifiadau a gaed gan yr aelodau ac eraill, ynghyda thrwy gyfrwng Dydd y Lluman a'r Cyngerdd. Diolchwyd yn wresog i bawb am wneud eu rhan mor odidog gyda hyn. Etholwyd Mr. Clenyg Jones, Sherington Avenue, Hoole, yn llywydd gogyfer a'r flwyddyn nesaf, a'r Mr. W. J. Williams (cyn-lywydd), W. L. Llewelyn, Rd. Mills, y Cynghorydd J. Owens, Y.H., a G. R. Roberts, yn is-lywyddion a phwyllgor gweithiol. Gan fod Mr. Rd. Mills yn mynnu ym- neilltuo o'i swydd fel trysorydd, diolchwyd iddo am ei waith dyfal a hir yn y swydd honno, a dewiswyd Mr. Evan Richards yn ei le. Etholwyd Mr. F. L. Williams, 7 Hamilton Street, Hoole, yn ysgrifennydd, a therfynwyd gyda diolch yn wresog iawn i'r swyddog- ion am eu hymroddiad dyfal ar ran y Gymdeithas y llynedd.

Advertising

Tram III-Cryfder eini Llynges.