Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

..... GOSTEG.]

DYDDIADUR. 1

fyhoeddwyr y CymodI 1.Y Saboth…

Advertising

Y Gymanfa Gyff redinol

News
Cite
Share

Y Gymanfa Gyff redinol Dydd Mawrth. I CYNHEHD Cymanfa Gyffredinol y M.C. yng Ngholwyn Bay yr wythnos ddiweddaf. Lluddiwyd y llywydd, y Parch. O. Owens, i fod yno gan afiechyd.—Etholwyd. y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, ynllywydd at y flwyddyn nesaf, a'r Parch. Wm. IJenry, Waterloo, yn ysgrifennydd. Ail ddewiswyd Mr. J. H. Davies, M.A., Cwrtmawr, yndrysor- ydd, a derbyniwyd gwahoddiad Treorci i dderbyn Cymanfa'r flwyddyn nesaf.Croes- awyd y Gymanfagan aelodau y Cyngor Trefol, acaelodau Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Caf- wyd cyfarfod hamier jiwbili y Mudiad Ym- osodol, dan lywyddiaeth Mr. J. Owen, Caer, ac anerchiadau gan y Parchn. Lewis Ellis, J. M. Jones (Caerdydd), J. Thomas, y Prif- athro Prys, T. Bowen a'r Henadur S. N. Jones JJyma saile r ymgeiswyr yn yr Arholiad Cyfundebol.Safod,d29. Pasiodd 26. Meth- odd 3. 1, Marie J. Ellis, eglwys Saesneg Llandudno, Dyffryn Conwy (Medal Aur), 179 2, Wm. Jones, Twrgwyn, De Aberteifi (Medal Arian), 174; 3, D. Williams Jones, Libanus, Dowlais, Dwyrain Morgannwg (Medal Brons), 173; 4, Thomas Griffiths, Catharine Street, Lerpwl, Henaduriaeth Lancashire, 168; 5, Lewis Andrews, Princes Road, C.M. Lerpwl, 158; 6, E. R. Jones, Penmachno, Dyfiryn Conwy, 152 7, Lewis Evans, Blaen Caron, De Aberteifi, 150 8, Rd. Evans, Gosen, Treorci, Dwyrain Morgannwg, 147; 9, John Hughes Owen, Seion, Gwreesam, Dwyrain Dinbych 147; 10, E. P. Lloyd, Maen- gwynedd, Trefaldwyn Isaf, 145; 11, David Jones, Blaen Caron, De Aberteifi, 144; 11, J. W. Kyffin, Rehoboth, Llangollen, Dwyrain Dinbych, 144; 13, Jane Jones, Blaen Nantmor, Arfon, 143; 14, Thomas John Jones, Bethesda, Bl. Ffestiniog, Gor. Meirionydd, 141 15, Robert Evans, Taly- bont, Dwyrain Meirionydd, 137; 15, Ellen Jones, Glyn Ceiriog, Dwyrain Dinbych, 137 17, Thomas Hughes, Hermon, Tonypandy, Gor. Morgannwg, 135; 18, Kate Noel Gruffydd, Cwmyglo Arfon, 131 19, Thos. Arthur Williams, Southsea, Lane. Pres- bytery, 126; 20, John Gamlin, St. David's, Pontypridd, Henaduriaeth Morgannwg (E.), 123; 20, M. Madoc Jones, Anfield Road. Lerpwl, 123; 22, Wm. John Pearson, St. David's Pontypridd, 122; 23, Thomas Will- iams, Gorffwysfa, Sciwen, Gor. Morgannwg, 120; 24, D. J. Edwards, Jerusalem, Ynvs- bwl, Dwyrain Morgannwg, 115;. 25, D. Evans, Blaen Caron, De Aberteifi, 111 Thomas Stephens, Gorftwysfa, Sciwen, Gor. Morgannwg, 105. Dydd Mercher. -1 Gweinyddwyd ordinhad Swper yr Arglwydd naw ar I gloch y bore, y Parchn. W. R. Jones (Llanfrothen), M. H. Ellis (Trealaw) a R. E. Morris, M.A., (Gwree- sam) yn cymryd rhan. Yn ail eisteddiad y Gymanfa, derbyniwyd dir- prwyon oddiwrth Eglwysi Presbyteraidd Lloegr, y Werddon, a'r Alban, y Cyngor Presbyteraidd, ac Eglwys Bresbyteraidd India. Cyflwynwyd adroddiad y Genhadaeth Dramor gan y Parch. R. J. Williams, Lerpwl, a bu trafod arno gan Mr. J. Owens, Caer Mr. Win. Venmore, Lerpwl; y Prifathro Prys; y Parch. J. Williams, Bryn- siencyn; a'r Parch. T. E. Roberts, M.A., Aber- ystwyth. Yr hyn a esgorodd ar y drafodaeth oedd y cynhygiad a ganlyn a geid yn yr Adroddiad :—Yr oedd y cyfeisteddfod yn dymuno cael caniatad y Gymanfa i gwtogi maint yr Adroddiad Blynyddol, ac ymysg cyfnewidiadau eraill, na byddo copiau o'r adroddiad a anfonid i'r gwahanol Gyfarfodydd Misol yn cynnwys rhestr llawn o'r cyfraniadau, ond fod pob C.M. yn cael rhestr gyflawn o'r cyfraniadau yn y C.M. hwnnw. Cafwyd trafodaeth led faith ar sefyUfa ariannol y Genhadaeth. Awgrymai'r cyfeisteddfod eu bod yn gofyn caniatad y Gymanfa i gael gan y gwahanol Gyfarfodydd Misol drefnu i nifer 0 weinidogion ymweled a'r eglwysi i bregethu'r Efengyl, a chyda hynny osod gerbron sefyllfa ariannol y Genhadaeth, a bod trefniad yn cael ei wneud ynglyn a hynny i gael casgliad arbennig. Yr oedd teimlad brwd yn y cyfeisteddfod o blaid hynny. Tra'n gwerthfawrogi y cyfarfodydd cenhadol arferol, tybid mai gwell fyddai gwneud hynny o awgrym i gyfarfod A'r amgylchiadau presennol. Ar gynhygiad y Parch. J. Owen, M.A., Caernarfon, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Rees Evans, pasiwyd penderfyniad i'w anfon i'r Swyddfa Rhyfel o blaid cadw'r Cadfridog Owen Thomas yng NghinmeL Caed adroddiad y Symudiad Ymosodol gan yr ysgrifennydd, y Parch. John Thomas. Llawenheid yn y llwyddiant y llynedd er gwaethaf dylaipsvad y Rhyfel. Nifer y Gwrandawyr, 27,085, lleihad 98 ysgolheigion 12,547, cynnydd 560; cymunwyr 5,306, cynnydd 210 ar brawf 234, lleihad 10 plant yr aelodau 3,714, lleihad 94; plant ereill a dderbyn- iant addysg grefyddol 8007, cynnydd 1,593; bed- yddiwyd 369, cynnydd 41. Ychwanegwyd ar gyfar- taledd bob blwyddyn am 25 mlynedd 200 at rif yr aelodau, 500 at yr ysgolneigion, a 1,200 at y gwran- dawyr. Llonnwyd hwy yn fawr gan y rhodd amserol o £ 10,000 a dderbyniwyd y mis diweddaf tuag at y Ddyled sydd ar y neuaddait. Erbyn hyn y mae'r ddyled oedd dros £ 140,000 yn £ 55,000, ac o'r swm hwn perthyn £ 40,000 i Drysoifa Fenthyciol y Mudiad, Apelid am £ 5,000 fel diolch-offrwm ynglyn a dathlu ein hanner-jiwbili, er symud y ddyled o yn agos i fz,ooo yn ein cyfrif cylchredol o'r hwn y telir cyflogau'r Efengylwyr, ac i'n cynorthwyo i eangu a chyfnerthu'r gwaith. Am ddau ar gloch, yn y trydydd Eisteddiad, dewiswyd Mr. G. Griffith o Awstralia yn aelod o'r Gymanfa. Cyflwynwyd yi ystadegau gan y Parch. J. Morgan, Aberdar. Gwelid fod cynnydd o 937 yn nifer yr aelodau mewn deg o'r Cyfarfodydd Misol yn y Gog- ledd, a'r pump ereill yn croniclo lleihad o 958, yn gwneud lleihad cyffredinol y Gogledd yn 21. Dan- gosai saith o Gyfarfodydd Misol y De gynnydd o 563, a'r lleill leihad o 107, yn gadael cynnydd y Deheudir yn 456. Wedi tynnu gllan rif y Gogledd, yr oedd nifer aelodau y Cyfundeb yn uwch o 435. Ceid fod lleihad bychan yn rhif y plant, sef 19, ac felly yr oedd gogwydd y pum mlynedd diweddaf. Awgrymai yr ystadegwyr fod i'r Gymanfa, trwy'r Cymdeithas- faoedd a'r Cyfarfodydd Misol, gyflwynor mater hwn i sylw'r eglwysi, fel ag i bob eglwys gadw llechres gyflawn o'r plant a fegir yn yr eglwys yn ofalus. Gyda golwg ar golofn y dirwestwyr, credid fod llawer mwy o aelodau'r Cyfundeb yn ddirwestwyr nag a ddangosid, ond nad oedd yr eglwysi yn ofa l us i gael cyfrif cyflawn. Yr oedd yr eglwysi Saesneg yn mynd ar gynnydd cynnydd o 5 yn rhif y canghennau ysgolion yn rhif yr cglwysi, 2 yn rhif y cymunwyr, 344; yn rhif y plant, 577 casgliad y weinidogaeth wedi cynhyddu f2,803 y gwrandawyr yn llai o 2,026; achyfanswmderbyniadau'rflwyddynynllaio £ 2,588. Cyfrifir am hyn trwy fod llawer mwy ar gyfartaledd o aelodau'r eglwysi Saesn g nag o aelodau yr eglwysi Cymraeg wedi ymuno a'r fyddin. Gyda golwg ar werth ariannol yr adeiladau, yr oeddynt wedi costio tua £ 130,000; y mae hanner y ddyle d wedi ei thalu, ac erbyn hyn nid ydyw ond tua £ 65,000. Y mae £ 40,000 yn perthyn i Drysorfa Gynorthwyol y Symudiad Ymosodol, trwy yr hon y ceir symiau yn fenthyg yn ddilog. Ymhen ychydi wythnosau fe fydd y rhodd ddiweddaf a gafwyd, se* £ 10,000, wedi ei dosbarthu rhwng y gwahanol ganol" fannau, ac ni fydd y ddyled ond tua Per" thynai i'r Symudiad adeiladau, ar wahan i'r lleoedd addoli, yn werth tua £ 15,000. Gwelir oddiwrth ystadegau'r Gymanfa. Gyffredinol fod cynnydd o 435 yn rhif yr aelodau cyflawn yng ngborff y flwyddyn ddiweddaf o'r cynnydd yna y mae 210 i'w briodoli i'r Symudiad Ymosodol. Mae'r ffaith ein bod wedi cynhyddu o gwbl yn werthfawr, ac y mae'r ffaith fod nifer aelodau'r Symudiad Ymosodol wedi cynhyddu yn arbennig yn werthfawr, pan gofir fod cynifer o'r dynion oedd yn aelodau yn eglwysi'r Symudiad wedi ymuno &'r fyddin. Peth arall y dymunai galw sylw ato ydoedd fod gennym le i ymlawenhau oherwydd ffyddlondeb eglwysi'r Cyfundeb yn eu cyfraniadau at y Symudiad Ymosodol. Yr oedd eleni gynnydd o dros f200, yn y casgliad yn y Gogledd. Yr oedd wyneb y Symudiad ar ennill Cymru 1 lj-nst-Lymru fel gwlad, yn cynnwys pob cenedl o bobl a ddaw iddi, ac nid y Cymry yn unig. Yr Odfeuon.—Pregethwyd yn Neganwy nos Lun gan y Parch. H. Solfa Thomas, Woodstock. Ym Moriah nos Fawrth gan y Parch. M. W. Griffith, B.A., Lhindain. Yn Eglwysbach nos Fercher gan y Parch. Wm. Thomas, Maesteg. Yn Abergele nos Fercher gan y Parch. Thomas Williams (Gwalchmai), Caer- gybi. Yng Nghroesengan nos Fercher gan y Parch. J. H. Williams, Porthmadog. Yn Nhalybont nos Fercher gan y Parch. T. E. Davies, Treorci. Ym Mhensarn, Llandudno Junction, nos lau gan y Parch. W. E. Prytherch, Abertawe. Odfeuon Colwyn Bay Nos Fercher yn y Capel Saesneg, y Parch. E. P. Jones, B.A., Caerdydd. Nos lau Bethleheim, y Parchn. R. W. Jones, M.A., Gerlan, a John Davies, F.S.A., Pandy (llywydd y Gymanfa); Hermon, y Parchn. J. Davies, B.A., Briton Ferry, a T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth; Hebron, y Parchn. J. Thickens, Llundain, a J. Owen, Anfield Road, Lerpwl. Dydd Gwener am 7.30, y Parch. J. Owen, M.A., Caernarfon. Odfeuon y Pier Pavilion Am i o, y Parchn. Thos. Williams, Caergybi, a W. E. Prytherch, Abertawe; am 2.15, y Parch. William Thomas, Maesteg am 5, y Parchn. D. H. Williams, D.D., Casnewydd, a T. Charles Williams, M.A. -0-

Cyfarfod Taleithiol y T refnyddionWesleoidd

Advertising

AR GIP.

Advertising