Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Ffetan y Gol.

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. Cofled pawb fo'n anfon i'r Ffeict mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Sibols. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYB.—Pan oeddwn yn hogyn ym mro Arfon ac Eifionydd, arferwn fwynhau gystal a dim bryd o sibols gyda brechdan a chwpanaid o de neu lasiad o laeth enwyn. Hawdd eu cael, wrth gwrs, a rhad, ond "sgram" er hynny, a sgram flasus a gwerth teithio i'w chael, a chanmil gwell na'r pethau rhyfedd a fwyteir yn y trefi er dyfod ohonynt tros foroedd a chostio sylltau lie na chyst sibols ond y nesaf peth i ddim. Ond nid i ddweyd hanes y gwleddoedd gynt yr eisteddais, ond i alw eich sylw at y gair Sibols," i groniclo darganfyddiad ieithyddol ac i geisio cael goleuni gan rai o'ch darllenwyr sy'n cloddio'n ddyddiol yn chwarel yr hen iaith. Nid wyf yn meddwl fod sibols yn hen air, gan na roddir ef yn yr hen eiriaduron neu, ynhytrach, ni roddir ef yn y geiriaduron sydd yn digwydd bod wrth law gennyf fl, sef Geir- iadur Thomas Richards Coyehurch (1751), Geiriadur Llogell Ellis Jones (Caernarfon 1840) a Geiriadur Cymraeg hylaw Syr Owen Edwards, yn bennaf ar sail Geiriadur y Dr. John Davies o Fallwyd." Dywed Dr. Silvan Evans mai yr enw Cymraeg ar young onions yw sibol neu sibwl, ac mai'r unigol yw sibolen, sibylen. neu sibolyn. Beth yw'r tarddiad ? Yn Sir Fon a Sir Gaernarfon sibols a glywais i, ac nid sibol na síbwl; a phan gyfeirid at yr unigol y gair fyddai sibolsen. Ond yrhyn a barodd imi feddwl am y gair a chofxo'r amI" sgram sibols ydoedd imi ddod ar draws gair cyffelyb yn un o weithiau y bardd a'r nofelydd byd-enwog Thomas Hardy, sydd wedi anfarwoli rhannau helaeth o Orllewinbarth Lloegr trwy ei nofelau byw a diagrifiadol o ddaearyddiaeth a chymeriad. Enw un o'i ffugchwedlau yw The Hand of Ethelberta, ond nid hon yw'r fwyaf na'r ddifyrraf, a chynghorwn bawb i ddarllen Ilyfrau fel Under the Greenwood Tree a Far from the Madding Crown er cael disgrif- iadau byw o fywyd amaethyddol a phentrefol yn swydd Dorset a'r cyffiniau hanner can mlynedd yn ol, a'u cymharu a'r bywyd Oym- reig. Ond yn y gwaith a enwyd gyntaf, cry- bwyllir am ferch o Dorset wedi dod i Lundain yn gogyddes i'w chwaer Ethelberta, sydd wedi dod ymlaen yn y byd, ac i'r gogyddes un noson gwyno yn arw iawn wrth ei chwaer- feistres ynghylch Llundain a'i phobl, a dy- muno cael bod yn ol yn ei hen wlad, a dyma un peth a ddywedai yn ei hiaith ei.;hunan:- "Well as I was a-coming home-along I thought, Please the Lord I'll have some chippols for supper just for a plain trate,' and I went round to the late greengrocer's for'em and do you know they sweared me down that they hadn't got such things as chippols in the shop, and had never heard of 'em in their lives. At last I said Why, how can you tell me "such a brazen story ?-here they be, heaps of 'em.' It made me so vexed that "I came away there and then, and wouldn't have one-no,, not as a gift.' They call them young onions here,' said "Ethelberta quietly, 'you must always remember that.' Felly chwi welwch fod gair swydd Dorset yn ol Thomas Hirdy,-a 'does neb yn adnabod y wlad honno yn well,—yn debyg ryfeddol i'r Gymraeg, a bod brodorion y Sir honno hefyd yn hoff o sgram sibols," ac yn bwrw hiraeth am eu hen wlad drwy fwynhau gwledd ohonynt. Efallai mai dyma d arddiad y gair Cymraeg neu eu bod eill dau yn tarddu o rhyw air arall mwy clasurol. Gadawaf y cwestiwn i ieithyddion Y BRYTHON. Rhyw fis neu lai yn ol, y tarewais ar y gair Yll-llyfr Hardy, ac ar y pryd yr oeddwn yng Nghernyw yn dilyn fy ngorchwylion a rhyw noson oleu leuad yr oeddwn yn treulio awr yng nghanol adfeilion hen gastell ardderchog Tintagal, sy'n sefyll ar y man lie dywed tra- ddodiad y ganwyd Arthur Frenin. Tywysid fi gan un o f rodorion pentref Trevena gyfagos hen frawd o chwarelwr a fu am gyfnod yn gweithio yn chwareli Bangor, Pennsylvania, yn yr Unol Daleithiau, a thalai deyrnged uchel i'r amryw Gymry a gyfarfu yno ac a roddodd help llaw a chyngor iddo pan ddaethai o chwareli Cernyw heb wybod arfer- ion a dulliau chwarelwyr gwlad y Gorllewin. The Welshmen I met at East Bangor," meddai, were real brothers to me, and I shall never cease to remember their kindness or to think highly of their countrymen as a whole." Llonder calon imi oedd cael y datganiad hwn, a da, yn ddiau, fyddai gan chwarelwyr Cymreig Pennsylvania wybod nad anghofir eu caredigrwydd brawdol er fod bellach dros ugain mlynedd er pan ddychwelodd yr hen ira.wd i'w gynhefin yng Nghernyw. Ond yr oedd y chippols ar fy meddwl fel y dringwn lechweddau cribog y graig ar yrhon y saif adfeilion yr hen gastell, a gofynnais i'r hen wr a wyddai ef amdano ac atebodd ar unwaith mai dyna eu gair hwynt yng Nghernyw ar young onions, Ai tybed mai gair Celtaidd yw wedi'r cwbl ? Dyna i chwi, Mr. Golygydd, lythyr y Chippols yn fier ac yn gymysg. Peth peryglus yw son wrth olygydd papur newydd fod gennych ddefnydd llythyr, a gresyn na fawn wedi rhoddi'r manylion iddo a gadael iddo ef ysgrifennu erthygl dwt a darllenadwy yn arddull swynol Y BRYTHON, sy'n gwneud eich papur clodwiw mor dderbyniol gan bawb sy'n caru pethau goreu Cymru.- Yr eiddoch, etc., Llundain D. R HUGHES Owen Glyn Dwr Cinmel. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL OLYGYDD,—■Darllenais ysgrif fy nghyfaill galluog Pedrog gyda diddordeb, neu yn hytrach gyda digllonedd. Y mae'r son am symud y Cadfridog Owen Thomas o lyw- yddiaeth y Fyddin Gymreig ym Mharc Kinmel a gosod yno Sais yn ei le yn ddigon i greuloni calon Cymro. Dywed Pedrog ei fod yn gobeithio, os oes gwir yn y sop a'r swn drwy a grybwyllwyd, "y deffry calon y genedl Gymreig fel storom o fellt a tharanau, ac na ostega hyd oni thyr ar glyw y Senedd ac ar bob olyw a,all roi cymorth i atal y peth anfad hwn a awgrymir gan y murmur." Gobeithio mai felly y bydd. Ae yn sier felly y bydd dim ond rhoddi eyhoeddusrwydd i'r "peth anfad hwn sydd yn anghyfiawnder a'r Cadfridog Thomas, ac a'r gwyr ieuainc a'u rhoddodd eu hunain yn wirfoddol o dan ei lywyddiaeth ef, ac yn anghyfiawnder a'r genedl a ymddir- iedodd ei dynion ieuanc d an ei lywyddiaeth. Ac at yr anghyfiawnder ychwanegu sarhad ary Cadfrdiog a'i fyddin a'r genedl, ie, dyblu'r sarhad trwy osod Sais yn ei Ie. Yn ddiau, y mae hyn yn ddigon i greuloni calon yr hen genedl addfwyn. Y mae'r Cadfridog Owen Thomas yn ddyn cenedl, ac wedi ei gydnabod a'i dderbyn felly gennym. Ynyrystyrhwn efo yw einHowain Glyndwr ni yn yr oes hon. Un ohonom ni yw efo. Nid esill dosbarth neilltuol yw, er i'r dosbarth hwnnw alw ei hun yn uchraddol. Dealla ein hiaith a sieryd hi, hi yw ei iaith naturiol. Ac y mae ei gydymdeimlad a'n cenedl yneihollbethau goreu achysegred icaf. Gwna hefyd gymwynas a'r genedl trwy ei ymroddlad dihafarch tros Drj?sorf a Genedl- aethol Cymru ar ran ein Milwyr a'n Morwyr a'u Teuluoedd- Ni allai Sais, er yn hyddysg mewn milwriaeth, lenwi lle'r Cadfridog Owen Thomas. Gallai Sais lywyddu byddin o Gymry, ond ei llywyddu fel dyn yn gyrru peiriant, a gallai fod yn falch o'i fyddin fel dyn yn falch o'i beiriant. Gellid cael Sais heb na rliegfeydd aristocrataidd nac uchel- drem o'r un disgrifiad, ond amhosibl cael Sais alenwai le'r Cadfridog Owen Thomas yng nghalon y fyddin a'r genedl. Peth arall am y Sais -gwell fyddai Sais na Chymro Saeson- llyd, canys nid Israel pawb sydd o Israel- Sais heb ei wenwyno gan lysnafedd Cymro Saesonllyd. Er cael y Sais hwnnw, ac anod d a fydd ai ei gael, oherwydd buan y chwythai'r Cymry Saesonllyd eu gwenwyn i'w fynwes, eto er cael y Sais hwnnw ni allai byth fod i'r genedl a'r fyddin Gymreig yr hyn yw'r Cadfridog Owen Thomas. Y mae'r Cadfridog yn ddyn i'r Ymerodr- aeth hefyd, a chlodwiw yw ei ymdrechion i godi ac i ddisgyblu byddin o Gymry i'w ham- ddiffynhi. Paddallineb addaeth ary rhai a fyn symud y fath un o'r lie y mae ef y mwyaf cymwys ar y ddaear iddo ? Pa ddallineb barnolywhwn afynnaifwrw dirmyg ar genedl sydd bob amser yn ffyddlon i'r Ymerodraeth ac yn deyrngarol i'r goron ? Gobeithio, Mr. Golygydd, y cyfyd ein cenedl ei lief yn hyglyw ddigon fel y troer cyngor yr Ahitopheliaid yn ffolineb.—Yr eiddoch yn gywir, = PEDR HIR. I Dau Gam Dybryd. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR.—Carwn alw sylw at y cam- wri dybryd a wneir yn y dyddiau hyn a bech- gyn ein cenedl ni—y Cymry. Bum ym Marracks Wrecsam y dydd o'r blaen yno yr oedd bechgynifanc o Sir Fon—Cymry uniaith -yn cael eu gyrru i bellafoedd Lloegr am eu disgyblaeth filwrol. Dau o Gaergybi-dau gyfaill os nad dau berthynas, un a gymrwyd i Wigan, a'r llall i Preston. Cymro arall o Fon, un a adwaenaf ni fedr air ar Saesneg, wedi ei yrru i Gosport. Nid yw'r uchod ond onghraifft o filoedd a yrrir ymhell o'u gwlad. Ni ddywedaf air am y draul ofer a roddir ar y wlad wrth eu gyrru mor bell oddicartref ond beth a wnaethom ni Gymry yn haeddu'n halltudio fel hyn ? Alltudir cannoedd o'r gwrthryfelwyr o'r Werddon, a hynny'n gyf- iawn, ond nid yw'n golygu cymaint iddynt. hwy ag a wna i ni Saesneg yw eu hiaith hwy, a'r rhan fwyaf ohonynt yn hen gyfar- wydd a theithio. Am ein bechgyn ni, ni fed rant Saesneg, ac ni fuont, gannoedd o honynt, erioed o'u gwlad. Penabai ond eu hanghysur yn unig, feallai y tawswn a son ond fe beryglir eu cymeriad yn ganmil mwy nag a wnaethid yng Nghymru. Yn un peth, creirysbryd anobaithadihidioynddynt; ond yn bennaf y temtasiynau newydd a gyfarfyddant yno. Gwn nad yv.'n cenedl ni yn lan, ysywaeth, ond yr ydym yn fil glanach na'r Saeson. Ys d yw ed. ai John Jones Talytam "Rhyw brentisiaid o bechadur- iaid ydym ni Gymry o'ncymharu a'r Saeson." Gwelais filwr o Gymro a alltudiwyd i blith v Saeson yn wylo wrth son am eu pechodau. Gwlad ddi-gapel, meddai, adim gwahaniaeth rhwngy Suladiwrnod arallyno. Pahamy'n herlidir ? Ymgroeaed. y Llywodraeth neu fe wna Werddon arall. Pe gwyddwn y gallwn atal y camwri hwn, a chamwri arall—bygwth symud y Cadfridog O. Thomas-dilynwn esiampl y Gwyddyl yfory nesaf. Buddiol yw i un farw-ie, i gant farw-dros y bobl. Ofnal y hydd raid i ni ddiodd ef yng Nghymru. Methodd y Prwsiaid a dod i'n gwlad, ond daeth eu hysbryd yma a choncrodd ni. Ni chaiff aros yma a mi'n fyw. Pa hyd, pa hyd y bydd ein Haelodau Seneddol yn ddistaw ac yn ddiystyr o hawliau'r rhai a roddodd yr anrhydedd arnynt ? -Yr eiddoch yn wlad gar, 0 Bare Kinmel J. TALWRN JONES I Balch Abergele. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SVR,-EL uthum am wythnos o egwyl i Abergele, a llawen iawn oedd gennyf ganfod y pedwar enwad Ymneilltuol fel ei gilydd yn croesawu ein milwyr yn yr addoldai, a rhoddi iddynt luniaeth yn rhad, wedi'r ysgol amoddion yrhwyr, Cyfrifir fod oddeutu dau cant yng nghapel y Method istiaid yn unig ar nos Sul. Ac yr oeddwn yn cydymdeimlo a hwy, oherwydd y baich sydd ganddynt i'w ddwyn. Mae hyn, wrth gwrs, oherwydd lleoliad y capelau nior agos i Kinmel, lle y maemiloedd ar filoedd o filwyr, a channoedd ohonynt o Lerpwl yma; a ninnau, gyda'n capelau mawr a chyfoethog, yn gwneud dim mewn cymhariaeth. Nid wyf wedi derbyn caniatad gan neb i osod y mater gerbron y cyhoedd, ond wedi cymryd arnaf fy hun, am fy mod yn teimlo'n argyhoeddedig y dylem eu cynorthwyo'n ariannol. Hoffwn glywed barn rhai o ddarllenwyr Y BRYTHON ar y safle, pa beth, neu pa fodd, i ddwyn hyn oddiamgylch.—Yr eiddoch yn gywir, I Booth JONATHAN HUGHES I Pero a chlust y ddafad. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR.—Dyma i chwi hysbysiad a ymddang- osodd yr wythnos ddiweddaf mewn papur dwyieithog a gyhoeddir yn un o drefi Cymru, ac ni synnwn i ddim nad ymddengys mor clioith r a Groeg i aznbeU Gymro o Lerpwl STRAYED. -To a Welsh Ewe, (I ear mark, sgiw oddiarni, and Bwlch "Clicied (under). Owner can have same on giving mark of left ear." Mae gennyf hiraeth y munud yma am yr amser a dreuliais innau yn bugeilio defaid, ac am yr hen gi Pero,—coffa da amdano A gofiwch chwi yr hyn a ddywed Geo Borrow am Pero ? Synnai glywed yr enw ar gwn yng Nghymru dywedai mai Pero oedd y gair Ysbaenig am gi.adyfalai sut y daeth yr enw i Gymfu. HEN FUGAIL I Bryn y Bwa, ebe Cynddelw. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-—'Oddeutu hanner can mlynedd yn ol, euthum yr holl ftordcl o'r Moss i Frymbo i glywed y Parch. Robert Ellis (Cynddelw) yn darlithio ar "Y Cymru Fu yng nghapel Pen y graig, Brymbo ac meddai ef Nid Brymbo ond Bryn y bwa, gan n-ia gyda bwa a saeth yr oeddynt yn rhyfela yn yr hen arnseroedd." Gwell gennyf gredu Cynddelw na Palmer, er mor hoff oeddwn ohono ef fel hanesydd. Efallai y bydd yr ychydig linellau hyn yn darbwyllo rhywrai.- Yr eiddoch, MORUS KYFFIN I At gribwr Gwraig Sam. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—-Soniech rai wythnosau yn ol am arwyddeiriau Cymraeg ar dafarnau. Bum innau heibio tafarn y Marford Hill lawer gwaith, ond nid oeddwn erioed wedi sylwi ar yr hyn y cyfeirid ato ond y Groglith di- weddaf, yr oeddwn yn mynd heibio, a gwelais yr hen air Cymraeg Car pob cowirdeb." Ond ymhellach ymlaen i gyfeiriad Gwreesam, rhwng y dref honno a Gresfford, mae tref a elwir yn Garden City wedi ei chodi. Mae mynedfa hardd yn arwain iddi, dau biler mawro fries un bob ochr i'r fynedfa, a charreg nadd ynghanol pob-piler, ac un ochr i'r garreg ceir y geiriau hyn Os yr Arglwydd nid adeilada y ty, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho ac ar yr ochr arall, Os yr Arglwydd ni eheid w y ddinas, ofer y gwylia a ceidwad." Godda,onite? Beth ddywed yr Hutyn am hyn ? y mae ef yn bur gribog am bopeth Gwreesam. -0- BEICIWR.

VSIAFELL Y BEIRDD

Advertising