Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Tram l-Brwydr Nor yI Gogledd.

Trem ll-Beth a ddigwyddodd.

News
Cite
Share

Trem ll-Beth a ddigwydd- odd. Beth, gan hynny, hyd y gellir gweled, a ddigwyddodd ym M6r y Gogledd ? Cyfarfu adran gref-os adran hefyd-o lynges Ger- mani adran gref o'n llynges ninnau. Taran- asant ar ei gilydd a grym mawr. Yn ol yr adroddiadau cyntaf, ymddangosai fod llynges Lloegr wedi cael y gwaethaf o lawer, ac felly y cyhoeddwyd, mewn gorfoledd mawr, ym Merlin. Bu clych buddugoliaeth yn canu, a mawr y llawenydd yn yr holl wlad honno. Dywedid gan yr awdurdodau a'r newydd- iaduron ddarfod i lynges ieuanc Germani brofi'n ormod o fedr a grym i bigion y llynges gryfaf yn yr holl fyd, a'i tharo'n syfrdan, ar dde ac ar aswy. Cyhoeddid ddarfod i o leiaf dair o'n Dreadnoughts mwyaf a diweddaraf ni gael eu suddo, ac na suddwyd yr un long gyf- atebol iddynt hwy o longau Germani. Ond fe gyhoeddodd Morlys Lloegr wedi hynny na suddwyd ond un-y Queen Mary-o'n Ilongau rhyfel pwysicaf ni. A phan yr ydym yn sgrifennu, dymadrydydd adroddiad y Morlys i law, ac yn fwy calonogol na'r ddau blaen- orol. Ceidw nifer ein colledion ni yr un, ond gwneir allan fod eiddo'r gelyn yn fwy nag y tybid ar y cyntaf. Collasom ni 14 o longau rhyfel—3 battle cruisers, 3 cruisers. ac 8 des- troyers. Nid yw'r Morlys yn cyfrif y f awrlong 10 Warspite yn ein colledion, er ddarfod i'r Ahnaen wneuthur hynny. Erbyn hyn, cy- hoedda'r Morlys fod y rheswm cryfaf dros gredu fod colledion yr AImaenwyr yn fwy na'r eiddom ni, nid yn unig ar gyfartaledd i nerth cymharol y llynghesau cyflawn, eithr hefyd long am long yn y frwydr fawr hon, canys collodd y gelyn 18 o longau—2 battleships, 2 Dreadnought battle cruisers, 2 light cruisers, o leiaf 9 destroyers, ac un submarine, etc. Yn awr, nid oes unrhyw oleu y gellir ei daflu ar y mater a gyfiawnha, ysgafnder calon yn wyneb y ffeithiau diamheuol sy'n y sefyllfa. Heblaw y miliynau o arian y wlad afwriwyd i waelod mor, mae gennym i gofio y nifer lluosog-tua 4,000 fel yr yinddengyp--o fywydau a goll- wyd. Onibai ein cynefindra a thrychinebau diweddar, buasai'r fath ddigwydd a hyn yn taro braw i galon yr holl fyd gwareiddiedig. Ein cyd-ddynion dewr Bychan feddyliai mwyafrif poblogaeth y wlad hon beth oedd yn mynd ymlaen rhwng prynhawn y dydd olaf o Fai a bore'r cyntaf o Fehefin Pan ym- nythem ni yn ein cartrefi cysurus, ac y mwyn- haem ein cwsg arferol, ceid y dynion hyn allan ar y m6r, mewn ymdrech ddi-orffwys, yng nghanol peli'r gelyn, a llawer ohonynt naill ai yn cwympo'n archolledig ar fwrdd eu llong, neu yn suddo i'w chanlyn i waelod y mor— wrth amddlfiyn eu gwlad a'u cartrefi Ac eto, mae rhywrai a gyfrifant nad oedd yr holl aberth a wnaeth y dynion hyn erddynt yn werth pleidlais o ddiolch, ac y buaeai'n anfri ar eu duwioldeb iddynt eu rhoi

Tram III-Cryfder eini Llynges.

Advertising