Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

Basgodaid olp Wlad.

News
Cite
Share

Basgodaid olp Wlad. O'R RHYL.—Mai 24, rhoddwyd gweddillion Mrs. John Jones, diweddar o Gynwyd House, sef Ty Capel Clwyd Street, Rhyl, i orffwys ym mynwent Llanycil. Nid oedd wedi bod yn dda ei hiechyd ers llawer o amser. Daeth iymweled a'i merch, Mrs. Wm. Thom- as, coach builder, Bala. Cyfyngwyd hi i'w gwely. Teimlai'n berffaith dawel yn wyneb y cyfnewidiad mawr oedd o'i blaen,'a'i ffydd yn gref yn ei Gwaredwr y ceisiodd ei ddilyn ar hyd ei hoes. Brodor ydoedd o'r Rhyl, merch y diweddar Wm. Williams. Yu fuan ar ol priodi, ymfudodd ei phriod a hithau i'r Unol Daleithiau. Buont yno tuag ugain mlynedd; a dychwelasant i'r Rhyl tua deunaw mlynedd yn 01. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Proff. Richard Morris. Daeth llu o berthynasau a charedigion i dalu eu cymwynas olaf iddi. Cydymdeimlir a'i phriod yn ei unigedd, ac a'r mab a'r ferch sydd yn yr Unol Daleithiau, a'r mab a'r ddwy ferch sydd yn y wlad hon. BLAENAU FFESTINIOG.—Mai 20, bu farw Mrs. Kate Alice Jones, priod Mr. Harry Jones, Fron- las, a merch y diweddar Rd. a Catherine Williams, Ysgoldy, Teiliau Mawr, yn yr oedran cynnar o 34 mlwydd. Claddwyd ym mynwent Bethesda, Mai 24. Gwasanaethwyd gan y Parch. R. Talfor Phillips. Cyn cychwyn yr angladd, bedyddiwyd unig ferch fach yr ymadawedig, a gollodd ei mam cyn bod yn llawn fis oed. Cydymdeimlir yn ddwys iawn a'i phriod yn ei brofedigaeth chwerw. Daeth llu i dalu eu teyrnged olaf o barch i gymeriad dilychwin y wraig ieuanc rinweddol. BRrMBO.-Dydd Mercher diweddaf. cynhaliwyd Cymanfa Ganu Wesleaidd Cylchdaith Coedpoeth ym Methel. Edrychir ymlaen at y Gymanfa hon fel un o'r rhai godidocaf a gynhelir ym Maelor. Cynrych- iolir deunaw o eglwysi ynddi. Cynhaliwyd dau gyfar- fod ddydd Mercher. Llywyddwyd gan Mr. Herbert Hughes (organydd Victoria Road, Gwrecsam) a'r Parch. J. R. Roberts, Bwlch gwyn. Cafwyd anerch- iadau doeth a phwrpasol gan y ddau. Methodd yr arweinydd penodedig (Mr. Wilfrid Jones; A.R.A.M.) fod yn bresennol oherwydd afiechyd, a dewisodd y Pwyllgor un o fechgyn y Gylchdaith-Mr. Tom Carrington (Pencerdd Qwynfryn) i gymryd ei le. Cafwyd ernes o gymanfa dda yn y prynhawn, er nad oedd y cynhulliad yn lluosog. Canwyd yn swynol ac unol iawn, a threuliwyd peth o'r amser er cael cyd- ddeall at gyfarfod yr hwyr. Am 6 ar y gloch yr oedd y capel yn orlawn, a chafwyd canu a hir gofir ac a esyd Cymanfa eleni ymhlith goreuon y Gylchdaith. Anodd peidio ag enwi rhai o'r tonau a'r emynau mwyaf gafaelgar, er fod pob un yn orffenedig a glan. Erys dylanwad If or (Morgan Harries), Magdalen (Stainer), Leoni ac EmynyPasg. Rhaiderim,i'rrhain. Effeithiol iawn hefyd oedd trefniant yr arweinydd o Weddi'r Arglwydd. Prin y cofiwn i'r anthemau gael eu dysgu yn well na'u cariu gyda mwy o unoliaeth a. gorffennedd, sef Ar Ian lorddonen (Gabriel) a Pwy yw y rhai hyn (Stainer). Dyma'r rhaglen, yn llawn am y dydd Calon Lan, Pzvysa ar Ei fraich, Bethlehem, Gweddi'r Arglwydd, St. Ann, Author of Life, Ifor, Leoni, Aberdeen, Angels' Hymn, Emyn y Pasg, Spobr, Magdalen a'r Delyn Aur. Cymerwyd y rhannau defosiynol gan y Parchn. Philip Price, T. Jones-Humphreys a J. Meirion Jones; a diolchwyd gan y Parchn. Charles Jones a H. Meirion Davies. Gwnaethpwyd gwasanaeth mawr gan yr arweinydd- ion lleol mewn darparu ar gyfer yr wyl. Chwaraewyd yn y Gymanfa gan Miss Barker,Bethel; Miss Hughes, Pisgah Mr. J. H. Roberts, Tanyfron; a Mr. T. P. Owens, Bethel. Gwnaeth Mri. Robert Davies (Soar) a Rd. Morris (Gwrecsam) eu gwaithyn Ilwyr ac effeithiol fel ysgrifennydd a thrysorydd. Ar ddiwedd gwyl ysbrydol ei thon diolchai pawb amdani, ac ynghanol erchyllterau dydd Rhyfel a'i gyfnewidiadau am ddydd i foli Duw ac aros gyda'r pethau nid ysgydwir." — O'R HEN SIR, SEF SIR FON.-Yng ngwyl bregethu flynyddol Rhosmeirch, clybuwyd doniau'r Parchn. Peter Price o'r Rhos, a Gwylfa Roberts, o Lanelli, ar y dyddiau Iau a Gwener. Gyda llaw, mae i Rosmeirch a'r fynwent eu hanes erys o ganrif i ganrif yn ddi-lwydni. Onid yno y gorwedd llwch arwr Ymneilltuaeth ym Môn-William Pritchard o Glwch dernog ? Ac yn yr un fynwent y gorwedd llwch yr hynod Ddoctor Cefni Parri, a groesodd gynifer o weithiau i'r Amerig ac yn ol. Yn Llan- gefni, y dydd o'r blaen, eisteddodd Ilys arbennig ar achos un Patrick Duffery, a ddiangodd o'r Fyddin daliwyd ef rywle oddeutu Mynydd Llwydiarth, ac efe ar y pryd yn cymryd y goes mor Iladradaidd. Yr wythnos ddiweddaf, cyfeiriasom at y gyflafan flin a fu yn Nhyddyn Bach, Llanfaethlu, pan gaed mab y lie yn farw, ac wedi ei saethu trwy'i glust. Erbyn hyn y mae'r- tad yn y ddalfa ar y cyhuddiad o'i saethu. Efe'n hen wr yng nghyffiniau y pedwar ugain, ac yn cael ei arwain yn garcharor o Ie i le, a'i achos yn edrych yn ddigon tywyll. Drwy haelioni llywydd a chyf- arwyddwyr cwmni'r rheilffordd, bu i wyr gwaredig y Tarra o Gaergybi gael gwib pleserus i'r Pentref Mawr, chwedl y Gol. gwreiddiol am Lundain, ac yno gael golwg ar ryfeddodau prifddinas y byd. Croesawyd hwy i un o ystafelloedd mawrion y cwmni, Ile y darparwyd dogn amheuthun o fwyd iddynt, ym mhresenoldeb gwyr teitlog ac arglwyddi trwm eu tor. Dioddefasant loesion a chaledi di-ddirnad; ac oni haeddant gael eu llonni a'u dedwyddu gan bawb ? A'r Capten Williams, wrth ddiolch, yn tafiu trem brudd ond diolchgar dros helynt yr ugain wythnos ond un a dreuliasant yng ngharchar angau ac yn dweyd eu bod wedi dysgu un peth mawr yno, sef fod Duw yn bod, ac nad allasai ond Ei darian a'i law Ef eu cysgodi a'u harwain oddiyno'n fyw Nid oedd ym Mon yr un gwr byrrach o gorff, na'r un talach o feddwl, na byw, nac a mwy o asgwrn- cefn ynddo, na. Mr. R. Pritchard, Brynteg, a'r Post Office, Rhosfawr Efe wedi bod yn gefn Ilydan a swcwr i'r achos Anni- bynnol ym Mhenllech, a'r capel hardd yno yn gof- golofn i'w sel a'i weithgarwch. A'r dydd o'r blacI'. dadorchuddiwyd cofeb iddo ar fur y capel i a Mrs. W. Williams, Brynteg, yn tynnu'r gorchudd. Cym.. erth amryw weinidogion ran, a rhoisant air uchel i gymeriad yr ymadawedig. A'r hybarch Ddr. Owea Evans, sydd mor gyndyn i heneiddio, yn pregethu'n glochaidd ei lais yn yr hwyr. Peth trist iawn a ddigwyddodd yn Rhydwyn merch fach annwyl i Mr. a Mrs. Rd. Jones, Ystrad, yn absenoldeb y fam o'r ty, yn llosgi i farwolaeth. Gadawyd hi a'i chwaer wythmlwydd oed yn y tv am ennyd, a thaflodd y fechan bedair blwydd linyn i'r tan, a chydiodd y fflam ddidostur yn ei dillad, a gwnaeth fyr waith arswydus. ami. Dyna loes i galon rhiaint, a saeth i ardal.— Llygad Agored. LLANELWY.—Mae mab ieuengaf y diweddar Barch. Benjamin Hughes wedi cyrraedd ffosydd Ffrainc, ac un o'r rhai cyntaf a ganfu yno oedd Bennie Jones (tad yr hwn a fu'n bobydd yn Liverpool House). Yr wythnos o'r blaen, ymwelodd MrA v Tom Parry, A.S., a'i chwaer a thai teuluoedd milwyr o'r ddinas, a llonnwyd hwy'n fawr gan yr un a wyddai drwy brofiad am amgylchiadau maes y gwaed. Derbyniwyd ugain o flaenoriaid yng Nghyfarfod Misol y Rhuallt, ac yn eu mysg yr oedd dau o'r ddinas, sef Mri. H. R. Hughes, Ty newydd, se R. Davies, yr Ariandy. Dal yn wael y mae'r efengylydd (y Parch. O. Owens), a Mr. John Parry (cynrychiolydd i'r cyfarfodydd ysgolion dros Ysgot Sul y Waen).

I I Goreo Gymro, yr an Oddieartre

IER COF.

Advertising