Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Ein Cnnadl ym Manceinion.

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa…

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa [GAN YR R CTTYN.1 PlPT TW'R GENERAL?-Gofynnir 'yn ami tua'r Clawdd ytaia, Pwy yw'r General efo ni ar faes y gwaed ar hyn o bryd ? Wedi dychweliad G. French, ni chlywir am neb. Ni chlywir gair am jellicoe chwaith. Beth sydd ar y blaenion ? Eglur iawn mai rhyfel y Common Soldier ydyw hwn y nhw sydd yn sgleinio. Ni chafodd y Milwr Cyifredin y fath gyfle erioed o'r blaen i ddangos ei werth a'i wrhydri. lawn o beth fai cael Living Exhibition, wedi'r rhy- ferthwy, o'r V.C.'s, a'r D.C.M.'s a'r D.S.C.'s a'r X. T.Z.'s, etc. Nid ffol o betli fai cael Review gan y Brenin o'r milwyr addurnedig mawr eu bri. DIRTWIAD A.G.G.-Ceiifydd y Clawdd yn eglur ddigon ddirywiad y bradwr yn y Daily News. Cyll ei erthyglau eu burth a'u bias, ac nid oes fawr ddarllen arnynt yn awr. Glasdwraidd yw ei druth. Collodd ei golyti drwy golynnu dadfeilia a threnga'n rhwydd. GWRTHOD r CADER.-Cadair wag yw eadair Pwyllgor Addysg Gwraig Sam. Cododd Savage o honi, mewn sarhad. Dowch yn eich ol," medd y pwyllgor. Na ddeuaf," medd yr ymddiswyddwr, hyd nes gwisgir y gadair ag anrhydedd." Mae anghydfod ysbryd ymhlith plant Gwraig Sam. BRAD r BRAC.-Cwyna'r Sasiwn Dafarnyddol fod y tafarnwyr yn is-werthu ei gilydd. Rhoddir tan-bris am y ddiod, ac nid saf-bris. Dywedir fod brad yn nhy Bachws—Beelzebub yn met-hu Ilywodr- aethu ei dy ei hun. Apeliwyd at Lys Ynadol y dref ymolchai pob ynad ei law o drafod y ffreg. Y ty a gyfyd yn ei erbyn ei him.-ai saif. GALAR r CLAWDD AM r MILWYR.—Yn anffodus, collir llu o tilwyr y Clawdd yn Ffrainc daw trwodd yn barhaus alar lais yn dweyd am dranc hwn a'r llall. Syrthiodd dan o Goedpoeth y dydd o'r blaen, a dyma'r newydd galarus eto am friw marwol milwr arall o'r Moss, ac un o Acerfair. Mae'r Rhos yma hefyd wedi colli amryw o wroniaid, ond syrth pob glew a'i fidog llym ar glemp y gelyn. DALIWCH EICH LLAW, OWEN OWEN /— Rhoddwyd coden aur yn llaw'r spector bregus gynt o Groesoswallt, y dydd o'r blaen. Efe'n gampwr efo addysg, ac wedi gloewi ami i gopa pwl tua'r Clawdd yma. Bu'n addysgu ac yn arloygu yng Nghymru am flynyddoedd. Treuliodd ei oes yn gyfan gyda dvsg. Nid gormod gwneud hyn iddo. BAT,ILIWN HOGIA'R YSGOL.-Syniadcamp- us yw cael holl hogia'r ysgolion sydd yn ymrestru wrth gyrraedd eu deunaw mlwydd, yn un fataliwn gyda'i gilydd. Gellir felly eu canfod a dilyn eu llafur a'u IIwydd hefyd, bydd yn fantais fawr iddynt fod gyda'i gilydd, fel old schoolfellows. Da fyddai eu galw yn S.F.B., sef y Schoollellows' Battalion. GENNOD Y CrFARPAR.-Dywedir fod tros ddwy fil o chwiorydd yn awr yn gyflogedig yng ngwaith y Cyfarpar ym Mhorthfa'r Frenhines, sef Queen's Ferry. Gwelir hwynt wrth yr ugeiniau yn dyfod ol a blaen yn ddi-ball a'u hysgrepynt yn eu dwylo. Dywedir fod y mwyafrif ohonynt yn Gym- ry glan, gloew. Pa ddarpariaeth grefyddol a wneir ar eu cyfer yn yr ardal ? Lie y mae cymaint o ym- yfed ac esgeuluso'r Saboth, peth pwysig iawn fod pob darpartaeth yn cael ei wneud gan yr enwadau cref- yddol i ddiogelu cymeriad a moes y merched hyn. Nac oeder, eler at y peth o ddifrif. YR HUTEN FEDDW.-Gwelir yn nhref Gwrec- sam bron yn ddyddiol ami i huten feddw o amgylch y tafarndai, ac hefyd yn y wlad. Daw rhai o'r cyfryw gerbronyllys,ond dianc wna'r mwyafrif. Dyma un o'r pethau mwyaf gwaradwyddus, sef dynes mewn diod. Gwaith da a wneir gan Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. r DDAU 0 FEIRION.-Mae dau wr enwog o Feirion yn llafurio ar y Clawdd-sef y Parch. Meiron Dafis a Mr. Meirion Jones: bugail gofalus a llafurus y naill, ac ysgolor pybyr a llwyddiannus y Hall. Nid oes ball ar ymdrechion Meirion Dafis gyda phob achos da, a dihafal efe i godi cyngerdd. Dymunwn Ion- gyfarch Meirion Jones hefyd ar ei Iwyddiant arhol- iadol. Mae eu genedigol Sir yn lion ohonynt ill dau. DOWCH ATOM NI I F0N.—Llawer sydd wedi dod o Fon mae'r Sir wedi tlodi ei hun trwy roddi i ereill. Geilw'n awr am ereill i lenwi eulle. Mae'r Parch. Robert Lewis, Coedpoeth, wedi penderfynu myned yno i wneud i fyny'r diffyg. Gwr da yw Mr. Lewis, yn llawn bywyd a serchowgrwydd. Bydd yn gaffaeliad mawr i Fon yn ei hangen. Mae gwyr mawr ym Mon, ond eglur y gwelant wyr mzoy oddiallan. Llwyddiant mawr i'r gweinidog hawddgar a'i briod fwyn. BANERDDYDD r MEIRCH.-Awgrymir cael banerddydd i'r meirch clwyfedig yng Ngwraig Sam y Sadwrn nesaf. Wel, dyma fater dyngarol iawn. Sicr i yw nad oes hanner digon o sylw wedi cael ei roddi i ddiogelwch a ffyniant y creaduriaid truain hyn. Beth ped ysgrifennid eu hanes O hanes rhyfedd a chalonrwygol fyddai stori llawer ohonynt. A oes yr un W.H.K.B. (" Person Gwlad ") yn fyw ac a gymer hyn i fyny ? Dyma le i anfarwoli. YMARFERIAD CORFFOROL, NID MILWR- OL.-Dywed y Bwrdd Addysg yn groew mai nid lies na mantais yn yr ysgolion dyddiol yw rhoddi i fyny'r ymarferiad corfforol ynglyn a'r plant, am yr ymarfer- iad milwrol. Condemnir yr olaf, a chefnogir y blaen- af. A wna ysgolfeistri'r Clawdd gofio hyn ?-sef, gwell y Swedish Drill na'r Military Drill i'r plant, a hyany mewn llawer ystyr. Cofiwch air y Bwrdd. PERCHEN CYDWYBOD.—Dynion ar i fyny yw y rhain. Dywedais fisoedd yn ol mai dyma fyddai eu hanes. Ac felly y mae; cant fwy o sylw ac o barch o ddydd i ddydd. Tynnwyd sylw Kitchener a'r Brenin atynt y dydd o'r blaen, ac nid oes ond corgi a rydd sen arnynt. Dyma'r dynion a fydd yn setlo pethau wedi'r rhyfel, chwi gewch weld. Bu'r enwad- au crefyddol yn hir yn codi llais o'u plaid, ond y maent o'r diwedd wedi ymddeffro. Rhaid ennill ar faes cydwybod cyn y bydd yn werth ennill ar faes y gwaed. ADDrSG YSGOLION GWRAIG SAM.-Cwynir. mai yn Haw y genethod y mae addysg y plant, ac fod y bechgyn yn cael eu gyrru allan i ymladd. Ofna rhai mai anffawd i addysg yw hyn. Credir gan ereill mai yma y gorwedd ffawd addysg, ac mai gwell y merched na'r bechgyn. Felly ffurfir dwy blaid, sef plaid y male teachers a phlaid y female teachers. Ni synnwn i ddim nad yr olaf a orfydd. BRrN r BAW A FFANT r BAW.-Mae bedydd-enw Brymbo yn cael tipyn o sylw ar dudal- ennau'r BRYTHON y dyddiau hyn, hwyrach y ceir goleuni ar yr ystyr maes o law, a da fyddai cael ychydig oleuni ar enwau ereill o bobtu i'r Clawdd yma, sef Gwrecsam fel enghraifft I Ai Gwraig Sam ydyw ? fel y dywed y diweddar Morien. Mae swn baw yn hanes y dref hon hefyd, oblegid dyma ddisgrifiad un, ar lyfr, ohoni: Wrexham is a large, dirty, and ill-paved town." Beth ydyw barn y Gwrecsamiaid am hyn ? CRIBO GWRAIG SAM .-Dywed rhyw Feiciwr fod yr Hutyn yn hoff o gribo Gwraig Sam. Ffei, Feiciwr ffyrn Sut y gwyddoch nad oes gennyf wraig fy hun ? Ai eisiau i honno fy nghribo i sydd arnoch ? Na fydded i chwi ddwyn cam dystiolaeth yn erbyn eich cymydog, gyfaill. Mae hyn yn orchymyn. Bydd yn dda i chwi gofio hynny. Mae gwneud helbul rhwng gwr a'i wraig yn drosedd. Gwyliwch chwi na ddaw Sam a'i Wraig ar eich gwar- thaf. Hyn y tro hwn.

I Ffetan y Gol. I Metan y…

Advertising

Advertising