Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

..... GOSTEG.]

DYDDIADUR. 1

fyhoeddwyr y CymodI 1.Y Saboth…

Advertising

Y Gymanfa Gyff redinol

Cyfarfod Taleithiol y T refnyddionWesleoidd

News
Cite
Share

Cyfarfod Taleithiol y T refnyddionWesleoidd Talaith Gyntaf Gogledd Cymru, I L Llanfyllip, Mai 14-19, 1916. CYNHALIWYD y cyfarfod neilltuol hwn eleni eto o dan amgylchimau prudd a galarus, a theimlid wrth ddechreu'r gweithrediadau ddydd Mawrth fod yr eglwys wyneb yn wy neb ag anawsterau neilltuol fawn. Er na chafwyd trafodaeth ar wahanol agweddau'r argyfwng yn ei berthynas a'r Eglwys eto hawdd gweld fod meddwl pawb yng nghrog wrtho, a'r awydd yn ddwfn iawn i wneud ac i ddweyd yr hyn a fyddai o fantais i Eglwys Crist yn y wlad a'r byd. Ar y cyfan, yr oedd ton y cyfarfod yn obeithiol, a gwelsom ar wyneb ambell un naturiol bruddglwyfus fwy o wen a sirioldeb nag arfer. Yn wir, bu goleuni a gwres yr haul, a rhamant y dyNrynnoedd a'r bryniau o'n hamgylch, yn gynhorthwy nid bychan i leddfu'r loes oedd ar galon llawer 1111. Gwel- som arwyddion buddugoliaeth yn y tlysni a'r arddunedd. daeth gwanwyn i dorri ar gwsg y gaeaf, a lie bu gynt lwydrew a chysgodion oer heddyw fe geir gwlith a thwf a goleuni. Onid yw hyn yn ernes o adgyfodiad mwy ? Yn ddistaw a chyson fel pwerau natvir fe wna egwyddorion moesol eu gwaith ym my wyd y byd, a thrwy eu grym anorchfygo I daw'r ddynoliaeth eto ar newydd wed.d. Goddi- weddant lawenydd a hyfrydweh." A daw'r eglwys sy'n noddi yr egwyddorion hyn rhyw ddydd drwy'r byd yn ben. Clywsom fod eneiniad gwir ar bregethu'r Efengyl ac ar addoliad y bobl drwy eglwysi Cylchdaith Llanfyllin yn ystod. y Saboth a nos Lun. Ymneilltuad y Parch. R. Lloyd Jones.— Pry nh awn dydd Mawrth y datganodd Cad?ir- ydd y Dalaith eibenderfyniad iymddiswyddo o fod yn Gadeirydd, ac iymneilltuo o'rgwaith rheolaidd. Mewn iaith ddwys ac effeithiol, rhoddodd v Cyn-Gad eirydcl. drem ar ei hanes. Yn Llanfyllin y pregethodd ei bregeth brawf,. ac yno 44 o flynyddau yn ol yr arholwyd ef, a thri o wvr amlwg eraill, y Parchn. W. Powell, O. Lloyd Davies, a J. Hugh Evans, felymgeis- wyr am y weinidogaeth. Dangogodd Mr. Jones ar ddechreu ei yrfa fod ynd.do alluoedd uchra'dol, a phi'awf o hynny yw i un o gyni-ychiolwyr y Gynhad.ledd (Dr. Osborn), a'i clvwodd yn at.eb yn y cyfarfod yn Llanfyllin, anfon i ddweyd nad oedd angen iddo fynd drwy arholiad gerbrcn y July Committee. Bu gyrfa Mr. Jones yn llwyddiannus o'r dechreu i'r diwedd. Cvfeiriwyd at ei waith a'i lafur mewn mod.d neilltuol o aeimiao.wy gan amryw o frodyr amlwg yn y weinidogaeth heddyw. Cyfrannodd yn helaeth at lenyddiaeth ei en wad., fel y dengys ei esboniad. a'i lyfr ar Neilltuolion Athrawiaethol. Etholwyd ef yn ysgrifennydd Tiysorfa'r Capelau a phan ddaeth ei enw gerbron y Gynhadledd i fynd i'r Cant Cyfreithiol, gwelwyd ei fod yn ffafr- ddyn gan bawb, a dangosodd y GynhadJedd ei theimlad cynnes tuag ato mewn pleidlais ard.(I,erchog. Bu'n gadeilydd teg a llawn o gvdymdeimlad a'r gwan. Fel pregethwr, bu'n ymroddol dros ben. Pregetha'n efengyl- aidd ao y mae rhyw swyn ac eneiniad dwy8 a dwfn, ac at hynny urddas, yn ei weinidogaeth. Bu'n fyw i gvnnydd a datblygiad. meddvliol ynglyn a Diwinyddiaeth. Fel Dyffryn Clwyd, yr oedd yn llawn o gyfoeth a pho fwyaf yr edrychir arno, mwyaf yny byd ddaw i'r golwg. Ymneilltuodd ynghanol dymun- iadau puraf ac uchaf pawb o'i frodyr yn y weinidogaeth. Y Cadeirydd Newydd-y Parch. John Felix. Mewn cyfarfod arall, dewiswyd y gwr parchus ac ymroddol a ennwyd yn Gadeirydd y Dalaith a hynny drwy fwyafrif mawr. Ar awgrym Cadfan, rhoddwyd iddo drwy godiad llaw bleidlais unfryd y cyfarfod. Gwyr Wesleaid Cymru am wasanaeth Mr. Felix i'w enwad, yn enwedig fel ysgrifennydd yDalaith Gyntaf. Efe yw Llywydd Etholedig y Gy- manfa Gymreig, a than ei arweiniad sicr a diogel ef credwn y bydd graen a llewyrch ar waith yr Eglwys a'r weinidogaeth yn y Dalaith. Mae'n wrcyfarwydtl âphethau mwvaf yn ogvstal a phethau lleiaf y gwaith, a haedda ein hymddiriedaeth ni oil. Ein gweddi yw ar iddo gael iechyd a north a'r ddoethineb ddwyfol i wneud gwaith fel, Cad- eirvdd fydd yn deilwng o'r gwaith mawr a wnaeth fel ysgrifennydd y Dalaith. I Gofid i'r cyfarfod oedd gorfod caniatau i'r Parch. T. Nicholls Roberts ymneilltuo o'r gwaith rheolaidd. Mae Mr. Roberts yn wael ei iechyd ers amser maith, ac y mae dan orfod oherwydd gorchymyn y meddyg i fynd yn Uwchrif. Gwr da, a wasanaethoddyr eglwys a'i enwad yn bybyr ac effeithiol, ac un a wnaeth waith mawrgyda'r Ysgol Sul. Bydd yn dda gan gannoedd gael clywed eto ei brofiad melys yn y Seiat Fawr. Llawenydd digymysg oedd clywed fod 105 o gynnydd yn aelodau eglwysig y Dalaith, a £ 105 o gynnydd yng nghasgliad y Genhad- aeth Dramor. Ar bwys hyn, cafwyd hwyl ar son am waith Duw yn ein mysg. Cwyn am- ryw oedd fod y cyfarfodydd wythnosol yn deneu a dilewyrch, ac fod llawer o bethau yn milwrio yn erbyn crefydd ysbrydol. Y mae angen am bregethu gwirioneddau canolog yr Efengyl, a gofalu fod y genadwri i gyfeiriad achub. Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn yn unfryd "Pod y cyfarfod hwn, tra yn prisio yn fawr wasanaeth y bechgyn sydd ar dir argy- hoeddiad wedi aberthu ac ymuno a'r fyddin, ar y Haw arall heb basio barn ar opinynau'r gwrthwynebwyr cydwybodol i ymuno a'r fyddin, yn dymuno sefyll yn gadarn tros hawliau cydwybod a datgan ei anghymerad- wyaeth o'r modd annheilwng yr ymddygir at rai gwrthwynebwyr cydwybodol gan yr awdurdodau milwrol, ac yn taer erfyn ar i'r Llywodiaeth gymeryd rhyw gamre buan ac effeithiol i ddileu y camwri hwn." Hanes y cyfarfodydd cyhoeddus a'r Seiat yr wythnos nesaf.—Ooheb.

Advertising

AR GIP.

Advertising