Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

fjhmn o Big y Tr Z, Lleifiad.

I Os symudir Owen Thomas.

News
Cite
Share

Os symudir Owen Thomas. Clec Bawd ar y Cymry. Cyfarfod brwd iawn ei deimlad yn erbyn y cam, os I y'i gwneir, oedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn Board- room Mri. Elder Dempster & Co., brynhawn dydd Tau diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. David Jones, a than nawdd Pwyllgor Recriwtio Cymry y ddinas, yn Gymdeithas Genedlaethol a Chymdeithasau Cymru Fydd, sef j wrthdystio yn erbyn symud y Cadfridog Thomas o Kinmel Park. Bu trafod hir ar y pwnc y rhain yn cymryd rhan, a rhyngddynt yn dwyn pob agwedd ar yr achos i'r golwg: y Parchn. R. Aethwy Jones, M.A., H. H. Hughes, B.A.,B.D., D. Powell, J. Owen, O. L. Roberts, Mri. Jas Venmore, Y.H., Robert Roberts, Y.H., T. Arthur Lloyd, R. Vaughan Jones, W. O. Thomas, J. H. Jones. Dyma rediad yr hyn a ddywedwyd Fod y si am y symudiad hwn wedi peri mwy o loes i ni'r Cymry nag odid ddim a ddigwyddodd ers talm, canys y mae'n gernod uniongyrchol i'n hiaith acyn glee bawd dirmygus ar ein cenedlaetholdeb. Byddai'n llwfrdra diesgus"ynom i oddef y cam heb amlygu ein gwrthdystiad cryfaf; a hyn sydd sicr na feiddiasai'r Llywodraeth byth wneuthur y fath beth yn y Werddon na'r Alban, ond fod Cymru'n ddigon bach a digon diniwed y beiddiant hynny a hi, gan weithredu'n unol a'r hen ddihareb When you want to experiment, do it on a material of small value and from which there is no danger." Y Cadfridog Owen Thomas a wnaeth fwyaf o bawb i gael y Fyddin Gymreig at ei gilydd ar y dechreu; a'i gymeriad a'i hawddgarweh poblog- aidd ef oedd wedi chwalu rhagfarn Cymry yn erbyn y Fyddin a'u dwyn wrth y miloedd dan y Faner dros achos yr Ymherodraeth. Efe oedd yr unig gadfridog yn y Fyddin a fedrai Gym raeg iawn a di- ledryw; ni wyddid fod dim yn ei erbyn fel swyddog effeithiol a chymwys, ond ofnid e; fod wedi tram- gwyddo rhai o fawrion y tir oblegid ei sel a'i ym- roddiad gyda'igynllun gwirfoddol i ddarpar gogyfer a milwyr a morwyr Cymru, yn lle'u gadael i ddibynnu'n gwbl ar gynllun,y Llywodraeth. Caed arwydd o'r gwrthwynebiad hwn yng Nghynhadledd yr Amwythig ac wedyn, Saif mor dyn dros i fechgyn Cymru gael chwarae teg parth yr iaith a chael swyddogion yn deall, Cymraeg; a ninnau'n gwybod mor dda fod yna ragfarn cryf a Hengistaidd yn erbyn ein hiaith yn y cylchoedd swyddogol. Safodd hefyd dros gael moddion Cymraeg ac ymgeledd ysbrydol hyd eithaf yr amgylchiadau i'r bechgyn, ac ymorol am eu cysur a'u diogelwch ymhob modd dichonadwy rhag tem- tasiynau a pheryglon i'w crefydd a'u moes. Y mae prawfion o'i werth a'i boblogrwydd gyda phawb am yr ymdrechion hyn yn peri ei fod yn gaffaeliad pwysig i'r Fyddin ei hun, a byddai eigolli a gosod estron anghyfarwydd a dibris yn ei le, yn golled i effeithiolrwydd y Fyddin yn Kinmel, ac i ddyrchafiad tymhorol ac ysbrydol miloedd o fech- gyn goreu Cymru. Pasiwyd penderfyniad i'r perwyl hwn, i'w anfon i'r Prif Weinidog, i Mr. Lloyd George, ac i holl aelodau Seneddol Cymru Wedi clywed si fod y Brigadier General Owen Thomas ar fedr cael ei symud o'i swydd yn y Fyddin Gymreig yn Kinmel, fod y cyfarfod hwn yn dymuno datgan ei argyhoeddiad y byddai'r fath beth yn dramgwydd i Gymru, a phwyswn yn gryf am iddo gael ei adael yn ei le a hynny, obleg-d ei fod mor drwyadl gyfarwydd a'r cymeriad Cymreig, Ac fod hynny a'i wybodaeth o'r Gymraeg yn ei gymhwyso mor arbennig i swydd lie y mae cynifer oGymry uniai th dano; ac ymhellach, pe symudia ef, y byddai hynny yn torri'r addewid a wnaed ar y dechreu, sef y golygai Byddin Gymreig fod ynddi swyddogion Cymreig a chwbl hyddysg a'r iaith Gymraeg. A chan fod Mr. Lloyd George yn gwbl hyddysg a gwaith godidog y Cadfridog Thomas, ac mor hanfodol ydyw i lwydd y Fyddin Gymreig, gosodwyd ar Mr. James Venmore, Y.H., i ysgrifennu llythyr Cymraeg I at Weinidog Arfogaeth, yn dymuno arno arfer ei ddylanwad a'i wybodaeth ymhlaid atal y cam hwn k Chymru ac ag effeithiolrwydd y Fyddin. r CWLWM NA DDETTD.—Cofion cuaf y Lleifiad a'i holl gydnabod yn Lerpwl, ddau tu'r afon, at Mr. Wm. Roberts a'i briod, sydd a'u cwlwm priod- asol wedi dal yn ddiddatod ers hanner can mlynedd y Parch. John Ogwen Jones, B.A., yn un o'r tri a'i cylymodd y ddau'n gwladychu ers rhai blynydd- oedd bellach yng Nghamo a'r Efengylydd talgryfo Carisbrooke Road, Lerpwl, bellach yn dau'r Had Da yng Ngwlad Ann Griffiths a Joseph Thomas a S.R. a Mynyddog a rhes o'u tebyg. Rhaid i gwlwm y briodas, er mor gu, ddatod rhyw dro, ond fe wyr Wm. Roberts a'i briod am gwlwm arall na ddetyd byth, a dyma hwnnw :— Fe ddetry Angau bob rhyw gwlwm Ag sy yma is y Ne 5 Ddetry Angau byth mo'r cwlwm Sydd rhwng fy ysbryd i ag E. CrFLER SEIRI AC EREILL.-Dymuna Mr. W. O. Thomas, Alroy Road, amom roddi ar ddeall i'r llu seiri coed a chrefftwyr eraill fod cyfle iddynt ymuno a'r Anglesey Engineers, adran o'r R.W.F. sydd yn barchus a chydnaws iawn ei chwmni i fechgyn a faethwyd ar laeth yr Ysgol Sul ac nid ar sucan y Cnawd. Un o'r pethau pwysicaf i gysur a moes ein bechgyn yw'r gatrawd y gosodir hwy ynddi, a goreu po gyntaf yr ymholir am Ie ynghanol cym- deithion mor Gymreig a glanfoes. MIALL EDWARDS AR r GLANNAU.-Y Proff. D. Miall Edwards, M.A., Coleg Aberhonddu, a bregethai yn y TabemacJ, Belmont Road, nos Sul ddiweddaf, a hynny gyda'r grym a'r gafael meddyliol sydd wedi ei godi ers blynyddoedd bellach i fod ya un o'n proffwydi mwyaf effro a diogel yr un pryd. Y mae ei ysgrifau yn y cylchgronau Cymraeg a Saes- neg ar bynciau caletaf Athroniaeth a Diwinyddiaeth, yn dangos cyfarwyddineb hollol gartrefol a meddwl addfetaf Ewrop, ond heb oeri na lleihau dim arei gariad at iaith a llenyddiaeth a thwf meddwl Cymru fach, er fod yr hir wladychu ymysg yr Hwntws wedi llyfnu crasineb acen y Gogledd oddiar ei Gymraeg, a pheri iddo barablu mor bersain yn y Benfroaeg. Ei ysgcif ef, sef ar r Rhyfel a Hotlalluowgrwydi Duwl yw'r flaenaf yn Y Beirniad sydd newydd dead o'r wasg, ac fel hyn yr egyr y ffordd tuag at ei bwnc dreiniog:— Dydd barn ar bawb a phopeth ydyw'r dydd heddyw. Pe medrai Ysbryd y Dydd lefaru, gallai ddywedyd gyda phriodoldeb, I fam y deuthum i'r byd hwn.' Nid oes odid ddim a berthyn i'n bywyd nad yw ar ei brawf yn y dyddiau hyn. A'r tan a brawf waith pawb, pa fath ydyw.' Mae'n ddydd barn ar wledydd Ewrop, ar wareiddiad y gorllewin, ar yr Eglwys Gristionogol, ac ar Gristionogaeth ei hun. Ai rhyfyg ynof fyddai ychwanegu fod Duw Ei Hua ar Ei brawf, a dynion yn eistedd ar fainc y bamwr i'w ddyfarnu ? NEB FEL r CHWIORYDD, yn enwedit chwiorydd eglwys M.C. Saesheg Willmer Road, canys ffrwyth y Sale of Work ddeuddydd a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf drwy eu hymdrechion a'u diwyd- J rwydd hwy oedd eaej dros deucant a bunnau— £ 206 at doddi'r ddyled, ond fod deg y cant o hono i fynd i gronfa aeilwiig y Groes Goch. Bu Mrs. John Owens, Caer, yno'n agor, a Mrs. Fred Owens yno'n canu ac y mae ffrwyth yr- ymdrech yn galondid mawr i'r gweinidog newydd, y Parch. Gwilym Evans, B.A., ac yn glod i lafur diball Mr. Johnson, yr ysgrifennydd. LERPWLIAID KINMEL.-Y mae yna gwmvi lluosog o Gymry Lerpwl ymysg y trigain mil, fwy neu lai, sy'n gwersyllu ym Mharc Kinmel. Meddyl- lant y byd o'u Cadfridog Owen Thomas; y mae amynt ofn am eu bywyd gweld neb yn dod yno'n ei le, canys yn un peth y mae ef mor eiddigus dros i'r bechgyn gael moddion gras yn iaith eu mam; at dyma ddyfyniad neu ddau o lythyr y Preifat D. C. Evans, at ei dad a'i fam yn Glenart, Birkenhead :— Pregeth nos Sul gan y Parch. Llewelyn Lloyd, yn gampus yr ystafell yn orlawn, a swyddogioa —cin Colonel ni yn eu mysg-wedi dod yne. Y tro cyntaf i mi weld swyddog mewn gwasu- aeth gwirfoddol yma. Y bechgyn yn eistedd ar y llawr rhwng y meinciau." Dyma sylw neu ddau o'r bregeth :— Peth hardd ydyw corff hardd, ac aid oes dim yn fwy annymunol na chorff wedi ei faeddu a'i Iygru gan bechod. Y mae yn dd. gennyf weld bechgyn Cymru yn cdrych mor hatdd o'm blaen, ond wedi'r cwbl peth temporary ydyw'r corff. Nid y dillad ydwyf yn feddwl. Diolch i Dduw mai pethau temporary ydyw'r rhain (y khaki). Ond mi welais i lawer i gorff hardd yn ei chael hi yn o galed pan yn Ffrainc, ac 0 dyna'r amser yr oedd y dyn oddifewn ya dod i'r golwg. Nid oedd i'w weled yn Win- Chester a Salisbury Plain, ond wed. mynd i'r ffrynt fe dyr tragwyddoldeb ar dy feddwl di, ac fe fydd yn ddigon t'th lethu di. A dyma sylw arall a ddywedodd, wrth ddatgan ei gydymdeimlad a'r bechgyn fel Cymry crefyddol:— Yr wyf yn gwybod eich bod yn cael eich rhegi gan eich salach, a'ch melltithio gan ambell benbwl." » ti tt

DAU -AFON.-