Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YSlAFEU Y BCIRDO

O Lofft y Stabal.

News
Cite
Share

O Lofft y Stabal. I VIII. Mistar Golygydd,-—Fynnwn i ar y myw-I yd i neb feddwl mod i'n erbyn i bobol wisgo dillwi da os wedi talu am danyn nhw. Cebyst o beth ydi i neb swagro miawn dillad felly pan fo'r siopwr ne'r teiliwr yn disgwyl i tal. Purion fydda i'r Parlampnt basio fod y bil i gael i wnio, miawn llythrenna clir, ar gantal pqb het a chefn pob cot, hyd nes y telid ef. Mi fydda diwygiad mawr miawn munud, yn sicir i chi. A dyma hanesyn yn dwad i nghof i, fel sgwarnog yn neidio o'r gwrych.-Dyn go swagar yn i ffordd oedd Tom Owan, Ty'n y Fron, ac roedd o dros i ben a'i glustia yn nylad Robat Jos y Teiliwr, a'rddau'n cwarfod. yn yr un dosbarth yn Rysgol Sul. Un tro mi ddigwyddodd cwestiwn godi nghylch Jeroboam mab Nebat," ac i rywun ddeyd ma'n Llyfrar Cronicl yr oedd i hanas o, pryd y sylwodd Tom Owan, yn wawdlyd, Dyna'r hyn wyddost ti o dy Feibil." Wei, Robat Jos, setlwch chi'r matar," ebe'r hen athraw syml. Ac ebe Robat J6s, a d.rwg ynghil i lygad o, Mae yn y ty acw rw lyfr cronicl, ao mi fydd Lowri'r wraig yn galw rhai enwa sy yno fo'n hiliogaeth Jeroboam mab Nebat '—llyfr cownts, wyddoeh." Mi dryeh- odd Tom Owan mor syn a phost llidiart, a mi ddeudodd, Mi leiciwn i wbod be sy wnelo'r Sgtythyr Lan a llyfr cownts teiliwr! Dim, yn ol rhai pobol a dyna'r cebyst." ebe Robat Jôs, fel ergyd. o wn. Wrth lwc, mi ganodd cloch diwadd yrysgol, ne rydw i'n credu hyd heiddiw y basa clycha Tom Owan a Robat J6s weji tynnu sylw pawb y pnawn hwnnw. Ond pan fo dyn ne ddynas wedi talu am i dillad, a chynyn nhw fodd teg i cael nhw, pa fusnas sy gin neb arall i beio nhw ? Yr hyn sy'n gneud dillad neis yn hyll, a hyll iawn hefyd, ydi dylad, gwastraff, ac yn anwedlg balchtar. Mi fydda i wrth y modd wrth weld pobol ifanc, yn feibion a merchaid, yn dangos parch iddyn i hunain trwy wisgo'n deidi, yn anwedig ar y Sul rwan. Ac mi fydda'n leicio d ( i a'n leicio gweld pobol miawn oed hefyd yn daclus. Un peth fydd yn rhoi briw hyd nod. i'r galon garrag ma sy gin i fydd gweld plentyn bach tlawd miawn carpia, nghanol plant erill. 'Roetld un felly'n nosbarth Jac Jos unwaith, ac roedd i lygad o'n llaith wrth ddeud wrth a i amdano fo. Erbyn y Sul wedyn, 'roedd Jac Jos wedi rhoi darn o'i galon yn g6t newydd reit ddel am yr hogyn bach. Druan o'r plentyn bach tlawd,-rhy dlawd i gael dillad tebig i'r plant erill y byddo'n i plith nhw Ma'r dillad llwm yn i farcio fo all an ac yn rhw lebal arno fo, fel yr hyn welwch chi'n siopa'r dre n gwaniaethu, cleud wch, fenyn amargarin, ne wlanan a chotn. Biti biti Dydi Natur ddim wedi gneud gwahaniaeth rhyngo fo a rhw blentyn arall. Mi glywsocli sôn am bobol o wa6doliftci,,h uchel." Lol botas maip, coeliwch fi Rydw i, fel y deudis o'r deiid i s o'r blaen, yn credu Meibil a Natur arypwnc, ac, yn ol y rheini, o'r un shiafft y cafodd gwaed i bympio i-wythienni'rholl hil ddynol. Rydw i'ncofio fod Ceiriog ynson am rhw dwy««g ag yr oedd "gwaed brenhinoedd Cymiii 'n rhedag trwyddo fo ond dydw i yn ddigon dwl i fynd at y beirdd i mof; n ffcithia a gwirionedda noeth—yn anwedig y beirdd diweddar ma. Mi allach gredu hen feirdd y ganrif o'r blaen yn weddol. Mi gewch wir noeth miawn peth fel hyn, gin y diweddar Gwalchmai, wrth ddysgrifio'r tren ary relwe,- Gyrru heibio i gaea Rhiwabon." Ond waeth gin y beirdd ifanc ma faint o glwydda ron nhw yn i gwaith. Ond yn sdn am ffaith noeth rydw i, wyddoeh. Ma Natur yn cydnabod y plentyn tlawd fel y plentyn cofoethog. Ma'r ffurfafen fawr yn dangos i lloer a'i sêr mor ddisglaer iddo fo ag i blant byddigions. Ma'rhaulynrhoi'rungusan ari rudd o ag ar rudd plentyn y Plas. Ma gwin y ffynnon mor bur i wefus o ag i wefus neb arall. Dydi'r bloda ddim yn gwenu ar neb yn fwy siriol nag arno fo. Ma'r adar yn canu mor swynol i'w glust o ag i glust plentyn y dyn bia'r coed. A phan ewch at yr Efengyl, ma hi'n aiarad mor fwyn wrtho fo ag wrth rhw blentyn arall-dim lie i ddowt o gwbwl ar y matar! Pe beiddiai prygethwr ddeud o bulpud nad ydi gwdn y Tad Nefol ddim mor llawn o gariad at y plentyn tlawd ag at y plentyn cyfoethog, mi brofai fod i enaid o'i hun miawn carpia, a charpia mor sicir o fynd ardan amdano fo ag unrhw gerpyn o gelwydd a wnaeth Satan erioed. Na dydi Natur na Nef ddim yn gneud gwahaniaeth rhwng y plentyn sy'n y worcws a'r twysog sy'n y Llys-dim, a dim ydi dim. Ond dyma rhywun yn gneud gwahaniaeth rhyngyn nhw wrth i lapio nhw miawn dillad,—gosod lebal gwahanol, fel y deudis i. Ac ma'r lebal yn leibal yn amal, yn reit siwr. Cofiwch chi nad ydw i ddim yn dilorni pobol "dda allan," achos mi wn i fod llawer teulu cyfoethog yn ffeind o galon, ac mi ges i rai ohonyn Ilhw'n ffeind dros ben i mi fy hun, ac rydw i'n nabod rhai heiddiw ag yr awn i ar fy 11w na na nhw ddim o ngadal i miawn eisio. Ond y marn i ydi na ddyla'r creadur a elwir Cym- deithas ddim goddaf i'r un plentyn bach fod heb ddillad addas, mwy nag heb fwyd ac addysg ac ymgeladd-y dylaai drefnu i bob plentyn gael y pethahyn, ne gosbi'r neb sy'n sgeuluso'u plant yn-wirfoddol. Ac ma na ddosbarth arall o ddynion ag y bydd i gwisg nhw'n y ngeud i'n fwy prudd. na gweld amdo am gorff. Mi fydda i'n mynd i'r dre weithia, ac yn sylwi ar ddynion ifanc miawn dillad shiabi iawn. Rydw i'n nabod rhai erbyn hyn. Wel, mi fydda'n meddwl mod i'n medru darllan i hanas nhw trwy'i dillad a'u hwyneba, a'u stori-er yn i chredu hi o chwith. A phan ddaw'r rhain i fegio pres, wel, mi fydd y sêl yn cael i rhoi arnvn nhw i mi. Leiciwn i ddim dirmygu'r un ohonyn nhw. Mi fasa arna i ofn ysbryd Jac J6s yn y Llofft ma,pe down i iddi hi wedi bod yn estyn bys dirmig at undyn. Ond mi fvdd y nghalon i'n suddo'n blwm i f6r o ofid wrth wel,d dyn ifanc, llwm i wisg a drwg i wedd, yn efyll ar ymvl y stryd, yn picio at hwn a'r Ilall i fegio, ac wedi cael ceiniog ne ddwy yn llithro, fel drychiolaeth, i rhw ogo ddamniol! Ma llawar cynnig wedi neud i'w dacluso, mi wn ond ma pob gwisg roir amdano fo'n cael i witsio'n i hoi i'r hen wisg wael oedd gynno fo o'r blaen. A rhaid gneud chwara teg a chymdeithas 'does dim modd i waredu dyn yn groes i wllys. Fedar nefoedd na daear ddim gneud hynnu. Un o'r peth a fydda'n tynnu ochneidia fel tarana o enaid Jac Jos fydda'rsyniad i fod o wrth roi pres i amball un yn i helpu o i fynd yn ddyfnach i'r pwll Syniad rhyfadd ydi fod dyn yn suddo i goll- edigaeth pan mae Cariad Aweidrol yn plyg uwch i ben, ac yn cynnig law i'w godi byth Ond mi fydda i'n meddwl y rhaid fod yn amhosib i godi o heb i ganiatad,—heb i droi on heiriant, ac wedyn nid dyn fydda fo. Ond, beth bynnag yo.i'r achos o'i aflwyd:! o, mi ddeudaf eto ma "drych o o.ristwch i mi ydi gweld dyn ifanc wedi colli parch iddo'i hun, colli'i iechyd a'i gymeriad, colli'i waith a'i allu j weithio, a begio cniogach gin i a fy math, nes setlo i lawryn i drueni, neb arall yn digwy] kMo wel la, a rhai yn meddwl magora po gynta'r eiff o'n ocli P° gynta r eiff o'n ddigon diymadferth i'w osod miawn arch, ac felly gaeJ digon o reswm dros glirio'r stryd a'r worcws ohono fo. 0 fy mrawd fy mrawd Maddeuwch i mi, syr, am i nheimlad. y nghario i dipin o nghwrs, ond 'does gin i ddim help i mi T'hun ar adega. Ond, yn son am ddillad yroeddwn i'r tro yma. Wel, rydw i'n dal i ddeud y leiciwn i weld pawb miawn dill ad teidi. Wrth gwrs, 'does dim eisio dillad neis at orchwylion cy if red in. Yn faswn i'n ffwl taawn i n mynd i'r cae i redig ne deilo vn siwt bwtlar ? ne'n mynd hvd y brynia ma i dorri eithin ne hel defaid miawn het silc ? Basa modd gneud bwgan brain tan gamp o betha felly, ond nid gwas ffarm. Ne meddyliwch fod Mari r forwyn ma.'n mynd i f^wyd.o'r moch, ne i odro r gwarthag, efo'r ffedog ffansi a'r het newydd gafodd hi at y ffair ben tymor dd waeth a,- -mi fasa'n sbort i bawb, ac mi fasa n fatar cydwybod gin i f'hun i chwerthin am i phen hi, beth bynnag fas a'r canlyniada. Ond, ma Mari'n rhy gait i roi cyfla i neb neud sbort ohoni hi. Rydw i am i ddillad gael i lie, fel yr ydw i am i ddyn gael i le yn i ddillad ond rydw i'n bwriadu pwysleisio'r ffaith fod tiiadd miawn rhai pobol i roi gonnod. o bwys ar ddillad wrth farnu gwerth dyn. Mi welis i ferchaid ifanc yn f oes yn mynd yn wirion bost wrth droi cefn ar was ffarm a mynd i ganlyn dyn a het silc, a'r rheini wedyn yn dwad i weld, ond yn rhy ddiweddar, nad. yw yr het idim .?,w ),r ]let A d il-11 ond gorchudd dros hvyn o ddrain, a nadroedd yn ymguddio yn v bon I YR HEN WAS. I

IBeirniad -y "GwanwynI

Advertising