Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Tram l-Brwydr Nor yI Gogledd.

Trem ll-Beth a ddigwyddodd.

Tram III-Cryfder eini Llynges.

News
Cite
Share

Tram III-Cryfder ein Llynges. Ond nid yw'r cwmwl du heb ei ymyl arian. Os cywir yr adroddiadau heddyw, mae'r gelyn yn waeth allan wedi brwydr fawr Mor y Gogledd nag ydoedd o'r blaen. Gall Prydain ddaly collodion agafodd yn llawer iawn gwell j na'r Almaen. Mae'n eglur ddarfod i'r gelyn- ac yn gall iawn o'i du ef—ddianc i'w noddfa pan welodd nifer o longau cryfaf ein I lynges yn neshau. A chofier fod cilio'n ol yn cyn- nwys methiant yn ei amcan eithaf. Nod ei ymgais, yn ddiamheuolj oedd torri trwy y ilynges Brydeinig, a tharo glannau Llofegr. Ni 1 wyddodd yn ei ymgais, ac ni chyhoeddwyd eto ddarfod i gynifer ag un o longau rhyfel mawr dorri trwodd i'r cefnfor nac unman arall. Addefir gan bawb, ond y gelyn fod gafael y Llynges Brydeinig ar y moroedd yn parhau yn ei rym, a bod ei gallu'n gyffredinol heb ei amharu. Buwyd yn bygwth arnom rhyvi "wn mamr" y bu'r gelyn yn ei baratoi ers tro bellach, a chredem hefyd fod gancldo'r fath offer dinistr ar ein cyfer. Ond cyn belled ag y caed datguddiad o'i gyfrin- achau yn y frwydr ddiweddaf, ni welwyd prawf fod ganddo'r fath ddwrn newydd i'n taro. Waeth faint a genir ar glychau ym I Merlin, ni a~ hynny newid dim ar ffeithiau. Gall beri ysbrydiaeth i galon y bobl, ond nid gwanhau nerth y Llynges Brydeinig. Didd)rol ynglýn a'r frwydr hon yw'r farn gyffredinol a goleddir gyda golwg ar bolisi llynghesol Scott a Fisher. Mynnai'r cyntaf mai ar submarines y dylasai Lloegr osod ei bryd pennaf, ond yr olaf a bwysai ar longau mawr. Erbyn heddyw, ymddengys fod y farn wedi troi'n bur bendant o blaid y Dreadnoughts. Dyma'r tyrau symudol sy'n diogelu ffyrdd y moroedd, yn y pen draw, er fod y llongau llai, a'r submarines, yn dra phwysig. Yn wir, mae'n eglur ddarfod i'r submarines fod ar waith effeithiol o bobtu'n y frwydr fawr. Ni allwn lai na chofio cyn lleied o ddefnydd a wnaethai'r gelyn o'rllestrihyn. yn gystal ag o'r Zepps, ers tro bellach a gwnai hynny inni gredu ei fod yn paratoi ar gyfer rhyw gydweithrediad pwysig yn rhywIe, Cyhoeddwyd ers misoedd yn ol fod nifer o longau rhyfel yr Almaen yn mynd trwy ym- arferiad helaeth, ac mewn eydweithrediad a Zepps. Bellach dyma'r gyfrinach allan,. Hyd y gwelwn, ni wnaeth y Zepps lawer o ddifrod yn y rhuthr, ond cawsant fantais arbennig i ganfod syinudia<Jaun,llongau ni. hyd ymhell, ac i hysbysu IJynges y gelyn o hynny. Mae'n syn na fuasai gan Loegr bellach, rhywbeth tebyg at wasanaeth y Llynges. Trwy y fantais hon, ymddengys yn bur sicr ddarfod i Lynges yr Almaen lwyddo i ddianc yn union mewn pryd cyn i Jellicoe ei dal a'i dinistrio. Wei .mae'n hawdd i unrhyw un ofyn cwestiynau, a hynny hefyd a, mwy o ofid a siom nag o ysbryd beirniadol ac ym- hongar. Teimlwn siom yn arbennig ddarfod i'r llong fawr Queen Mary gael ei suddo. Dywedir ddarfod i'r gelyn grynhoi ei nerth ami hi ar unwaith, ac mai hi a suddwyd gyntaf oil. Dengys hyn graffter a medr y gelyn. Hawdd hefyd yw gofyn paham y gadawyd yr adran agosaf i bwynt y perygl mwyaf heb gyflawnder o'r llongau cryfaf. Ond y peth doethaf yw aros nes y ceir yr adroddiad swyddogol a chyfiawn oddiwrth Jellicoe ei hun. Rhaid inni barhau i gadw mewn cof fod safle'r Llynges Brydeinig yn wahanol i eiddo'r Almaen. Rhaid i'n heiddo ni wylio pob pwynt ond gall eiddo'r gelyn grynhoi ei nerth, a dewis ei gyfle, i daro ar un pwynt a hawdd meddwl amdano'n llwyddo i ddod allan yn sydyn, cyn bod dim ond adran o'n Llynges yn ei gyrraedd. Ac ymddengys i ni mai felly y bu'r tro hwn. Cafodd cryfder y gelyn adran o'n Llynges ni, llawer gwannach nag ef, i'w wynebu ond adran na fynnai encilio er hynny. Diau y ceir y. Diauy ce i r gweld ddarfod i Beatty cliwanegu gorchest ddisglair arall o wroldeb at ei rai blaenorol. Mynnai gadw mewn gafael a Llynges yr AJmaen hyd nes y cyrhaeddai Jellicoe ag atgyfnerthion, ac nid arno ef yr oedd y bai—os oedd bai ar rhywun-na ddeuthai'r cymorth mewn pryd, fel y gellsid cau am longau'r gelyn. Ni chredasom o'r dechreu yn null Churchill ac ereillo ddiy tyrru galiu, medr, a gwroldeb yr Almaen ar for mwy nag ar dir. Siarad ffwlbri fu'r son am eu Llynges fel petasai hi'n ddim ond cynifer o gychod pysgota. Na 1 mae'r Almaenwr yn alluog,

Advertising