Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

ITrem I—Llwyd o Eifion.

Trem II—Dyn nas gellir ei…

News
Cite
Share

Trem II—Dyn nas gellir ei ladd. Ond dyn rhyfedd yw'r aelod yma o Orsedd Beirdd Ynys Prydain-y Llwyd o Eifion. Cyn gynted ag y bydd ei erlidwyr yn meddwl iddynt ei gael i lawr, a llongyfarch eu hunain ar eu gwrhydri, bydd ei ben i fyny yn yr uchelion eilwaith, a hwythau'n ymddangos fel cynifer o gorachod o gwmpas cawr. Mae o'n ddigon ystyfnig i beidio a phlygu pan ddywedant hwy wrtho am wneuthur hynny. Mae gormod o gadernid Eryri wedi mynd i'w ysbryd. Gwelsom y cymylau'n ymgasglu am ben yr Wyddfa, ae wedj hynny fellt y taranau yn ymwanu o'r caddug ond wedi'r holl helynt, fe giliai'r cymylau, wedi dihysbyddu eu nergyction mellt, a cheid yr haul yn dangos Gwyddfa na fynnai siglo'n ei sail, na gwyro modfedd ar ei phen brenhinol. Ac mae'r bachgen a fagwyd yn ei golwg, ac a anfonwyd i ddadlu dros iawnderau Cymru adynoliaeth yn y Senedd, wedi tynnu cademid y Wyddfa i'w fywyd, ac yn gwrthod symud. o'r ffordd dan y tymhestloedd o grach-feimiadaeth a dirmyg a fwrir arno bob tro y ceir esgus a chyfle. Os tybiodd neb y gwelsid ei ysgubo i'w encilganyrymosod. afu arno'nddiweddar, cawsant eu siomi unwaith yn rhagor. Dyma un o'r problemau mwyaf dyrys ac atgas o holl broblemau amiyfal ac anodd ein gwlad yn yr Armagedon hon i'w chael yn y Werddon, ac wedi syfrdanu holl wladgarwyr doethaf y Deyrnas Gyfunol. Bu'r Prif Weinidog ar ymweliad a'r Ynys Werdd ei hun, gwelodd yno olion y trychineb, ac ymofynnodd a'r gwahano1 bleidiau yn y wlad, anffodus honno. Daeth yn ol, ac a mawr awch y phryrder y disgwyiid ganddo ddatganiad yn Nhyr Cyffredin ar y sefyllfa a'i rhagolygon. Yr oedd ynhysbys eisoes fod uchel-swyddogion j Llywodraeth wediymddiswyddo, adarogenid y byddai raid i chwyldroad mawr gael ei wneuthur yn Llywodraeth y Werddon mwy. Gwelid oddiwrth sylwadau rhai o'r aelodau Gwyddelig yn Nhy'r Cyffredin mai nid digon i sefydlu heddwch yn yr Ynys Werdd oedd saethu-nif er o arweinwyry gwrthryfel erchyll a cli arch aru ereill. Rhaid oedd wrth graff ber, pwyll, doethineb, a medr i'r graddau uchaf i Wynebu'r fath sefyllfa a dim sail i hyder. Fe deimlodd y Cabinet fod eisieu rhyw un dyn arbennig, a hwnnw'r goreu oil y gellid ei bigo allan o blith pennau mawr y wiad, vc fel y digwyddodd, syrthiodd eu detholiad unfryd ar yr un dyn hwnnw. Taid annwyl pwy oedd o, deudweh Wel,-y Lloyd. George rhyfedd hwnnw, ag yr oedd y Daily News, ac ereill, newydd fod. yn ei osod yn y llwch, debygent hwy, a'i fwrw i'r cysgod fel ym. honnwr hunangeisiol, a bradwr ei gymrodyr yny Llywod. raeth Dyina'rg wr a gyfrifid. fel y cymhwysaf o bawb i wynebu astrusi fawr y Werddon Wyllt, a chan ei gymrodyr, wedi'r cyfan, y barnwyd ef felly. Yn bendifaddeu, dyma'r dyn rhyfeddaf vn yr holl deyrnas, canys nid cynt y bydd wedi ei ladd nag y dyrch ei ben yn uwch ac yn fwy byw nag erioed o'r blaen! Meddyliwch am y Daily News yn cyhudd.o Llwyd o Eifiony dybio mai efe oedd Y Dyn ac am y Llywodraeth a'r Senedd-ac mor fuan—yn dywedyd mai efe ydoedd Wei, bydd raid i'w erlidwyr chwilio am rhyw gynllun newydd i gael y Cymro rhyfedd hwn i lawr unwaith eto, cam s nid yw'n debyg y gadawant ef yn Uonydd yn hir.

Trem lll-Y Wepodon Wyllt

Advertising